Rhestr Taliadau am Wybodaeth

Mae’r rhestr wedi’i rhannu’n 4 rhan sy’n rhoi sylw i’r gofynion deddfwriaethol a’r canllawiau a nodir yng Nghod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Fynediad at Wybodaeth

  • Ceisiadau am ‘fynediad’ at wybodaeth a gedwir gan Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ceisiadau am ‘fynediad’ at wybodaeth bersonol o dan y Ddeddf Diogelu Data
  • Ceisiadau i ‘ailddefnyddio’ gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Treuliau

Rydym wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Fynediad at Wybodaeth wrth ymateb i geisiadau am fynediad at wybodaeth a rhestr dros dro o’r taliadau ar gyfer ymateb i geisiadau i gael ailddefnyddio ein gwybodaeth, gan gyfuno polisïau cyfredol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth. Dyma fydd y drefn yn ystod blwyddyn gyntaf y corff newydd.

Penderfynwyd gwneud hyn er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau cwsmeriaid yn cael eu cynnal ar y lefel bresennol, wrth i ni ddod â swyddogaethau a chytundebau cyflenwi data cyfredol y cyrff gwreiddiol i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ceisiadau am fynediad at wybodaeth a gedwir gan Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Does dim tâl i gael gweld y wybodaeth ar ein gwefan neu ar ein safleoedd.
  • Does dim tâl am unrhyw gais sy’n cymryd hyd at 2½ diwrnod i’w asesu ac ymateb iddo
  • Os bydd cais yn cymryd dros 2½ diwrnod i’w brosesu (mae hyn yn gyfwerth â’r terfyn o £450 a bennwyd yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth) gallwn ei wrthod neu godi tâl o £25 yr awr a gall y taliadau fod am gost llawn y cais.
  • Byddwn yn rhoi gwybod i chi’n syth os bydd taliadau’n gysylltiedig â’ch cais.
  • Fel arfer, fyddwn ni ddim yn darparu gwybodaeth pan fo’r amser asesu, coladu ac ymateb yn fwy na 10 diwrnod.
  • Ceisiadau i gael ailddefnyddio gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru:

Ailddefnyddio anfasnachol

Bydd yr un taliadau’n berthnasol i geisiadau i gael ailddefnyddio gwybodaeth yn anfasnachol ag sy’n berthnasol i geisiadau am fynediad at wybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (gweler uchod).

Ailddefnyddio masnachol

Mae’r rhan fwyaf o asedau data a gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ar gael i’w hailddefnyddio fel setiau data agored. Bydd yr un taliadau’n berthnasol i geisiadau i gael ailddefnyddio’r setiau data hyn ag sy’n berthnasol i geisiadau am fynediad at wybodaeth (gweler uchod).

Yn achos yr ychydig o asedau gwybodaeth a aseswyd fel rhai priodol i godi tâl ar gyfer eu hailddefnyddio’n fasnachol, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n mabwysiadu cyfraddau taliadau Asiantaeth yr Amgylchedd yn ystod blwyddyn gyntaf y corff newydd.

Treuliau fel llungopïo, postio a CDs

Fel arfer, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n codi tâl am gopïau papur neu CD o ddeunydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ond pan ofynnir am lawer o gopïau yn y fformatau hyn efallai y byddwn yn codi tâl yn unol â’r cyfraddau canlynol:

  • Argraffu neu lungopïo: A3 neu lai 10c y ddalen
  • Argraffu Plotydd ar gyfer Maint mwy na A3: A1 £1 y copi; A0 £2 y copi
  • Postio: Cyfradd Swyddfa’r Post
  • Cyhoeddiadau: Am gost perthnasol fel y nodir yn y rhestr cyhoeddiadau (link)

Ni chodir tâl am dreuliau sydd â chyfanswm o lai na £25.

Efallai y codir tâl am gyfanswm dros £25. Byddwn yn eich hysbysu’n syth os oes taliadau’n gysylltiedig â’ch cais.

Diweddarwyd ddiwethaf