Cyflwyniad i Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.
Yn ystod ein digwyddiadau ymgysylltu, dywedodd rhanddeiliaid wrthym yr hyn roeddent yn teimlo y dylid ei flaenoriaethu wrth i ni gydweithio i ddatblygu'r Datganiad Ardal ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:
Hoffem gyflawni'r canlyniadau ansoddol canlynol a hefyd datblygu ffordd effeithiol o'u mesur gyda'n partneriaid:
Gwnaeth ein rhanddeiliaid awgrymu'r allbynnau meintiol canlynol:
Er mwyn hwyluso datblygiad y Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019 yn ogystal â sesiwn ar gyfer staff. Ar sail y trafodaethau hyn, mae'n glir y bu cefnogaeth am thema Datganiad Ardal drawsbynciol i ystyried y gwahanol ffyrdd o weithio er mwyn sicrhau y cawsai proses gynaliadwy ac ymgysylltiol ei dilyn wrth ddatblygu Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru yn ei gyfanrwydd. Ceir mwy o wybodaeth a manylion am hyn yn y Cyflwyniad i'r Datganiad Ardal.
Yn ystod yr ail ddigwyddiad ymgysylltu, nododd rhanddeiliaid faterion ehangach yng Ngogledd-orllewin Cymru, fel a ganlyn:
Mae'r dadansoddiad o aeddfedrwydd trafodaeth a wnaethpwyd gan yr hwylusydd annibynnol yn dangos bod rhai meysydd o'r themâu wedi datblygu ymhellach na'i gilydd ar hyn o bryd, e.e. twristiaeth gynaliadwy a chyfleoedd ar gyfer ecosystemau gwydn. Am ragor o wybodaeth, gweler adroddiad llawn gan Wellbeing Planner ar gymorth hwyluso ac ymgysylltu (Medi 2019).
Rydym am barhau i adeiladu ar waith y trafodaethau cychwynnol hyn, gan ddatblygu camau gweithredu lle ceir syniadau datblygedig, ar yr un pryd â chychwyn trafodaethau newydd unwaith y bydd ein grwpiau ffocws wedi cael amser i sefydlu a datblygu pob thema mewn mwy o fanylder. Gweler y camau nesaf am ragor o fanylion.
Dyma weledigaeth rhanddeiliaid ar gyfer y thema hon hyd yn hyn:
Ceir modelau amrywiol y gallwn eu hystyried wrth ddatblygu prosesau Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru o dan y thema ffyrdd o weithio.
“Defnyddir termau amrywiol i ddisgrifio dulliau cydweithredol o gyflenwi gwasanaethau yn y DU, e.e. canolbwyntio ar ganlyniadau, seiliedig ar asedau, canolbwyntio ar yr unigolyn, cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, creu ar y cyd ac ati. Yr hyn sy'n gyffredin iddynt i gyd yw athroniaeth danategol sy'n gwerthfawrogi unigolion, sy’n meithrin eu systemau cymorth, ac sy'n ystyried eu lle yn y gymuned ehangach. Mae'r dull hwn yn gofyn am symud i ffwrdd o ddulliau a arweinir gan wasanaethau, neu ddulliau o'r brig i'r bôn, i un sy'n grymuso dinasyddion yn wirioneddol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau wrth gomisiynu, dylunio, cyflenwi a gwerthuso gwasanaethau” – Ruth Dineen, Cyfarwyddwr Co-production Training UK, Production and Service delivery: Strategies for Success, Mehefin 2012
Wrth wraidd y thema ffyrdd o weithio, yn ogystal ag ar draws y broses Datganiad Ardal yn fwy cyffredinol, mae cydweithredu ag eraill wrth gomisiynu, dylunio a chyflenwi camau gweithredu a nodir ar draws Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru, a gwerthuso ein camau gweithredu ar y cyd er mwyn ymgorffori proses gyflenwi sy'n datblygu'n barhaus, yn amlwg.
Cafodd y thema hon ei datblygu o ganlyniad i adborth gan randdeiliaid ynglŷn â'r angen i ddeall ac ymgorffori ffyrdd newydd o weithio, ochr yn ochr â mesur yr effaith tymor byr, tymor canolog a hirdymor y bydd Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru'n ei chael.
Mae'r thema hon wrth wraidd popeth sydd angen i ni ei wneud, a dyna egluro pam mai dyma yw ein hail thema drawsbynciol.
O'n dadansoddiad cychwynnol o randdeiliaid, nodwyd 500 o randdeiliaid posibl gennym â budd ym mhroses y Datganiad Ardal yng Ngogledd-orllewin Cymru. Rydym yn cydnabod bod rhestrau rhanddeiliaid yn ddeinamig ac y byddant yn newid ar wahanol adegau drwy gydol y broses.
Diffinnir y rhain yn fras fel y partneriaid sy'n cydweithio â ni er mwyn cyflenwi'r Datganiad Ardal. Dyma'r bobl rydym wedi cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb â nhw, ac sy'n mynychu ein digwyddiadau. Rydyn ni'n mynychu eu digwyddiadau nhw yn yr un modd. Bydd gan gyfranogwyr allweddol eu rhwydweithiau ac adnoddau eu hunain i'w hychwanegu at y Datganiad Ardal, a bydd ganddynt eu strategaethau a pholisïau eu hunain i'w hintegreiddio o fewn y broses ac i'w gweithredu ar gyfer unrhyw ganlyniadau.
Diffinir y bobl hyn yn fras fel rhai sy'n gwneud ac yn gweithredu – mae hyn yn debyg o fod yn rhan o'u swydd o ddydd i ddydd. Mae'r bobl hyn yn hwyluswyr lleol: byddant yn gwybod pwy a all helpu, bydd ganddynt ddisgwyliadau o ran cymorth, cyllid ac adnoddau, ar y cyfan byddant eisiau helpu, a bydd ganddynt lawer o dystiolaeth, data lleol ac arbenigedd.
Diffinir y bobl hyn fel y rhai nad ydynt yn cymryd rhan yn uniongyrchol, ond sydd â budd lleol a dylanwad lleol.
Diffinir y bobl a sefydliadau hyn fel rhai sy'n derbyn gwybodaeth. Gallwn ddarlledu iddynt, ond byddant yn disgwyl gallu rhoi adborth yn ystod unrhyw gyfnewid o wybodaeth.
Rydym am barhau i adolygu'r dadansoddiad hwn o randdeiliaid a'i ledaenu i randdeiliaid ehangach wrth i ni ddatblygu'r broses. Rydym yn cydnabod bod proses y Datganiad Ardal yn aeddfedu i gamau cyflenwi a gwerthuso, ac y bydd buddiannau rhanddeiliaid hefyd yn newid, felly byddwn yn ailymweld yn gyson â'r dadansoddiad o randdeiliaid yn ystod camau gwahanol y broses Datganiad Ardal.
Daeth yr hwylusydd annibynnol (Wellbeing Planner) i'r casgliad ei bod hi'n glir o ddigwyddiadau ymgysylltu ac adborth cysylltiedig fod y broses Datganiad Ardal yn newydd i bawb ac yn cynrychioli newid o'r ffordd mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio yn y gorffennol – gan ofyn am addasiad gan bawb sydd ynghlwm.
Gan ystyried materion sy'n ymwneud ag eglurder y rôl, ffydd yn y broses ac ansicrwydd yn wyneb newid, mae model perfformiad tîm Drexler a Sibbet (model ffurfio, sefydlu, normaleiddio a pherfformio) yn offeryn i gynorthwyo â datblygiad Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru wrth symud ymlaen. O ddiddordeb yw'r pedwar cam cyntaf o ddatblygu tîm (cyfeiriannu, meithrin ffydd, egluro nodau ac ymrwymiad). Dyma'r man cychwyn ar gyfer gwaith y grwpiau ffocws thema, ac wrth i'r gwaith ddatblygu a symud yn agosach tua'r camau gweithredu, perfformiad uchel ac adfer.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cynnal cyfarfod arall ar gyfer y rhanddeiliaid ar 14 Mai 2020 er mwyn dod â phawb at ei gilydd sydd wedi cyfrannu at y broses hon hyd yn hyn, er mwyn adolygu'r cyfleoedd a chytuno ar y camau cydweithredol nesaf ar gyfer proses Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru.
Byddwn yn sefydlu is-grwpiau thema er mwyn datblygu'r weledigaeth ar gyfer yr ardal gyfan – â chylch gwaith llydan a chynrychiolaeth eang. Byddwn yn nodi partneriaid posibl ac unigolion/grwpiau sydd â budd, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (rhai allanol a mewnol, gyda phartneriaid fel Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) i lywio gweithgareddau'r is-grwpiau thematig hyn.
Bydd angen i bob is-grŵp thematig adolygu pa wybodaeth a data sydd gennym hyd yn hyn, cynllunio gyda phwy y byddwn yn siarad nesaf, chwilio am ddamcaniaethau newid, nodi rhwystrau a sut i'w goresgyn, ac archwilio cyfleoedd ar gyfer camau gweithredu priodol. Bydd y Datganiad Ardal yn ddogfen iterus a fydd yn newid ac esblygu dros amser. Bydd yr is-grwpiau yn gyfrifol am benderfynu pa gynlluniau sydd angen eu newid a phwy sydd angen cymryd rhan yn y broses honno (llywodraethu'r Datganiad Ardal).
Mae'r awgrymiadau sy'n cael eu datblygu fel prosiectau ‘padiau lili’ yn cael eu cynllunio i feithrin ffydd a chydlyniad rhanddeiliaid drwy weithio ar ymyriadau diffiniedig. Maent yn defnyddio'r profiad hwn i ‘neidio’ i'r cam nesaf, sydd efallai'n llai sicr, ym mhroses y Datganiad Ardal, sydd wedi cael ei mapio gan yr is-grwpiau thema, gan ‘ddysgu wrth wneud’ ar hyd y ffordd. Yn y modd hwn, efallai bydd materion ynghylch ymgysylltiad â rhanddeiliaid a chydgynllunio a chyflawni yn cael eu deall yn well, ac y byddant yn mynd i'r afael â phryderon.
O hyn, byddwn yn gallu ymgysylltu ag ac ennyn diddordeb grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach mewn modd sydd wedi'i dargedu a chyda ffocws mwy cadarn ar gynnwys grwpiau ac unigolion lleol ac ymgysylltu â nhw. Gallai hyn olygu amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau traddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau ein partneriaid fel ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflenwi gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.
Mae creu'r Datganiad Ardal ar y cyd, a'r camau gweithredu sy'n flaenoriaeth, yn golygu rhannu'r cyfrifoldeb dros ddylunio, cynnwys, camau gweithredu, cyflenwi a monitro'r Datganiad Ardal ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru gydag eraill.
Byddwn yn adeiladu ar arfer gorau ac yn meithrin dealltwriaeth o anghenion pobl eraill. Drwy uno ein hadnoddau, bydd yn ein galluogi i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio sy'n fwy clyfar ac a fydd yn fanteisiol i waith Datganiad Ardal gogledd-orllewin Cymru yn ei gyfanrwydd.
Mae angen i ni ddeillio ffyrdd o fesur effaith camau gweithredu wrth i ni brofi dulliau ar y cyd newydd o dan bob thema. Ar gyfer y thema hon, bydd angen datblygu dangosyddion perfformiad er mwyn mesur y newidiadau ac effaith ar draws y themâu. Rydym yn bwriadu edrych ar ddulliau newydd o fesur faint o effaith mae ein camau gweithredu wedi’i chael ar bob thema. Rydym yn bwriadu edrych ar ddulliau newydd o fesur faint o effaith mae ein camau gweithredu wedi’i chael ar bob thema. Byddwn yn profi'n dull gweithredu i weld a yw'n gweithio ai peidio. Yna byddwn yn gallu mesur, mewn modd effeithiol, faint o newid sydd wedi digwydd cyn ac ar ôl ein gweithgareddau.
Mae'n bosib edrych tua sectorau a gwledydd eraill er mwyn ystyried damcaniaethau newid manwl ar newid. Mae'r model ymddygiad dynol yn tarddu o fodel meddygol yn yr Unol Daleithiau, ac mae'n un enghraifft ymhlith y dulliau niferus y gallai'r thema hon eu hystyried wrth ddatblygu model ymddygiad dynol ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru.
Mae'n rhaid archwilio dangosyddion perfformiad a gwybodaeth waelodlin hefyd er mwyn penderfynu ar ffyrdd effeithiol o fesur y newid gwirioneddol sydd wedi digwydd o ganlyniad i dreialu gwahanol ymyriadau ar draws pob un o themâu Datganiad Ardal y Gogledd-orllewin.
“Mae angen i sefydliadau wella'u dealltwriaeth ac ymgorffori mewnwelediadau ymddygiadol er mwyn cyflawni eu nodau. Gan ystyried natur gymhleth y problemau a'r anawsterau wrth brofi mewnwelediadau ymddygiadol, y ffordd orau o drosi mewnwelediadau gwyddor ymddygiadol yn newid go iawn yw cau'r bwlch rhwng gwyddoniaeth ac arfer, ac i gydweithio o ddifrif.”
Rydym yn croesawu cyfleoedd lle gall y cyhoedd ymgysylltu â ni ar unrhyw gam o'r broses Datganiad Ardal. Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau galw heibio a gweithdai yn y gymuned yn ystod 2020 er mwyn ein helpu i ddatblygu ymchwil ac ystyried cyfleoedd, ac fel y gallwch sôn wrthym am eich syniadau cymunedol, gan ystyried sut y gallant gael eu hariannu.
Ceir hefyd ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom â'ch syniadau.