Bydd yr ymgynghoriad 13 wythnos hwn yn dod i ben ar 9 Ionawr 2015 a defnyddir y canlyniadau wrth lunio ein cynllun terfynol, a gyflwynir o 1 Ebrill 2015.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r sefydliad cyntaf o’i fath sydd wedi’i greu i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol a’n hamgylchedd yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, eu gwella’n gynaliadwy a’u defnyddio mewn ffordd sy’n dda i bobl, yn dda i’r amgylchedd ac yn dda i’r economi.

Mae hyn yn golygu bod ein cylch gwaith yn eang ac mae’n cynnwys darparu amrywiaeth o wasanaethau rheoleiddio. Yn unol â gofynion y Llywodraeth, mae'n rhaid i ni adennill costau ein gwasanaethau rheoleiddio oddi wrth y rhai sy’n cael eu rheoleiddio gennym, yn hytrach na chael ein hariannu trwy drethu cyffredinol. Y costau hyn sy’n gyfrifol am tua 20% o gyfanswm cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru o £180m. Rydym yn agored a thryloyw ynglŷn â’r ffordd y mae ein ffioedd a’n taliadau’n cael eu strwythuro, yn ogystal â sut mae’r arian a gesglir yn cael ei ddefnyddio wedyn.

Mae ein Cynllun Ffioedd a Thaliadau’n cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod ein costau’n cael eu talu a’n gofynion technegol yn cael eu cwrdd. O ganlyniad i’n hadolygiad diweddaraf rydym yn bwriadu gwneud nifer fach o newidiadau i’n taliadau sylfaenol ac i rai o’r gofynion technegol o fewn y trefniadau talu penodol.

Sut i ymateb

Dylech anfon eich sylwadau erbyn 4pm ar 9 Ionawr 2015. Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol:

E-bost:

feesandchargesconsultation@naturalresourceswales.gov.uk

Post:

Ymateb i Ymgynghoriad Taliadau
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Ty Cambria,
29 29 Heol Casnewydd,
Caerdydd, CF24 0T

Rhif ffôn

0300 065 3000