Mae trwydded amgylcheddol yn benodol i leoliad penodol. Mae hyn yn golygu, os ydych yn gwerthu eich tŷ neu eiddo, ni allwch fynd â’ch trwydded gyda chi a pharhau â’r gweithgarwch a ganiateir yn eich lleoliad newydd. Bydd angen i chi drosglwyddo eich trwydded i'r perchnogion newydd.

Defnyddiwch y ffurflen isod i drosglwyddo eich trwydded ar gyfer gollwng carthion neu elifion masnach neu waredu dip defaid gwastraff.

Ffioedd a thaliadau

Bydd angen i chi dalu ffi o £363 i drosglwyddo eich trwydded amgylcheddol.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen - Rhan A WORD [176.9 KB]
NODYN CANLLAW A.doc WORD [208.0 KB]
Ffurflen - Rhan D1 WORD [158.5 KB]
NODYN CANLLAW - Rhan D1 PDF [139.2 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf