Aelodau o'n Bwrdd
Mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio tri aelod newydd ar gyfer Bwrdd CNC.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Y dyddiad cau yw 18 Hydref 2024.
Syr David Henshaw
(Cadeirydd)
Cafodd Syr David ei eni a’i fagu yn Lerpwl. Mae wedi byw yng Ngogledd Cymru ers sawl blwyddyn bellach gyda’i wraig Alison. Cafodd Syr David ei urddo’n farchog yn 2004.
Ar ôl dilyn Addysg Uwch yn Sheffield a Birmingham, mae ei brif yrfa wedi bod yn y sector cyhoeddus. Bu’n Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Knowsley a Dinas Lerpwl, gan arwain adolygiad pwysig yn ymwneud â Chynnal Plant a’r Asiantaeth Cynnal Plant ar ran y llywodraeth ganolog. Yn fwy diweddar, mae wedi bod mewn swyddi Cadeirio uchel yn y GIG, yn cynnwys Awdurdod Iechyd Strategol y Gogledd Orllewin ac Ymddiriedolaeth Sefydledig Ysbyty Plant Alder Hay, gan arwain y Bwrdd drwy’r dasg o adeiladu’r ysbyty newydd. Ymhellach, mae wedi cael ei ddewis fel Cadeirydd dros dro ar gyfer nifer o Ymddiriedolaethau Ysbytai GIG a oedd mewn sefyllfa fregus.
Hefyd, roedd yn gysylltiedig ag Adolygiad Galluogrwydd Uned Gyflawni’r Prif Weinidog o adrannau’r llywodraeth ganolog, a bu’n Gadeirydd Bwrdd Cynghori Prif Weinidog Cymru a oedd yn ymwneud â chyflawni gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl bu’n rhan o’r tîm craidd a enillodd wobr Prifddinas Diwylliant 2008 a bu’n rheoli’r Cyngor wrth ddatblygu Liverpool 1, yr arena a’r ganolfan gynadledda ynghyd â diwygiadau sylweddol i’r gwasanaethau a oedd ar gael. Penllanw hyn fu cydnabod Lerpwl fel Cyngor y flwyddyn. Penderfynodd ymddeol o Lerpwl yn 2006.
Mae David wedi bod, ac yn dal i fod, yn Gadeirydd ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat eraill ac mae ganddo sawl rôl gynghori o hyd.
Penodwyd tan 31 Hyfref 2025.
Dr Rosie Plummer
Mae gan Rosie gefndir a brwdfrydedd arbennig ym maes gwyddoniaeth gymhwysol. Astudiodd wyddoniaeth amaethyddiaeth a choedwigaeth ac roedd ei gwaith ymchwil biolegol (gwyddoniaeth planhigion a mycoleg) yn cynnwys cydweithio gyda diwydiant a masnach. Wedi hynny, symudodd i Addysg Uwch a rheoli gwyddoniaeth, gan weithio mewn meysydd academaidd ac an-academaidd ar draws y gwyddorau biolegol/ffisegol, ar lefel sefydliadol mewn amryw o swyddi strategol, llywodraethu ac ymchwil.
Roedd yn Gyfarwyddwr Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru am chwe mlynedd tan 2016 ac mae bellach yn ymddiriedolwr y Ganolfan Technoleg Amgen a Plantlife UK, yn llywodraethwr ysgol, a chafodd ei phenodi yn Aelod Bwrdd Awdurdod Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae gan Rosie ddiddordeb mawr yn yr amgylchedd, tirwedd, treftadaeth a chysylltu â’r cyhoedd. Mae ganddi gysylltiadau ac ymrwymiad hirdymor i Gymru ac yn defnyddio ei Chymraeg, sydd o safon lefel O, yn ddyddiol.
Penodwyd tan 31 Hydref 2024.
Yr Athro Steve Ormerod FCIEEM, FLSW, FRSB, CEcol
Mae Steve Ormerod yn un o brif ecolegwyr dŵr croyw cymhwysol y byd, a’i waith ymchwil yn canolbwyntio ar effeithiau y newid byd-eang ar afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd. Yn ddiweddar roedd yn gadeirydd RSPB a Phanel Cynghori ar yr Amgylchedd Dŵr Cymru. Mae’n Athro Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ble y mae’n gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol.
Steve yw Dirprwy Gadeirydd Bwrdd CNC hefyd.
Penodwyd tan 31 Hydref 2025.
Geraint Davies
Mae Geraint Davies wedi bod yn ffermio ers dros 20 mlynedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn y Gogledd.
Mae o blaid cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan ddarparu nwyddau amgylcheddol ar yr un pryd.
Mae ei waith ym maes rheoli tir yn cynnwys rheoli cynefinoedd yr ucheldir, gan gynnwys cadw dŵr ar yr ucheldir, coetir hynafol, iechyd pridd a rheoli glaswelltir yn effeithiol. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn creu a chynnal cynefinoedd i adar ar ei fferm.
Mae Geraint yn gyn Gadeirydd a Chyfarwyddwr y Nature Friendly Farming Network yng Nghymru, yn Gyfarwyddwr Partneriaeth Penllyn ac yn ogystal â bod yn weithgar mewn pwyllgorau lleol ym Meirionnydd.
Mae Geraint yn siaradwr Cymraeg yn rhugl.
Penodwyd tan 31 Hydref 2024
Yr Athro Calvin Jones
Mae Calvin yn Athro Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd ac yn athro ac ymchwilydd profiadol gyda 30 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus ac addysg uwch. Mae’n arbenigo mewn dadansoddi economaidd rhanbarthol, gydag arbenigedd mewn modelu rhanbarthol, datblygu cynaliadwy, ynni, twristiaeth ac effaith technoleg ddigidol.
Mae wedi cyhoeddi llawer o ymchwil wedi’i hadolygu gan gymheiriaid ac wedi helpu i ddatblygu systemau mesur ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae Calvin wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu polisi a thystiolaeth amrywiol yn rhanbarthol gyda sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector, Mae wedi gwasanaethu ar fyrddau mentrau cymdeithasol mawr a bach, ac ar bwyllgorau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys ar gyfer y Cenhedloedd Unedig.
Penodwyd tan 31 Hydref 2028.
Mark McKenna
Mae Mark McKenna yn gyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Down to Earth, grŵp o fentrau cymdeithasol ar y Gŵyr, Abertawe, sydd wedi ennill gwobrau lu. Gan weithio gyda chymunedau ymylol a difreintiedig yn ne Cymru, mae Mark wedi bod yn datblygu dulliau cynhwysol o ymdrin â gofal iechyd ac addysg trwy gyfrwng adeiladu cynaliadwy a rheoli tir cynaliadwy ers 2002.
Dilynodd radd a gradd Meistri Mark ym Mhrifysgol Abertawe ac mae nawr yn llywio ffordd Down to Earth, sy'n seiliedig ar dystiolaeth o weithio gydag ymchwil academaidd a chlinigol barhaus sy'n sail i'w hagwedd gyfannol, draws-sectorol.
Mae cefndir Mark wedi cyfuno'r defnydd o ddeunyddiau naturiol gyda thechnolegau adnewyddadwy ac oddi ar dechnolegau grid wrth adeiladu er mwyn sicrhau newid cadarnhaol ym mywydau pobl. Mae'n eiriolwr dros ymgysylltu cymunedol, gan weithio gyda phobl ifanc ac oedolion o gefndiroedd amrywiol er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol ar yr un pryd.
Ym mis Hydref 2020, derbyniodd Mark MBE am Wasanaethau i Bobl Ifanc a'r Amgylchedd.
Penodwyd tan 31 Hydref 2028.
Dr Peter Fox
Mae Pete yn angerddol am warchod cefn gwlad Prydain, y bywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol. Wedi'i eni a'i fagu ar fferm gymysg yng nghanolbarth Lloegr, mae Pete wedi gweithio ym maes rheoleiddio amgylcheddol a rheoli bywyd gwyllt ers dros 35 mlynedd mewn ystod eang o rolau rheoleiddio, technegol ac arweinyddiaeth gan gynnwys rheoli risg llifogydd, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd, ansawdd dŵr, adnoddau dŵr, pysgodfeydd a rheoleiddio gwastraff yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus. Mae ganddo radd gyntaf mewn amaethyddiaeth, MSc mewn cadwraeth bywyd gwyllt, PhD mewn rheoli afonydd ac athro anrhydeddus o Brifysgol Dundee, fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad parhaus i ddiogelu'r amgylchedd. Mae Pete yn Amgylcheddwr siartredig ac yn Gymrawd y Sefydliad Rheolaeth Amgylcheddol ac Asesu. Mae'n cadw cysylltiad cryf â chefn gwlad a dyw e byth yn hapusach na phan mewn welingtons.
Penodwyd tan 31 Hydref 2026.
Kathleen Palmer
Mae Kath yn gyfrifydd CIPFA cymwys gyda phrofiad cyllid, llywodraethu, archwilio a risg helaeth wedi gweithio yn y sector cyhoeddus am yr 20 mlynedd diwethaf. Ar ôl cwblhau ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Caerdydd, bu Kath yn gweithio mewn rolau amrywiol o fewn Awdurdodau Lleol, Asiantaeth Datblygu Cymru ac yna Llywodraeth Cymru gan gynnwys fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Tai, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd a Phennaeth Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu, ac ar hyn o bryd mae'n Brif Swyddog Gweithredol cymdeithas dai gymunedol yng Nghymru.
Mae gan Kath brofiad sylweddol o eistedd ar Fyrddau ar ôl bod yn aelod o fwrdd Tŷ Hafan (hosbis plant blaenllaw yng Nghymru) a Chartrefi Cymunedol Cymru (corff ymbarél y cymdeithasau tai yng Nghymru) ac yn dod â phrofiad arweinyddiaeth, meddwl strategol a rheoli newid sylweddol. Ar hyn o bryd mae hi'n un o Ymddiriedolwyr Crisis - sef yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl sy'n profi digartrefedd. Mae Kath yn angerddol am newid hinsawdd a'r amgylchedd ac yn Aelod o Grŵp Cynghori Datgarboneiddio Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae'n byw ym Mhontypridd.
Penodwyd tan 31 Hydref 2026.
Helen Pittaway
Ganwyd Helen yng Ngogledd Cymru ac wedi iddi gwblhau addysg uwch ym Mhrifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Georgia, UDA, treuliodd 20 mlynedd yn gweithio yn Ninas Llundain o fewn y gwasanaethau ariannol. Mae’r cwmnïau y bu Helen yn gweithio iddyn nhw yn cynnwys: HSBC, NM Rothschild & Sons & Alcentra Limited. Ers iddi ddychwelyd i ogledd Cymru, mae Helen wedi bod yn Llywodraethwr Ysgol ac ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Anweithredol a Phrif Aelod Bwrdd yng Nghartref Conwy, MSIF Cyf a River Capital. Bydd yn dod â'i gwybodaeth a'i phrofiad o gyllid, asesu risg a chyfeiriad strategol i CNC. Dychwelodd Helen i Gonwy, Gogledd Cymru yn 2013 gyda'i gŵr a 2 ferch lle maent wedi bod yn gweithio i ailfywiogi coetir sydd wedi cael ei esgeuluso, plannu dolydd a chadw gwenyn.
Penodwyd tan 31 Hydref 2026.
