Cryodeb

Mae ecosystemau gwydn yn dibynnu ar fioamrywiaeth sydd mewn cyflwr iach. Drwy ryngweithio cymhleth, mae ecosystemau'n cefnogi'r gwasanaethau a manteision hanfodol y mae lles yn dibynnu arnynt.

Mae ecosystemau gwydn yn hanfodol i gyflawni nodau llesiant Cymru. Dim ond pan gaiff bioamrywiaeth ei chynnal a'i gwella'n briodol y gallwn ddisgwyl llwyddo i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Felly, mae asesiad o fioamrywiaeth yn rhan hanfodol o asesu llwyddiant cyflawni SMNR.

Mae'r asesiad bioamrywiaeth yn defnyddio tystiolaeth o bob rhan o SoNaRR2020, yn ogystal â deunydd cyhoeddedig a dadansoddiadau byd-eang eraill, i amlinellu cyflwr bioamrywiaeth mewn modd sy'n berthnasol i Gymru. Fe'i cefnogir gan astudiaethau achos sy'n dangos cyflwr rhai o rywogaethau a chynefinoedd allweddol Cymru. Nod y rhain yw llywio camau gweithredu i wella cyflwr bioamrywiaeth.

Er bod y darlun yn gymhleth gyda llwyddiannau a thrafferthion yn berthnasol i wahanol rywogaethau, mae'r duedd gyffredinol yn un o ddirywiad difrifol, sy'n adlewyrchu'r argyfwng natur byd-eang a nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae casgliadau'r adroddiad yn archwilio opsiynau ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae’n edrych ar y newidiadau ehangach sydd eu hangen i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth ymhellach.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod bioamrywiaeth (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn asesu cyflwr a thueddiadau bioamrywiaeth yng Nghymru a'r pwysau allweddol sy'n effeithio ar rywogaethau a chynefinoedd. Mae blaenoriaethau a chamau gweithredu i wella bioamrywiaeth yn cael eu dangos drwy astudiaethau achos.

Mae'r pwysau, yr effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodir gan y bennod bioamrywiaeth i'w gweld yn y cofrestrau adnoddau naturiol ar gyfer yr ecosystemau.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod bioamrywiaeth wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf