Arloesi a chydweithio yn allweddol i wella ansawdd dŵr yng Nghymru

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, yng nghwmni cadeirydd CNC, Syr David Henshaw, a phartneriaid o Lywodraeth Cymru, Ofwat a Dŵr Cymru, yn ystod ymweliad â dalgylch Teifi.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies AS, wedi tanlinellu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a syniadau arloesol wrth i Gymru ddilyn ei huchelgais i wella ansawdd dŵr yn nalgylch Teifi, yn ystod ymweliad â phrosiectau a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr ardal yr wythnos hon.  

Yng nghwmni cadeirydd CNC, Syr David Henshaw, a phartneriaid o Lywodraeth Cymru, Ofwat a Dŵr Cymru, ymwelodd Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig â dalgylch Teifi i weld rhai o fentrau CNC sydd eisoes ar y gweill.

Y gwaith o ddatblygu Prosiect Dalgylch Arddangos Afon Teifi oedd ar frig yr agenda. Nod y cynllun yw ategu mentrau presennol eraill i wella Afon Teifi drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill (18 sefydliad ar hyn o bryd) i wella ansawdd dŵr, bioamrywiaeth a rheoli tir. 

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus ar ffurf hacathon ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid ym mis Chwefror, mae tîm y prosiect ar hyn o bryd yn datblygu rhaglen waith tra'n ymchwilio i ffynonellau cyllid pellach i roi'r prosiect ar waith.

Tynnwyd sylw hefyd at gynlluniau i fynd i’r afael â gwaddol mwyngloddiau segur Cymru drwy’r rhaglen arloesol i adfer mwyngloddiau metel yn ystod ymweliad â mwynglawdd metel hanesyddol Abbey Consols.

Mae hen fwynglawdd metel Abbey Consols yn un o'r safleoedd â’r blaenoriaeth uchaf ar gyfer gwaith adfer yng Nghymru. Mae'n cyfrannu at dunelli o fetelau niweidiol sy'n mynd i Afon Teifi bob blwyddyn, gan achosi methiant i gyrraedd statws 'Da' y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) am lawer o gilometrau i lawr yr afon o'r safle.

Mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Glo i gyflawni’r rhaglen ar y cyd i flaenoriaethu ac adfer llygredd mwyngloddiau metel.

Hefyd ar yr agenda oedd cyflwyniad i brosiectau Pedair Afon LIFE ac Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, a reolir gan CNC, gyda thaith gerdded dywysedig trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron.

Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi yn un o’r ardaloedd sydd eisoes yn elwa o brosiect Pedair Afon LIFE a ariennir gan raglen LIFE yr UE, sy’n defnyddio atebion seiliedig ar natur i wella cyfanswm o 776km o hydoedd afonydd yng nghanolbarth a de Cymru. Mae'r ymyriadau hyn yn cynnwys ffensio a phlannu coed ar hyd glannau afonydd, mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol fel Jac y Neidiwr a gwella cynefinoedd.

Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE oedd y rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd a mawndir yng Nghymru. Mae’r prosiect arloesol wedi adfer bron i bedair milltir sgwâr o gynefin mawndir oedd dan fygythiad i gyflwr gwell, gan arwain at nifer o fuddion i’r amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl.

 

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC:
“Roeddwn yn falch o groesawu Ysgrifennydd newydd y Cabinet ar y safle i weld rhai o’r heriau sy’n wynebu ein hamgylchedd a’r ymyriadau y mae CNC yn eu harwain i fynd i’r afael â’r materion hyn ar y cyd ag eraill.
“Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â ni ar adeg pan rydym yn dechrau ffurfioli ein cynlluniau a’n dyheadau ar gyfer prosiect Dalgylch Arddangos Afon Teifi, ac rydym yn gwerthfawrogi ei gefnogaeth i’r fenter hon.
“Mae’r prosiect Dalgylch Arddangos yn unigryw, yn chwilio am atebion amgylcheddol arloesol trwy gydweithio a phartneriaeth ag eraill sy’n rhannu’r un uchelgais ar gyfer byd natur. Mae ganddo’r potensial i baratoi’r ffordd ar gyfer rheoli dalgylchoedd yng Nghymru yn y dyfodol.” 
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
“Mae’r ymweliad wedi bod yn hynod addysgiadol o ran gweld a chlywed sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid lleol yn cydweithio i wella ansawdd dŵr.
“Mae gwella ansawdd dŵr afonydd yn ffocws i Lywodraeth Cymru ac mae’r Uwchgynadleddau Afonydd a gynhelir gennym yn helpu i yrru’r gwaith hwn yn ei flaen.  Mae’n wych gweld y gwaith sy’n digwydd ar lawr gwlad mewn ymgais i wneud y gwelliannau rydyn ni i gyd eisiau eu gweld i ansawdd afonydd, nentydd a llynnoedd.”