Yr Athro Rhys Jones
Mae Rhys Jones FLSW yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ac yn gyn Bennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ystod o themau cydberthynol
- daearyddiaeth hunaniaethau grwp sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddaearyddiaeth cenedlaetholdeb Cymreig a'r ffordd y mae hyn yn cael ei lunio gan arferion gofodol a chymunedol, iaith, yn ogystal ag arferion pobl ifanc;
- daearyddiaeth y wladwriaeth, lle mae'n arbenigo ar natur tiriogaethol y wladwriaeth, ynghyd a dealltwriaethau anthropolegol ohoni. Mae hefyd yn arbenigwr ar ddatganoli yn y DU, yn enwedig mewn perthynas a Chymru;
- y defnydd a wneir o fewnwelediadau ymddygiadol mewn polisi cyhoeddus mewn ystod o wahanol wledydd. Mae ei waith yn y maes hwn wedi archwilio'r heriau ymarferol sy'n gysylltiedig a datblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymddygiad, yn ogystal a'r materion mwy moesegol sy'n codi o'u defnyddio.
- y syniad o dwristiaeth adfywiol a'r ffordd y gellir ei ddefnyddio i greu bywoliaethau ac amgylcheddau cynaliadwy mewn ardaloedd ucheldir.
Mae wedi cyhoeddi’n eang ar y themau hyn, gan gynnwys un ar ddeg o lyfrau a dros wyth deg o erthyglau a phenodau llyfrau. Cefnogwyd ei waith gan grantiau ymchwil gan yr ESRC, yr AHRC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Horizon 2020, INTERREG a Llywodraeth Cymru. Mae ei brosiectau ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar: syniadau o gydlyniant tiriogaethol a chyfiawnder gofodol yn yr UE (Horizon 2020); daearyddiaethau mudiadau rhanbarthol yn yr UE (ESRC); twristiaeth treftadaeth, hunaniaeth a symudedd rhwng Iwerddon a Chymru (INTERREG).
Penodwyd tan 31 Hydref 2027.
Lesley Jones
Cafodd Lesley ei geni a’i magu yn Wrecsam, Gogledd Cymru a bu’n astudio yn Abertawe cyn gadael Cymru am nifer o flynyddoedd i weithio a theithio. Dychwelodd i Gymru i ymuno â Chanolfan Cydweithredol Cymru (Cwmpas erbyn hyn) fel Swyddog Undeb Credyd, gan ddod yn Ddirprwy Brif Weithredwr yn y pen draw. Yn 2010, daeth yn Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus. Yn y rôl honno, bu’n gweithio gyda phartneriaid ar draws pob sector ar fentrau i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a chefnogi iechyd a llesiant pobl. Ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl 12 mlynedd bleserus wrth y llyw.
Ar hyn o bryd Lesley yw Llywydd y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE), wedi iddi gael ei hethol i’r rôl gan yr aelodau yn 2016. FEE yw sefydliad addysg amgylcheddol mwyaf y byd gydag aelodau mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd.
Yn ddiweddar, mae Lesley wedi arwain datblygiad strategaeth 10 mlynedd arloesol ar gyfer FEE – GAIA 20:30, a fydd yn llywio’r sefydliad wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur sy’n ein hwynebu.
Mae hi wedi cynrychioli FEE mewn digwyddiadau ledled y byd. Mae hyn wedi cynnwys Cynhadledd y Byd UNESCO ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn Japan a siarad mewn digwyddiadau yn ystod COP21 a COP26. Yn Uwchgynhadledd Ras Fôr Volvo yng Nghaerdydd, rhannodd lwyfan gydag amgylcheddwyr ac arweinwyr busnes blaenllaw.
Penodwyd tan 31 Hydref 2026.
Clare Pillman (Prif Weithredwr)
Bu’n gweithio mewn nifer o wahanol Adrannau o Lywodraeth y DU, gan gynnwys yr Adran dros Dreftadaeth Genedlaethol, y Trysorlys a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. O 2004-2011 roedd Clare yn rheoli Gwasanaeth y Llysoedd yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol Gogledd Cymru, bu’n arwain yr ymgyrch i sicrhau carchar yng Ngogledd Cymru ac yn arwain Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi Cymru (GLlEM) i fod y corff Cymru-gyfan cyntaf i dderbyn y Marc Siarter am Wasanaeth Cwsmer.
