Graddau llwybrau a gwybodaeth arall am ein llwybrau cerdded

Graddau llwybrau

Caiff pob llwybr cerdded ei raddio i roi syniad o'i anhawster.

Mae'r graddau'n ystyried:

  • arwyneb y llwybr
  • graddiannau
  • lefel y ffitrwydd sydd ei hangen

Rhoddir graddau llwybrau ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr.

Hygyrch

  • Teithiau cerdded ar gyfer pawb, yn cynnwys pobl â chadeiriau olwyn a bygis, sy’n defnyddio llwybrau hygyrch.
  • Gellir gwisgo esgidiau neu dreinyrs cyfforddus.
  • Efallai y bydd angen cymorth i wthio cadeiriau olwyn ar rai rhannau o’r llwybr.

Hawdd

  • Teithiau cerdded ar gyfer unrhyw un sydd am wella eu lefel ffitrwydd ar lwybrau sy’n gyffredinol wastad ond all fod â rhywfaint o rannau garw, anwastad.
  • Addas ar gyfer bygis, os gellir eu codi dros ambell i rwystr.
  • Gellir gwisgo esgidiau neu dreinyrs cyfforddus.

Cymedrol

  • Teithiau cerdded ar gyfer pobl sydd â lefel ffitrwydd cymharol dda.
  • O bosibl, gall gynnwys rhywfaint o lwybrau heb wyneb, a thir agored a serth.
  • Argymhellir gwisgo esgidiau cryfion a dillad cynnes sy’n dal dŵr.

Anodd

  • Teithiau cerdded ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel ffitrwydd da.
  • Gall gynnwys bryniau serth iawn a thir garw.
  • Mae esgidiau cerdded a dillad cynnes sy’n dal dŵr yn hanfodol.

Hyd y llwybr

Rydyn ni'n rhoi hyd bob llwybr cerdded mewn milltiroedd a chilomedrau.

Rhoddir pellteroedd llwybrau ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr.

Esgyniad y llwybr

Rydyn ni'n rhoi cyfanswm esgyniad y rhan fwyaf o'n llwybrau cerdded mewn troedfeddi a metrau.

Cyfanswm yr esgyniad yw swm cronnus y ddringfa ar i fyny ar hyd y llwybr cyfan.

Nid yw'r ffigur hwn o reidrwydd yn ymwneud ag esgyniad di-dor ar ran o’r llwybr; gall gynnwys nifer o ddringfeydd bach sydd yn aml yn ysgafn hefyd.

Os ydynt ar gael, rhoddir cyfanswm yr esgyniadau ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr.

Amser i gwblhau’r llwybr

Rydym yn amcangyfrif pa mor hir y mae'n ei gymryd i gerdded llwybr yn seiliedig ar gyflymder cerdded cyson o ddwy filltir yr awr neu lai, gan ystyried arwyneb y llwybr ac unrhyw ddringfeydd neu ddisgyniadau.

Mae ein hamcangyfrif, sydd yn arweiniad yn unig, hefyd yn caniatáu amser ar gyfer rhai seibiannau byr i fwynhau'r golygfeydd neu nodweddion eraill ar hyd y llwybr.

Rhoddir amserau llwybrau ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr.

Arwyddion

Mae ein llwybrau cerdded wedi'u harwyddo o'r dechrau i'r diwedd.

Mae'r panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr yn nodi pa arwyddion (saeth wedi’i lliwio neu symbol arall) i'w dilyn yr holl ffordd o gwmpas.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf