Paratoi pecyn gwybodaeth cyn archwiliad ar gyfer eich cronfa ddŵr

Cadw cofnodion am oes y gronfa ddŵr

Rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth a'r cyfleusterau i unrhyw beiriannydd a benodwyd i'ch cronfa ddŵr fel y gall wneud ei waith yn iawn. Gallech gyflawni trosedd os na fyddwch yn darparu'r rhain.

Dylech gadw’r holl wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cronfa ddŵr fel ei bod yn ddiogel ond yn hygyrch i’r rhai sydd ei hangen. Dylech gadw'r cofnodion hyn am oes weithredol gyfan y gronfa ddŵr. Efallai y byddwn ni neu beiriannydd yn gofyn amdanynt ar unrhyw adeg.

Mae lluniadau papur, ffotograffau a chofnodion ffisegol eraill yn dirywio dros amser, a dylech drefnu bod copïau digidol o ansawdd uchel yn cael eu gwneud. Gwiriwch bob copi i wneud yn siŵr nad yw gwybodaeth yn cael ei cholli neu ei hystumio yn y broses. Cadwch y dogfennau gwreiddiol yn ddiogel.

Os oes digwyddiad yn eich cronfa ddŵr, efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ar fyr rybudd. Dylai eich cynllun llifogydd gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i gael gafael ar yr wybodaeth.

Pecyn gwybodaeth cyn-archwiliad

Cyn archwiliad, bydd eich Peiriannydd Archwilio yn gofyn am wybodaeth gennych. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy gadw pecyn gwybodaeth. Mae cadw hwn yn gyfredol a'i adolygu'n rheolaidd yn well nag un ymdrech fawr cyn archwiliad.

Mae'n bosibl y bydd eich Peiriannydd Archwilio eisiau'r holl wybodaeth sydd gennych, neu rywfaint yn unig, ond dylech allu darparu rhestr o'r hyn sydd ar gael. Os oes gennych lawer o ddogfennau, dylech gadw tudalen gynnwys neu ddefnyddio system fynegeio.

Darllenwch ein harweiniad ar sut i drefnu archwiliad cronfa ddŵr.

Cynnwys pecyn gwybodaeth

Rydym yn awgrymu eich bod yn trefnu'r wybodaeth o dan y penawdau canlynol a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn gyntaf. Efallai na fydd rhai o'r dogfennau a restrir yn briodol ar gyfer eich cronfa ddŵr. Os nad yw'r wybodaeth gennych, mae'n ddefnyddiol cynnwys y pennawd a marcio'r cofnod fel “Nid yw'n bodoli”, neu rywbeth tebyg. Efallai y gofynnir i chi gael yr wybodaeth.

Dylunio ac adeiladu

Dylech ddarparu dogfennau sy’n dangos sut y cafodd y gronfa ddŵr ei hadeiladu, gan gynnwys y canlynol:

  • Lluniadau adeiladu a dogfennau dylunio ar gyfer yr adeiledd gwreiddiol
  • Lluniadau a manylion a gynhyrchwyd ar ôl y gwaith adeiladu cychwynnol sy'n dangos yr adeileddau presennol fel y'u hadeiladwyd
  • Cyfrifiadau hydrolig, adeileddol, geodechnegol a dylunio eraill
  • Os bydd angen yn ôl Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015, dylech gynnwys y ffeiliau iechyd a diogelwch yn yr adran hon

Asesiad risg

Dylech ddarparu copi o'ch asesiad risg diweddaraf ar gyfer diogelwch y gronfa ddŵr.

Darllenwch Asesiadau risg ar gyfer cronfeydd dŵr ar GOV.UK

Dylech ymgynghori â'r Peiriannydd Archwilio o ran pa lefel asesu sydd fwyaf priodol. Mae canllaw RARS yn defnyddio dull tair haen:

Mae Haen 1 yn defnyddio dull asesu ansoddol symlach

Mae Haenau 2 a 3 yn defnyddio dulliau meintiol cynyddol fanylach ac maent wedi’u hanelu at y canlynol:

  • Ymgymerwyr, perchnogion a gweithredwyr cronfeydd dŵr
  • Peirianwyr Adeiladu, Archwilio a Goruchwylio

Dogfennau statudol

Rhaid i chi gadw'r holl ddogfennau statudol a ddarperir gan beirianwyr sifil cymwys, gan gynnwys y canlynol:

  • Tystysgrif Cyflawni Gwaith yn Effeithlon, gan gynnwys unrhyw atodiadau
  • Tystysgrifau Adeiladu Rhagarweiniol, Dros Dro a Therfynol, gan gynnwys unrhyw atodiadau
  • Pob adroddiad a thystysgrif archwilio adran 10, gan gynnwys penderfyniadau a newidiadau a roddwyd gan beiriannydd sy’n ganolwr
  • Pob datganiad adran 12 gan Beirianwyr Goruchwylio ac unrhyw gyfarwyddiadau adran 12(6) ar gyfer archwiliad gweledol a roddir gan Beirianwyr Goruchwylio
  • Adroddiadau ar ddigwyddiadau a digwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd

Ffurflen Gofnod Ragnodedig

Dylai eich Ffurflen Gofnod Ragnodedig gofnodi'r wybodaeth a gasglwch fel rhan o'ch gwaith monitro arferol a gwaith profi offer, ac unrhyw wybodaeth am ddifrod neu ddigwyddiadau anarferol. Os oes gan yr eitemau a gofnodwyd yn eich Ffurflen Gofnod Ragnodedig unrhyw ddogfennau ategol, dylech gadw'r rhain yn ddiogel ond ar gael yn rhwydd.

Dylech ddarparu unrhyw ddadansoddiadau a dehongliadau arferol o'r canlynol:

  • Tueddiadau yn y data a chanlyniadau rhyfedd
  • Unrhyw fylchau yn y data
  • Methiannau hysbys yn y system fonitro

Efallai y darperir y rhain yn y datganiadau a ddarperir gan eich Peiriannydd Goruchwylio.

Cynllun llifogydd

Trefnwch fod eich cynllun llifogydd ar gael i'r Peiriannydd Archwilio. Efallai y gofynnir i chi hefyd am unrhyw argymhellion a roddir gan y Peiriannydd Goruchwylio i adolygu neu brofi eich cynllun llifogydd.

Data o arolygon ac ymchwiliadau

Dylech allu darparu adroddiadau arolygon, data a gwybodaeth arall am y gronfa ddŵr dros ei hoes weithredu gyfan. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys y canlynol:

  • Arolygon topograffig a bathymetrig
  • Arolygon teledu cylch cyfyng
  • Archwiliadau gweledol ac arolygon drôn ac awyrluniau
  • Arolygon adeileddol a chyflwr
  • Arolygon coed, bywyd gwyllt, amgylcheddol ac ecolegol

Gall materion mwy cymhleth arwain at y canlynol:

  • Arolygon daearegol a geoffisegol
  • Arolygon cyfleustodau, gwasanaethau a draenio
  • Arolygon archaeolegol
  • Ymholiadau neu arolygon gwaith mwyngloddio
  • Arolygon ordnans heb ei ffrwydro

Astudiaethau blaenorol

Darparwch adroddiadau sy’n ymwneud â’r argae, ei adeileddau a’r ardal gyfagos, megis:

  • Asesiadau o gynhwysedd gorlifannau
  • Asesiadau a phrofion o’r gallu i leihau lefelau dŵr
  • Asesiadau o gyflwr adeileddau, pibellau, falfiau a gatiau
  • Asesiadau risg llifogydd a mapiau llifogydd os caiff yr argae ei dorri
  • Ymchwiliadau geodechnegol
  • Ymchwiliadau tryddiferiad
  • Asesiadau sefydlogrwydd
  • Modelu hydrolig
  • Profi deunyddiau labordy

Ffotograffau a fideo

Casglwch ynghyd ffotograffau a fideos sy'n darparu llinell amser hanesyddol o newidiadau. Dylai cofnod ffotograffig effeithiol ddarparu golwg gyffredinol o'r gronfa ddŵr dros amser a chofnodi lleoliadau penodol.

Dylai’r cofnod ffotograffig wneud y canlynol:

  • Dangos yr un ongl dros amser yn ystod amodau arferol ac anarferol
  • Cynnwys ardaloedd o ddifrod, dirywiad neu faterion eraill sy'n peri pryder, megis cracio, cylchlithro, mannau gwlyb a phroblemau llystyfiant
  • Dangos wyneb yr argae i fyny'r afon ar wahanol uchderau dŵr
  • Cynnwys delweddau o ymchwiliadau o dan yr wyneb, megis pyllau prawf a'u lleoliadau
  • Dangos adeileddau o dan amodau anarferol, er enghraifft, yn ystod tywydd oer neu wyntog iawn, pan geir llifogydd, neu pan fydd lefel y gronfa ddŵr yn cael ei lleihau

Dylech hefyd ddefnyddio ffotograffau a fideos i gofnodi mannau lle nad yw mynediad fel arfer yn bosibl yn ystod archwiliad arferol. Er enghraifft, tynnwch luniau pan fo lefel y dŵr yn isel sy'n dangos adeileddau sydd fel arfer o dan y dŵr, neu ardaloedd lle mae mynediad yn beryglus heb offer arbennig.

Cynhwyswch ffotograffau hanesyddol a allai fod ar gael ar y rhyngrwyd, yn eich llyfrgell leol neu mewn swyddfa gofnodion.

Gallwch gymharu mapiau ar wyliwr mapiau geogyfeiriol ochr yn ochr Llyfrgell Genedlaethol yr Alban

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru hefyd yn cadw gwybodaeth ddefnyddiol am gronfeydd dŵr mewn sawl cronfa ddata chwiliadwy

Gallwch chwilio cofnodion cronfeydd dŵr ar wefan CBHC

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy’n gweithio i warchod amgylchedd hanesyddol Cymru.

Chwiliwch am gofnodion ar wefan Cadw.

Dogfennau hanesyddol a rhai wedi'u disodli

Dylech gadw archif o'r holl ddogfennau sydd wedi'u disodli. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u marcio â “disodlwyd” neu debyg. Er enghraifft, lluniadau dylunio sydd wedi'u disodli gan luniadau o waith gwella, ac astudiaethau llifogydd sydd wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r fethodoleg gyfredol.

Adroddiadau digwyddiad

Cynhwyswch yr holl adroddiadau ymchwilio ar ôl digwyddiad a digwyddiad y bu ond y dim iddo ddigwydd am oes weithredol gyfan y gronfa ddŵr, gan gynnwys sut mae unrhyw argymhellion neu wersi a ddysgwyd wedi'u cymhwyso.

Gwybodaeth bwysig arall neu wybodaeth y gofynnwyd amdani

Cynhwyswch unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael a allai fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft, arsylwadau defnyddiol ers yr arolygiad diwethaf o’r canlynol:

  • Sylwadau a chwynion gan bobl leol
  • Bwriadau ar gyfer y dyfodol, er enghraifft gosod pŵer trydan dŵr

Nodi gwybodaeth sydd ar goll

Dylech geisio nodi unrhyw fylchau yn yr wybodaeth sydd gennych. Gall bylchau mewn gwybodaeth arwain at ragdybiaethau a all fod yn anghywir a, dros amser, efallai y caiff eu derbyn er eu bod yn anghywir.

Dylai eich peirianwyr ddefnyddio'u barn i'ch cynghori ynghylch pa gamau i'w cymryd i gael gwybodaeth sydd ar goll neu i gael gwybodaeth newydd yn ei lle.

Diweddarwyd ddiwethaf