Eithriadau gweithgarwch perygl llifogydd
Gallwch wneud rhai gweithgareddau perygl llifogydd heb gael trwydded gweithgarwch perygl llifogydd neu gofrestru ar gyfer esemptiad.
Bydd yn rhaid i chi fodloni amodau penodol a amlinellir yn y canllawiau technegol ar gyfer eithriadau gweithgarwch perygl llifogydd. Mae'n drosedd cyflawni gweithgaredd sydd wedi'i eithrio heb gydymffurfio â'r amodau priodol.
Mae gweithgareddau perygl llifogydd sydd wedi'u heithrio yn cynnwys y canlynol:
- unrhyw weithgaredd a wneir ar frys
- gweithgaredd morol trwyddedadwy yng Nghymru
- codi a defnyddio ysgolion a thyrrau sgaffaldiau
- adeiladu a defnyddio croesfannau gwasanaeth o fewn adeiledd sydd eisoes yn bodoli
- gosod dyfais amddiffyn rhag llifogydd yn uniongyrchol ar adeilad er mwyn diogelu'r tu mewn i'r adeiladu hwnnw
- cyflawni gwaith bach ar bontydd a chwlferi, neu waith sy'n cael effaith arnynt, ar gyfer priffyrdd a hawliau tramwy cyhoeddus
- codi ffensys
- codi hysbysfyrddau
- clirio trapiau gwaddodion a adeiladwyd at y diben
- tyllau turio ar gyfer gwaith ymchwil ar safle, a phyllau arbrofol ar orlifdir
Rhaid ichi wirio a oes angen unrhyw drwyddedau neu ganiatadau eraill, ac ystyried yr effeithiau posibl ar asedau amgylcheddol hanesyddol.
Mwy o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd os nad yw eich gweithgaredd arfaethedig wedi'i restru, neu os nad yw'n bodloni'r holl amodau penodol.
Diweddarwyd ddiwethaf