Cynghorydd 2, Data Allanol/ Gwyddoniaeth Dinasyddion
Dyddiad cau: 28 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Monitro Strategaeth a Chynllunio / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203336
Y rôl
Darparu cyngor technegol i gyfarwyddo’r gwaith o osod cyfeiriad strategol CNC ar gyfer defnyddio gwyddoniaeth dinasyddion a data allanol arall i ategu gwaith monitro amgylcheddol CNC, yng nghyd-destun ein rhaglenni monitro blynyddol, a rhaglenni dadansoddi labordy cysylltiedig. Byddwch yn rhoi arweiniad i dimau gweithredol ar waith monitro gwyddoniaeth dinasyddion. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Gweithrediadau, a chynrychiolwyr o sefydliadau partner sy'n ymwneud â gwaith monitro.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sue Byrne ar Sue.Byrne@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Darparu cyngor technegol arbenigol i gyfarwyddo’r gwaith o bennu cyfeiriad strategol CNC ar gyfer monitro morol, gan sicrhau ei fod yn addas ar gyfer cefnogi ein canlyniadau corfforaethol a bodloni rhwymedigaethau statudol.
- Cyfrannu at ddatblygu cydweithrediad CNC â gweithgareddau monitro gwyddoniaeth dinasyddion ar draws dŵr croyw, daearol a morol, gan weithio â chydweithwyr ar draws y sefydliad.
- Parhau i oruchwylio monitro gwyddoniaeth dinasyddion lle mae gan CNC ddiddordeb.
- Rhyngweithio ag amrywiaeth o sefydliadau partner sy'n gweithio ar waith monitro strategol a gweithredol.
- Cyfrannu at ddatblygu’r defnydd o wyddoniaeth dinasyddion a data allanol arall i ysgogi gwell perfformiad ac effeithlonrwydd yng ngwasanaeth monitro CNC.
- Cymryd rhan mewn grwpiau sydd wedi’u sefydlu i sicrhau bod gwaith monitro yn cael ei lywodraethu’n effeithiol o fewn CNC.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Bydd gennych wybodaeth ac arbenigedd mewn maes monitro dŵr croyw, daearol neu forol.
- Bydd gennych allu cydnabyddedig i adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol.
- Bydd gennych y gallu i brosesu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth dechnegol.
- Byddwch yn gyfathrebwr da a bydd gennych y gallu i gyflwyno gwybodaeth dechnegol ac annhechnegol yn effeithiol.
- Bydd gennych brofiad blaenorol o arwain a rheoli prosiectau.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.