Trwydded ar gyfer Cynhyrchu Hydrogen trwy electrolysis

Mae angen trwydded ar bob math o gynhyrchu hydrogen yn fasnachol.

Os ydych yn cynhyrchu Hydrogen drwy electrolysis a'ch bod yn bodloni'r amodau priodol isod, gallwch wneud cais ar-lein.

Bydd angen i chi ddarparu llai o wybodaeth a byddwn yn prosesu eich cais yn gyflymach.

Pryd allwch chi ddefnyddio'r broses caniatau cyflym?

Gallwch ddefnyddio'r broses caniatáu cyflym os yw'r hydrogen yn cael ei gynhyrchu gan:

  • Pilen electrolyt polymer
  • Pilen cyfnewid protonau
  • Electroleiddwyr alcalïaidd gad defnyddio Potasiwm Hydrocsid neu Sodiwm Hydrocsid

a

Rydych chi'n defnyddio trydan o

  • cynhyrchu ynni cynaliadwy
  • y grid cenedlaethol neu
  • cynhyrchu trydan ar safle gyda trwydded amgylcheddol

Rydych yn tynnu llai na 20m3 o ddŵr wyneb y dydd neu eisoes â chaniatâd i dynnu dŵr wyneb o gyfaint uwch.

Mae'r holl ddŵr gwastraff yn cael ei ollwng i garthffos neu ei gasglu i'w waredu oddi ar y safle.

Ni fyddwch yn cynhyrchu mwy nag 1 tunnell o wastraff nad yw'n beryglus neu 10 kg o wastraff peryglus y dydd.

Nid ydych yn storio mwy nag 1 tunnell o hydrogen ar unrhyw un adeg. 

Os nad ydych yn gymwys o dan yr amodau hyn bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol ar gyfer safle diwydiant

Dogfennau y bydd angen i chi eu darparu

  1. Map o'r safle
  2. Cytundeb ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer unrhyw ollyngiad i garthffos
  3. Os ydych yn storio sylweddau peryglus, adroddiad sylfaenol
  4. Arolwg o gyflwr y safle
  5. Trosolwg o'ch System Rheoli Amgylchedd
  6. Tystiolaeth o'r caniatâd tynnu dŵr os yw'n berthnasol

Os byddwch yn ateb y cwestiynau yn y ffurflen gais ac yn talu'r ffi sy'n ofynnol, bydd eich cais yn symud i ymgynghoriad ar unwaith. Bydd y drwydded yn cael ei rhoi yn dilyn ymgynghoriad.

Diweddarwyd ddiwethaf