Sut mae Wythnos Cysylltiadau Coetir Wrecsam yn helpu i gysylltu pobl a natur
Bydd Wythnos Cysylltiadau Coetir Wrecsam yn dychwelyd rhwng 13 a 21 Mehefin 2026, gan ddod â phartneriaid o bob cwr o'r sir ynghyd i ddathlu manteision niferus coed a choetiroedd.
Mae’r fenter, dan arweiniad Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam, bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, a bydd yn yn canolbwyntio ar y thema 'Hygyrchedd i Bawb', gan dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod pawb yn gallu profi a mwynhau mannau gwyrdd a choetiroedd lleol.
Bydd yr wythnos yn dechrau gyda digwyddiad lansio ddydd Sadwrn 13 Mehefin ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, gan osod y llwyfan ar gyfer rhaglen o weithgareddau a gyflwynir gan sefydliadau ar draws y bartneriaeth. Bydd digwyddiadau drwy gydol yr wythnos yn dangos sut mae coetiroedd yn cefnogi iechyd a lles, yn darparu cynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt, ac yn helpu i adeiladu dyfodol gwyrddach i'r genhedlaeth nesaf yn Wrecsam.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwarae rôl allweddol o fewn y bartneriaeth, gan gefnogi cydlynu a chysylltu partneriaid ag arbenigedd, adnoddau a sgiliau gwerthfawr. Trwy'r cydweithrediad hwn, rydym yn helpu i sicrhau bod gweithgarwch lleol yn cyd-fynd â blaenoriaethau amgylcheddol ehangach, gan gryfhau ymdrechion i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru.
Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn ymwneud â llawer mwy na rhaglen o ddigwyddiadau. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad a rennir i weithio gyda'n gilydd i wneud y mwyaf o'r manteision y mae coed yn eu rhoi i gymunedau.
Mae coetiroedd yn gwella lles meddyliol a chorfforol, yn creu mannau i bobl gysylltu â natur, ac yn gwella bioamrywiaeth trwy gysylltu cynefinoedd ar draws y dirwedd. Maent hefyd yn chwarae rôl gynyddol bwysig wrth helpu Cymru i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd, o ddal carbon i wella gwytnwch yn erbyn tywydd eithafol.
Trwy ganolbwyntio ar hygyrchedd eleni, mae'r bartneriaeth yn cydnabod bod yn rhaid i'r buddion hyn fod ar gael i bawb. Mae sicrhau mynediad cyfartal i fannau gwyrdd o ansawdd uchel yn creu cymunedau iachach, mwy cynhwysol ac yn cyfrannu at nodau amgylcheddol a lles ehangach Cymru.
Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir Wrecsam yn gyfle i ddathlu'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni ac i ysbrydoli gweithgarwch parhaus. Trwy weithio gyda'i gilydd, gall partneriaid gryfhau cysylltiadau rhwng pobl, natur a lle – gan helpu i greu Wrecsam wyrddach, iachach a mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
Gellir dod o hyd i restr o ddigwyddiadau yma.