SoNaRR2020: Lleoedd iach ar gyfer pobl yng Nghymru, wedi'u hamddiffyn rhag peryglon amgylcheddol

Mae'r amgylchedd naturiol yn rhoi'r pethau sydd eu hangen arnom i fyw a ffynnu, gan ein diogelu rhag peryglon amgylcheddol.

Mae byw, gweithio, dysgu a chwarae'n iach i gyd yn cael eu gwella drwy fynediad i amgylcheddau naturiol o ansawdd da. Mae cysylltu â'r amgylchedd naturiol yn cynnig manteision iechyd meddwl.

Mae angen ecosystemau gwydn i sicrhau bywydau iach. Mae ein hasesiad yn dangos bod mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod lleoedd iach i bobl ledled Cymru, sydd wedi'u diogelu rhag risg amgylcheddol. Mae hyn yn arbennig o wir yn y cymunedau mwy difreintiedig.

Mae COVID-19 yn cael effaith ddofn ar fywyd bob dydd yng Nghymru. Ceir effeithiau eang ar iechyd a lles y boblogaeth ac mae llawer o'r effeithiau hyn yn rhai sylweddol a fydd yn para cryn amser.

Nid oes un asesiad sy'n pennu a yw Cymru'n cyflawni'r nod o sicrhau lleoedd iach i bobl sydd wedi'u hamddiffyn rhag risg amgylcheddol, ond caiff nifer o ddangosyddion eu dwyn ynghyd a'u trafod yn y bennod hon.

Mae'r rhain yn ein galluogi i ddod i'r casgliad nad yw Cymru'n cyflawni'r nod eto, gan gynnwys:

  • Y disgwyliad oes cyfartalog yng Nghymru yw 78 mlynedd i ddynion ac 82 mlynedd i fenywod, ond mae gwahaniaethau amlwg o ran disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng cymunedau Cymru
  • Amcangyfrifir bod ansawdd aer gwael yn achosi 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru, sef 6% o gyfanswm y marwolaethau
  • Mae llygredd sŵn yn effeithio ar 27% o bobl mewn ardaloedd trefol yng Nghymru a 18% mewn ardaloedd gwledig
  • Mae 245,000 eiddo yng Nghymru'n wynebu perygl llifogydd

Cyfleoedd i weithredu

Er mwyn cyflawni nod SMNR lleoedd iach i bobl, wedi'u hamddiffyn rhag risg amgylcheddol ledled Cymru, rydym wedi nodi pedwar cyfle blaenoriaethol ar gyfer gweithredu:

Sefydlu cymunedau cydradd a chynaliadwy

Darparu amwynderau a gwasanaethau hygyrch a fforddiadwy, tai o ansawdd da, addysg a systemau trafnidiaeth integredig. Mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at greu a chynnal cymunedau iach.

Cymunedau iach, actif, cysylltiedig

Darparu dulliau iechyd cyhoeddus ar gyfer manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, megis mannau gwyrdd diogel a theithio llesol. Dangoswyd bod y rhain yn gost-effeithiol gydag enillion posibl ar fuddsoddiad.

Twf ac arloesedd gwyrdd

Dylai twf a datblygiad economaidd sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy, drwy dechnolegau clyfar ac arloesol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, caffael cymdeithasol ac atebion sy'n seiliedig ar natur.

Symud tuag at economi atgynhyrchiol, gyda lefelau cynaliadwy o gynhyrchu a defnyddio

Rheoli cylch bywyd adnoddau naturiol, o'u tynnu o'r ddaear i ddylunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion, i ddefnyddio gwastraff fel adnodd, i adeiladu economi atgynhyrchiol.

Lawrlwythwch bennod lawn SoNaRR rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy - nod 3, lleoedd iach i bobl

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf