Gwneud cais am yr wybodaeth sydd gennym amdanoch chi

Wrth i ni wneud ein gwaith, bydd angen i ni drin eich manylion personol ar adegau fel y gallwn ddarparu gwasanaethau ar eich cyfer.

Sut rydyn ni’n rheoli gwybodaeth bersonol

Byddwn yn sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol a gasglwn yn cael ei meddiannu, ei phrosesu, ei storio, ei datgelu a'i gwaredu mewn modd sy'n cydymffurfio â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Mae ein datganiad preifatrwydd a'n defnydd o cwcis yn egluro sut rydyn ni’n defnyddio'r wybodaeth bersonol y gallwn ei chasglu amdanoch chi pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon.

Gwneud cais am yr wybodaeth sydd gennym amdanoch chi

O dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 20188 mae gennych yr hawl i wneud cais am yr wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, a hawl i dderbyn copi o'r wybodaeth honno yn y rhan fwyaf o achosion.

Cyflwynwch eich cais yn ysgrifenedig inni a darparwch:

  • fanylion amdanoch chi a'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani
  • prawf o'ch hunaniaeth, gan gynnwys eich enw, eich dyddiad geni a'ch cyfeiriad cyfredol (e.e. copi o'ch tystysgrif geni, eich pasbort neu eich trwydded yrru)
  • prawf o'ch cyfeiriad cyfredol (e.e. cyfriflen, bil cyfleustodau neu fil treth cyngor diweddar)

Llenwch y ffurflen hon a'i dychwelyd at dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Byddwn yn prosesu'ch cais cyn pen mis ar ôl derbyn prawf o'ch hunaniaeth.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf