Ychwanegu eich asedau llifogydd (Memorandwm Cymorthdal - Atodiad IV)

Cynlluniau llifogydd

Mae angen i Awdurdodau Llifogydd Arweiniol anfon set o ddata atom pan fyddant yn:

  • creu cynllun llifogydd newydd
  • newid, cynnal a chadw neu ddiweddaru cynllun llifogydd, ased neu grŵp o asedau presennol

Mae angen y data hwn arnom er mwyn diweddaru’r canlynol:

Bydd hyn yn helpu i roi trosolwg tryloyw, hygyrch a chyson i’r cyhoedd o asedau llifogydd, buddsoddiad a mesurau lleihau risg ar draws Cymru.

Mae’r data yr ydym ni ei angen yn ffurfio Atodiad IV o’r Memorandwm Grant a Mesur 7 yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.

Diweddaru ein mapiau

Os ydych chi wedi creu neu ddiweddaru amddiffynfeydd llifogydd, byddwn yn nodi lleoliad newydd neu ddiweddaru lleoliad yr ased ar ein map ar gyfer: 

  • amddiffynfeydd llifogydd
  • agoriadau cwlferi
  • sgriniau
  • unrhyw fathau eraill o asedau yn y dyfodol

Byddwn hefyd yn gweithio gyda chi i:

  • greu polygon newydd ar y Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru i ddangos yr ardaloedd sy’n elwa o’r amddiffynfeydd llifogydd gyda safon yr amddiffyniad
  • llunio parth diogelu TAN15 newydd gyda safon amddiffyniad ar y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Bydd angen i safon yr amddiffyniad fodloni trothwy’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

Manteision ychwanegu eich asedau

Gallai ychwanegu eich asedau llifogydd newydd neu ddiweddariadau i’ch asedau olygu bod eich cymunedau’n elwa o’r canlynol: 

  • gwell darlun o’u perygl llifogydd
  • gwell dealltwriaeth o safon eu hamddiffyniad
  • mwy o ymwybyddiaeth a gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae perygl llifogydd yn cael ei reoli
  • darlun cyfredol o’u cymuned ar y Gofrestr o Gymunedau sydd mewn Perygl

Cyflwyno eich data asedau llifogydd

E-bostiwch assetmanagementgroup.epp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i drafod cyflwyno eich data asedau llifogydd. Byddwn yn anfon taenlen atoch sy’n cynnwys y meysydd isod. Bydd angen i chi hefyd gynnwys ffeiliau ategol.

Mae meysydd gyda * yn feysydd gorfodol. Cwblhewch bob maes lle bo data ar gael gennych.

Awdurdod lleol*

Math o gorff dŵr*

Math o ased*

Cyfeirnod unigryw’r ased*

Is-fath o ased*

Enw’r ased*

Cyflwr yr ased*

Dyddiad yr archwiliad diwethaf*

Pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r ased*

Perchennog yr ased*

Prif bwrpas* (Rheoli perygl llifogydd yn unig, diogelu rhag erydiad yn y dyfodol)

Math o amddiffyniad*

Disgrifiad o’r ased*

Disgrifiad o’r lleoliad*

Costau ailosod*

Safon yr Amddiffyniad*

Oes weddilliol wedi’i asesu* os mae hyn wedi cael ei gyfrifo

Cyfeirnod grid*

Dyddiad adeiladu*

Sylwadau

Lefel brig i fyny’r afon

Lefel brig i lawr yr afon

Uchder (m) (os mae hwn ar gael)

Hyd* (m)

Dyfnder (m)

Diamedr* (m) (gorfodol ar gyfer cwlferi’n unig)

Rhif adnabod gwrthrych GIS

Enw ffeil y Llun

Llwybr ffeiliau ar y gyfer y Llun

Graddau i’r Dwyrain

Graddau i’r Gogledd

Trwy gyflwyno data eich asedau, rydych chi’n rhoi caniatâd i ni ei ddefnyddio o dan drwydded llywodraeth agored. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio ansawdd y data cyn i chi ei gyflwyno. Nid ydym yn gwirio’r data cyn ei gyhoeddi.

Cyflwyno eich gwaith modelu llifogydd

Cyflwynwch unrhyw fodelau hydrolig yr ydych chi wedi’u creu ar gyfer eich cynllun llifogydd newydd neu ddiweddariad i’ch cynllun presennol fel Her i'n Mapiau Llifogydd. Byddwn yn diweddaru Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio i roi darlun mwy cyfredo o’r perygl llifogydd.

Diweddarwyd ddiwethaf