Ein llwybrau cerdded

Mae yna lwybrau cerdded yn llawer o'r coetiroedd a'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r llwybrau cerdded hyn wedi'u harwyddo o'r dechrau i'r diwedd ac wedi’u graddio i roi syniad o’u hanhawster.

Mae'r llwybrau hygyrch yn addas i bawb gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a bygis, ac mae gan lawer ohonynt feinciau neu fannau gorffwys eraill ar hyd y llwybr.

Mae'r llwybray cerdded fel arfer yn cychwyn o faes parcio lle mae panel gwybodaeth am y llwybr.

Mae'r panel yn nodi pa arwyddion (saeth wedi’i lliwio neu symbol arall) i'w dilyn ac mae ganddo wybodaeth am radd y llwybr, faint o amser y gall ei gymryd i'w gwblhau a beth i gadw golwg amdano ar hyd y llwybr.

Weithiau mae angen i ni gau neu ddargyfeirio llwybr wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill - dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Graddau llwybrau cerdded

Caiff pob llwybr cerdded ei raddio i roi syniad o'i anhawster.

Rhoddir graddau llwybrau ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr.

Dysgwch am raddau llwybrau cerdded.

Chwiliwch am lwybr cerdded mewn coetir neu warchodfa

Chwiliwch am lwybr cerdded wedi'i arwyddo ar ein map o leoedd i ymweld â hwy.

Darllenwch am ein llwybrau cerdded wedi'u harwyddo yn rhestr o ein lleoedd i ymweld â hwy.

Hawliau tramwy cyhoeddus

Gallwch gerdded ar bob un o'r pedwar categori o hawl tramwy cyhoeddus:

  • Llwybrau cerdded cyhoeddus
  • Llwybrau ceffyl cyhoeddus
  • Cilffyrdd cyfyngedig
  • Cilffyrdd sy’n agored i bob math o draffig

Dysgwch fwy am hawliau tramwy cyhoeddus.

Tir mynediad agored

Gallwch gerdded ar unrhyw dir sydd wedi'i ddynodi'n dir mynediad agored.

Mae'r rhan fwyaf o'r coetiroedd a rhai o'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u dynodi'n diroedd mynediad agored.

Dangosir tir mynediad agored ar fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans.

Dysgwch fwy am dir mynediad agored.

Llwybrau Cenedlaethol

Mae Llwybrau Cenedlaethol yn llwybrau hir trwy rai o’r tirweddau gorau yng Nghymru a Lloegr.

Mae tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru:

  • Llwybr Glyndŵr
  • Llwybr Clawdd Offa
  • Llwybr Arfordir Sir Benfro

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch arfordir Cymru.

Mae'r llwybr yn 870 milltir o hyd o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Codau Cefn Gwlad

Mae'r Codau Cefn Gwlad yn darparu cyngor i gynllunio ymweliad â'r awyr agored ac i helpu i'ch cadw chi a phobl eraill yn ddiogel.

Dysgwch fwy am y Codau Cefn Gwlad.

Diweddarwyd ddiwethaf