Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol

Beth yw safle Ewropeaidd?

Mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 yn galluogi dynodi a gwarchod ardaloedd sy'n gartref i rai cynefinoedd a rhywogaethau pwysig. Gelwir y rhain yn safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd ac maent yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:

  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau penodol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar gyfer gwarchod rhywogaethau adar gwyllt penodol
  • Safleoedd Ramsar, gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol

Gallwch weld lleoliadau’r safleoedd hyn ar FapDataCymru

Beth mae'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ei wneud?

Mae proses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn pennu a allai cais am drwydded gael effaith negyddol ar safleoedd Ewropeaidd cydnabyddedig a warchodir. Gallai effaith y drwydded fod ar y safle Ewropeaidd dynodedig neu'n agos ato. Gellid ei gymhwyso hefyd mewn mannau bwydo a ddefnyddir gan rywogaeth o safle Ewropeaidd dynodedig.

Os byddwn yn penderfynu y gallai’r drwydded gael effaith negyddol ar y safleoedd hyn, mae’n debygol y bydd eich cais am drwydded yn cael ei wrthod, oni bai bod ffyrdd o osgoi neu leihau (lliniaru) unrhyw effaith bosibl.

Sut byddaf yn gwybod a oes angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd?

Pan fyddwn yn derbyn eich cais am drwydded, byddwn yn defnyddio cam sgrinio i benderfynu a oes angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Os yw hyn yn wir, byddwn yn cysylltu â chi i drafod camau nesaf eich cais ac unrhyw dâl ychwanegol y bydd angen i chi ei dalu i ni gynnal yr asesiad.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am Drwydded Amgylcheddol a byddwn yn dweud wrthych cyn i chi wneud cais os byddai angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wrth asesu eich cais am drwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf