Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion am yr holl ddatgeliadau Chwythu'r Chwiban a dderbyniwyd gan CNC yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 ac unrhyw gamau gweithredu neu argymhellion cysylltiedig.
Mae CNC wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o onestrwydd, uniondeb ac atebolrwydd. Mae disgwyl y bydd pawb sy’n gweithio i CNC sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd o waith CNC yn gallu dod ymlaen i leisio’r pryderon hynny. Mae CNC wedi ymrwymo i gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael ag unrhyw ddrwgweithredu a ddaw i’r amlwg.
Adroddiadau Chwythu'r Chwiban
Yn ystod y flwyddyn rhoddwyd gwybod am 20 o achosion posibl o chwythu'r chwiban drwy’r systemau chwythu'r chwiban. Cafodd pob achos ei ystyried yn unol â pholisïau a gweithdrefnau chwythu'r chwiban CNC. O’r 20 adroddiad hyn, cafodd 7 eu hadolygu a’u trin yn ffurfiol fel achosion o chwythu’r chwiban, roedd 9 yn ymwneud â materion y tu allan i CNC ac ni ystyriwyd bod 4 yn achosion o chwythu’r chwiban, fel sy’n cael ei ddiffinio gan Bolisi Chwythu’r Chwiban CNC, felly cawsant eu cyfeirio’n ôl at y busnes i’w trin yn fewnol.
Rhoddwyd gwybod am y 7 achos chwythu'r chwiban canlynol drwy weithdrefnau chwythu'r chwiban CNC rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023:
Cyfeirnod yr Adroddiad
|
Natur yr Adroddiad / Maes Busnes
|
Cadarnhau neu ymchwilio i achos o chwythu'r chwiban
|
Camau a gymerwyd:
|
WB012
|
Caffael a dyfarnu contractau
|
Achos ddim yn cael ei gadarnhau
|
Dim
|
WB013
|
Achos o ddwyn gan Gwsmer CNC
|
Achos ddim yn cael ei gadarnhau
|
Dim
|
WB015
|
Rhannu gwybodaeth fasnachol sensitif yn amhriodol
|
Achos ddim yn cael ei gadarnhau
|
Dim
|
WB016
|
Rheoli gwastraff CNC ac adrodd Net Zero
|
Achos ddim yn cael ei gadarnhau
|
Gwnaed argymhellion ar gyfer gwelliannau
|
WB018
|
Prosesau pobl annheg yn cael eu cymhwyso
|
Achos ddim yn cael ei gadarnhau
|
Dim
|
WB020
|
Pryderon Iechyd a Diogelwch Gweithredol
|
N/A
|
Disgwyl i'r ymchwiliad ddod i ben
|
WB024
|
Trin data yn dwyllodrus a cham-adrodd camau rheoli
|
Achos ddim yn cael ei gadarnhau
|
Ymchwiliad annibynnol a gynhaliwyd gan Dîm Gwrth-Dwyll a Sicrwydd Llywodraeth Cymru
|
CNC fel Person Rhagnodedig ar gyfer Chwythu'r Chwiban
Daeth CNC yn ‘Berson Rhagnodedig’ yn 2020 ar ôl i Lywodraeth Cymru gysylltu ag ef. Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o 60 o sefydliadau y gall unrhyw aelod o’r cyhoedd droi atynt i roi gwybod am achosion tybiedig o ddrwgweithredu neu rai y gwyddys amdanynt (chwythu’r chwiban). Mae’r sefydliadau a’r unigolion ar y rhestr fel arfer wedi’u dynodi’n bersonau rhagnodedig gan fod ganddynt berthynas awdurdodol neu oruchwyliol â’u sector, yn aml fel corff rheoleiddio. Mae’r Gorchymyn yn cael ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, i sicrhau bod y rhestr yn parhau i fod yn gyfredol.
Derbyniwyd y 9 achos canlynol o Adroddiad Chwythu’r Chwiban - Person Rhagnodedig rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, er y cydnabyddir y gallai pryderon eraill fod wedi’u mynegi y tu hwnt i’r broses chwythu’r chwiban ffurfiol:
Cyfeirnod yr Adroddiad
|
Sefydliad / Mater/ Corff a adroddwyd
|
WB011
|
Llygredd cyngor mewn penderfyniadau cynllunio
|
WB019
|
Llosgi gwastraff
|
WB021
|
Llygredd cwrs dŵr
|
WB023
|
Carthffosiaeth a llygredd
|
WB025
|
Cwympo coed
|
WB026
|
Troseddau amgylcheddol o ddympio ar fferm
|
WB028
|
Clirio coed yn anghyfreithlon
|
WB030
|
Arogleuon cyfleuster ailgylchu
|
WB031
|
Gorlwytho systemau carthffos
|
Yn adroddiad WB011, ni chadarnhawyd yr achos chwythu’r chwiban ac ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu.
Cyfeiriwyd yr holl achosion eraill at y timau trin digwyddiadau o fewn CNC a chawsant eu trin yn unol â phrosesau cwynion arferol. Nid oedd yr un o'r achosion ddigon mawr na digon difrifol i fod angen ymchwiliad chwythu'r chwiban ffurfiol.
Mae CNC hefyd yn derbyn adroddiadau y gellid eu hystyried yn Adroddiadau Unigolion Rhagnodedig drwy System Adrodd Digwyddiadau Cymru – caiff y rhain eu trin gan y timau rheoleiddio a gorfodi.