Cyflwyno adroddiad chwythu'r chwiban

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno adroddiad chwythu'r chwiban am gamwedd ddifrifol sy'n cael effaith ar yr amgylchedd neu ar adnoddau naturiol.

Yn syml, mae chwythu'r chwiban yn golygu dweud wrthym fod rhywbeth anghywir, anniogel neu anghyfreithlon yn digwydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru neu o fewn sefydliad arall.

Enghreifftiau o gamweddau difrifol y gallwch eu datgelu

Rhaid i unrhyw gamwedd ddifrifol rydych chi'n ei datgelu fod er budd y cyhoedd ehangach. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddi effeithio ar eraill, er enghraifft y cyhoedd.

Rydych yn cael eich diogelu gan y gyfraith os ydych yn rhoi gwybod am unrhyw un o'r canlynol:

  • trosedd, er enghraifft twyll
  • cwmni sy’n torri'r gyfraith
  • camweinyddiad cyfiawnder
  • iechyd a diogelwch rhywun mewn perygl
  • difrod i'r amgylchedd
  • ymddygiad amhriodol neu ymddygiad anfoesegol
  • os ydych chi'n credu bod rhywun yn cuddio camwedd
  • torri sancsiynau ariannol, masnach neu drafnidiaeth (o Orchymyn Personau Rhagnodedig (Diwygio) 2005)

Cael cyngor cyfrinachol gan Protect am ddim.

Os ydych chi'n gweithio i sefydliad arall (nid Cyfoeth Naturiol Cymru) ac os nad ydych eisiau rhoi gwybod am gamwedd ddifrifol i'ch cyflogwr eich hun, efallai y byddwch yn gallu rhoi gwybod am hyn i ni.

Cwynion nad ydynt yn cael eu hystyried yn gamweddau difrifol er budd y cyhoedd ehangach

Cwynion amgylcheddol

Cwynion amgylcheddol nad ydynt yn cyfrif fel pryder difrifol er budd y cyhoedd:

  • pryderon cyffredinol
  • adroddiadau am ddigwyddiadau amgylcheddol

Dylech roi gwybod am eich pryderon i'n ymholiadau cyffredinol.

Cwynion personol

Nid yw cwynion personol (bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu) yn cael eu cwmpasu gan gyfraith chwythu'r chwiban, oni bai fod hynny er budd y cyhoedd ehangach.

Dylech chi wneud y canlynol:

  • gwirio polisi cwynion eich sefydliad neu gysylltu â chynrychiolydd Undeb Llafur
  • siarad â'ch cyflogwr os oes gennych bryderon am eich telerau ac amodau neu unrhyw faterion sy'n effeithio ar eich cyflogaeth
  • cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) i gael cymorth a chyngor ar ddatrys anghydfod yn y gweithle.

Cyflwyno eich adroddiad chwythu'r chwiban i ni

Mae pob gweithiwr yn cael ei amddiffyn gan y gyfraith rhag cael ei ddiswyddo neu ei gosbi gan eu cyflogwyr am fynegi pryder difrifol er budd y cyhoedd neu 'chwythu'r chwiban'.

Gallwch gyflwyno adroddiad chwythu'r chwiban am gamymddygiad:

  • a ddigwyddodd yn y gorffennol
  • sy’n digwydd nawr
  • y credwch y bydd yn digwydd yn y dyfodol agos

Dylech allu dangos bod sail resymol dros eich adroddiad a dylech gynnwys cymaint o dystiolaeth ategol ag sydd bosibl.

Efallai y byddwch yn ei chael hi'n haws cyflwyno adroddiad chwythu'r chwiban ar y cyd os oes dau neu fwy ohonoch yn rhannu’r un pryder.

Chwythu'r chwiban ar-lein

 

Chwythu'r chwiban ar y ffôn

Cysylltwch â'n Canolfan Gyfathrebu Digwyddiadau 24 awr ar 0300 065 3000

Gallwch gyflwyno adroddiad chwythu'r chwiban yn ddienw trwy gadw eich manylion yn ôl. Os yw'r pryder yn cael ei fynegi yn ddienw, ni fydd yn bosibl rhoi canlyniad unrhyw ymchwiliad a wneir i chi a gallai ei gwneud hi'n anoddach ymchwilio i'r pryder hwnnw. 

Chwythu’r chwiban yn ysgrifenedig

Dylech amlinellu:

  • natur a chefndir eich pryder a’r hanes y tu ôl iddo, gan roi unrhyw enwau perthnasol, dyddiadau, amseroedd, lleoliadau, yr hyn a ddywedwyd, yr hyn a welsoch
  • y rheswm am/neu'r sail dros eich pryder
  • enw unrhyw unigolion a amheuir o gamymddwyn
  • i ba raddau yr ydych hi’n bersonol wedi bod yn dyst i’r broblem neu wedi cael profiad o'r broblem
  • unrhyw dystiolaeth ddogfennol sydd ar gael

Ysgrifennwch at:

Pennaeth Llywodraethu a Phennaeth Archwilio Mewnol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd CNC yn cysylltu â chi o fewn deg diwrnod gwaith i gydnabod eich adroddiad.

Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd hi’n rhesymol bosibl i drafod eich adroddiad chwythu’r chwiban. Mae’n bosibl i chi gael cynrychiolydd Undeb Llafur neu gydweithiwr yn bresennol mewn unrhyw gyfweliadau.

Ni allwn ddweud yn union pa mor hir y bydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. Ond bydd y swyddog ymchwilio yn sicrhau ei fod yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo modd heb effeithio ar yr ymchwiliad. Byddwch yn cael eich hysbysu am y cynnydd a wneir ac yn cael crynodeb ysgrifenedig o'r canlyniad.

Cyfrinachedd

Rydym yn trin pob adroddiad chwythu'r chwiban yn gyfrinachol ac yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich hunaniaeth.

Mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi ddarparu datganiad, neu efallai y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu hunaniaeth y sawl sy’n datgelu. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn gwneud pob ymdrech i'ch hysbysu ymlaen llaw ac i'ch diogelu rhag unrhyw erledigaeth neu aflonyddu.

Os ydych chi'n datgelu eich pryderon chwythu'r chwiban yn gyhoeddus cyn eu hadrodd (er enghraifft, i'r cyfryngau neu ar y cyfryngau cymdeithasol), yn y mwyafrif o achosion byddwch yn colli eich hawliau i gael eich amddiffyn o dan y gyfraith.

Diweddarwyd ddiwethaf