Strategaeth twf a gwerth cynaliadwy 2027–2031

Cyflwyniad

Mae amgylchedd naturiol Cymru yn un o’n prif asedau. Mae’n siapio ein cymunedau, yn pweru ein heconomi, yn cefnogi ein lles, ac yn ysbrydoli ein hymdeimlad o le. 

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn falch o gael gofalu am y tirweddau, y dyfroedd a’r coetiroedd hyn ar ran y genedl – fel eu bod yn dal ati i ffynnu heddiw ac ymhell i’r dyfodol.
 
Bob dydd, mae ein gwaith yn helpu i warchod y lleoedd a’r adnoddau naturiol sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru. Rydym yn helpu i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd, gofalu am gynefinoedd a bywyd gwyllt, a chadw aer a dŵr yn lân. 

Rydym hefyd yn rheoli ac yn gofalu am y 120,000 hectar o dir sydd yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar ei rhan. Mae’r lleoedd hyn yn ategu natur, yn storio carbon, yn darparu pren, yn cynnig lle i anturio a myfyrio, ac yn cefnogi miloedd o swyddi ar hyd a lled Cymru.

Mae ein pwrpas yn un syml: byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.

Dyma galon ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 a’n hamcanion llesiant. Erbyn 2030, rydym am weld:

  • byd natur wrthi’n gwella
  • cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Er mwyn helpu i wneud i hyn ddigwydd, rydym yn lansio strategaeth twf a gwerth cynaliadwy 2027-2031. 

Mae’n dangos sut byddwn yn cynyddu ein hincwm a’r buddion a ddarparwn. 

Bydd hyn yn caniatáu i ni ailfuddsoddi’n fwy uniongyrchol ym myd natur, mewn gweithredu dros yr hinsawdd, ac yn lles cymunedau. Nid mater o wneud arian er ei fwyn ei hun mo hyn. Mae a wnelo â gwneud i bob un bunt a phartneriaeth gyflawni mwy dros Gymru a’i chymunedau.
 
Mae’r strategaeth wedi’i siapio gan y bobl sy’n defnyddio ein tir a’n gwasanaethau. Fe roesom ein syniadau ar brawf gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid ddechrau 2026, ac fe helpodd eu hadborth i hogi ein huchelgais a’n ffocws.
 
Mae’r strategaeth hon yn hyderus ac yn ymarferol. Mae’n dangos sut byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y tir rydyn ni’n ei reoli, yn cefnogi nodau hinsawdd a natur Cymru, ac yn helpu i feithrin economi fwy gwyrdd a theg. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio gyda phartneriaid, cymunedau a diwydiannau ar hyd a lled Cymru.

Ein hamcanion

Mae ein strategaeth yn anelu at:

  • ddangos sut rydym yn gofalu am ein hadnoddau naturiol a’r tir yn ein gofal mewn ffordd gynaliadwy 
  • egluro sut mae gweithgareddau masnachol yn cefnogi ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 a’n hamcanion llesiant
  • sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian i’r cyhoedd, yn cefnogi adferiad natur, yn gwella mynediad i gymunedau ac yn meithrin economi gryfach a mwy gwyrdd, gan sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu diogelu (twf gwyrdd).  

Ar draws ein gwaith, byddwn bob amser yn blaenoriaethu diogelwch a gwarchod yr amgylchedd. Byddwn yn dilyn egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) ac yna’n ymateb i anghenion y farchnad.

Mae’r amcanion hyn yn ein helpu i gyflawni dyletswyddau cyfreithiol allweddol, fel y’u cyflwynir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yng Ngorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012, ac yn Neddf Coedwigaeth 1967. 

Maent hefyd yn cyfrannu at gyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol o amgylch llesiant a diogelu cenedlaethau’r dyfodol fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Llywodraeth Cymru sy’n gosod y disgwyliadau arnom fel corff noddedig. Mae ein hamcanion wedi’u cynllunio fel y gallant addasu a chyd-fynd â rhaglen waith y Llywodraeth. Mae hyn yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur er budd ein cymunedau yng Nghymru.

Maent yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i ddiogelu 30% o’r tir a’r môr ar gyfer natur erbyn 2030 (“30x30”). Mae ein hamcanion yn gwneud hyn drwy ein helpu i reoli’r tir yn y ffordd gywir, adfer cynefinoedd, a gweithio gyda phartneriaid i warchod natur ar raddfa fawr.

Drwy weithio tuag at yr amcanion hyn, byddwn hefyd yn bodloni safonau ac ardystiadau rheoli coetiroedd, sy’n gwella’r amgylchedd coedwig i bobl, natur a’r diwydiant.

Bydd ein gwaith ar y camau gweithredu Cymru gyfan i gynyddu ynni adnewyddadwy yn cefnogi i dyfu’r economi gan hefyd amddiffyn natur (twf gwyrdd) yng Nghymru. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Rydym wedi gwirio’r strategaeth hon i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio’n dda gyda’n cynlluniau eraill.

Mae ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yn adroddiad cenedlaethol sy’n dangos sut mae natur yng Nghymru yn gwneud a beth mae angen ei newid i’w diogelu a’i gwneud yn gryfach ar gyfer y dyfodol. 

Mae ein hadroddiad ar gyfer 2025 yn galw am newidiadau sylweddol er mwyn adfer natur, gwella gwydnwch, a meithrin economi deg sy’n adnewyddu ac yn cryfhau’r systemau naturiol rydym yn dibynnu arnynt.

Mae pennod Pontydd i’r Dyfodol yn SoNaRR yn galw ar Gymru i droi tystiolaeth yn weithredu go iawn. Mae ein strategaeth twf a gwerth cynaliadwy yn rhan o’n gwaith i ‘feithrin economi adfywiol’.

Mae ein strategaeth hefyd yn ein helpu i sicrhau cyllid ar gyfer ein Cynllun Corfforaethol, ein nodau llesiant a’n hymrwymiadau cenedlaethol. Nid yw cyllid traddodiadol yn ddigon ar ei ben ei hun mwyach, felly byddwn yn archwilio opsiynau eraill am gyllid moesegol ac addas, gan osgoi dull ‘un maint i bawb’. Mae hyn yn unol â’n strategaeth ariannol i weithredu cyllideb gytbwys a sicrhau cyllid i gefnogi ein cenhadaeth graidd.

Byddwn yn dilyn ein Strategaeth Caffael a Chontractau 2026-2031. Mae hyn yn cwmpasu gwaith teg, cydraddoldeb ac amrywiaeth; atal caethwasiaeth fodern; gwerth am arian; a llywodraethu, cydymffurfiaeth ac arloesedd.

Rydym yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd er budd cymunedau mewn rhanbarthau neu leoedd penodol o Gymru: Morol, De Ddwyrain, Canol y De, De Orllewin, Canolbarth, Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin. Mae gan yr ardaloedd hyn ‘gynlluniau lle’ i ystyried yr anghenion a’r cyfleoedd unigryw ym mhob ardal. Rydym yn darparu cefnogaeth fasnachol ochr yn ochr â chydweithwyr yn y timau hyn. 

I grynhoi, mae ein gweithgareddau masnachol yn cefnogi ein cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol. Wrth i’n gwaith masnachol dyfu, mae’n ein helpu i greu mwy o werth. Mae hyn yn golygu mwy o fuddion i natur, i gymunedau ac i’r economi ar hyd a lled Cymru.

Sut byddwn yn cyflawni ein strategaeth

Bydd ein dull yn un sy'n canolbwyntio ar le. Man cychwyn pob penderfyniad am ddefnydd tir fydd beth sy’n ddiogel ac yn iawn ar gyfer pob lle. Mae hyn yn golygu y byddwn yn blaenoriaethu diogelwch a gwarchod yr amgylchedd yn gyntaf, yn dilyn egwyddorion SMNR, ac yna’n ystyried cyfleoedd y farchnad.
 
Rhwng 2027 a 2031, byddwn yn canolbwyntio ar bedwar prif faes.

  • Datblygu busnes – Byddwn yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer arloesi, buddsoddiadau sy’n cefnogi natur a’r hinsawdd (cyllid gwyrdd) a gwella prosesau. Byddwn hefyd yn diffinio ein rôl ym map tir gwledig a chynllun defnydd tir Llywodraeth Cymru. 
  • Masnachol a hamdden – Byddwn yn cefnogi mynediad awyr agored cynhwysol a chynaliadwy ar dir addas rydym yn ei reoli. Bydd incwm o hamdden fasnachol yn cael ei ailfuddsoddi’n lleol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn ein Strategaeth Hamdden 2024–2030.
  • Ynni adnewyddadwy – Byddwn yn cefnogi twf ynni adnewyddadwy drwy weithio gyda Trydan Gwyrdd Cymru a datblygwyr eraill. Byddwn yn dilyn dull agored a chynhwysol system gyfan.
  • Gwerthiannau pren a marchnata – Byddwn yn rhoi sicrwydd clir ynghylch cyflenwad pren i gwsmeriaid a phroseswyr pren ac yn sicrhau’r gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol gorau posibl i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. 

Mae’r penodau nesaf yn egluro ein rôl ym mhob un o’r pedwar maes a sut rydym yn bwriadu cyflawni.

