Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau gorfodi pellach o ran Safle Tirlenwi Withyhedge

Logo CNC

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cymryd camau gorfodi pellach o ran Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro, gan nodi’r camau brys y mae’n rhaid i weithredwyr y safle eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau parhaus o ran arogleuon a nwyon tirlenwi ar y safle.

Mae CNC wedi cyhoeddi Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 pellach i weithredwyr y safle, sef Resources Management UK Ltd (RML), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni gyflawni cyfres o gamau gweithredu erbyn terfynau amser penodedig – mae’r cyntaf ohonynt i’w gyflawni erbyn 21 Ebrill 2024.

Mae’r camau gweithredu’n cynnwys mesurau sy’n ymwneud â seilwaith rheoli nwy, capio ardaloedd o’r safle ymhellach, yn ogystal â gwella trefniadau cyflenwi dros dro wrth i’r gwaith fynd rhagddo.  Rhaid cwblhau pob un o’r camau a amlinellir yn yr Hysbysiad erbyn 14 Mai, er bod yr hysbysiad yn nodi y bydd angen cwblhau’r rhan fwyaf o’r gwaith cyn 8. Mai. Bwriad y mesurau yw mynd i'r afael â'r problemau a brofir gan y cymunedau o amgylch y safle o ran arogleuon.

Er ei bod yn ymddangos bod y camau gweithredu a nodwyd yn yr Hysbysiad Adran 36 a gyhoeddwyd ym mis Chwefror - sef paratoi a chapio cell wastraff a gosod seilwaith nwy i gynnwys a chasglu nwyon tirlenwi - wedi’u cwblhau, mae ardaloedd posibl eraill ar y safle lle gallai arogl fod yn dod ohonynt wedi’u nodi gan gweithredwr y safle.

Cyflwynodd RML eu cynlluniau ar gyfer datrys y materion hyn yr wythnos ddiwethaf, gyda'r atebion arfaethedig yn llywio'r camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn yr Hysbysiad Adran 36 newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon.

Mae'r gweithgaredd gorfodi newydd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gyflawni'r camau ychwanegol y mae angen iddynt eu cymryd. Os na chydymffurfir â’r camau gweithredu a amlinellir yn yr Hysbysiad newydd hwn, ni fydd CNC yn oedi cyn cymryd camau pellach - a bydd yn ystyried yr holl bosibiliadau rheoleiddio sydd ar gael, gan gynnwys cyhoeddi Hysbysiad Atal, Adran 37, os bydd hyn yn briodol.

Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin CNC:

“Mae CNC yn cymryd camau gorfodi ychwanegol i sicrhau bod RML Ltd yn cymryd y camau brys y maent wedi nodi sydd eu hangen i reoli’r problemau gydag arogleuon yn Safle Tirlenwi Withyhedge. 

“Rydym yn deall yn iawn yr anniddigrwydd cynyddol ymhlith y cymunedau yr effeithir arnynt, ac rydym yn teimlo ei bod yn annerbyniol i drigolion ac ymwelwyr â’r ardal barhau i gael eu heffeithio gan yr arogleuon a’r allyriadau nwyon tirlenwi hyn.

“Rydym am roi sicrwydd i bawb ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod RML Ltd yn cyflawni'r camau gweithredu a nodwyd ganddynt, a'u bod yn gweithio'n gyflym i ddod â'r mater hwn i ben.

“Tra bod y gwaith brys sydd ei angen ar y gweithredwr yn mynd rhagddo dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf, mae’r safle’n parhau i gael ei archwilio a byddwn yn parhau â’n presenoldeb rheoleiddio.

“Mae popeth dal i fod yn bosibl -  os na chydymffurfir â’r gyfres o gamau gweithredu sy’n ofynnol yn yr Hysbysiad hwn, ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi pellach, gan ystyried pob opsiwn sydd ar gael i ni o dan y rheoliadau, gan gynnwys atal y drwydded amgylcheddol os bydd hynny’n briodol.”

Mae CNC yn gofyn i chi barhau i roi gwybod am achosion o arogleuon o'r safle tirlenwi trwy ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol hon: https://bit.ly/reportasmellwithyhedge.

Rhowch wybod am arogleuon wrth i chi eu profi - nid wedi’r digwyddiad os gwelwch yn dda. Mae angen inni wybod am arogleuon cyfredol nid rhai’r gorffennol. Bydd hyn yn helpu gyda gwaith ein partneriaid, yn enwedig o ran datblygu gwaith monitro ansawdd aer ymhellach.