Dull pum cam
Cam 1 – Cyflwyniad i'r ecosystem neu thema
Rhoi crynodeb o'r cyd-destun, y cyfleoedd y gwyddys amdanynt a'r bygythiadau cyfredol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yr heriau i gydnerthedd ecosystemau, a'r cyflenwad o wasanaethau ecosystemau.
Diffinio'n gryno yr ecosystem eang (neu'r thema drawsbynciol), ei chyflwr amgylcheddol, defnydd tir, cyfleoedd y gwyddys amdanynt, a'r bygythiadau cyfredol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
pa gyfleoedd cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd yr edrychir amdanynt?
beth yw'r pwysau amgylcheddol hysbys
beth yw'r heriau i gydnerthedd ecosystemau
pa gyfleoedd sy'n bodoli i gynnal neu gynyddu buddion llesiant
rhyngweithiadau ag ecosystemau eraill (neu themâu trawsbynciol)
Cam 2 – Sefyllfa a thueddiadau adnoddau naturiol a'r rheolaeth gyfredol ohonynt
Sefyllfa a chyflwr yr ecosystem (neu thema drawsbynciol) a'r tueddiadau, ynghyd â gwybodaeth am reoli adnoddau naturiol sy'n berthnasol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy:
sefyllfa sylfaenol adnoddau naturiol ac ecosystemau
rheolaeth gyfredol: cynlluniau a defnydd o’r tir/môr, gweithgareddau sydd eisoes ar waith – llwyddiannau a heriau
Cam 3 – Cydnerthedd
Beth mae sefyllfa adnoddau naturiol a'u rheolaeth yn ei olygu i gydnerthedd yr ecosystem – deall effaith graddfa a chyflwr adnoddau naturiol ar gydnerthedd ecosystemau drwy wneud y canlynol:
asesiad o gydnerthedd ecosystemau – gan ddefnyddio'r priodoleddau o'r ddeddf
mae angen nodi'r ecosystemau hynny sydd o dan bwysau a'r rhai hynny â chapasiti ar ôl i gyfrannu ymhellach at nodau llesiant drwy ddarparu gwasanaethau ecosystemau (e.e. darparu buddion llesiant trefol)
Cam 4 – Gwasanaethau ecosystemau
Beth mae sefyllfa adnoddau naturiol a'u rheolaeth yn ei olygu i'r cyflenwad o wasanaethau ecosystemau i bobl, gan gynnwys:
sefyllfa a chyflwr adnoddau naturiol o ran y buddion a ddeillir ohonynt
mae angen i asesiad o'r cyfraniad tuag at y nodau llesiant nodi'r ecosystemau hynny sydd o dan bwysau a'r rhai hynny â chapasiti ar ôl i gyfrannu ymhellach at nodau llesiant
Cam 5 – Opsiynau ar gyfer rheoli'n fwy cynaliadwy
Nodi a phwyso a mesur cyfleoedd:
ystyried graddfa'r buddion i gydnerthedd ecosystemau o ran yr ymdrech sydd ei hangen
edrych ar effaith gwahanol opsiynau ar wasanaethau ecosystemau
cofrestr risg: asesu costau a buddion gwahanol opsiynau gweithredu
mapio cyfleoedd i wneud newidiadau posibl i reoli tir
senarios a sganio'r gorwel
prisio a chostau, dadansoddiad o'r buddion
mewnbwn rhanddeiliaid i helpu i flaenoriaethu