Edrychwch am holltau ac arwyddion o ddifrod

Pan fydd arglawdd pridd yn sychu, mae'n crebachu a phan fydd yn mynd yn wlyb mae'n ehangu. Efallai y byddwch yn gweld holltau’n ymddangos wrth i'r argae grebachu ac yna’n diflannu wrth iddynt adfer. Gall y tir hollti’n gyflymach os oes uwchbridd bas.


Ffigur 1. edrychwch am holltau’n ymddangos a chadwch gofnodion dros amser yn dangos sut maen nhw'n newid.

Gall cyfnodau hir o dywydd sych achosi mwy o broblemau. Os yw'r arglawdd cyfan yn sychu gormod, gall y craidd hollti a ffurfio llwybr gollwng drwy'r argae. Gallai gollyngiadau drwy argae arwain at fethiant cyflym, trychinebus, neu gallai'r gwendid ddatblygu dros gyfnod hirach.


Ffigur 2. Mesurwch a chofnodwch hyd, lled a dyfnder holltau. Rhannwch y wybodaeth gyda'ch Peiriannydd Goruchwyliol.

Mae angen i chi fonitro a chofnodi lleoliad, graddau, dyfnder a chyfeiriad holltau neu fathau eraill o ddifrod. Rhannwch y wybodaeth gyda'ch Peiriannydd Goruchwylio a chadarnhewch fod yr holltau o fewn y normau disgwyliedig.

Gall holltau agor a chau dros unrhyw gyfnod sych. Dylech eu monitro a sicrhau bod "hunan-adferiad" yn digwydd. Os yw'r holltau’n aros dros gyfnod hir, dylech ddisgwyl erydu pellach oherwydd glawiad, draeniad diffygiol, neu hindreulio rhewi-dadmer. Dylech gael cyngor yn gynnar i ddatrys y broblem.

Os yw lefel y dŵr yn isel, mae'n amser delfrydol i archwilio wyneb yr argae i fyny'r afon a gwneud unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen.


Ffigur 3. Defnyddiwch lefelau dŵr isel i arolygu a chynnal yr wyneb i fyny'r afon

Cynnal gorchudd glaswellt da

Mae'r glaswellt a'r uwchbridd yn darparu blanced amddiffynnol i'r is-strwythur ac yn helpu i ddraenio dŵr wyneb yn ystod tywydd gwlyb.

Gall cyfnod hir o dywydd sych leihau effeithiolrwydd y gorchudd glaswellt wrth iddo sychu. Mae wyneb llychlyd neu dywodlyd yn cael ei erydu'n hawdd. Gall tywydd sych gyd-daro â stormydd mellt a tharanau gan arwain at fflachlifoedd.

Mae angen i chi gadw’r wyneb hwn mewn cyflwr da.


Ffigur 4. Glaswellt sydd wedi ei gynnal a’i gadw’n dda ar arglawdd pridd.

Pan fydd y glaw’n dychwelyd

Dylai holltau sy’n ymddangos mewn tywydd sych adfer eu hunain pan fydd digon o dywydd llaith neu wlyb yn dychwelyd. Gwiriwch eu bod yn adfer.


Ffigur 5. Mae glaswellt ac wyneb pridd sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda yn caniatáu i law ddraenio ymaith heb niweidio'r arglawdd.

Mae holltau sy'n mynd yn fwy yn ystod tywydd gwlyb yn wendid a dylent fod yn destun pryder. Cysylltwch â'ch Peiriannydd Goruchwylio ar unwaith i gael cyngor.

Os bydd glaw trwm neu gyfnod estynedig o law yn dychwelyd yn sydyn:

  • efallai na fydd gwreiddiau gwannach y llystyfiant yn darparu wyneb gwydn a gall hyn arwain at erydiad
  • gall dŵr ffo ar yr wyneb fynd i mewn i'r holltau sy'n achosi iddynt ehangu, neu greu llwybrau llifoedd o dan yr wyneb
  • gall dŵr sy'n mynd i mewn i holltau dyfnach iro’r cysylltiad rhwng uwchbridd ac isbridd ac achosi i'r wyneb lithro neu gylchlithro (slump)

Y peth cyntaf y gallech sylwi arno yw holltau llorweddol gyda chefnau’n ffurfio ymhellach i lawr y llethr.


Ffigur 5. Gall holltau dwfn ganiatáu i ddŵr dreiddio ac achosi i'r wyneb lithro. Chwiliwch am arwyddion o lympiau a gwrymiau islaw holltau neu fathau eraill o ddifrod

Nid yw llithriadau na chylchlithriadau’n hunan-adfer a dylech gysylltu â'ch Peiriannydd Goruchwylio ar unwaith i gael cyngor.

Effeithiau’r newid yn yr hinsawdd

Mae cyfnodau hir o dywydd sych wedi dod yn nodwedd gymharol gyffredin o'r tywydd yn y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae rhagfynegiadau am y newid yn yr hinsawdd yn dangos y byddwn fwy na thebyg yn profi sychder yn amlach, a phan fydd yn bwrw glaw, rhagwelir y bydd yn drymach ac yn fwy dwys.

Mae'r eithafion hyn yn rhoi straen ar arglawdd pridd. Mae angen i chi gynnal a chadw eich cronfa ddŵr bob amser er mwyn lleihau effeithiau tywydd eithafol.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gynllunio a rheoli ar gyfer sychder yn Sychder

Dylech gynllunio a gweithredu mesurau wrth gefn i reoli sut mae dŵr yn cael ei storio a’i ddefnyddio yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad

Os yw holltau neu ddifrod yn yr arglawdd pridd yn ddigon i'ch annog i leihau lefel y dŵr yn y gronfa ddŵr, neu os yw eich peiriannydd yn argymell eich bod yn gostwng lefel y dŵr fel mesur rhagofalus, rhaid i chi roi gwybod i ni ar 03000 65 3000 neu gyflwyno adroddiad ar-lein:

Cyngor pellach

Os nad oes gennych Beiriannydd Goruchwylio, dylech gysylltu â pheiriannydd sifil cymwys o un o baneli'r gronfa ddŵr i gael cyngor.

Supervising panel engineers: contact details - GOV.UK (www.gov.uk)

All reservoir panel engineers: contact details - GOV.UK (www.gov.uk)

Non-impounding reservoir panel engineers: contact details - GOV.UK (www.gov.uk)

Service reservoir panel engineers: contact details - GOV.UK (www.gov.uk)

Diweddarwyd ddiwethaf