Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch

Os ydych yn bwriadu cwympo coed ar eich tir, rhaid i chi sicrhau bod gennych y drwydded gywir cyn i chi ddechrau unrhyw waith.

Os ydych yn un o’r canlynol:

  • perchennog y coed
  • asiant
  • masnachwr pren neu gontractwr

Rhaid i chi sicrhau bod y drwydded gywir wedi'i chyhoeddi cyn y gall unrhyw waith cwympo ddigwydd.

Mae'n drosedd torri rhai coed i lawr heb drwydded.

Pryd nad oes angen trwydded cwympo coed arnoch

Nid oes angen trwydded cwympo arnoch

  • os ydych chi'n torri coed mewn gardd, perllan, mynwent, neu fan agored cyhoeddus (fel gerddi cyhoeddus)
  • i gynnal gwaith fel tocio, brigdorri, codi’r corun neu leihau’r corun
  • i gwympo llai na phum metr ciwbig mewn chwarter calendr
  • i gwympo coeden beryglus. Rhaid bod perygl gwirioneddol ac uniongyrchol, yn hytrach na pherygl canfyddedig
  • os oes gennych ganiatâd cynllunio
  • i gydymffurfio â Deddf Seneddol, fel hysbysiad a gyflwynwyd gan awdurdod priffyrdd
  • os ydych yn gwmni cyfleustodau sy'n gwneud gwaith ar neu ger gwasanaethau nwy, trydan neu ddŵr
  • os ydym wedi cyhoeddi Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol

Os yw eich coed 1.3 metr o'r ddaear a bod ganddynt y diamedrau canlynol, nid oes angen trwydded cwympo arnoch chwaith:

  • 8 cm neu lai
  • 10 cm neu lai ar gyfer teneuo
  • 15 cm neu lai ar gyfer prysgoedio

Cynllun rheoli coedwig

Os ydych chi'n bwriadu rheoli eich coedwig neu'ch coetir dros gyfnod hir o amser, efallai yr hoffech wneud cais am gynllun rheoli coedwig.

Mae cynllun rheoli coedwig ar gyfer gwaith cwympo hirdymor dros gyfnod o ddeg i ugain mlynedd. Mae'r cynllun yn arbed i chi orfod gwneud cais am drwydded cwympo coed bob tro y bydd angen i chi gwympo coed ar eich tir.

Cosbau am gwympo coed heb drwydded

Mae’n drosedd torri rhai coed i lawr heb drwydded. Mae hefyd yn drosedd gwerthu pren sydd wedi’i dorri i lawr yn anghyfreithlon.

Os cewch eich collfarnu am dorri coed yn anghyfreithlon, gallwn roi dirwy ddiderfyn.

Gwneud cais am drwydded cwympo coed

Dysgwch sut i wneud cais am drwydded cwympo coed.

Diweddarwyd ddiwethaf