Pedwar mesur ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

1. Sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a'u gwella

Rydym yn mynd i'r afael â gorddefnydd er mwyn sicrhau bod stociau o adnoddau naturiol adnewyddadwy yn cael eu diogelu a'u gwella i ddiwallu anghenion y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. 

Mae stociau o adnoddau naturiol anadnewyddadwy yn cael eu defnyddio mewn modd cynaliadwy a, lle na ellir osgoi gostyngiad, mae adnoddau eraill yn cael eu rhoi mewn lle i ddiwallu anghenion y dyfodol.

2. Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig

Bydd adeiladu cydnerthedd ecosystemau er mwyn diogelu a gwella gwasanaethau ecosystemau cynhaliol a mynd i'r afael ag effeithiau newid cynefin, newid hinsawdd, llygredd, rhywogaethau estron goresgynnol a phwysau eraill a nodir yn diogelu'r cyflenwad o wasanaethau ecosystemau cynhaliol.

3. Mae gan Gymru leoedd iach ar gyfer pobl sydd wedi'u gwarchod rhag peryglon amgylcheddol

Mae rheolaeth a rheoliadau amgylcheddol yn diogelu pobl rhag peryglon megis llygredd aer, dŵr a sŵn, a llifogydd.  

Rheolir gwasanaethau rheoleiddio a gwasanaethau ecosystemau diwylliannol er mwyn cynyddu llesiant a darparu amgylchedd iach ar gyfer pawb.

4. Cyfrannu at economi gylchol gyda defnydd mwy effeithlon o adnoddau naturiol

Rydym yn lleihau effaith amgylcheddol prosesau cynhyrchu a defnyddio a'n hôl troed amgylcheddol yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gan sicrhau bod y buddiannau mwyaf posibl yn deillio o ddarparu gwasanaethau ecosystemau.  

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf