Diogelwch Cronfeydd Dŵr yng Nghymru 2023 - 2025

Ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025

Cyflwyniad

Ni yw’r awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yng Nghymru. Darperir yr adroddiad dwyflynyddol hwn i gyflawni’r ddyletswydd a osodwyd arnom gan adran 3 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 i adrodd i Weinidogion Cymru bob dwy flynedd. Mae’r adroddiad hwn ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025. Yn benodol, rhaid inni adrodd i Weinidogion Cymru am y canlynol:

  • nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr a gofrestrwyd
  • y camau rydym wedi’u cymryd i sicrhau bod ymgymerwyr – y term cyfreithiol ar gyfer perchnogion a gweithredwyr – cyforgronfeydd dŵr mawr yn arsylwi ac yn cydymffurfio â gofynion Deddf 1975
  • nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr yr ydym yn ymgymerwyr ar eu cyfer
  • unrhyw gamau a gymerwyd gennym i ddilyn gofynion Deddf 1975 ac i gydymffurfio â hi

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gynnal rôl ddeuol fel yr awdurdod gorfodi ac fel ymgymerwr. Fel ymgymerwr, rydym yn rheoli portffolio o’n cronfeydd dŵr ein hunain er mwyn gallu rheoli llifogydd a chreu buddion cadwraeth. Rydym hefyd yn rheoli cronfeydd dŵr o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru. Mae gennym wahaniad clir o ran llywodraethu mewn perthynas â’n dwy rôl, ac rydym yn gwahanu’r adroddiad hwn i adlewyrchu’r gwahanol gyfrifoldebau hyn.

Felly mae ein hadroddiad wedi’i ddarparu mewn dwy ran:

  • Rhan 1: Ein dyletswyddau fel awdurdod gorfodi i gynnal y gofrestr a darparu dynodiadau risg, a’n gwaith i sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn arsylwi ac yn cydymffurfio â’r gyfraith.
  • Rhan 2: Ein gwaith i gyflawni ein cyfrifoldebau ein hunain fel ymgymerwr cronfeydd dŵr, gan gynnwys ein gwaith i reoli cronfeydd dŵr o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru.

Crynodeb gweithredol

Mae 405 o gyforgronfeydd dŵr mawr yng Nghymru sy’n destun rheoleiddio gennym ni o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. At ei gilydd, rydym yn adrodd, ar 31 Mawrth 2025, bod 40 o gronfeydd dŵr (9.9%) wedi’u cofnodi gydag un neu fwy o achosion o dorri amodau heb eu datrys.

Mae’r tablau isod yn dangos y diffyg cydymffurfedd hwn fel nifer y cronfeydd dŵr ac fel canrannau yn erbyn pob prif ofyniad o’r gyfraith, o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Noder, gall cronfa ddŵr beidio â chydymffurfio ar gyfer mwy nag un gweithgaredd cronfa ddŵr.

Tabl 1. Nifer y cronfeydd dŵr a gofnodwyd fel rhai nad oeddent yn cydymffurfio â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 ar 31 Mawrth ar gyfer pob blwyddyn a ddangosir.

Gweithgaredd cronfa ddŵr 2021 2023 2025
Adeiladu 0 0 0
Goruchwyliaeth 0 21 4
Archwilio 2 2 2
Mesurau diogelwch 11 24 23
Gwaith cynnal a chadw statudol 3 2 3
Monitro a chofnodion 15 25 23
Datgomisiynu 0 0 0

 

Tabl 2. Canran sy’n cydymffurfio â phrif ofynion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 ar 31 Mawrth ar gyfer pob blwyddyn a ddangosir.

Gweithgaredd cronfa ddŵr 2021 2023 2025
Adeiladu 100% 100% 100%
Goruchwyliaeth 100% 92.1% 98.6%
Archwilio 98.9% 99.2% 99.3%
Mesurau diogelwch 94.2% 91.0% 92.1%
Gwaith cynnal a chadw statudol 98.4% 99.2% 98.9%
Monitro a chofnodion 92.0% 90.6% 91.7%
Datgomisiynu 100% 100% 100%

 

Ffigur 1: Nifer y cronfeydd dŵr sy’n cydymffurfio ac nad ydynt yn cydymffurfio ym mhob grŵp prif ymgymerwyr a gofnodwyd ar ddiwedd y cyfnod ar 31 Mawrth 2025.

Ffigur 1. Nifer y cronfeydd dŵr sy’n cydymffurfio ac nad ydynt yn cydymffurfio ym mhob grŵp prif ymgymerwyr a gofnodwyd ar ddiwedd y cyfnod ar 31 Mawrth 2025.

Mae’r perfformiad o ran yr angen am archwiliad wedi digwydd oherwydd amseriad archwiliadau o gronfeydd dŵr amddifad, lle nad oes perchennog. Rydym wedi cofnodi hyn fel achos o ddiffyg cydymffurfio ond wedi cymryd camau i sicrhau bod yr archwiliadau gofynnol yn cael eu cwblhau.

Mae cydymffurfedd o ran cwblhau mesurau diogelwch statudol a monitro a chadw cofnodion yn wael. Gall mesurau diogelwch gynnwys y gofyniad am ymchwiliadau neu arolygon, ac nid yw methu â chydymffurfio yn golygu bod argae cronfa ddŵr yn anniogel wedyn. Maent yn bwysig, fodd bynnag, ac mae’r mesur hwn yn dangos lle nad yw’r gronfa ddŵr yn bodloni’r safon ddisgwyliedig.

Rydym yn cymryd cyngor gan beirianwyr am ddifrifoldeb diffyg cydymffurfio, ac rydym wedi defnyddio pwerau gorfodi i fynnu bod gwaith diogelwch yn cael ei gwblhau, ond nid ydym wedi ystyried ei bod yn angenrheidiol yn ystod y cyfnod i gymryd camau brys i osgoi digwyddiad.

O ran perfformiad CNC ei hun fel ymgymerwr, yr ydym yn cynnwys ein rheolaeth o gronfeydd dŵr o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn rhan ohono, rydym wedi gwella. Un maes i roi sylw iddo oedd lle nad oeddem yn cydymffurfio mwyach oherwydd gor-redeg mesurau diogelwch mewn pedair cronfa ddŵr. Mae hyn wedi’i gywiro, ac rydym yn cau’r cyfnod gan adrodd ein bod yn cydymffurfio 100%.

Mae ein gwaith ar ddiwygio diogelwch cronfeydd dŵr wedi parhau ac rydym wedi ymgysylltu’n weithredol â Llywodraeth Cymru, ynghyd â chydweithwyr yn Lloegr o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a chydag Asiantaeth yr Amgylchedd. Prif nod y gwaith diwygio hwn yw mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad annibynnol gan David Balmforth a helpu i ddatblygu rheoleiddio sy’n adlewyrchu diogelwch cronfeydd dŵr yn well yn ogystal â chydymffurfedd â’r rheoliadau.

Diffiniadau ac acronymau a ddefnyddir

  • Cronfa ddŵr risg uchel: Mae cronfa ddŵr risg uchel yn gronfa ddŵr fawr sydd wedi’i dynodi gennym ni oherwydd ein bod wedi penderfynu, pe bai dŵr yn cael ei ryddhau’n afreolus o’r gronfa ddŵr, y gallai bywyd dynol gael ei beryglu.
  • Cyforgronfa ddŵr fawr: Mae cyforgronfa ddŵr fawr yn adeiledd neu’n ardal sydd wedi’i chynllunio i storio, neu sy’n gallu storio, 10,000 metr ciwbig o ddŵr uwchben lefel naturiol y tir cyfagos.
  • Mesurau er budd diogelwch: Mesurau i’w cymryd er budd diogelwch sy’n argymhellion statudol a roddir gan beirianwyr archwilio.
  • Cronfa ddŵr amddifad: Cronfa ddŵr amddifad yw un nad oes ganddi berchennog ac o ganlyniad nid oes ymgymerwr sy’n gyfrifol am yr adeiledd.
  • Ymgymerwr: Yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n rheoli neu’n gweithredu cronfa ddŵr, neu yn absenoldeb unrhyw weithgaredd, y perchnogion a’r lesddeiliaid ydyw.
  • Ystad Goetir Llywodraeth Cymru: Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Peirianwyr sifil cymwysedig

Egwyddor bwysig o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 yw bod y prif weithgareddau o adeiladu, archwilio, goruchwylio, gwelliannau diogelwch ac, yn y pen draw, datgomisiynu cronfeydd dŵr yn cael eu gwneud o dan arweiniad peirianwyr sifil cymwysedig sydd â phrofiad sylweddol o weithio ar gronfeydd dŵr. I gyflawni fel peiriannydd sifil cymwysedig, rhaid penodi peiriannydd i un o bedwar panel arbenigol, yn dilyn argymhelliad gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

Gall peiriannydd panel ar gyfer pob cronfa ddŵr gyflawni pob rôl ym mhob math o gronfa ddŵr.

Gall peiriannydd panel ar gyfer cronfa ddŵr nad yw’n cronni dŵr gyflawni pob rôl mewn cronfeydd dŵr nad ydynt yn cronni dŵr nad ydynt yn rhwystro cwrs dŵr yn uniongyrchol a lle gellir rheoli’r mewnlif.

Gall peiriannydd panel cronfeydd dŵr gwasanaeth gyflawni pob rôl mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth nad ydynt yn cronni dŵr ac sydd wedi’u hadeiladu o frics neu goncrit.

Gall peiriannydd goruchwylio weithredu ar draws pob math o gronfa ddŵr ond mae wedi’i gyfyngu i ddyletswyddau peiriannydd goruchwylio i fonitro ‘ymddygiad’ cronfeydd dŵr a darparu datganiadau blynyddol.

Rhoddir termau ffurfiol ar gyfer peirianwyr sifil cymwysedig gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ar gyfer y prif weithgareddau, fel a ganlyn:

  • Peiriannydd adeiladu - peiriannydd sifil cymwysedig i ddylunio neu gymeradwyo ac i oruchwylio gwaith adeiladu neu addasu cyforgronfa ddŵr fawr
  • Peiriannydd archwilio - peiriannydd sifil cymwysedig a benodwyd i gynnal archwiliad cyfnodol o gyforgronfa ddŵr fawr ac i ddarparu adroddiad
  • Peiriannydd goruchwylio - peiriannydd sifil cymwysedig y mae ei rôl yw ymweld â’r gronfa ddŵr o leiaf unwaith y flwyddyn a darparu datganiad i roi gwybod i’r ymgymerwyr am ei hymddygiad ac am unrhyw achos o dorri’r gyfraith

Nodyn esboniadol ar gyfrifiadau canran cydymffurfio

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn mynegi lefel y cydymffurfedd fel canrannau. Mae gwahanol ofynion yn cael eu gosod ar ymgymerwyr yn dibynnu ar ddynodiad risg eu cronfa ddŵr. Mae’r canrannau a ddefnyddiwn yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:

  • ar gyfer gweithgareddau sy’n berthnasol i bob “cyforgronfa ddŵr fawr” fel adeiladu, adrodd ar ddigwyddiadau a datgomisiynu, rydym yn dangos cydymffurfedd fel nifer y cronfeydd dŵr sy’n cydymffurfio fel canran o’r holl cyforgronfeydd dŵr fawr cofrestredig
  • ar gyfer gweithgareddau sy’n berthnasol i “gronfeydd dŵr risg uchel” yn unig, fel archwilio, goruchwylio, monitro a chadw cofnodion, rydym yn cyfrifo’r cydymffurfedd fel nifer y cronfeydd dŵr risg uchel sy’n cydymffurfio fel canran o’r holl gronfeydd dŵr risg uchel

Mewn adroddiadau blaenorol, fe wnaethom ddefnyddio cyfanswm nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr fel yr enwadur cyffredin ar gyfer pob cyfrifiad canrannol ac ni wnaethom wahaniaethu rhwng cronfeydd dŵr risg uchel a chyforgronfeydd dŵr mawr heb eu dynodi. Rydym wedi newid hyn i wella cywirdeb a thryloywder. Mae unrhyw gyfeiriadau yn yr adroddiad hwn at ganrannau mewn blynyddoedd blaenorol at ddibenion cymharu wedi’u haddasu i’n cyfrifiad diwygiedig.

Diwygio diogelwch cronfeydd dŵr

Yn hydref 2024, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed gan yr Athro Balmforth yn ei adroddiad ar sut mae diogelwch cronfeydd dŵr yn cael ei reoleiddio (Adolygiad cronfeydd dŵr: rhan B (2020) – GOV.UK). Mae 15 o argymhellion a 52 o is-argymhellion i roi sylw iddynt.

Rydym wedi cymryd rhan weithredol yn y rhaglen hon i gefnogi Llywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r rhaglen ddiwygio yn cynnwys datblygu cynigion ar gyfer:

  • dull gwell o sut y gellir dosbarthu’r perygl a achosir gan gronfeydd dŵr yn well ac yna llywio natur arferion rheoli diogelwch gorfodol
  • paneli arbenigol diwygiedig ac ychwanegol o beirianwyr i ddarparu mwy o unigolion sy’n astudio disgyblaethau peirianneg cronfeydd dŵr ac i wella cyfleoedd i ddatblygu
  • defnyddio achos diogelwch cronfa ddŵr a chynllun rheoli i roi dealltwriaeth glir o beryglon a sut y dylid eu hamddiffyn gan yr ymgymerwyr
  • defnyddio sancsiynau sifil, yn ogystal â’r sancsiynau troseddol presennol, i alluogi ystod ehangach o ymatebion i achosion o dorri’r gyfraith
  • moderneiddio deddfwriaeth

Rydym yn parhau i ddatblygu’r cynigion hyn er mwyn galluogi ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol.

Bydd y rhaglen ddiwygio yn pwysleisio bod angen i reoleiddio helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac nid dim ond cydymffurfio â’r gyfraith, fel yr adroddwyd yn y ddogfen hon, ac felly mae’n fenter bwysig wrth ddatblygu gwaith diogelwch cronfeydd dŵr.

Rhan 1 - Ein rôl fel yr awdurdod gorfodi

Dyma ein prif ddyletswyddau:

  • cynnal cofrestr o gyforgronfeydd dŵr mawr yng Nghymru
  • dynodi fel cronfeydd dŵr risg uchel y rhai yr ydym yn credu y gallent beryglu bywyd dynol pe bai dŵr yn cael ei ryddhau’n afreolus
  • sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn dilyn ac yn cydymffurfio â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Y gofrestr o gyforgronfeydd dŵr mawr

Mae 405 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u cofnodi ar y gofrestr gyhoeddus. Dangosir nifer a statws y cronfeydd dŵr hyn dros y pum mlynedd diwethaf yn.

Tabl 3: Nifer a statws cyforgronfeydd dŵr mawr a gofrestrwyd fel y’u cofnodwyd ar 31 Mawrth dros gyfnod o bum mlynedd.

Statws cronfa ddŵr 2021 2022 2023 2024 2025
Yn cael eu hadeiladu 8 12 8 8 7
Ar waith 363 384 388 393 397
Segur 0 0 1 1 1
Cyfanswm 371 396 397 402 405

Mae’r cyfrifoldeb am ddiogelwch cronfeydd dŵr ac am gydymffurfedd cyfreithiol yn disgyn ar ymgymerwyr, y gellir eu dosbarthu fel a ganlyn yng Nghymru:

  • 35% yn gwmnïau dŵr statudol
  • 26% yn dirfeddianwyr preifat
  • 21% yn cael eu rheoli gan gyrff a ariennir yn gyhoeddus:
    • awdurdodau lleol 10%
    • Cyfoeth Naturiol Cymru 9%
    • awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cadw 2%
  • 18% yn cael eu rheoli gan sefydliadau eraill

Gall yr ymgymerwyr ddefnyddio cronfeydd dŵr ar gyfer llawer o ddefnyddiau gwahanol yn ogystal â’u defnydd traddodiadol, sef cyflenwad dŵr. Mae defnyddiau eraill yn cynnwys cynhyrchu pŵer trydan dŵr, cadwraeth naturiol a threftadaeth, hamdden, rheoleiddio afonydd, rheoli llifogydd, ac amwynder cyffredinol.

Dynodiad risg

Mae gennym ddyletswydd i ystyried y risg a achosir gan gronfeydd dŵr ac i ddarparu dynodiadau risg ar eu cyfer sy’n nodi graddfa’r archwilio a goruchwyliaeth statudol gan beirianwyr. Ar 31 Mawrth 2025, mae’r 405 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u dynodi fel a ganlyn:

  • 277 (68%) fel cronfeydd dŵr risg uchel
  • cadarnhawyd nad oedd 81 (20%) yn gronfeydd dŵr risg uchel
  • 47 (12%) heb eu dynodi eto

Mae dynodiadau risg yn seiliedig ar y canlyniadau llifogydd a nodwyd drwy fapio toriad yn yr argae a cholli’r holl ddŵr. Y rhai nad ydynt wedi’u dynodi eto yw cronfeydd dŵr llai a gofrestrwyd ar ôl ein prosiect mapio llifogydd ar ôl torri argae diwethaf. Mae gwaith mapio pellach wedi’i gynllunio ar gyfer 2025-26, yn amodol ar gyllid, er mwyn galluogi gwneud y dynodiadau sy’n weddill.

Yn ystod y cyfnod adrodd, cyflwynwyd tair apêl gan ymgymerwyr yn erbyn ein dynodiadau. Derbyniodd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yr apeliadau hyn, ond tynnwyd pob un yn ôl cyn gwneud penderfyniad. O ganlyniad, cadarnhawyd y dynodiad risg uchel ym mhob achos.

Gweithgareddau rheoleiddiedig

Rydym yn defnyddio proses reoleiddio sy’n canolbwyntio ar y prif ofynion gofynnol a bennir gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ar gyfer pob un o’r gweithgareddau canlynol:

  • adeiladu ac addasu
  • goruchwyliaeth
  • archwilio
  • mesurau i’w cymryd er budd diogelwch
  • gwaith cynnal a chadw statudol
  • monitro, gwyliadwriaeth, a chadw cofnodion
  • datgomisiynu, gan gynnwys gadael i gronfa ddŵr fynd yn segur a dirwyn cronfa ddŵr i ben

Rydym hefyd yn gwneud y canlynol:

  • yn casglu adroddiadau ar ôl digwyddiad gan ymgymerwyr
  • yn annog a monitro argaeledd cynlluniau llifogydd

Adroddir isod ar ein gwaith dros y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025 ar gyfer pob un o’r gweithgareddau hyn.

Adeiladu ac addasu

Cydymffurfedd o 100% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 99.5% yn ystod y cyfnod

Fe wnaethom gofnodi dwy drosedd am adeiladu neu addasu cyforgronfa ddŵr fawr heb benodi peiriannydd adeiladu. Yn y ddau achos, fe wnaethom ddarparu cyngor, a phenodwyd peiriannydd gan yr ymgymerwr heb ddefnyddio pwerau gorfodi

Yn ystod y cyfnod, rydym wedi monitro penodiadau peirianwyr adeiladu mewn 44 o gronfeydd dŵr. Penodir peirianwyr adeiladu at sawl diben. Roedd yna:

  • pedwar penodiad ar gyfer adeiladu cyforgronfeydd dŵr mawr newydd
  • pum penodiad ar gyfer addasu cyforgronfeydd dŵr mawr sy’n bodoli eisoes
  • 35 o benodiadau ar gyfer yr archwiliad cyntaf o gyforgronfeydd dŵr mawr heb dystysgrif derfynol(mae’r rhain yn bennaf ar gyfer archwiliad cyntaf o hen gronfeydd dŵr a ddygwyd dan reoleiddio yn ddiweddar fel cronfeydd dŵr risg uchel)

Cafodd wyth cronfa ddŵr dystysgrif derfynol i gadarnhau bod y gwaith wedi’i gwblhau’n foddhaol.

Goruchwyliaeth

Cydymffurfedd o 98.6% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 86.6% yn ystod y cyfnod

Drwy gydol y cyfnod adrodd, cofnodwyd 37 o gronfeydd dŵr lle torrwyd y gofyniad am beiriannydd goruchwylio.

Priodolwyd deg achos o beidio â chydymffurfio (27%) i’r ffaith y cafwyd gwared ar beiriannydd o banel pob cronfa ddŵr y llywodraeth. Roedd hyn yn rhoi’r ymgymerwyr yr effeithiwyd arnynt mewn sefyllfa annisgwyl ac roedd yn anodd iddynt wneud penodiad newydd ar unwaith.

Mewn deunaw o achosion o beidio â chydymffurfio (47%), methodd ymgymerwyr â phenodi peiriannydd goruchwylio yn dilyn dynodiad y gronfa ddŵr fel cronfa ddŵr risg uchel am y tro cyntaf. Mynegodd llawer o unigolion anawsterau wrth geisio dod o hyd i beirianwyr a chytuno contractau gyda nhw.

Datryswyd y rhan fwyaf o’r achosion o beidio â chydymffurfio o fewn y cyfnod. Roedd pedwar cronfa ddŵr yn parhau i fod yn anghydffurfiol ar ddiwedd y cyfnod adrodd ar 31 Mawrth 2025 ac rydym wedi defnyddio ein pwerau wrth gefn i benodi peirianwyr goruchwylio ar eu cyfer.

  • Mae dwy gronfa ddŵr dan berchnogaeth un ymgymerwr ac, fel cwmni cyfyngedig, fe’i diddymwyd yn 2024. Rydym yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau hyn. Cyhoeddwyd hysbysiadau gorfodi cyn y diddymiad, a defnyddiwyd ein pwerau wrth gefn i benodi peiriannydd goruchwylio ar gyfer pob cronfa ddŵr. Nid oes angen unrhyw waith brys, ac rydym yn cynnal gwyliadwriaeth mewn perthynas â’r cronfeydd dŵr.
  • Fe wnaethon ni hefyd ddefnyddio ein pwerau wrth gefn i benodi peirianwyr goruchwylio mewn dwy gronfa ddŵr amddifad lle nad oes perchennog i weithredu fel ymgymerwr. Crynhoir gwaith arall yn y cronfeydd dŵr hyn yn yr adran ar gronfeydd dŵr amddifad.

Tabl 4: Cronfeydd dŵr risg uchel lle rydym wedi penodi peiriannydd goruchwylio gan ddefnyddio ein pwerau gorfodi wrth gefn, fel ar 31 Mawrth 2025.

Cronfa ddŵr Ymgymerwr Datrysiad
Blaen Brân Eurolago e Foresta Ltd Cwmni wedi’i ddiddymu tra ei fod dan rybudd. Mae CNC wedi penodi peiriannydd goruchwylio
Nant-y-draenog Eurolago e Foresta Ltd Cwmni wedi’i ddiddymu tra ei fod dan rybudd. Mae CNC wedi penodi peiriannydd goruchwylio
Cwm Clydach Cronfa ddŵr amddifad Mae CNC wedi penodi peiriannydd goruchwylio
Llyn Cae Conroy Cronfa ddŵr amddifad Mae CNC wedi penodi peiriannydd goruchwylio

 

O ganlyniad i’n penodiad o beirianwyr goruchwylio pan fo’r ymgymerwyr wedi methu â gwneud hynny, nid oes unrhyw gronfa ddŵr risg uchel heb y lefel hon o ddiogelwch.

