Peiriannydd Perfformiad Asedau

Dyddiad cau: 20/07/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Bangor neu Bwcle

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Perfformiad Asedau’r Gogledd / Gweithrediadau 

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 29/07/2025

Rhif swydd: 200264

Y rôl

A ydych chi’n barod i ymgymryd â rôl sy’n gwarchod pobl, eiddo a’r amgylchedd? Ymunwch â Cyfoeth Naturiol Cymru fel Peiriannydd Perfformiad Asedau a helpwch i lywio’r gwaith o wrthsefyll llifogydd ar draws Gogledd Cymru.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli asedau perygl llifogydd hanfodol – yn dadansoddi data, asesu seilwaith, a helpu i ddarparu atebion clyfar a chynaliadwy sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau. Boed yn gynllunio strategaethau asedau hirdymor, arwain prosiectau peirianneg lleol, neu gynghori mewn grwpiau llifogydd ac arfordirol, dyma’ch cyfle i roi eich arbenigedd technegol ar waith a all gael effaith yn y byd go iawn.

Byddwch yn gweithio ar amrywiol brosiectau cyfalaf a refeniw, yn cydweithio â phartneriaid mewnol ac allanol, ac yn cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn digwyddiadau cymunedol a grwpiau rhanddeiliaid. Mae’n rôl sy’n cyfuno meddwl dadansoddol, peirianneg ymarferol ac ymgysylltu ystyrlon.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â chefndir mewn peirianneg neu reoli asedau, sy’n angerddol am wydnwch, cynaliadwyedd ac arloesedd. Os ydyw gwneud gwahaniaeth trwy wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata a chyflawni prosiectau’n rhagweithiol yn mynd â’ch bryd chi, dyma’r rôl i chi.

Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o dîm sy’n gweithio bob dydd i adeiladu dyfodol gwell a diogelach i bobl Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â ag Gareth Evans at Gareth.Evans@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk   

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Rheoli’r System Rheoli Asedau Cenedlaethol (AMX) a data cysylltiedig, gan gynnwys casglu data arolygon. 
  • Dadansoddi gwybodaeth am asedau a data perygl o lifogydd er mwyn pennu’r angen i reoli asedau perygl o lifogydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. 
  • Cefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau y ceir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau Cyfoeth Naturiol Cymru. 
  • Cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Tymor Canolig. 
  • Cynnal rhag-astudiaethau dichonoldeb o gynlluniau rheoli perygl llifogydd a chynlluniau rheoli traethlin. 
  • Cynnal asesiadau peirianyddol. 
  • Rheoli prosiectau refeniw a chyfalaf o werth bach / canolig (gwerth hyd at £100,000). 
  • Dylunio, asesu cost a budd, blaenoriaeth risg, cwmpasau prosiectau, gwerthuso tendrau, ac adrodd ar gyfer prosiectau. Gweithredu fel uwch-ddefnyddiwr hefyd.
  • Monitro cydymffurfiaeth â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975. 
  • Goruchwylio ymgynghorwyr a chontractwyr ar fframweithiau. 
  • Bod yn gynrychiolydd fel partner proffesiynol mewn grwpiau llifogydd, grwpiau arfordirol a digwyddiadau cymunedol. 
  • Cynorthwyo awdurdodau rheoli risg, cymunedau a rhanddeiliaid eraill a rhoi cyngor iddynt.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Addysg hyd at lefel gradd mewn peirianneg sifil, neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol. 
  2. Gwybodaeth dda am TGCh, gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol a chynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) (e.e. ARCGIS, AutoCAD). Byddai gwybodaeth dda am gronfeydd data AMX yn fanteisiol. 
  3. Ymwybyddiaeth dda o iechyd a diogelwch a rheoliadau perthnasol, e.e. Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015. 
  4. Gwybodaeth am ddylunio ym maes peirianneg sifil ac arferion contractau adeiladu. 
  5. Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu fodlonrwydd i weithio tuag at aelodaeth ohono, megis Sefydliad y Peirianwyr Sifil – ICE / Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd. 
  6. Byddai profiad o reoli prosiectau a PRINCE2 yn ddymunol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf