Diweddariad: Ymateb aml-asiantaeth i dân i ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug

Mae'r ymateb aml-asiantaeth i dân i ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug yn parhau.

Mae diffoddwyr tân yn parhau yn y fan a'r lle, ond mae gweithrediadau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bellach yn lleihau wrth i'r tân gael ei atal.

Dywedodd Lyndsey Rawlinson o Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae'r ymateb aml-asiantaeth yn parhau wrth i ni fonitro a cheisio lleihau'r effaith ar y gymuned a'r amgylchedd. Mae swyddogion yn parhau ar y safle fel rhan o'r ymgyrch barhaus.
"Gallwn gadarnhau bod tua 50 o bysgod marw wedi'u darganfod. Bydd samplau pellach nawr yn cael eu cymryd o bob cwr o'r safle ac ymhellach i lawr yr afon i'w dadansoddi.
"Byddwn yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i nodi a lliniaru unrhyw effeithiau i lawr yr afon.
"Fel rhagofal, rydym yn gofyn i bobl beidio mynd yn agos at Afon Alun a hefyd i gadw anifeiliaid i ffwrdd o'r dŵr.
"Bydd yr aml asiantaethau'n parhau i gydweithio i leihau'r effaith ar y gymuned a'r amgylchedd."

Mae mesurau rheoli ymladd tân parhaus yn golygu nad oes angen i gymunedau lleol gau ffenestri a drysau - fodd bynnag mae'r cordon yn parhau i fod ar waith ac mae'r ffordd yn parhau ar gau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynorthwyo'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyda'u hymchwiliad.