Canllawiau llorweddol
Diben canllawiau llorweddol yw rhoi gwybodaeth sy'n berthnasol i bob sector a gaiff ei reoleiddio o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Er enghraifft, sŵn, arogleuon, effeithlonrwydd ynni neu ddiogelu tir a dŵr. Bydd y dolenni ar waelod y dudalen hon yn mynd â chi i'r canllawiau sydd ar gael.
H1 Pecyn cymorth meddalwedd a chanllawiau
Gellir defnyddio’r offeryn meddalwedd asesu risg H1 a ddatblygwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd i asesu effaith llygryddion peryglus mewn gollyngiadau a arllwyswyd i ddŵr wyneb ac i systemau ymdreiddiol bychain o ganlyniad i sefydliadau a safleoedd gwastraff, gweithgareddau arllwys dŵr ffynhonnell ac o weithgareddau arllwys dŵr unigol.
Mae’r atodiadau canllawiau trosolwg asesu risg a chanllawiau technegol sy’n cefnogi’r offeryn H1 wedi cael eu hadolygu a’u hamnewid. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i ganllawiau perthnasol Asiantaeth yr Amgylchedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i’w dilyn. Byddwch yn gweld manylion ar sut i gael copi o’r offeryn meddalwedd H1 a’r canllawiau a dolen at ganllawiau ar asesu risg llygredd dŵr wyneb ar gyfer eich trwydded amgylcheddol.
Mae canllawiau pellach ar gael i fodelu’r arllwysiad unwaith y bydd yr asesiad risg llygredd dŵr wyneb wedi’i gwblhau. Lle gwneir cyfeiriad yn y canllawiau i Asiantaeth yr Amgylchedd yn nhermau ceisiadau am drwydded, datrys ymholiadau ac ymgymryd â modelu, cyfeiriwch at Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer arllwysiadau yng Nghymru.
H2 Effeithlonrwydd ynni
Mae'r Canllaw H2 wedi cael ei ddisodli gan ganllawiau 'Techneg Gorau ar Gael' perthnasol. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i ganllawiau perthnasol Asiantaeth yr Amgylcheddol yr ydym yn parhau i'w dilyn.
H3 Asesu a rheoli sŵn
H4 Rheoli arogleuon
Gweler ein canllawiau ar Reoli Arogleuon (H4) isod.
H5 Adroddiad ar gyflwr safle
Gweler ein canllawiau a'n templed ar gyfer adroddiad ar gyflwr safle (H5) isod.