Dychwelodd Clare i Gymru i ymuno â CNC fel Prif Weithredwr ym mis Chwefror 2018. Cyn hynny Clare oedd Cyfarwyddwr Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Yn y swydd hon bu’n arwain y gwaith ar yr Olympiad Diwylliannol ac yn goruchwylio rhaglen newid fawr o fewn yr Adran. Mae hi wedi arwain gwaith i ddatblygu strategaethau newydd ar gyfer Chwaraeon, Twristiaeth a Diwylliant, bu’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni digwyddiadau fel Cwpan Rygbi'r Byd a Phencampwriaethau Athletau’r Byd, datblygu ac arwain y rhaglen i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a chreu modelau llywodraethiant ac ariannu newydd ar gyfer sefydliadau megis Historic England, English Heritage, y Parciau Brenhinol a Visit Britain.
Ar hyn o bryd mae Clare yn Aelod o Fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru; a chyn hynny bu’n Ymddiriedolwr y Sefydliad Ymchwil Canser yn Llundain am ddeng mlynedd.
Cofrestr buddiannau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus eu natur ac rydyn ni felly’n rhwym wrth ddyletswydd i gyflawni ein busnes yn unol â safonau ymddygiad derbyniol ar gyfer cyrff cyhoeddus.
Er mwyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gydymffurfio â’r safonau ar fod yn agored ac yn atebol a osodir gan Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (OCPA), mae’n ofynnol i aelodau ddatgan unrhyw fudd a allai fod yn berthnasol i waith y sefydliad.
Gofynnir i holl aelodau’r Bwrdd ddatgan unrhyw fuddiannau personol a heb fod yn bersonol (er enghraifft, rhai’n ymwneud ag adrannau prifysgol y gallai aelod fod yn gyfrifol amdanynt) os ydynt yn teimlo y gallent wrthdaro â’u cyfrifoldebau fel aelod o’r Bwrdd, neu a allai gael eu gweld gan aelod rhesymol o’r cyhoedd fel rhywbeth a allai ddylanwadu ar eu barn.Gofynnir i aelodau’r Bwrdd ddatgan buddiannau ariannol a heb fod yn ariannol.
Bydd buddiannau aelodau’r Bwrdd yn cael eu hadolygu’n flynyddol a chyhoeddir unrhyw newidiadau ar ein gwefan.Gofynnir i aelodau hefyd ddatgan, ar ddechrau cyfarfodydd y Bwrdd, unrhyw fuddiannau penodol a allai fod ganddynt sy’n berthnasol i eitemau ar yr agenda.Yn yr achosion hyn, gofynnir i’r aelod fynd allan tra bydd yr eitemau hynny’n cael eu trafod.
Dilynwch y ddolen a ddarperir uchod i weld datganiadau buddiannau aelodau’r Bwrdd.
Lwfansau aelodau’r Bwrdd
Caiff Aelodau’r Bwrdd eu had-dalu am y costau yr achosir iddynt wrth deithio ar fusnes Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys cyrsiau hyfforddiant.Mae’r costau’n cynnwys llety, cynhaliaeth (gan gynnwys prydau bwyd a lluniaeth) a theithio.
Rydym yn cydnabod bod angen i lawer o'n cynrychiolwyr deithio fel rhan o'u busnes bob dydd, i sicrhau bod targedau ein cynllun busnes uchelgeisiol yn cael eu cwrdd.Defnyddiwn y dulliau teithio mwyaf priodol ac ystyriwn gynaliadwyedd, hwylustod ac effeithlonrwydd (ar gyfer yr unigolyn a Cyfoeth Naturiol Cymru), yn ogystal â’r gost i’r sefydliad.
Cyhoeddir manylion y taliadau yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.