Mae manylion am yr hyn byddwn yn ei gyflawni a sut byddwn yn ein mesur ein hunain wedi’u cynnwys mewn pedwar cynllun yn y meysydd ffocws uchod i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth hon. 

Bydd ein Tîm Masnachol yn goruchwylio’r strategaeth a’r cynlluniau gweithredu. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’n holl gydweithwyr a thîmau i dyfu ac i ychwanegu gwerth at y gwaith a wnawn drwy ddod ag arbenigedd masnachol lle bo’n ddefnyddiol.

Bydd yr holl weithgareddau, rhai wedi’u cynllunio a rhai adweithiol, yn cyd-fynd â’r Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 a’r hamcanion llesiant, a byddant yn bodloni gofynion cyfreithiol.

Mae ein gwaith yn cefnogi twf ac yn ychwanegu gwerth. Mae’n ein helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant yn y ffyrdd canlynol.

Sut rydym yn cyflawni ein hamcanion llesiant

Byd natur wrthi'n gwella

Mae sut rydym yn rheoli ac yn cynaeafu pren yn helpu natur i wella a ffynnu. Er enghraifft, rydym yn teneuo coetiroedd fel y gall coed dyfu’n iach ac yn gryf, ac yn defnyddio coedwigaeth gorchudd parhaus, lle bo modd, fel bod gorchudd o goed dros ein coedwigoedd drwy’r adeg. Rydym yn adfer cynefinoedd coetir brodorol ar gyfer bywyd gwyllt. Rydym yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ar ein tir, gyda chynlluniau yn eu lle i warchod natur fel rhan o’r prosiectau hyn. Rydym hefyd yn gwella llwybrau a mynediad at y tir yn ein gofal fel y gall pobl gysylltu â natur.

Cymunedau’n gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd

Mae ein gwaith yn helpu cymunedau i baratoi at y dyfodol. Mae’r pren rydyn ni’n ei gynaeafu yn ddeunydd adnewyddadwy, gwyrdd. Fe’i defnyddir i adeiladu cartrefi Cymru ac mae’n helpu i storio carbon yn lle ei ryddhau i’r atmosffer. Rydym yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ar y tir yn ein gofal. Mae hyn yn rhoi ynni gwyrdd glân a diogel ledled Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol. Mae hyn i gyd yn helpu i dyfu’r economi ac yn creu swyddi gwyrdd medrus newydd ar gyfer y dyfodol.

Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Mae ein gwaith yn helpu i leihau llygredd a gwella ansawdd yr aer. Drwy gefnogi ynni adnewyddadwy, rydym yn lleihau’r angen am danwydd ffosil. Rydym yn sicrhau bod datblygiadau’n cael eu hadeiladu yn y lleoedd cywir ac yn y ffordd gywir. Mae hyn yn cefnogi twf ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac yn helpu i symud tuag at gymdeithas carbon isel, sero net. Ar draws ein holl waith, byddwn yn ailddefnyddio ac yn adnewyddu deunyddiau lle bynnag y bo modd, gan ddilyn egwyddorion economi gylchol. Bydd y dull hwn yn cael ei ymgorffori yn ein holl weithgareddau.

Ymgysylltu a chydweithio

Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr, partneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau i rannu gwybodaeth, meithrin ymddiriedaeth a gweithio tuag at nodau cyffredin.

Rydym yn gweithio’n agos ar draws amrywiaeth o feysydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Menter, Cysylltedd ac Ynni, Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, a’r Tîm Noddi.

Yn fewnol, rydym yn parhau i weithio’n agos gydag amrywiaeth o adrannau ac arbenigwyr pwnc. Mae hyn yn ein helpu i fodloni gofynion cyfreithiol a/neu reoli risg yn ein prosesau, ein cytundebau a’n contractau.

Rheoli risg, manteisio ar gyfleoedd ac edrych tua’r dyfodol

Mae ein strategaeth yn dilyn dull rhagweithiol a hyblyg ar gyfer reoli risgiau. Mae hyn yn ein helpu i aros yn gryf ac yn barod ar gyfer heriau a chyfleoedd newydd yng Nghymru neu’n fyd-eang.

Drwy edrych tua'r dyfodol ac adnabod problemau'n gynnar, gallwn addasu ein ffordd o weithio, bodloni gofynion cyfreithiol a chyflawni ein cynllun corfforaethol.

Mae SoNaRR 2025 yn amlygu risgiau allweddol a’r angen am newid sylweddol ar draws pob sector. Mae’r Strategaeth hon yn cefnogi’r bont “meithrin economi adfywiol” yn y bennod Pontydd i’r Dyfodol.

Mae ein cynllun gwerthu a marchnata pren 2027 i 2031 hefyd yn cynnwys cynlluniau wrth gefn ar gyfer effeithiau posibl newid hinsawdd, gwyntoedd cryfion, tanau, plâu a chlefydau.

Ar draws ein holl waith, byddwn yn gwneud penderfyniadau sy’n cydbwyso cyfle a chyfrifoldeb. Byddwn yn cymryd risgiau synhwyrol pan fyddant yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion.

Rydym am feithrin diwylliant sy’n annog creadigrwydd a syniadau newydd. Byddwn yn cefnogi ein tîm a’n cydweithwyr i feddwl yn feiddgar a rhoi cynnig ar ddulliau newydd. Os bydd rhywbeth ddim yn gweithio cystal ag yr oeddem wedi’i obeithio, byddwn yn ei drin fel cyfle i ddysgu a gwella.

Cynllun datblygu busnes

Cyd-destun a sut byddwn yn gweithio

Byddwn yn darparu cyfleoedd busnes newydd ac arloesol gan ddefnyddio cymysgedd o ffynonellau cyllid.

Gall hyn gynnwys cyfuno cyllid craidd â grantiau, partneriaethau, contractau a ffynonellau allanol eraill. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn dibynnu ar un math o gyllid yn unig. 

Bydd angen i syniadau ac achosion busnes posibl fod yn hyfyw ac yn realistig. Byddwn yn asesu’r holl gynigion gan ddefnyddio ein Pecyn Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i yrru gweithgareddau datblygu busnes gyda’n gilydd.

Ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027–2031

Arloesi

  • Byddwn yn cyflwyno syniadau newydd ac arloesol ar gyfer ein gweithgareddau, gan gynnwys buddsoddiadau sy’n cefnogi natur a’r hinsawdd (cyllid gwyrdd), rheoli’r tir a’r adnoddau yn ein gofal (rheoli asedau), a gwella prosesau busnes masnachol. 

Cyllid gwyrdd gan gynnwys twf creu coetiroedd

  • Byddwn yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion a wnaed gan yr: Archwiliad Dwfn i Goed a Phren (LLYW.CYMRU) a chyfleoedd i dyfu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau’r llywodraeth ar gyfer y rhwydwaith coedwigoedd.

Defnydd tir cynaliadwy

  • Byddwn yn cefnogi rhanddeiliaid allweddol i nodi ffyrdd o gynyddu a gwella ansawdd Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. 
  • Byddwn yn cyfrannu at fap tir gwledig a chynllun defnydd tir Llywodraeth Cymru ac yn egluro ein rôl wrth alluogi cyfleoedd datblygu masnachol cynaliadwy ar y tir yn ein gofal.

Astudiaethau achos

  • Byddwn yn cyhoeddi astudiaethau achos i ddangos yr hyn rydym wedi’i gyflawni a’i ddysgu. Bydd y rhain yn helpu i feithrin hyder, annog arloesedd a chefnogi cyfleoedd yn y dyfodol. Bydd pob astudiaeth achos yn dangos sut mae ein penderfyniadau’n cefnogi llesiant ac adferiad natur.

Cynlluniau peilot a chyd-ariannu

  • Byddwn yn datblygu cynlluniau peilot ar gyfer dulliau arloesol o reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. 
  • Byddwn yn gwahodd eraill i weithio gyda ni a helpu i ddylunio modelau cyllido rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. 
  • Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i gynhyrchu incwm sy’n cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’n dyletswyddau i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. 
  • Byddwn yn sicrhau bod buddsoddiadau gwyrdd yn cyd-fynd ag Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn cefnogi 30x30, ac yn cryfhau ecosystemau i aros yn iach ac adfer.

Arfarnu buddsoddiadau

  • Byddwn yn creu offeryn gwerthuso ariannol i’n helpu i asesu buddsoddiadau a gwneud penderfyniadau da am gyfleoedd newydd am gyllid. Bydd hyn yn dilyn Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac yn defnyddio dull buddsoddi mewn cyfalaf naturiol a charbon.

Cynlluniau parod i fuddsoddwyr

  • Byddwn yn creu cyfres o brosiectau sy’n barod i fuddsoddi, sy’n cefnogi natur a’r hinsawdd (cyllid gwyrdd) ar gyfer y tir rydyn ni’n ei reoli. Bydd hyn yn cynnwys creu’r prosesau ariannol cywir i ddod o hyd i bartneriaid buddsoddi, gan sicrhau gwerth am arian, cynnal gwiriadau priodol, a rheoli risg. Bydd y dull hwn yn cefnogi twf economaidd ehangach ac yn helpu i sicrhau buddsoddiadau hirdymor yn y tir yn ein gofal.

Cynllun hamdden fasnachol

Cyd-destun a sut byddwn yn gweithio

Bydd ein cynllun hamdden fasnachol yn canolbwyntio ar alluogi mynediad awyr agored cynhwysol a chynaliadwy er budd llesiant pobl, gan warchod byd natur hefyd, yn unol â’n Strategaeth Hamdden 2024–2030.

Byddwn yn symud o ddarparu gweithgareddau hamdden fasnachol ein hunain i gyflawni mewn partneriaeth. Byddwn yn defnyddio model economi gymysg – mae hyn yn golygu cyfuno mentrau preifat a chymorth Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a bod o fudd i gymunedau. 

Rydym yn agored i archwilio syniadau hamdden newydd, arloesol a hyfyw ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae’r Ystad ar agor ar gyfer cerdded ac, yn y rhan fwyaf o leoedd, ar gyfer beicio a marchogaeth.

Mae rhywfaint o’r ystad wedi’i dal fel lesddaliad, sy’n golygu y gallai cyfyngiadau fod ar fynediad at hamdden yn yr ardaloedd hyn. Efallai y bydd angen caniatâd landlordiaid ar gyfer mynediad at hamdden a gweithgareddau masnachol, a bydd angen negodi gyda nhw.

Rydym eisoes yn caniatáu gweithgareddau marchogaeth masnachol mewn rhai ardaloedd coedwig, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r trefniadau hyn am hyd y contractau.

Darparwyd llun gan BikePark Wales

Ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027–2031

Llwybrau datblygu ac ail-fuddsoddi

  • Byddwn yn chwilio am gyfleoedd masnachol newydd i wella ac ehangu ein cynnig hamdden ar y tir yn ein gofal. 
  • Lle cynhyrchir incwm o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, byddwn yn ail-fuddsoddi incwm mewn coedwigoedd lleol.

Blaenoriaethu ar sail buddion

  • Pan fyddwn yn adolygu cynigion hamdden newydd, byddwn yn blaenoriaethu’r rhai hynny sy’n fuddiol i gymunedau lleol ac sy’n cefnogi rheolaeth dda o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Canolfannau Ymwelwyr

  • Byddwn yn galluogi sefydliadau eraill neu fusnesau i redeg y ddwy ganolfan ymwelwyr (a’r ardaloedd cyfagos o bosibl) ym Mwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin. Bydd hyn yn gwella profiadau ymwelwyr gan warchod natur hefyd.

Cynnig i’r cyfryngau a byd ffilm

  • Byddwn yn gwella ein cynnig presennol i’r cyfryngau a byd ffilm gael cyfleoedd ar y tir yn ein gofal. 
  • Byddwn yn adolygu ein model gweithredu a’n strwythur ffioedd er mwyn cyd-fynd â’n Strategaeth Hamdden a pholisi ffilm a chyfryngau Llywodraeth Cymru.

Astudiaethau achos

  • Byddwn yn cyhoeddi astudiaethau achos i ddangos yr hyn rydym wedi’i gyflawni a’i ddysgu. Bydd y rhain yn helpu i feithrin hyder, annog arloesedd a chefnogi cyfleoedd yn y dyfodol. Bydd pob astudiaeth achos yn dangos sut mae ein penderfyniadau’n cefnogi llesiant ac adferiad natur.

Ategu ein Strategaeth Hamdden 2024-2030

  • Nod ein ffocws ar hamdden fasnachol yw ategu ein Strategaeth Hamdden ac nid cystadlu â hi. Byddwn yn gweithio gyda’n timau sy'n canolbwyntio ar le i wella a chefnogi ein gwaith yn rhanbarthau Cymru.

Ynni adnewyddadwy

Cyd-destun a sut byddwn yn gweithio

Rydym yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys galluogi cynlluniau ynni adnewyddadwy ar yr ystad goedwig gyhoeddus i gefnogi dyfodol cynaliadwy.

Gall ynni adnewyddadwy ar y tir rydyn ni’n ei reoli ein helpu i ddefnyddio adnoddau’n gynaliadwy, helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, a chyfrannu at dwf economaidd a chreu swyddi medrus.

Byddwn yn parhau i reoli’r cytundebau masnachol presennol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cefnogi cysylltiadau rhwng landlordiaid a thenantiaid, yn darparu cyfrifyddu ariannol cadarn, ac yn cynnal a chadw ein hasedau adeiledig. 

Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda chwmnïau a datblygwyr ynni adnewyddadwy sy’n bodoli eisoes, a Trydan Gwyrdd Cymru. Mae hwn yn gwmni sy’n eiddo i’r cyhoedd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Darparwyd llun gan RWE

Ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027-2031

Twf

  • Byddwn yn parhau i gefnogi a rheoli’r holl gynllun ynni adnewyddadwy presennol ar draws Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Cytundeb enghreifftiol gyda Trydan Gwyrdd Cymru

  • Byddwn yn cryfhau ein gwaith gyda Trydan Gwyrdd Cymru i alluogi cynlluniau ynni adnewyddadwy pellach ar y tir yn ein gofal. 
  • Byddwn yn gweithredu ein Pecyn Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ac yn datblygu cytundeb defnydd tir yn ôl arferion gorau gyda Trydan Gwyrdd Cymru i ddangos sut gall datblygu ynni adnewyddadwy weithio’n dda gyda’r tir a natur.

Cyflawni cynlluniau presennol

  • Byddwn yn galluogi ac yn cefnogi’r tri chynllun a ragwelir ar hyn o bryd ar gyfer Trydan Gwyrdd Cymru. Clocaenog Dau, Sir Ddinbych; Glyn Cothi, Sir Gaerfyrddin; a Charreg Wen, Rhondda Cynon Taf yw’r rhain.

Partneriaethau newydd

  • Byddwn yn parhau â’n gwaith gyda datblygwyr eraill a grwpiau cymunedol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd y rhain yn bodloni safonau amgylcheddol uchel ac yn cyd-fynd â Strategaeth Ynni Genedlaethol a Bargen Sector Ynni Llywodraeth Cymru.

Astudiaethau achos

  • Byddwn yn cyhoeddi astudiaethau achos i ddangos yr hyn rydym wedi’i gyflawni a’i ddysgu. Bydd y rhain yn helpu i feithrin hyder, annog arloesedd a chefnogi cyfleoedd yn y dyfodol. Bydd pob astudiaeth achos yn dangos sut mae ein penderfyniadau’n cefnogi llesiant ac adferiad natur.

Adrodd ar berfformiad ar gynlluniau cyfredol

  • Byddwn yn cyhoeddi data ar ynni adnewyddadwy (e.e. allbynnau megawat a chyflawniad creu coetiroedd) ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn dangos y gwerth mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy.

Rhagolygon prosiectau hyd at 2031

  • Byddwn yn cyhoeddi rhagolwg o’n prosiectau ynni targed ar Ystad Llywodraeth Cymru. 
  • Bydd pob cynllun yn cael ei werthuso gan ddefnyddio ein Pecyn Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Mae hyn er mwyn i ni allu dangos sut mae prosiectau ynni yn cefnogi’r gwaith o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy gan hefyd gyfrannu at dwf economaidd a gwerth i Gymru. 
  • Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall y buddion a ddaw o ddull Cymru gyfan ar gyfer ynni adnewyddadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys archwilio posibiliadau ar gyfer seilwaith grid newydd ac asesu’r buddion a’r effeithiau.

Llawlyfr y datblygwr

  • Byddwn yn cyhoeddi llawlyfr i ddatblygwyr, ochr yn ochr â’n cynllun gweithredu, i gefnogi datblygwyr sy’n dymuno cydweithio â ni. Bydd hyn yn nodi’r safonau gofynnol, gan gynnwys Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac yn cynnwys gwybodaeth am ein prosesau gwneud penderfyniadau.

Offeryn rhagweld ariannol

  • Byddwn yn datblygu offeryn i ragweld incwm o ynni adnewyddadwy o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein cynlluniau’n gadarn yn ariannol ac i reoli ein hadnoddau’n gyfrifol.

Llywodraethiant symlach

  • Byddwn yn chwilio am ffyrdd o symleiddio a gwella gweithdrefnau llywodraethiant, lle bo’n briodol, er mwyn gwella ymatebolrwydd ac effeithlonrwydd.

Gwerthiannau pren a marchnata

Cyd-destun a sut byddwn yn gweithio

Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn adnodd coetir cenedlaethol. Rydym yn ei reoli i greu buddion llesiant amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru a thu hwnt, nawr ac i genedlaethau’r dyfodol. 

Mae’r ystad yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy gloi carbon. Mae hefyd yn darparu cynefinoedd gwerthfawr i blanhigion a bywyd gwyllt ac yn cynnig lle ar gyfer hamdden. Mae’n darparu cyflenwad da o bren, sy’n cefnogi cyflogaeth a bywoliaethau gwledig. 

Rydym wedi datblygu cynllun gwerthu a marchnata pren 2027 i 2031 i ddangos sut byddwn yn cyflawni’r ymrwymiadau yn y maes hwn o’n strategaeth.

Mae cyflenwad cyson o bren yn hanfodol ar gyfer dyfodol hirdymor sector melinau llifio a phren Cymru.

Rydym yn croesawu Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren 2025 Llywodraeth Cymru. Bydd y strategaeth twf a gwerth cynaliadwy, ynghyd â’r cynllun gwerthu a marchnata pren 2027 i 2031, yn amlinellu beth a sut rydym yn cyfrannu at bob un o’r targedau a neilltuwyd i ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Rhagolwg Cynhyrchu Forest Research ar gyfer y sector pren ym Mhrydain Fawr yn llywio’r cyfeintiau yr ydym yn ymrwymo i’w cynnig i’r farchnad, trwy ein cynlluniau adnoddau coedwig. 

Mae ein cynlluniau adnoddau coedwig yn dilyn dull cytbwys ar gyfer rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Maent yn dilyn ein dyletswyddau cyfreithiol ac yn adlewyrchu ein datganiadau ardal a’n cynlluniau llesiant lleol. Maent hefyd yn dangos arfer da o ran sut rydym yn rheoli ac yn gwarchod safleoedd a nodweddion pwysig ar y tir yn ein gofal.

Rydym yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru at Safon Coedwigaeth y DU. Caiff hyn ei archwilio’n flynyddol o dan Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS). 

Rydym yn cadw gwiriad annibynnol gan y Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) a’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC®). Mae hyn yn dangos gwelliannau parhaus yn yr amgylchedd coedwig i bobl a byd natur ac yn rhoi hyder i’r diwydiant coedwigaeth.

Dywed Safon Coedwigaeth y DU: "Mae a wnelo rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy â stiwardio a defnyddio coedwigoedd a thiroedd coedwig mewn ffordd ac ar gyfradd sy’n cynnal eu bioamrywiaeth, eu cynhyrchiant, eu gallu i adfywio a’u hyfywedd, a’u potensial i gyflawni, nawr ac yn y dyfodol, swyddogaethau ecolegol, economaidd a chymdeithasol perthnasol ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac nad yw’n achosi niwed i ecosystemau eraill."

Dywed Safon Coedwigaeth y DU: "Coetiroedd y DU sy’n cael eu rheoli’n gyfrifol ac sy’n iachach, yn fwy toreithiog ac yn fwy amrywiol, ac sy’n darparu ystod eang a chynaliadwy o fuddion i gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd."

Gall rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn ofalus wneud gwahaniaeth mawr i lesiant pobl yng Nghymru. Mae coedwigoedd iach yn helpu i greu cymunedau iach drwy storio carbon, sy’n gwella ac yn gwarchod ein hamgylchedd. Byddwn hefyd yn helpu i feithrin gweithlu coedwigaeth cryfach a mwy medrus nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Dim ond drwy gydweithio â diwydiant coedwigaeth a phroseswyr pren Cymru y gallwn gyflawni hyn.

Ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027–2031

Safonau llywodraethu

  • Byddwn yn parhau i reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS), a archwilir yn flynyddol fel y nodir yn Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS). 
  • Byddwn yn cadw gwiriad annibynnol gan y Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) a’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC®).
  • Byddwn yn cymhwyso ac yn esblygu ein Safon Llywodraethu Gwerthiannau Pren, er mwyn sicrhau gwerthiant pren diogel, hygyrch, teg, agored, cystadleuol a thryloyw.

Cyfaint y farchnad

  • Byddwn yn gweithio i gynyddu faint o bren sy’n mynd i’r farchnad o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn ystod y cynllun hwn. 
  • Byddwn yn nodi ble mae angen mwy o fuddsoddiad ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i helpu’r diwydiant i gael mynediad at symiau mwy o bren. Bydd hyn yn cynnwys cynllun gweithredu ar gyfer ffyrdd coedwig newydd a mynediad gwell, cynigion ariannu newydd, a chyfleoedd eraill.

Cynhyrchu a rhagweld

  • Byddwn yn cadw cynhyrchu pren fel nod allweddol yn ein Cynlluniau Adnoddau Coedwig fel y gallwn asesu’n rheolaidd y pren sy’n tyfu ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. 
  • Byddwn yn parhau i ddarparu rhagolwg cywir ar gynhyrchu pren i gefnogi buddsoddiad a thwf yn y diwydiant prosesu pren. Caiff hyn ei gydbwyso â rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ymrwymiad i werth ar y farchnad

  • Rydym wedi ymrwymo i gyfaint o bren ar gyfer y farchnad. Roedd hyn yn seiliedig ar yr hyn y gellir ei wneud yn ddiogel ac yn gynaliadwy ym mhob lle. Fe wnaethom flaenoriaethu diogelwch, gwarchod yr amgylchedd a dilyn egwyddorion SMNR, gan alinio â Rhagolwg Cynhyrchu Prydain Fawr 2026-2031. Mae hyn yn rhoi hyder i’r sector prosesu coed gan hefyd barhau i wella’r amgylchedd ar gyfer natur a phobl.
  • Byddwn yn asesu effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach ein modelau gwerthiannau pren. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng gwerthiannau ar ochr y ffordd a chefnogaeth i fusnesau bach a chanolig a micro-felinau llifio ar draws ein rhanbarthau. 
    Byddwn yn annog buddsoddi mewn offer arbenigol a sgiliau ar gyfer swyddi, a fydd yn cefnogi dyfodol y sector coedwigaeth a’n cymunedau gwledig.

Gwerthiannau a marchnata

  • Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwerthiant pren sy’n sefyll fel ein prif fodel o ddewis ar gyfer contractau, gan ddefnyddio cynhyrchu uniongyrchol dim ond pan fydd angen mwy o reolaeth arnom. 
  • Byddwn yn cynnal digwyddiadau eWerthu tendr agored yn ystod y cynllun hwn ac yn edrych ar ffyrdd eraill o werthu pren. Bydd ein rhaglen werthu yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cael eu gyrru gan y galw yn y farchnad.

Gwydnwch

  • Byddwn yn datblygu cynlluniau risg hyblyg ar gyfer digwyddiadau arwyddocaol, er enghraifft ym maes iechyd planhigion, coed a chwalwyd gan y gwynt, a marchnadoedd, ac yn cynnwys cydweithio â chontractwyr a phroseswyr.
  • Byddwn yn cyhoeddi datganiad ailstocio er gwydnwch ar gyfer y farchnad, gan gydweithio â Forest Research ar dreialon o rywogaethau conwydd cynhyrchiol ehangach.

Diogelwch

  • Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector coedwigaeth i flaenoriaethu a gwella safonau diogelwch, iechyd a lles yn barhaus.

Gweithio mewn partneriaeth

  • Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr, partneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau i rannu gwybodaeth, meithrin ymddiriedaeth, a gweithio tuag at nodau cyffredin.

Adrodd ar berfformiad

  • Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar y Cynllun Pren a Marchnata er mwyn cynnal hyder yn y cyflenwad. Bydd ein hadroddiadau’n cynnwys perfformiad gwerthiannau pren, cyflawni’r rhaglen deneuo, perfformiad ailstocio, a’n rhaglen creu coetiroedd sy’n ehangu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. 
  • Byddwn yn defnyddio mesurau i asesu ein perfformiad.

Cyfathrebu

  • Bydd ein rheolwyr gwerthiannau’n parhau i gyfathrebu’n rheolaidd â chwsmeriaid. 
  • Byddwn hefyd yn cynnal ein digwyddiad blynyddol ar gyfer cydlynu â’r fasnach bren ac yn chwilio am fwy o ffyrdd o weithio gyda’r sector pren.

Monitro a pherfformiad y farchnad

  • Byddwn yn olrhain sut mae’r farchnad bren yn perfformio a pha mor dda mae ein pren yn gwerthu. 
  • Os ydym eisoes wedi gwerthu gormod o bren ymlaen llaw (mwy na 150% o’r hyn a gynigiwn fel arfer bob blwyddyn), efallai y byddwn yn lleihau gwerthiannau yn y dyfodol. Mae hyn yn helpu i atal setlo gormod ac yn cadw’r farchnad yn deg ac yn sefydlog. Rydym yn deall y gall newidiadau byd-eang a gwleidyddol effeithio ar ddiwydiant pren y DU. Drwy gynnig pren yn rheolaidd ac am brisiau cyfredol y farchnad, rydym yn helpu i gefnogi sector pren cryf a dibynadwy nawr ac yn y dyfodol.

Casgliad

Mae ein Strategaeth Twf a Gwerth yn esbonio sut byddwn yn tyfu ein hincwm ac yn cynyddu’r buddion a ddarparwn, gan aros yn driw i’n pwrpas amgylcheddol.

Nid yw cyllid traddodiadol ar ei ben ei hun bellach yn ddigon i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu. Er mwyn helpu natur i adfer, cefnogi cymunedau gwydn, a lleihau llygredd, mae angen i ni newid sut rydym yn gweithio a sut rydym yn ariannu ein gweithgareddau.

Drwy ddatblygu syniadau newydd, annog buddsoddi cyfrifol, a gwneud y gorau o’r tir rydyn ni’n ei reoli, gallwn sicrhau cyllid mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Bydd ein meysydd ffocws (datblygu busnes, hamdden fasnachol, ynni adnewyddadwy, a gwerthiannau pren) yn rhoi dull cryf a chytbwys inni ar gyfer cynhyrchu incwm.

Yn anad dim, bydd twf yn cefnogi natur, o fudd i gymunedau ac yn ein helpu i gyflawni ein pwrpas: natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.

Diweddarwyd ddiwethaf