Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd
Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i wirio a yw eich eiddo mewn perygl.
Byddwch yn ymwybodol o lifogydd yn eich ardal trwy gadw llygad ar lefel y dŵr a rhagolygon y tywydd.
Cewch hefyd gofrestru ar-lein am rybuddion llifogydd. Gallai hyn roi amser i chi amddiffyn eich cartref a symud da byw neu beiriannau.
Rydym yn defnyddio tri math o rybuddion ar ein map llifogydd byw er mwyn eich helpu i baratoi am lifogydd ac i weithredu:
Llifogydd
Byddwch yn Barod. Mae llifogydd yn bosibl.
Rhybudd llifogydd
Disgwyl llifogydd. Mae angen gweithredu ar unwaith.
Rhybudd Llifogydd Difrifol
Llifogydd difrifol. Perygl i fywyd.
Beth ddylech chi ei wneud:
Gall cynllun llifogydd eich helpu i baratoi at lifogydd a lleihau’r effaith bosibl. Gall hefyd helpu â’r broses adfer.
Argraffwch a llenwch eich cynllun llifogydd eich hun gan ddefnyddio un o’n templedi:
Neu defnyddiwch y rhestr wirio hon i lunio eich cynllun eich hun:
Sicrhewch eich bod yn gwybod gyda phwy i gysylltu a sut:
Cadwch eitemau personol, megis albymau lluniau a phethau gwerthfawr, mewn man diogel:
Ystyriwch yr hyn y byddai angen ei symud i fan diogel yn ystod llifogydd:
Ystyriwch bwy y gallech ei holi am gymorth neu a allech chi gynnig cymorth i ffrindiau, teulu neu gymdogion bregus?
Gallai eich tir fod mewn perygl o lifogydd hyd yn oed os na fydd eich tŷ mewn perygl. Sicrhewch fod gennych gynllun llifogydd a rhannwch ef â'r holl staff fel eu bod yn gyfarwydd ag ef. Cadwch eich cynllun mewn man diogel a hawdd ei gyrraedd.
Dylai eich cynllun llifogydd gynnwys yr holl bwyntiau a dylai hefyd ystyried gwneud y canlynol:
Cyngor i leihau'r tebygolrwydd o lifogydd ar fferm:
Paratowch becyn llifogydd sy'n cynnwys eitemau hanfodol a chadwch ef gerllaw. Dylai hwn gynnwys:
Cadwch restr o rifau ffôn pwysig yn eich pecyn llifogydd. Dylai'r rhain gynnwys:
Mae Cynllun Flood Re yn helpu preswylwyr mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd i ddod o hyd i yswiriant cartref fforddiadwy – gofynnwch i'ch yswiriwr presennol a yw eich cartref yn gymwys.
Mae'n bosibl y bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn am gais yn ymwneud ag yswiriant er mwyn ei helpu i benderfynu a fydd yn adnewyddu eich yswiriant cartref neu'n rhoi dyfynbris newydd i chi. Mae'r cais yn ymwneud ag yswiriant yn darparu gwybodaeth ynghylch y canlynol:
Os bydd angen cais yn ymwneud ag yswiriant arnoch, cysylltwch â'n Canolfan Gofal Cwsmeriaid. Bydd angen i chi roi cyfeiriad llawn yr eiddo i ni, yn ogystal â rhif ffôn cyswllt ac, os yw'n bosibl, map. Bydd y tîm yn ymateb i chi o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith.
Mae cais yn ymwneud ag yswiriant yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd ond cost ceisiadau gan fuddiannau masnachol, megis cyfreithiwr neu ddatblygwr, fydd £50 (a TAW).
Gallwch roi offer diogelu eiddo rhag llifogydd mewn lle os yw eich eiddo mewn perygl o ddioddef llifogydd, neu fel rhan o'r gwaith atgyweirio os yw llifogydd eisoes wedi effeithio arnoch.
Mae CIRIA (Cymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu) wedi cynhyrchu canllaw rhad ac am ddim ar gyfer cartrefi a busnesau, yn dilyn eu cod ymarfer C790. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar wneud eich eiddo yn fwy gwydn i wrthsefyll llifogydd.
Llawrfyrddau
Gellir gosod y rhain ar eich drysau a ffenestri wrth baratoi am lifogydd. Yna, dylid eu symud a'u storio mewn man hawdd ei gyrraedd fel y gallwch eu defnyddio eto os bydd angen.
Gorchudd plastig er mwyn selio briciau aer
Gall y rhain atal dŵr llifogydd rhag dod i mewn trwy eich briciau aer.
Bagiau tywod
Mae'n bosibl y bydd gan eich awdurdod lleol fagiau tywod yn barod i'w dosbarthu pan fydd llifogydd, ond ei flaenoriaeth yw gwarchod y cyhoedd yn gyffredinol. Dylech wirio gyda'ch awdurdod lleol ymlaen llaw er mwyn canfod beth yw eu polisi a ph'un a oes unrhyw dâl am y gwasanaeth.
Os na fydd eich awdurdod lleol yn cyflenwi bagiau tywod, cewch brynu eich cyflenwad eich hun o siopau DIY a masnachwyr adeiladu.
Cewch hefyd wneud gwaith gwella'r cartref a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn rhatach i lanhau ar ôl llifogydd.
Trafodwch y rhain gyda'ch unionwr colled a'ch adeiladwr:
Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'r hyn i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Mae’r holl wybodaeth sydd gennym ynglŷn â sut i baratoi at lifogydd ar gael i’w hargraffu:
Manylion gwefannau a sefydliadau eraill sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth: