Datganiad: Diweddariad llygredd Afon Tywi

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymwybodol o bryderon sydd wedi’u codi, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghylch adroddiadau am lygredd sy’n effeithio ar afon Tywi.

Hoffem ddiolch i aelodau’r cyhoedd sydd wedi mynegi eu pryderon. Mae gwybodaeth a ddarperir gan gymunedau lleol yn amhrisiadwy ac yn helpu i sicrhau bod digwyddiadau posibl yn cael eu nodi ac yr ymchwilir iddynt cyn gynted â phosibl.

Derbyniodd CNC adroddiad am amheuaeth o lygredd yn yr ardal, ynghyd ag adroddiad am un pysgodyn marw. Aseswyd yr adroddiadau hyn ac maent yn rhan o'n hymchwiliadau parhaus.

Aeth swyddogion CNC i Afon Tywi ddydd Sadwrn i fonitro ac asesu’r safle eu hunain. Aethant yno eto ddydd Llun 20 Gorffennaf i fonitro'r ardal. Mae ymchwiliadau’n parhau, a byddwn yn parhau i asesu’r holl dystiolaeth sydd ar gael.

Rydym yn ymwybodol bod cryn ddyfalu wedi bod ynghylch gollyngiad posibl o safle penodol. Mae hyn yn rhan o ymchwiliadau parhaus CNC.

Mae Afon Tywi yn un o asedau naturiol pwysicaf Sir Gaerfyrddin. Mae'n cefnogi bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol, cymunedau lleol a hamdden. Mae amddiffyn Afon Tywi a'r amgylchedd ehangach yn flaenoriaeth i Dîm Amgylchedd Sir Gaerfyrddin.

Rydym yn cymryd pob adroddiad o lygredd o ddifrif. Rydym yn gweithio'n galed i ymchwilio i droseddau amgylcheddol ac ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi priodol lle bo tystiolaeth yn ategu hynny.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer o ymchwiliadau gorfodi amgylcheddol yn mynd rhagddynt, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddwyn llygrwyr i gyfrif ac amddiffyn Amgylchedd Sir Gaerfyrddin.

Diolch i bawb sy'n rhoi gwybod i ni am ddigwyddiadau llygredd a amheuir. Mae eich adroddiadau yn ein helpu i ymateb yn gyflym, a gorau po gyntaf y byddwn yn gwybod am rywbeth. Os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw broblemau pellach, rhowch wybod amdanynt yn swyddogol i ni drwy ein ffurflen adrodd ar-lein neu drwy ffonio ein llinell ddigwyddiadau 24/7 ar 0300 065 3000.

Adrodd yn uniongyrchol drwy'r sianeli hyn yw'r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithlon o'n rhybuddio ac mae'n helpu i osgoi oedi a all ddigwydd pan gaiff problemau eu hadrodd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru