Cryodeb

Mae angen system ynni fforddiadwy, ddibynadwy a glân ar Gymru nawr ac yn y dyfodol.

Er bod ein defnydd o ynni adnewyddadwy yn gwneud cyfraniadau sylweddol a chynyddol, mae Cymru'n dal i ddibynnu'n bennaf ar ddefnyddio nwy naturiol sy'n cael ei fewnforio.

Mae cynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy, gwynt a solar yn bennaf, wedi bod yn cynyddu'n gyson dros y 10 mlynedd diwethaf.

Mae'r defnydd o fio-ynni ar gyfer trydan adnewyddadwy a gwres hefyd yn cynyddu.

Er gwaethaf cynnydd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a defnyddio nwy naturiol i gymryd lle glo a thanwyddau ffosil eraill, mae cyfanswm yr allyriadau o'r sector pŵer yng Nghymru wedi cynyddu 44% rhwng 1990 a 2016. Dros yr un cyfnod, gostyngodd allyriadau nwyon tŷ gwydr cyffredinol y DU o'r sector 60%.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod effeithlonrwydd adnoddau - ynni (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn disgrifio pwysigrwydd lleihau'r defnydd o ynni a gwella effeithlonrwydd ynni ar draws pob sector, gan gynyddu ynni adnewyddadwy, er mwyn helpu i gyflawni a sicrhau cyflenwad a galw cynaliadwy am ynni. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cefnogi gwydnwch ecosystemau.

Mae'r bennod hefyd yn tynnu sylw at rai o'r rhwystrau i gyflawni hyn. Mae'n disgrifio sut y gallai polisi, technoleg, newidiadau mewn ymddygiad a ffyrdd newydd o weithio helpu i sicrhau system ynni gynaliadwy i Gymru a'r DU.

Mae'r pwysau, yr effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodir gan y bennod effeithlonrwydd adnoddau - ynni i'w gweld yn y cofrestrau adnoddau naturiol ar gyfer yr ecosystemau.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod effeithlonrwydd adnoddau - ynni wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf