Taliadau cronfeydd dŵr
Ein cynllun taliadau diogelwch cronfeydd dŵr ar gyfer 2020-21
Nid oes unrhyw newidiadau i'n cynllun codi tâl am y flwyddyn 1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2021.
Ffioedd cofrestru
Y ffi gofrestru ar gyfer cyforgronfa ddŵr fawr yw £510. Mae wedi’i heithrio rhag TAW.
Bydd angen i chi dalu'r ffi gofrestru ar adeg y cofrestru.
Ni fyddwn yn ystyried eich bod wedi cofrestru nes ein bod yn derbyn y taliad.
Sut i dalu ffioedd cofrestru
Gallwch gyflwyno taliad i gofrestru cronfa ddŵr gyda'r ffurflen gofrestru.
Os ydych yn dymuno talu drwy gerdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn, byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen gofrestru.
Nid ydym yn derbyn taliadau arian parod.
Ad-daliadau
Os ydych yn tynnu'ch cais i gofrestru yn ôl, rydym yn cadw'r hawl i gadw'r ffi gofrestru lawn heb ad-dalu unrhyw ran ohoni.
Fel arfer, ni fyddwn yn gwneud ad-daliad os yw'r cofrestriad yn cael ei dynnu'n ôl fwy nag un mis calendr ar ôl iddo gael ei gyflwyno, a lle'r ydym wedi gwneud gwaith i brosesu'r cofrestriad.
Ffioedd monitro cydymffurfiaeth blynyddol
£230 yw'r ffi. Mae wedi’i heithrio rhag TAW.
Mae ffi monitro cydymffurfiaeth flynyddol yn daladwy ar gyfer cronfeydd dŵr risg uchel.
Y cyfnod codi tâl monitro cydymffurfiaeth blynyddol yw 1 Ebrill tan 31 Mawrth. Byddwn yn eich anfonebu ym mis Mehefin bob blwyddyn am y swm llawn sy'n ddyledus am y flwyddyn honno.
Os ydych arnom arian ar gyfer rhan o'r flwyddyn yn unig, byddwn yn eich anfonebu ar gyfradd pro rata am y cyfnod yr ydych yn ddyledus. Gall hyn ddigwydd os ydym yn dynodi cronfa ddŵr fel un risg uchel ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn.
Sut i dalu
Mae'n rhaid talu ffioedd cyn gynted â'ch bod yn derbyn ein hanfoneb.
Caiff y cyfarwyddiadau ar gyfer talu ffioedd eu cynnwys yn yr anfoneb.
Nid ydym yn derbyn taliadau arian parod.
Anghofio talu neu'n dewis peidio â thalu
Nid ystyrir bod cofrestriad nad yw'n cynnwys y ffi gywir 'wedi’i wneud yn briodol' ac felly ystyrir bod y cofrestriad yn annilys ac ni fydd eich cronfa ddŵr yn ymddangos ar y gofrestr.
Os yw ffi yn cael ei chyflwyno i ni ac mae'n anghywir, fe'ch cynghorir i dalu'r swm cywir a gofynnir i chi wneud hynny. Os nad yw ffi'n cael ei thalu pan fo'n ddyledus, efallai y gallwn gymryd camau gweithredu i adennill y ddyled honno.
Ystyrir bod methu â chofrestru'n drosedd.
Ar gyfer y lleiafrif nad ydynt yn cydymffurfio â'r gyfraith, byddwn yn ystyried ein hymateb yn unol â'n polisi gorfodi a sancsiynau.
Os oes sawl ymgymerwr
Rydym yn dynodi un set o ffioedd i gronfa ddŵr.
Os ydych yn un o sawl ymgymerwr gwahanol, mae'n rhaid i chi gytuno rhyngoch chi sut i rannu'r ffioedd i'w talu. Rydym yn argymell bod unrhyw gytundeb yn cael ei wneud yn ysgrifenedig.
Os ydych hefyd yn penodi peirianwyr, efallai y byddwch yn dewis defnyddio'r un egwyddorion i rannu'r ffioedd.
Talu am beirianwyr
Nid yw'n ffioedd yn cynnwys unrhyw gostau ar gyfer penodi peirianwyr sifil cymwys i arwain neu roi cyngor ar waith ar eich cronfa ddŵr.
Rydych yn atebol am benodi a thalu am beirianwyr yn ôl eich cyfrifoldebau a dynodiad eich cronfa ddŵr.
Os ydym yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i benodi peiriannydd i'n cynghori ar eich cronfa ddŵr gan ddefnyddio'n pwerau rhagosodedig neu frys, byddwn yn ceisio adennill y gost hon gennych chi. Mae'n rhaid i ni ddweud hyn wrthych ymlaen llaw ac fel arfer byddwn yn eich cynghori i wneud y penodiad priodol.
Mewn achos brys, efallai y byddwn yn penodi peiriannydd heb eich hysbysu os ydym yn ystyried y byddai gohirio'n peryglu diogelwch eich cronfa ddŵr ymhellach.
Adolygiad o ddynodiad risg
Mae dynodiad risg cychwynnol wedi cael ei gynnwys yn y ffi gofrestru.
Byddwn yn adolygu'n taliadau dros amser ac yn ystyried a fyddwn yn codi tâl am gynnal adolygiad o ddynodiad risg.
Mae’r holl adolygiadau o’n cynlluniau codi tâl yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth gan y Gweinidog.
Diogelwch cronfeydd dŵr
Darllenwch fwy am ddiogelwch cronfeydd dŵr.
Ein sail ar gyfer codi tâl
Ar 1 Ebrill 2013, rhoddwyd dyletswydd awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yng Nghymru i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r gyfraith hon yn ceisio diogelu'r cyhoedd yn erbyn dŵr yn cael ei ryddhau heb reolaeth o gyforgronfeydd dŵr mawr.
Yn ein gwaith fel rheoleiddiwr, ein dyletswydd yw sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn arsylwi ar y gyfraith ac yn cydymffurfio â hi. Rydym yn gwneud hyn drwy roi cyngor ac arweiniad fel bod ymgymerwyr yn deall y safonau gofynnol y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni i helpu i gadw eu hargaeau a'u strwythurau cronfeydd dŵr yn ddiogel a chânt eu hatgoffa o'u dyletswyddau o ran archwilio, goruchwylio a chynnal a chadw cronfeydd dŵr.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth arfer ei bwerau a ddarperir gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran41(1) adfer costau cyflawni ei swyddogaethau a roddwyd gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975; a chyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, ddefnyddio'r Cynllun Codi Tâl Cydymffurfiaeth Diogelwch Cronfeydd Dŵr.
Pam mae angen i chi dalu
Gwnaeth newidiadau i Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 a ddaeth i rym yn 2016 gyflwyno cyfrifoldebau newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru na ddylai'r gost o ddarparu gwasanaeth rheoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr gael ei thalu'n gyfan gwbl o arian cyhoeddus. Yn lle hynny, dylai ymgymerwyr cronfeydd dŵr, fel deiliaid y prif atebolrwydd sy'n destun rheoleiddio, dalu'r costau priodol am y gweithgareddau rydym yn eu gwneud.
Mae'r ffioedd rydym yn eu codi ar ymgymerwr unigol yn cynrychioli cyfran o'n costau am y gwasanaeth a gyflawnir wrth arfer ein swyddogaethau o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac nid ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gost o reoleiddio unrhyw gronfa ddŵr benodol. Mae'r incwm rydym yn ei godi o'n taliadau ond yn ymwneud â rhan o'n costau cyffredinol o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Er enghraifft, nid ydym yn codi tâl am gostau camau gorfodi oherwydd byddwn yn ceisio adennill y costau hyn yn uniongyrchol gan y troseddwr.
Mae'n rhaid talu am unrhyw gronfa ddŵr sydd wedi'i chofrestru dan adran 2(2B) Deddf 1975, sy'n berthnasol o 1 Hydref 2017.
Cysylltu â ni
Am ymholiadau bilio, edrychwch ar y cyfeiriadau e-bost ar flaen eich anfoneb.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch dehongli’r taliadau, cysylltwch â'r tîm taliadau drwy e-bostio:
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Tîm Taliadau, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP