Dyma’r ail Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) y mae’n ofynnol ei lunio dan Ddeddf yr Amgylchedd 2016.

 

Yn 2016, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr adroddiad SoNaRR cyntaf wrth i’n dealltwriaeth o oblygiadau Deddf yr Amgylchedd ddatblygu.

 

Ers hynny, mae’r polisi adnoddau naturiol cyntaf wedi’i gyhoeddi, yn ogystal â’r datganiadau ardal; mae’r byd wedi cydnabod yr argyfyngau natur a hinsawdd a wynebwn; ac mae’r pandemig Covid-19 wedi peri inni ganolbwyntio o’r newydd ar lesiant. Ysgrifennir yr adroddiad yma yn y cyd-destun hwnnw.

 

Mae SoNaRR2020 yn adeiladu ar sawl asesiad yn ymwneud â statws a thueddiadau adnoddau naturiol – asesiadau a gynhaliwyd yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd-eang. Mae’n ystyried sut y gallai’r tueddiadau hynny beri risg i’n hecosystemau ac i lesiant economaidd, diwylliannol a chymdeithasol hirdymor Cymru, mewn termau a ddiffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Gwyliwch ein fideo: SoNaRR2020 Cyflwyniad i'r asesiad

 

Cyhoeddi fesul rhan

 

Mae Deddf yr Amgylchedd yn mynnu y dylid cyhoeddi SoNaRR2020 erbyn diwedd 2020. A ninnau mewn cyfnod na welwyd mo’i debyg erioed o’r blaen, rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r adroddiad fesul rhan:

 

Caiff ein hasesiad o’r graddau y llwyddir i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR), ein hargymhellion ar gyfer cynnydd, a’r cofrestri adnoddau naturiol lle dangosir pwysau, effeithiau a chyfleoedd i weithredu, eu cyhoeddi yma, ym mis Rhagfyr 2020.

 

Ym mis Mawrth 2021 byddwn yn cyhoeddi’r asesiadau llawn yn ôl ecosystem a thema drawsbynciol, yn cynnwys bioamrywiaeth.

 

Caiff cynnwys a diben SoNaRR eu pennu yn Neddf yr Amgylchedd

 

Rhaid i CNC baratoi a chyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys y canlynol:

 

  • Asesiad o gyflwr adnoddau naturiol Cymru
  • Asesiad o’r graddau y llwyddir i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
  • Asesiad o fioamrywiaeth i ategu’r ddyletswydd bioamrywiaeth sydd gan gyrff cyhoeddus dan adran 6 Deddf yr Amgylchedd. Diffinnir bioamrywiaeth fel:

‘yr amrywiaeth o organebau byw, naill ai ar lefel enetig, ar lefel rhywogaethau neu ar lefel yr ecosystem’

  • Y prif dueddiadau a ffactorau sydd, ym marn CNC, yn effeithio ar gyflwr adnoddau naturiol ar hyn o bryd ac sy’n debygol o effeithio ar gyflwr adnoddau naturiol yn y dyfodol
  • Unrhyw agweddau ar gyflwr adnoddau naturiol y cred CNC nad oes ganddo ddigon o wybodaeth i lunio asesiad ar eu cyfer

 

Mae SoNaRR yn sylfaen dystiolaeth y gall Gweinidogion Cymru ei defnyddio wrth baratoi neu ddiwygio’r Polisi Adnoddau Naturiol, y gall CNC ei defnyddio wrth baratoi datganiadau ardal, ac y gall awdurdodau cynllunio lleol ei defnyddio wrth ddiweddaru cynlluniau datblygu lleol. Ymhellach, rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried SoNaRR wrth gyhoeddi, mabwysiadu neu adolygu cynlluniau rheoli ar gyfer parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.

 

Ein defnydd o ecosystemau eang a themâu trawsbynciol

 

Yn Neddf yr Amgylchedd, diffinnir adnoddau naturiol fel:

 

  • Anifeiliaid, planhigion ac organebau eraill
  • Aer, dŵr a phridd
  • Mwynau
  • Prosesau a nodweddion daearegol
  • Nodweddion ffisiograffig
  • Prosesau a nodweddion hinsoddol

 

Mae’r elfennau hyn yn cyfuno ac yn gweithio gyda’i gilydd mewn sawl ffordd ac ar sawl graddfa, gan greu ecosystemau y gall pobl elwa ohonynt. Mae SoNaRR wedi grwpio ecosystemau trwy ddilyn y system a ddefnyddir yn Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011).

 

Mae defnyddio’r ecosystemau eang hyn yn caniatáu inni wneud y canlynol:

 

  • Gwahaniaethu rhwng y gwahanol gynefinoedd sydd i’w cael yno fel arfer, ynghyd â grwpio’r cynefinoedd hyn gyda’i gilydd
  • Disgrifio’r gwasanaethau a gawn ganddynt a mapio’r manteision o ran llesiant
  • Ystyried y pwysau a’r effeithiau ar wytnwch yr ecosystemau hynny
  • Pennu cyfleoedd i weithredu a llunio ymyriadau rheoli yng nghyswllt y ffyrdd o ddefnyddio tir, dŵr a môr a geir yno

 

Yn SoNaRR2016 fe wnaethom ddefnyddio’r ecosystemau hyn fel llinyn arian trwy’r adroddiad. Rydym yn parhau i ddefnyddio’r ecosystemau eang hyn yn SoNaRR2020, ond hefyd rydym wedi asesu’r modd y rheolir adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn erbyn nifer o themâu trawsbynciol. Dyma ‘flociau adeiladu’ ein hasesiad cyffredinol a bydd yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar ffurf penodau cyflawn ym mis Mawrth 2021.

 

Ecosystemau eang:

 

 

Themâu trawsbynciol:

 

 

Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a’r nodau llesiant

 

Yn Neddf yr Amgylchedd, diffinnir ‘rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy’ fel:

 

…defnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd, ac ar raddfa, a fydd yn cynnal ac yn cyfoethogi gwytnwch ecosystemau a’r manteision a ddaw yn eu sgil. Trwy wneud hynny, gellir bodloni anghenion cenedlaethau’r presennol heb effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion nhw, a chyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant a bennir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Amcan Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yw adeiladu ecosystemau gwydn a fydd yn darparu gwasanaethau ecosystemau ac yn helpu Cymru i fodloni ei nodau llesiant ar gyfer dyfodol cynaliadwy. I wneud hyn, rhaid inni drawsnewid ein systemau economaidd-gymdeithasol er mwyn iddynt weithio’n debycach i systemau atgynhyrchiol naturiol, gan ymateb i adborth ynghylch capasiti amgylcheddol ac anghenion cymdeithasol.

 

Mae a wnelo nod llesiant Cymru – sef sicrhau ‘Cymru gydnerth’ – ag adeiladu ecosystemau gweithredol iach a all gynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. Er mwyn sicrhau’r cydnerthedd hwn, rhaid inni ganolbwyntio ar adeiladu systemau iach, atgynhyrchiol.

 

Mae Ffigur 1 yn defnyddio model ‘Economeg Toesen’ (‘Doughnut Economics’) ac yn ei gyfuno â nodau llesiant Cymru (Raworth K, 2017). Dengys sut y mae Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant. Byddai hyn yn cadw Cymru o fewn man gweithredu diogel ar gyfer dynoliaeth tra’n bodloni anghenion y gymdeithas.

 

Mae pedwar nod Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn ffitio o fewn y man diogel ar gyfer datblygu cynaliadwy a chyflawni’r nodau llesiant, gan osgoi diffyg o ran cyflawni’r nodau llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng nghanol y diagram ac osgoi mynd y tu hwnt i’n capasiti amgylcheddol o amgylch y tu allan.

 

Pe bai Cymru yn mynd y tu hwnt i ymyl allanol y doesen, fe fyddai hynny’n golygu y byddai Cymru yn mynd y tu hwnt i’w chyfran deg o gapasiti amgylcheddol y blaned. Ond trwy leihau gormod ar yr effaith amgylcheddol, fe allai hynny arwain at ddiffyg a chael effaith ar lesiant cymdeithasol ac economaidd.


Ffigur 1: Ffigur sy’n defnyddio’r model toesen sy’n dangos chwe nod llesiant Cymru o fewn yr isafswm cymdeithasol a nod gwytnwch Cymru fel yr hyn sy’n rhagori ar hyn o amgylch y tu allan.

 

Pedwar nod Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy

 

Ers i adroddiad SoNaRR2016 gael ei gyhoeddi, cytunwyd ar bedwar nod tymor hir yn ymwneud â Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, a’r nodau hyn a ddefnyddiwyd i lywio’r asesiad sydd wrth wraidd SoNaRR2020.

 

Mae cyflawni SMNR yn golygu cael systemau cymdeithasol ac economaidd ac ecosystemau iach, sy'n gweithredu'n dda ac yn gydnerth sy'n defnyddio gwybodaeth adborth i gadw cydbwysedd â'i gilydd wrth iddynt addasu i newid.


Ffigur 2: Mae’r diagram yn dangos sut y mae’r negeseuon yn berthnasol i’r pedwar nod, gyda chyflwr adnoddau naturiol yn nod 1, dylanwadu ar wytnwch yn nod 2, a llif y manteision yn nodau 3 a 4. Mae’r pwysau o du’r economi yn nod 4 yn cysylltu’n ôl â nod 1 gan gwblhau llif y manteision a’r pwysau.

 

Mae SoNaRR2020 yn asesu cynnydd Cymru tuag at Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn erbyn y pedwar nod fesul un, ond mae’n bwysig nodi eu bod yn anwahanadwy ac na ddylid eu hystyried ar eu pennau eu hunain.

 

Ni all Cymru weithio tuag at leoedd iach i bobl heb gael ecosystemau gwydn, ac ni all wneud ein hecosystemau’n wydn heb ddiogelu stociau adnoddau naturiol. Mae’r economi atgynhyrchiol yn diogelu ac yn adfer y stociau hynny, a’r economi hon a all arwain at y newid gweddnewidiol y mae ei angen fel y gellir llwyddo i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.


Ffigur 3: Ffigur sy'n dangos cysylltiadau a natur gylchol pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae pwysau economaidd-gymdeithasol ar adnoddau naturiol yn arwain at effeithiau ar wydnwch ecosystemau, sy'n arwain at effeithiau ar bobl a lleoedd, sy'n effeithio ar gyfleoedd economaidd, sy'n arwain at newidiadau i bwysau economaidd-gymdeithasol, gan felly ailddechrau'r cylch. 

 

Nod 1: Diogelu a chyfoethogi stociau adnoddau naturiol

 

Mynd i’r afael â gorddefnyddio adnoddau er mwyn sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu diogelu, a phan fo modd, eu cyfoethogi, er mwyn diwallu anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol a chyfrannu at wytnwch ecosystemau. Defnyddio adnoddau naturiol na ellir eu hadnewyddu (fel agregau, tanwyddau ffosil) mewn modd cynaliadwy; a phan na ellir osgoi eu dihysbyddu, sicrhau bod pethau eraill i’w cael yn eu lle fel y gellir bodloni anghenion y dyfodol.

 

Mae hyn yn berthnasol i’r defnydd a wna Cymru o adnoddau naturiol; yr effaith yng Nghymru a thrwy’r byd yn sgil mewnforio ac allforio adnoddau naturiol neu lygryddion a gwastraff.

 

Mae’r nod hwn yn cyfrannu at y nod llesiant ‘Cymru gydnerth’, a thrwy wneud hynny mae’n cyfrannu at y nodau eraill.


Ewch i SMNR nod 1

 

Nod 2: Gall ecosystemau wrthsefyll newidiadau disgwyliedig ac annisgwyl

 

Mae gwella gwytnwch ecosystemau yn ddibynnol ar ddiogelu a chyfoethogi adnoddau naturiol, a thrwy wella eu gwytnwch fe fydd modd sicrhau y bydd gwasanaethau ecosystemau yn parhau i gael eu darparu – gwasanaethau y mae Cymru yn dibynnu arnynt yn economaidd ac o ran iechyd. Mae gwytnwch yn golygu bod ecosystemau’n gallu addasu, a’u bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau o ran newidiadau mewn cynefinoedd, newid hinsawdd, llygredd, rhywogaethau estron goresgynnol a phwysau o fathau eraill.

 

Mae’r nod hwn yn cyfrannu’n arbennig at y nod llesiant ‘Cymru gydnerth’, a thrwy wneud hynny mae’n cyfrannu at y nodau eraill.

Ewch i SMNR nod 2

Nod 3: Mae gan Gymru leoedd iach ar gyfer pobl, sydd wedi'u gwarchod rhag risgiau amgylcheddol


Mae’r amgylchedd yn darparu gwasanaethau rheoleiddio sy’n amddiffyn pobl rhag risgiau, gan gynnwys llygredd aer, llygredd dŵr, llygredd sŵn a llifogydd. Trwy reoli’r gwasanaethau hynny gellir gwella llesiant, ac mae hyn yn arwain at ddarparu amgylchedd iach i bawb. Mae cyrraedd y nod hwn yn ddibynnol ar gael ecosystemau gwydn, ac mae iechyd a llesiant y genedl yn cyfrannu at ein gallu i wneud yn fawr o’r cyfleoedd economaidd sydd gan economi atgynhyrchiol i’w cynnig.

 

Mae’r nod hwn yn berthnasol i’r nodau llesiant ‘Cymru Iachach’ a ‘Cymru o Gymunedau Cydlynus’, ac mae’n cyfrannu at nod ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

Ewch i SMNR nod 3

Nod 4: Cyfrannu at economi atgynhyrchiol, gan sicrhau lefelau cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy

 

Lleihau’r effaith amgylcheddol yn sgil cynhyrchu a defnyddio, a lleihau ôl troed amgylcheddol byd-eang Cymru. Y nod yw na fydd Cymru yn defnyddio mwy na’i chyfran deg o adnoddau’r byd, ynghyd â chael economi a fydd yn gweithredu o fewn capasiti atgynhyrchiol ecosystemau’r Ddaear.

 

Mae’r nod hwn yn berthnasol i’r nodau llesiant ‘Cymru lewyrchus’ a ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’.

Ewch i SMNR nod 4

Strwythur a chynnwys

Gweler strwythur a chynnwys llawn SoNaRR2020 isod, gyda dolennau i’r holl dudalennau:

 

 

 

 

 

 

 

 

Darllenwch nesaf


SoNaRR2020: Pontydd i'r dyfodol

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig


Dadlwythwch yr adroddiad cryno (PDF)

SoNaRR20: Geirfa (PDF)