Lleihau allyriadau o amonia o amaethyddiaeth

Mae'r technegau isod yn rhai cydnabyddedig ar gyfer lleihau lefelau o amonia. Bydd maint y gostyngiad y gallwch ei ddisgwyl yn unigryw i'ch gweithrediad, a bydd yn dibynnu ar eich dull o reoli'r technegau.

Mae'r ffigurau isod yn arwydd o'r gostyngiad y gallwch ei gymhwyso wrth gyfrifo allyriadau o amonia, ond bydd hyn yn dibynnu ar ba ffactor allyrru rydych wedi'i ddefnyddio a'r math o sièd sy'n destun eich cynnig.  

Sgwrwyr

Gall defnyddio sgwrwyr arwain at ostyngiad o hyd at 99% yn y lefelau o amonia a geir mewn allyriadau o aer a sianelir, ond, gan ddibynnu ar y math o sièd, ni fydd hyn bob amser yn bosibl i'w gyflawni. Mae sicrhau bod y sgwrwyr o'r maint cywir yn hanfodol i gyflawni'r gostyngiad priodol.

Gallwch ddod o hyd i arweiniad pellach ar sgwrwyr ar ein tudalen Cynllunio a defnyddio sgwrwyr amonia. Rhaid i'r dechnoleg a bennir mewn ceisiadau fod yr un peth â'r hyn a adeiladir yn y pen draw. 

Sychu tail

Mae'r ffactorau allyrru priodol ar gyfer technegau cyffredin o sychu tail ar gyfer moch a dofednod ar gael ar dudalennau'r ffactorau allyrru. Nid yw sychu tail ar gyfer siediau gwartheg yn ymarferol ar hyn o bryd, ond os bydd y dechnoleg a'r mathau o siediau'n newid, yna mae'n debyg y bydd gostyngiadau yn yr allyriadau o amonia – a welwyd eisoes ar gyfer dofednod a moch – yn bosibl yn achos gwartheg hefyd. Mae hyn ond yn gymwys yn achos sychu tail yn y man a'r lle, ac mae'n debyg y bydd angen trwydded i sychu tail ar ôl ei symud. 

Gorchuddion storfeydd tail

Mae'r ffactorau allyrru priodol ar gyfer moch, dofednod a gwartheg wedi'u rhestru ar ein tudalennau o ffactorau allyrru. Bydd angen i dechnegau newydd nad ydynt wedi'u rhestru gael eu gwerthuso ar sail unigol. 

Tynnu tail yn rheolaidd 

Mae'r ffactorau allyrru priodol ar gyfer moch a dofednod wedi'u rhestru ar ein tudalennau o ffactorau allyrru. Bydd angen i dechnegau newydd nad ydynt wedi'u rhestru gael eu gwerthuso ar sail unigol. Nid yw crafu siediau gwartheg yn aml bob amser yn ymarferol, a gall arwain at broblemau o ran iechyd anifeiliaid oherwydd y perir i wartheg syrthio. Fodd bynnag, gall cynllunio siediau gwartheg yn briodol fel bod ganddynt loriau ar ogwydd, er mwyn hwyluso gwaith crafu pob 1.5 i 2 awr, arwain at ostyngiad sylweddol yn yr allyriadau o amonia, a gallai'r opsiwn hwn fod yn ymarferol mewn ardaloedd ble mae'r lefelau cefndirol o amonia yn uchel. 

Cyfnewidwyr gwres

Gellir cynhwyso ffactor allyrru o 35% yn achos siediau brwyliaid a 15–20% yn achos siediau dodwyr wyau. 

Asideiddio tail

Bydd asideiddio tail er mwyn cyflawni pH o <5.5 yn arwain at ostyngiad o rhwng 50% ac 80% yn y lefel o amonia sy'n tarddu o siediau, storfeydd a gweithgareddau taenu. Bydd y penderfyniad ynghylch yr union ostyngiad mewn pH i'w gyflawni yn benodol i'r safle, a bydd yn dibynnu ar y math o dda byw a'r math o sièd. Gall gorasideiddio pridd arwain at broblemau eraill, a rhaid felly ystyried y defnydd dilynol a wneir o'r tail. Gall priddoedd â pH is arwain at ryddhau ocsid nitraidd.

Technegau newydd ar gyfer rheoli lefelau o amonia 

Mae technegau newydd ar gyfer lleihau allyriadau o amonia yn dod i'r amlwg, ac mae CNC yn eu croesawu. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i bennu'r ffactor allyrru neu ganran y gostyngiad priodol sy'n gysylltiedig â phob techneg, a hynny at ddibenion eu defnyddio yn y gwaith o fodelu effaith datblygiadau penodol. 

Tystiolaeth o leihau'r lefelau o amonia

Bydd angen sefydlu'r meini prawf tystiolaeth canlynol er mwyn ein galluogi i ystyried y gostyngiad yn y lefelau o amonia a geir o ddefnyddio'r technegau newydd: 

  • Er cymhariaeth, byddai'n ddelfrydol monitro gweithrediad sydd â'r un paramedrau ar yr un pryd â gweithrediad sy'n arfer y dechneg newydd
  • Rhaid sicrhau bod y fethodoleg mesur yn briodol 
  • Gellir defnyddio mesuriadau ysbeidiol ar gyfer da byw aeddfed, cyn belled â bod pedwar cyfnod mesur yn ystod blwyddyn o leiaf, ac y darperir gwybodaeth am ffactorau fel y gyfradd awyru, deiet a pherfformiad 
  • Mewn adeiladau lle mae da byw yn tyfu, a lle gall mwy nag un cylch twf ddigwydd dros y flwyddyn, rhaid ailadrodd mesuriadau fesul pob un o'r cylchoedd twf yn ystod y flwyddyn
  • Rhaid i’r dechneg mesur fod yn un gydnabyddedig a'i bod wedi'i chefnogi o ganlyniad i'w hadolygu gan gymheiriaid
  • Rhaid cofnodi data mesur allyriadau yn briodol, a sicrhau y gellir eu holrhain a'u bod ar gael er mwyn gwirio'r cyfrifiadau 
  • Rhaid i'r gweithredwr fabwysiadu dull addas o sicrhau/rheoli ansawdd yn unol ag arweiniad, er mwyn ei gwneud yn bosibl dilysu ei ganlyniadau
  • Rhaid sicrhau bod modd cyflwyno esboniad credadwy i egluro pam fod amcangyfrif newydd yr allyriad y tu allan i'r ystod ddisgwyliedig 
  • Yn achos safleoedd y mae'n ofynnol iddynt gael trwydded, byddwn yn cynnwys gofynion gwaith monitro yn y drwydded er mwyn ein galluogi i benderfynu a yw'r system lleihau allyriadau a gynlluniwyd yn addas ac yn gweithio yn ôl ei dyluniad 
Diweddarwyd ddiwethaf