Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Cefnogi rheoli tir yn gynaliadwy

Gweithio gyda rheolwyr aer, tir a dŵr ledled Gogledd-orllewin Cymru i hyrwyddo a datblygu ffyrdd cynaliadwy o reoli adnoddau, gan gyfrannu at iechyd pob math o fywyd yn yr ardal

Ffermio ym Mhen Llyn, Gwynedd, Porth Felin, Uwch Mynydd

Mae'r Datganiadau Ardal yn crynhoi trafodaethau o'r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn addasu ein cynlluniau ynglŷn â digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd pandemig y coronafeirws.

 

Sylwch fod yr holl feysydd parcio, mannau chwarae a blociau toiledau yng ngwarchodfeydd a choedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gau o 23 Mawrth 2020.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein prif dudalen ynghylch y coronafeirws.

Cefnogi rheoli tir yn gynaliadwy


Mae gan Ogledd-orllewin Cymru dirwedd nodedig o fynyddoedd ac arfordir rhyfeddol sydd wedi’u ffurfio gan natur a phobl dros amser. Maen nhw’n rhan annatod o hanes a diwylliant, sy’n golygu mai dyma brif ased yr ardal. Mae gan y dirwedd y grym i ysbrydoli a chyfoethogi bywydau a denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Defnyddir y tir yn rhanbarth y Gogledd-orllewin ar gyfer ffermio yn bennaf, er mai nod y thema hon yw cyrraedd rheolwyr adnoddau yn eang – o goedwigoedd a reolir gan gymunedau, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr, ysbytai ac ysgolion, gan gynnwys tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cyfrif am bron wyth y cant o’r ardal. Mae’r Datganiad Ardal hwn yn cynnig cyfle i ddechrau ar ddull integredig o ran sut i reoli ein hadnodd pwysicaf ac anadnewyddadwy – ein tir a’r dŵr sy’n llifo oddi arno i’n hafonydd a’r môr.

Mae’r ucheldiroedd yng Ngogledd-orllewin Cymru yn nodwedd allweddol a hoffus o dirwedd eiconig a diwylliannol yr ardal. Mae rhan helaeth o dirwedd yr ardal yng nghysgod yr ucheldiroedd, ac mae’r tir uwchben y ffin ucheldirol yn cwmpasu 58 y cant (2,711km2) o’r ardal, gyda thraean yn ardaloedd o dirweddau ucheldir/llwyfandir agored, sy’n rhoi i’r rhanbarth ei gymeriad mynyddig unigryw. Mae’r ucheldiroedd yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth a thirwedd ac yn werthfawr i ffermio, coedwigaeth, hamdden, adnoddau naturiol, diwylliant ac iaith hefyd.

Mae cyfanswm hyd yr arfordir godidog yng Ngogledd-orllewin Cymru yn 585km, sy’n cyfateb i 45.5y cant o’r cyfanswm yng Nghymru. Mae gan yr ardal rai o’r dyfroedd a thraethau ymdrochi gorau yng Nghymru, gan gynnwys gwarchodfeydd natur morol, safleoedd morol dynodedig, a rhai o systemau twyni tywod pwysicaf Ewrop ym Morfa Harlech, Morfa Dyffryn a Niwbwrch. Mae cynefinoedd arfordirol yn cynnig nifer o fuddion i gymdeithas, gan gynnwys at ddibenion hamdden ac ardaloedd fel morfeydd heli, twyni tywod a marianau sy’n cynnig amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd ar gyfer cymunedau arfordirol a thir amaethyddol. Datblygwyd Datganiad Ardal Forol sy’n cynnig rhagor o wybodaeth am yr amgylchedd morol ledled Cymru.

Mae gan Ogledd-orllewin Cymru nifer o bysgodfeydd pwysig, gan gynnwys pysgodfeydd cregyn. Mae dalgylchoedd afonydd Conwy, Ogwen, Mawddach, Seiont, Dwyfor, Glaslyn, Clwyd a Dwyryd oll yn cefnogi pysgodfeydd eogiaid a brithyllod y môr o bwys lleol ac mae dalgylchoedd afon Dyfi ac afon Dyfrdwy yn afonydd eogiaid a brithyllod y môr sy’n bwysig yn genedlaethol.

Mae stociau o eogiaid a brithyllod y môr ym mhob un o afonydd Gogledd-orllewin Cymru yn fregus ar hyn o bryd, a rhagfynegir y byddant yn parhau’n fregus am y pum mlynedd nesaf. Afon Ogwen yw’r unig afon y rhagfynegir nad yw ‘mewn perygl’. Bydd rheoli tir a dŵr yn gynaliadwy yn hanfodol wrth helpu i leihau’r heriau i boblogaethau o bysgod a gwella niferoedd a gwydnwch i newidiadau ecolegol.

Mae nifer o lynnoedd a chronfeydd dŵr ledled Gogledd-orllewin Cymru, ac mae gan bob un ohonynt bwysigrwydd sylweddol ar gyfer cyflenwi dŵr, cynhyrchu trydan, rheoli perygl llifogydd, defnydd hamdden, lles ac ecoleg. Mae llynnoedd yn dderbynnydd sensitif a phwysig ar gyfer arferion defnydd tir, gan amsugno gwaddodion a maethynnau o fewn dalgylchoedd. Mae’r rhan fwyaf o lynnoedd yng Ngogledd-orllewin Cymru yn cynnig nifer o gyfleoedd o ran defnydd - er enghraifft, mae Llyn Cwellyn a Llyn Cefni yn cyflenwi dŵr ac yn cael eu defnyddio at ddibenion hamdden tra bo modd defnyddio Llyn Trawsfynydd, sydd hefyd yn cynhyrchu trydan, at ddibenion hamdden fel pysgota, cerdded a beicio. Mae Llyn Tegid yn Ardal Cadwraeth Arbennig sy’n cefnogi nifer o rywogaethau pwysig ac mae ganddo rôl bwysig o ran cyflenwi dŵr a rheoli perygl llifogydd ar hyd afon Dyfrdwy. Mae Llyn Celyn, Llyn Cowlyd a Llyn Peris oll yn bwysig ar gyfer cynhyrchu trydan, a Llyn Padarn yw’r unig ddŵr ymdrochi mewndirol yng Nghymru, gan gynnig ystod o gyfleoedd hamdden sy’n cynnwys nofio, mynd mewn cwch a physgota. Mae hefyd yn gynefin pwysig ar gyfer y torgoch a rhywogaethau pysgod eraill. Mae gan Ynys Môn hefyd nifer o lynnoedd bach a bas sy’n rhan bwysig o ecosystem wlyptirol yr ynys.

Mae gan Ogledd-orllewin Cymru ddyddodion mwynau cyfoethog sydd wedi ffurfio hanes mwyngloddio a chwarela’r ardal, ac maent yn parhau i wneud hynny, gyda nifer o ddyddodion yn cael eu cloddio o hyd. Mae pobl wedi bod yn manteisio ar adnoddau mwynau ers amser maith, gyda thystiolaeth o fwyngloddio am gopr yn yr Oes Efydd yn y Gogarth a Mynydd Parys yn ogystal â defnyddio llechi o Gymru yn yr Oes Rufeinig. Mae tirwedd lechi Gogledd-orllewin Cymru wedi’i henwebu i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i ddathlu dylanwad diwydiannol a diwylliannol llechi yn yr ardal. Erbyn hyn, mae’n rhyfedd sefyll yn y dirwedd wedi’ch amgylchynu gan y chwareli gwag a dychmygu’r sŵn a’r bobl a fyddai wedi bod yno.

Mae sawl ardal yng Ngogledd-orllewin Cymru yn dirwedd ddynodedig - er enghraifft, Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n gorchuddio 47 y cant o’r ardal, a dwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd wedi’u lleoli ar Benrhyn Llŷn ac Ynys Môn. Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu bod oddeutu 56 y cant o’r tir yn yr ardal â statws dynodedig oherwydd ei werth fel tirwedd ddiwylliannol.

Bydd cynnal yr amgylchedd naturiol yn ein helpu ni i gyd. Rydym bellach yn cydnabod bod cymaint o’r hyn sy’n dda i’r amgylchedd hefyd yn dda i lesiant pobl oherwydd bod pob un ohonom yn manteisio ar y gwasanaethau y mae ein hadnoddau naturiol yn eu cynnig, o aer glân a darparu dŵr i gynhyrchu bwyd, deunyddiau a’r economi.

Defaid ar fynydd yn Eryri

Pam y thema hon?


Er mwyn hwyluso’r gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019 a sesiwn i staff. Yn seiliedig ar y trafodaethau hyn, mae’n amlwg fod cefnogaeth am gyfleoedd ar gyfer y thema ‘Cefnogi Rheoli Tir yn Gynaliadwy’ ymhlith y rhanddeiliaid. Cyflwynwyd y themâu a ddatblygwyd i’r rhanddeiliaid eu dilysu yn ein hail rownd o weithdai ymgysylltu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019. Gellir cael rhagor o wybodaeth a manylion am hyn yn y Cyflwyniad i’r Datganiad Ardal ac yn y thema Ffyrdd o Weithio.

I lywio’r thema hon rydym wedi ystyried y canlynol:

  • Gwybodaeth leol o gyfres o weithdai strwythuredig a hwyluswyd yn annibynnol ledled Gogledd-orllewin Cymru

  • Y blaenoriaethau a nodir yn y Polisi Adnoddau Naturiol, sef cynnig atebion sy’n seiliedig ar natur, cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau, mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar le.
  • Gwybodaeth o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol am ecosystemau a’u gwytnwch, a’r risgiau a’r manteision maen nhw’n eu cynnig

  • Yr asesiadau a chynlluniau llesiant, a’r blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, a Chonwy a Dinbych

Gwnaeth rhanddeiliaid allanol dynnu sylw at y canlynol

Bydd cynnal yr amgylchedd naturiol yn helpu pob un ohonon, gan gynnwys ffermwyr, coedwigwyr, cymunedau ac unigolion oherwydd ein bod ni i gyd yn elwa ar y gwasanaethau y mae ein hadnoddau naturiol yn eu cynnig fel aer a darpariaeth dŵr lân, rheoli gwastraff, cynhyrchu bwyd a deunyddiau.

I gydnabod bod y diwydiant ffermio yn gweithredu mewn cyfnod o ansicrwydd digynsail, er bod hyn yn rhoi cyfle unigryw i ffermwyr bennu gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru.

Yn ystod y gweithdai, cydnabuwyd pwysigrwydd ffermio yn yr ardal yn gryf. Oherwydd mai dyma asgwrn cefn cymunedau gwledig Gogledd-orllewin Cymru, rydym yn cydnabod ei gryfderau ac yn gwireddu ei botensial. Mae ymgyrraedd ac effaith ffermio yn mynd y tu hwnt i’w werth economaidd yn unig, ac mae’n hanfodol fel ffordd o sicrhau gwytnwch cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd a lles cymunedau gwledig.

Codwyd y ffordd mae dŵr yn cael ei reoli sawl gwaith hefyd, o ran ansawdd dŵr a chyflenwad dŵr, a sut roedd cydweithio gan fabwysiadau dull cynaliadwy i ddalgylchoedd yn hanfodol.

Mae cysylltu diwylliant a rheoli’r tir â chynnig cyfleoedd newydd i’r cymunedau mewn mannau fel Penmachno yn allweddol, ac mae prosiectau fel prosiect Uwch Conwy yng Nghwm Penmachno, neu brosiect LIFE ar Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn yn fodelau da i'w dilyn. Mae Bïosffer Dyfi, a ddynodwyd o dan UNESCO, wedi’i leoli’n rhannol yng Ngogledd-orllewin Cymru. Mae Gwarchodfeydd Bïosffer yn archwilio’n lleol sut y gall bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cadarn fod yn seiliedig ar amgylcheddau iach. Byddai’n dda cryfhau cysylltiadau â’r Bïosffer a dysgu o’r nifer o brosiectau maen nhw wedi’u cynnal.

Mae’r thema hon yn cysylltu â’r thema Ecosystemau Gwydn, a bydd y ddwy yn helpu i gyflawni rhaglen Natur Hanfodol Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn sicrhau bod rhwydweithiau bioamrywiaeth ac ecosystemau yn gysylltiedig o safbwynt ecolegol â’r dirwedd ehangach, y morwedd, a’r rhai hynny sy’n byw ac yn gweithio yno.

Dywedodd pobl wrthym fod hyn yn bwysig iawn iddynt:

  • Parhau i gefnogi a chynnal ffermio yng Ngogledd-orllewin Cymru, i weithio ar y cyd â natur

  • Annog cynhyrchu bwyd mewn modd lleol a chynaliadwy

  • Mae ffermwyr yn cydnabod bod y diwydiant yn gweithredu mewn cyfnod o ansicrwydd digynsail a newid; er bod hyn yn rhoi cyfle unigryw i’n cymunedau ffermio ailddechrau eu gweithgareddau a dechrau arni unwaith eto gyda gweledigaeth wahanol ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru

  • Mae diffyg gwybodaeth fanwl sy’n benodol i ffermydd ynglŷn ag agweddau fel ansawdd dŵr a chynefinoedd/ecosystemau. Mae ffermwyr eisiau gallu mesur yr hyn sydd ganddynt ar hyn o bryd, a pha effeithiau y gallant fod yn eu cael, cyn gallu deall yn llawn y ffordd orau o’i reoli

  • Mae cefn gwlad wedi colli llawer o’i fywyd gwyllt. Mae dwysáu ac arbenigo amaethyddiaeth wedi symleiddio’r amgylchedd sy’n cael ei ffermio, ac wedi’i wneud yn barth o lai o rywogaethau lle bu amrywiaeth helaeth ar un adeg

  • Mae rheoli’r ucheldiroedd yng Ngogledd-orllewin Cymru yn allweddol. Maen nhw’n nodwedd hoffus o dirwedd eiconig a diwylliannol yr ardal. Mae rhan helaeth o dirwedd Gogledd-orllewin Cymru yng nghysgod yr ucheldiroedd, gan roi i’r ardal ei chymeriad mynyddig unigryw
  • Cyfleoedd i gynnig atebion sy’n seiliedig ar natur a fydd yn helpu i wella storfeydd carbon, ansawdd dŵr ac aer, rheoli tir a bioamrywiaeth

  • Yr angen i adfer gorlifdiroedd i leihau’r perygl o lifogydd a gwella ansawdd y dŵr a rheoli’r cyflenwad dŵr

  • Gweithio ar raddfa dalgylch/tirwedd, gan gynnig atebion rheoli cadarnhaol sy'n amddiffyn cynefinoedd cymhleth ac amrywiaeth rhywogaethau

  • Mae angen cynyddu coetiroedd sydd wedi’u lleoli’n dda er mwyn cael y gwerth gwasanaeth ecosystem mwyaf

  • Mae darnio cynefinoedd yn fygythiad i fioamrywiaeth, yn enwedig ar dir amaethyddol lle mae nifer o rywogaethau mewn perygl. Mae coridorau rhwng cynefinoedd yn un ffordd o wrthwneud effeithiau darnio cynefinoedd

  • Mae gwaith ffermwyr i gynhyrchu bwyd rhad wedi’i gymryd yn ganiataol. Mae angen i gymdeithas a llywodraeth benderfynu’r hyn maen nhw eisiau i ffermwyr ei wneud mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr yn economaidd ac sy’n cynnal ein cymunedau gwledig a’n cynefinoedd/bioamrywiaeth naturiol

  • Cadw amrywiaeth o wahanol fathau o gynefinoedd yng Ngogledd-orllewin Cymru, e.e. Môn Mam Cymru oedd basged fara cynhyrchu bwyd; llain arfordirol drefol y gogledd; cymysgedd o gymunedau amaethyddol a chymunedau/amgylcheddau uchder uwch ym Meirionnydd

  • Mae angen cynnwys ffermwyr wrth ddylunio Cynllun Rheoli Ffermydd Cynaliadwy ar gyfer eu hardal nhw oherwydd ni all un dull ‘addas i bawb’ ar gyfer polisi amaethyddol ymdrin â phroblemau lleol. Mae angen cynlluniau arnom sy’n adlewyrchu cryfderau a phroblemau ardal

  • Mae nifer y cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach yn y Parc Cenedlaethol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn enfawr, gydag effeithiau nad ydynt wedi’u mesur o bosibl ar y dyfrffyrdd y maent wedi’u lleoli arnynt– ac eto maent yn cyflenwi llai o drydan nag un tyrbin gwynt mawr. Mae'r ffordd yr ydym yn rheoli tir ac yn ystyried effaith gronnus yn hollbwysig

  • Mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru arwain y ffordd a dangos ei fod yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ymarferol drwy sicrhau nad yw ein ffyrdd o reoli tir a dŵr a’n cyfleoedd busnes yn arwain at allyriadau neu niwed i’r amgylchedd sy’n gallu cael goblygiadau ymhellach

  • Mae newidiadau mewn arferion ffermio, yn enwedig draenio tir, defnyddio glaswelltir yn fwy dwys a chael gwared ar wrychoedd, wedi cael effaith ar fioamrywiaeth yn yr ardal

  • Mae angen i ni gefnogi a helpu i reoli dŵr yn gynaliadwy er mwyn gwella ansawdd dŵr. Mae hyn yn cynnwys rheoli tir, perygl llifogydd a chynlluniau cwmnïau dŵr i sicrhau bod gennym afonydd iach ar gyfer pysgod

  • Mae’n bwysig cydnabod cyfraniad cadarnhaol ffermio i’r amgylchedd yng Ngogledd-orllewin Cymru, er gwaethaf adroddiadau negyddol am rai arferion ffermio

  • Mae tir comin yn enghraifft bwysig o gydweithio, ac mae angen inni wneud mwy gyda’r ased hwn oherwydd ei fod yn bwysig i fywyd gwyllt a phobl

  • Yn fyd-eang, mae mawndiroedd yn storio mwy o garbon na choedwigoedd glaw’r byd, sef un o gynefinoedd mwyaf prin y byd. Pan ystyrir bod mawndiroedd iach yn cyfrannu at lu o wasanaethau naturiol, fel dŵr glân a lleihau llifogydd, mae’r achos dros eu hadfer yn cryfhau

  • Mae angen i gynefinoedd fod yn eu cyflwr gorau posibl os ydynt am fod yn wydn yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Gallai’r newid yn yr hinsawdd gael effaith negyddol ar dir amaethyddol oni bai ei fod yn ddigon cadarn i ymdopi â rhai o’i effeithiau ac ymaddasu iddynt

  • Yn gyffredinol, mae gan Ogledd-orllewin Cymru lefelau cymharol isel o ffermio dwys o’i chymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr. Mae’r sector ffermio yn nodwedd bwysig o’r economi wledig, ac mae strwythur ffermydd yng Nghymru ar ffurf busnesau bach a chanolig yn bennaf, sef ffermydd teuluol a thraddodiadol. Cynhelir ffermio mwy dwys ar dir pori isel ar Ynys Môn a Phen Llŷn. Mae angen inni edrych y tu hwnt i’r hyn y gall ffermwyr ei wneud drostynt eu hunain a’u diwydiant a newid y pwyslais i “yr hyn y gall ffermio ei wneud” ar gyfer y newid yn yr hinsawdd, llesiant pobl a bioamrywiaeth.

Pwyntiau allweddol o asesu data a thystiolaeth:

Yn ôl canfyddiadau’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol statudol, y casgliad cyffredinol yw bod diffyg gwydnwch gan bob ecosystem mewn un agwedd/priodoledd neu fwy.  Mae hyn yn golygu y gallai eu gallu i gynnig gwasanaethau ecosystemau a manteision fod mewn perygl. Mae ffermio wedi dylanwadu’n drwm ar y newidiadau yng ngwytnwch cyffredinol yr ecosystemau allweddol hyn, sydd yn ei dro wedi’i ysgogi gan y system gymorth o dan gyfundrefnau polisi amaethyddol amrywiol a gyflwynwyd yn y DU ar ôl y rhyfel.

Mae Polisi Adnoddau Naturiol Cymru yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried y potensial ar gyfer cyflwyno dull sy’n fwy seiliedig ar ganlyniadau i gymorth ar y tir, y bydd ei ganlyniadau gofynnol wedi’u llywio gan ymgynghori’n lleol a Datganiadau Ardal.

Fferm deuluol draddodiadol Meirionnydd

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

  • Mae sicrhau bod egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn cael eu rhoi ar waith yn hanfodol i lwyddo wrth reoli tir yn gynaliadwy yn yr ardal. 

  • Annog newidiadau yn y ffordd mae'r tir yn cael ei reoli yn yr ardal, gan sicrhau bod gennym hawl i ymrwymo o’r cychwyn, er mwyn ennyn ymddiriedaeth i gydweithio ac integreiddio gwaith lle bo hynny’n bosibl. I gyflawni canlyniadau gwell drwy gydweithio ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Dysgu gan brosiectau fel Partneriaeth Bae Cemaes, i wella ansawdd dŵr, a phrosiect Cysylltiadau Cymunedol Tir Comin Uwchgwyrfai

  • Rheoli mwy o goetiroedd yn gynaliadwy wrth ehangu’r gwaith o dargedu coetiroedd newydd yn ofalus er mwyn sicrhau’r manteision gorau i’r cyhoedd, a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd

  • Gwella rheolaeth a gwytnwch ein hecosystemau mewn afonydd, llynnoedd ac ar y tir. Trwy wneud hynny, byddant yn cynnig ystod eang o fanteision i reolwyr tir ac i’r gymdeithas, i ansawdd dŵr, i’r gwaith o reoli perygl llifogydd ac i storfeydd carbon

  • Gwneud y gorau o’r hyn sydd gan y sector ffermio yng Nghymru ei gynnig. Dylem ymfalchïo yn y cynhyrchion a’r bwyd o safon uchel sydd ar gael, ac mae angen i ni fod yn falch o hynny a bod yn well wrth hyrwyddo’r neges honno

  • Mae angen ymdrin â pherygl llifogydd yn wahanol, gan weithio gyda rheolwyr tir mewn ffordd integredig, oherwydd ni ellir rheoli llifogydd drwy adeiladu amddiffynfeydd mwy a chaletach yn unig. Yn aml, mae dulliau mwy meddal yn fwy cynaliadwy ac yn cyflawni canlyniadau gwell i’r amgylchedd, oherwydd gallant gyflwyno manteision fel cynyddu ymdreiddiad, storio dŵr a lleihau llifoedd, lleihau erydiad pridd a gwaddodi mewn llynnoedd ac afonydd, cynyddu maint y carbon sy’n cael ei ddal a’i storio, ailgysylltu afonydd â gwlyptiroedd gorlifdir sy’n llawn rhywogaethau, gwella cyfleoedd hamdden, a chreu cynefinoedd newydd i helpu i adfer amrywiaeth fiolegol

  • Mae angen gwell cysylltedd rhwng y dirwedd ac ar ei thraws, ac, mewn nifer o achosion, cysylltu’r amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau â’i gilydd. Mae hyn yn cynnwys cynyddu neu wella gwrychoedd, coetiroedd sydd wedi’u darnio a chynefinoedd arfordirol. Mae hyn yn allweddol er mwyn gwella ansawdd dŵr a’r ffordd y caiff cyflenwadau dŵr eu rheoli, yn ogystal â gwella rhwydweithiau bioamrywiaeth a helpu i leihau llwytho. Enghraifft o brosiect sydd eisoes yn bodoli fyddai Tir a Mor Llŷn (nod y prosiect hwn yw cynnal a chadw ac ehangu llain barhaus o gynefin amrywiol o amgylch yr arfordir, gan weithio gyda ffermwyr)

  • Mwy o weithgareddau rheoli yn yr ucheldiroedd, fel ail-wlychu ac adfer priddoedd mawn, sy’n gallu rheoleiddio carbon ac arafu dŵr ffo er mwyn lleihau llifogydd i lawr yr afon

Manteision

Mae nifer o fanteision i bobl ac i fywyd gwyllt sy’n gallu deillio o reoli tir yn gynaliadwy. Mae ecosystemau gwydn sy’n gweithredu’n iach yn cefnogi llif o fanteision gan adnoddau naturiol, gan gynnwys manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Maen nhw hefyd yn cyfrannu at y saith nod llesiant a nodir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ffeithiau allweddol ar y manteision o adnoddau naturiol Cymru sy’n deillio o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol

  • Mae’r sector hamdden awyr agored yn elwa ar y dirwedd leol

  • 951 miliwn litr o ddŵr yfed bob dydd

  • 1.5 miliwn tunnell werdd o bren bob blwyddyn

  • Mae’r adnodd coetir yng Nghymru yn cyfrannu gwerth ychwanegol gros o £499.3 miliwn y flwyddyn i’r economi yng Nghymru

  • Mae 595,000 o bobl yn ymweld â’r Wyddfa bob blwyddyn, sef y drydedd gyrchfan i ymwelwyr yng Nghymru

  • Gwnaeth 3.89 miliwn o bobl ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri yn 2015

  • Mae priddoedd yng Nghymru yn storio 410 miliwn tunnell o garbon ac yn sail i’n holl gynhyrchu amaethyddol hefyd

  • Ar lefel y DU, mae gwerth blynyddol gwasanaethau peillio i amaethyddiaeth a garddwriaeth yn £690miliwn

  • Mae 10 miliwn o deithiau dros nos a 90 miliwn o ymweliadau bob dydd o Brydain, yn ogystal â 932,000 pellach o ymweliadau rhyngwladol, yn cynhyrchu cyfanswm gwariant o £2.87 biliwn i Gymru (ffigurau 2014)

  • Yn ôl gwerthusiad o Lwybr Arfordir Cymru, y gwerth economaidd sy'n deillio o fuddion iechyd cerdded ar y llwybr oedd £18.2 miliwn

  • Mae sector amgylchedd hanesyddol Cymru yn cefnogi 30,000 o swyddi ac yn cyfrannu gwerth o £840miliwn i’r gwerth ychwanegol gros cenedlaethol

Cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r thema hon:

Gweithio gydag atebion sy’n seiliedig ar natur o’r ffynhonnell i’r môr i adfer ac efelychu swyddogaethau naturiol dalgylchoedd, gorlifdiroedd ac afonydd yng Ngogledd-orllewin Cymru. Gellid gwneud hyn drwy weithio gyda Dŵr Cymru i greu dalgylchoedd peilot ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy fel rhan o’u Cynllun Amgylchedd Cenedlaethol i ganfod atebion cynaliadwy a mwy cost effeithiol o gyflawni ansawdd ecolegol gwell.

Mae’r thema hon yn annog cyfleoedd i helpu i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy o gynhyrchu ac yn cynnig y posibilrwydd o ddatblygu brandiau lleol ymhellach (Môn, Meirionydd), y gellir eu defnyddio i ategu allbynnau o ansawdd gan y sectorau bwyd-amaethyddol, coed, twristiaeth ac amgylcheddol.

Rheoli’r dirwedd er budd twristiaeth, hamdden, a chymunedau lleol, y Gymraeg a chymunedau lleol bywiog.

Cydweithio mewn grwpiau ac adeiladu’r wybodaeth a’r sgiliau i gyflawni deilliannau a rennir, yn enwedig lle mae ecosystemau’n gorgyffwrdd ffermydd, tir comin a dalgylchoedd afonydd.

Cydweithio er mwyn datblygu opsiynau ar gyfer cynlluniau amaethyddol lleol sy’n cynnig nifer o fanteision. Mae rheoli’r tir yn gynaliadwy’n dechrau gyda chael dealltwriaeth leol o’r problemau. Mae angen i ni ei gwneud yn haws i gefnogi ffermwyr i gynnal elw a rheoli eu ffermydd mewn ffordd sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, e.e. iechyd a ffrwythlondeb gwell mewn pridd, ansawdd dŵr gwell, llai o golledion maethynnau i ddŵr, mwy o storio carbon, a mwy o gynefinoedd sy'n llawn bioamrywiaeth. Gallem archwilio cyfleoedd i gael mentrau peilot ar ffermydd lle gellir olrhain a dangos gwaith i fonitro rhywogaethau ac ansawdd dŵr, gyda’r arferion gorau a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu.

Gweithio ar lefel leol i osgoi dulliau “addas i bawb” o ran cymorthdaliadau ffermydd er mwyn caniatáu gwahaniaethu amlwg mewn ffermio ar draws yr ardal oherwydd bod yr ardal yn amrywiol a cheir cynefinoedd gwahanol.

  • Mae llai o lawer o orchudd coetir yn yr ardal (13.0 y cant), ac mor isel â 4.5 y cant ar Ynys Môn, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 15 y cant yng Nghymru. Mae angen i ni sicrhau bod y coed cywir yn cael eu plannu yn y lleoedd iawn ac mae hwn yn faes sydd angen ymchwil bellach. Mae angen targedu’r gwaith o ehangu coetiroedd newydd yn ofalus er mwyn sicrhau'r budd mwyaf i’r cyhoedd. Dylai rheolaeth coetiroedd gael ei hymgorffori i raddau llawer mwy yn yr economi ffermio.

Gall gwella cysylltedd a chreu cynefinoedd trwy adfer coetiroedd a esgeuluswyd a gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt ganiatáu i rywogaethau symud rhwng ardaloedd. Gall caniatáu ymylon caeau glaswelltog hefyd gynnig buddion bioamrywiaeth ychwanegol trwy gysylltu cynefinoedd.

Gall plannu coed yn strategol o amgylch unedau da byw/ieir helpu i leihau drifft amonia, gan leihau dyddodiad nitrogen ar safleoedd amgylcheddol sensitif. Bydd hefyd yn gwella’r rheolaeth o ddŵr ar ffermydd, ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at iechyd anifeiliaid trwy ddarparu llocheswrth gynyddu bioamrywiaeth a chyfrannu at storio carbon.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli’n uniongyrchol 34,622 hectar (bron 8 y cant) o dir yn y Gogledd-orllewin. Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn sefydliad sy’n esiampl o’r ffordd rydym yn mynd ati yn ein gweithgareddau beunyddiol i reoli ein tir a’n hasedau.

Gall y sector cyhoeddus a chyrff anllywodraethol hefyd chwarae rôl enghreifftiol wrth reoli’r tir yn gynaliadwy trwy roi cynnig ar ddulliau newydd o reoli’r tir a’r dŵr.

Mae gweithio gyda Chymdeithasau Tir Comin trwy annog cytundebau ar raddfa fawr ar dir comin, ac annog cydweithio rhwng cominwyr, ar ucheldiroedd mawr a borir yn aml, yn hanfodol.

Rydym yn cydnabod bod cwmnïau dŵr yn mabwysiadu mwy o ddulliau arloesol ar gyfer diogelu dŵr yfed glân drwy reoli dalgylchoedd gyda pherchenogion tir a phartneriaid. Mae angen inni barhau i weithio ar leihau plaladdwyr, gwrteithiau, maethynnau a phathogenau yn y tarddle a lleihau’r meintiau ohonynt sy’n cyrraedd nentydd, afonydd a chronfeydd dŵr. Gyda hinsawdd sy’n newid, mae angen i ni barhau i sicrhau bod modd cynnal y swm o ddŵr a gymerir o afonydd, cronfeydd dŵr neu’r ddaear heb ddifrodi’r amgylchedd yn awr ac yn y dyfodol.

Mae hanes hir mwyngloddio a chwarela yn yr ardal wedi gadael etifeddiaeth o hen chwareli, tomenni glo, siafftiau a gweithfeydd dan ddaear. Mae cyfle i asesu effaith bosibl pa fesurau hamdden, lliniaru ac adfer fyddai’n effeithiol.

Ceir cyfle i gydweithio gyda phartneriaid i wella cynefinoedd mewn afonydd, dŵr croyw a gwlyptiroedd, gan weithio tuag at gynnig y cynefinoedd gorau ar gyfer pysgod a bywyd dyfrol dŵr croyw brodorol yn y Gogledd-orllewin – er enghraifft, trwy greu coridorau coetir afonydd a nentydd i helpu i reoli a dal silt a lleihau dŵr ffo.Adfer cynefinoeddar lannau afonydd, gan gynnwys lleiniauclustogi a phlannu coed i gadw afonydd yn oer a lleihau llwyth gwaddod a dŵr ffo, sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr a gorchuddio wyau pysgod mewn graean afonydd. Adfer y strwythur mewn afonydd, gan gynnwys ailgyflwyno clogfeini neu ddeunydd coediog yn afonydd Conwy, Llyfni, Mawddach, Clwyd a Dyfrdwy. Mae hyn hefyd yn cysylltu â'n thema Ecosystemau Gwydn. Mae cyfleoedd hefyd i adfer prosesau geomorffolegol naturiol, yn enwedig cael gwared ar rwystrau i bysgod sy’n mudo sy’n atal mynediad i fannau silio a symudiadau graean naturiol fel tynnu coredau na ddefnyddir mwyach ar afonydd Llyfni, Dyfi, Dyfrdwy, Clwyd a Chonwy.

Ceir cyfleoedd i ehangu’r llain arfordirol i’r tir, lle mae’r amodau’n caniatáu hynny, er mwyn adfer cynefinoedd o bosibl ar hyd arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn ac Ynys Môn. Gallai creu parthau clustogi rhwng clogwyni ac ardaloedd o reolaeth amaethyddol ddwys yn y mewndir fod o fudd.

Mae’r thema Annog Economi Gynaliadwy yn tynnu sylw at gyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar gynnyrch lleol a chaffael lleol.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

  • Anfonwyd y gwahoddiadau at fwy na 450 o bobl a daeth 100 o bobl i’r tri gweithdy a gynhaliwyd a chyfrannu at y trafodaethau. Rydym wedi datblygu’r thema yn y digwyddiadau hynny ac wedi ceisio ffyrdd newydd o gyfathrebu â rhanddeiliaid i annog iddynt barhau i gymryd rhan a dangos diddordeb yn y Datganiad Ardal lleol

  • Cynhaliwyd ail rownd o weithdai rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 i adeiladu ar y trafodaethau blaenorol. Rydym hefyd wedi siarad â phartneriaid a gwrando ar eu safbwyntiau a’u hadborth – gan gynnwys cyfarfodydd â’r Awdurdod ParcCenedlaethol, cyfarfodydd ag undebau’r ffermwyr a gweithdai â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i helpu i ddatblygu cynnwys y themâu

  • Anfonwyd mwy na 500 o wahoddiadau i’r ail rownd o weithdai ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2019 a daeth dros 100 o bobl

Beth yw’r camau nesaf?


Ar 14 Mai 2020, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cynnal cyfarfod arall â rhanddeiliaid i ddod â phawb sydd wedi cyfrannu at y broses hon hyd yma at ei gilydd i adolygu’r cyfleoedd a chytuno ar y camau nesaf ar y cyd ar gyfer proses Datganiad Ardal y Gogledd-orllewin.

Byddwn yn sefydlu is-grwpiau thema i ddatblygu gweledigaeth yr ardal gyfan ar gyfer y thema hon – gyda chylch gwaith eang a chynrychiolaeth eang. Byddwn yn nodi darpar bartneriaid ac unigolion/grwpiau sydd â diddordeb, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (allanol, mewnol, gyda phartneriaid fel yr Awdurdod Parc Cenedlaethol) i arwain gweithgareddau'r is-grwpiau thematig hyn. 

Bydd angen i bob is-grŵp thematig adolygu pa wybodaeth a data sydd gennym hyd yn hyn, cynllunio gyda phwy rydyn ni'n siarad â nhw nesaf, edrych am ddamcaniaethau newid, nodi rhwystrau a sut i’w goresgyn, ac archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithredu'n briodol. Bydd y Datganiad Ardal yn ddogfen iterus a fydd yn newid ac yn esblygu dros amser. Bydd yr is-grwpiau'n gyfrifol am benderfynu pryd mae angen i gynlluniau newid a phwy sydd angen bod yn rhan o'r broses honno (llywodraethu'r Datganiad Ardal).

Dyluniwyd yr awgrymiadau a gyflwynir fel prosiectau ‘deilen lili’ i ​​adeiladu ymddiriedaeth a chydlyniant rhanddeiliaid trwy weithio ar ymyriadau diffiniedig. Maent yn defnyddio’r profiad hwn i ‘gamu’ ymlaen i’r cam nesaf, sydd efallai’n llai sicr, yn y broses Datganiad Ardal sydd wedi’i mapio gan yr is-grwpiau thema, a ‘dysgu trwy wneud’ ar hyd y ffordd. Yn y modd hwn, mae'n bosibl y bydd materion yn ymwneud ag ymgysylltu â rhanddeiliaid a dylunio ar y cyd a darparu yn cael eu deall yn well ac y bydd pryderon yn cael eu trin.

O hyn, byddwn yn gallu ennyn diddordeb ac ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach mewn ffordd wedi'i thargedu, a chanolbwyntio'n fwy ar gynnwys ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion lleol. Gallai hyn olygu amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau traddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau ein partneriaid fel ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.

Prosiect Ansawdd Dŵr Bae Cemaes, Ffensio Dalgylch Wygyr Gyda Bae Yfed Da Byw Ar Fferm Tai Hen, Rhosgoch, Ynys Mon

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae angen gweithredu ar y cyd i sicrhau cysylltedd yr amgylchedd ecolegol a diwylliannol addas a phriodol trwy arferion rheoli tir yn gynaliadwy, gan gynnwys rheoli a chreu cynefinoedd sy'n cyd-fynd yn addas ar raddfa’r dirwedd. O'r herwydd, bydd hyn yn effeithio ar yr amrywiaeth o rywogaethau a geir yng nghefn gwlad yn ehangach.

  • Bydd gwella’r ffordd y caiff y tir ei rheoli yn cael effeithiau cadarnhaol fel gwell iechyd a ffrwythlondeb yn y tir, ansawdd dŵr gwell, llai o golledion maethynnau i ddŵr, mwy o storio carbon, a mwy o gynefinoedd sy'n llawn bioamrywiaeth

  • Bydd deall arferion rheoli tir presennol ac ymgorffori’r gwaith o greu mwy o goridorau gwyrdd, gan gynnwys llwyni, plannu blodau gwyllt, rheoli gwrychoedd, plannu coed, dolydd, glaswelltir, pyllau a rheoli cadwraeth, yn galluogi cysylltedd pellach rhwng rhywogaethau a bywyd gwyllt

  • Bydd plannu mwy o goedwigoedd brodorol cymysg yn gwella bioamrywiaeth ac yn darparu buddion cysylltedd cynefinoedd coetir. Mae coetiroedd a choedwigoedd yn dda i fywyd gwyllt, gan eu bod yn helpu i leihau llygredd sŵn a gwella ansawdd aer a gallant wneud cyfraniad sylweddol at storio carbon

Ymhellach, bydd rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn briodol ar raddfa addas ac ailblannu’r coed sydd wedi’u difetha gan afiechydon hefyd yn cefnogi gwytnwch ecosystemau.

Bydd y Datganiad Ardal yn caniatáu inni oll wneud penderfyniadau clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio gwybodaeth sydd gennym yn ogystal â thystiolaeth y mae ein partneriaid yn ei darparu sy'n cael ei chadw'n lleol. Bydd llawer o’r data ar gael i bawb trwy borth data newydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi bod bylchau yn ein tystiolaeth, ond rydym yn gweithio i'w llenwi.

Sut all pobl gymryd rhan?


Rydym yn croesawu cyfleoedd i’r cyhoedd ymwneud â ni ar unrhyw gam o broses y Datganiad Ardal. Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau galw heibio a gweithdai yn y gymuned yn ystod 2020 i’n helpu i ddatblygu ymchwil, i edrych ar gyfleoedd, ac i siarad â ni am syniadau eich cymuned ac ystyried sut y gellir eu hariannu.

Ceir hefyd ffurflen a chyfeiriad e-bost i roi adborth: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.ukos ydych yn dymuno ysgrifennu atom ni gyda’ch syniadau.

I helpu fel hwyluswyr y broses hon, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Cynnig hyfforddiant am gynhyrchu ar y cyd sy’n seiliedig ar asedau i randdeiliaid, gan ddefnyddio'r asedau unigol a chymunedol yn yr ardal i sicrhau bod y gallu i weithio ar y cyd ar Ddatganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru a sicrhau bod y Datganiad Ardal yn cael ei lywodraethu’n dda o hyd wrth symud ymlaen

  • Cefnogi'r rhanddeiliaid gyda rhaglen dysgu gan gymheiriaid i adeiladu gwytnwch prosesau ac etifeddiaeth leol yn y broses Datganiad Ardal o'r cychwyn cyntaf

  • Sicrhau bod adnoddau ar gael i greu hunaniaeth ar gyfer Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru, fel bod rhanddeiliaid a llunwyr penderfyniadau’n deall ei bwrpas, ei effaith a sut i gymryd rhan wrth symud ymlaen

Rhowch adborth

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.