Mae ein gwaith arall mewn perthynas â goruchwylio cronfeydd dŵr yn cynnwys cael a gwirio:

  • 135 o benodiadau newydd neu ddiwygiedig ar gyfer peirianwyr goruchwylio
  • 281 o ddatganiadau gan beirianwyr goruchwylio

Archwilio

Cydymffurfedd o 99.3% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 97.5% yn ystod y cyfnod

Yn ystod y cyfnod adrodd, archwiliwyd 53 o gronfeydd dŵr. Cawsom adroddiadau archwilio ar gyfer 41 o’r archwiliadau hyn yn ogystal â 31 adroddiad archwilio pellach oedd heb eu cwblhau o’r cyfnod blaenorol. Ar ddiwedd y cyfnod, mae 13 adroddiad yn parhau i fod heb eu cwblhau.

Pan ydym wedi cael adroddiadau archwilio, yr amser cyfartalog cymedrig i beirianwyr eu darparu yw pum mis, a’r cyfnod hiraf rhwng yr archwiliad a’r amser pan ddaeth adroddiad i law oedd 11 mis.

Ar gyfer archwiliadau cronfeydd dŵr lle nad oeddem wedi cael adroddiad y peiriannydd eto, mae’r amser ers yr archwiliad yn amrywio rhwng un a 22 mis, gyda chyfartaledd cymedrig o chwe mis ers yr archwiliad.

Rydym yn cofnodi rhesymau’r peirianwyr pam mae adroddiadau’n cymryd mwy na chwe mis i’w cynhyrchu. Mae’r rhesymau’n amrywiol ond mae llawer yn crybwyll llwythi gwaith mawr a chynyddol ar brosiectau diogelwch cronfeydd dŵr a’r gwaith ychwanegol ar fyr rybudd sy’n deillio o gael gwared ar beiriannydd archwilio o’r panel ar gyfer pob cronfa ddŵr.

Cofnodwyd cyfanswm o saith cronfa ddŵr risg uchel lle na chynhaliwyd archwiliadau mewn pryd.

Mae dwy gronfa ddŵr, na chawsant eu harchwilio o fewn y cyfnod adrodd diwethaf, yn parhau i beidio â chydymffurfio. Fodd bynnag, mae’r ymgymerwyr yn symud ymlaen tuag at dirwyn y cronfeydd dŵr i ben ac rydym wedi peidio â chyflwyno hysbysiad gorfodi hyd yn hyn. Rydym yn parhau i fonitro’r achosion hyn.

Mae pedwar achos o archwiliadau hwyr yn ymwneud â chronfeydd dŵr y mae angen iddynt gael eu harchwiliad cyntaf yn dilyn cael eu dynodi. Mae pob un wedi cael ei ddatrys heb ddefnyddio hysbysiadau gorfodi.

Fe wnaethom gofnodi un achos arall o ymgymerwr yn methu â chael adroddiad archwilio o fewn yr amser gofynnol. Fe wnaethon ni gyflwyno hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i’r archwiliad gael ei wneud ac, yn dilyn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwn, fe wnaethon ni ddefnyddio ein pwerau wrth gefn i wneud ein penodiad ein hunain, ac mae’r gronfa ddŵr wedi’i harchwilio. Mae ein hymchwiliad yn parhau.

Mesurau i’w cymryd er budd diogelwch

Cydymffurfedd o 92.1% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 85.6% yn ystod y cyfnod

Yn ystod archwiliad, gall y peiriannydd archwilio wneud argymhelliad ynghylch mesurau i’w cymryd er budd diogelwch; gelwir y rhain yn fesurau er budd diogelwch, yn gyffredin. Mae’r argymhellion hyn yn ofynion statudol ac mae’r peiriannydd archwilio yn rhagnodi amserlen ar gyfer cwblhau’r mesurau er budd diogelwch.

Nid ydym yn datgelu union natur y gwaith diogelwch i helpu i ddiogelu diogelwch cronfeydd dŵr, ond rydym yn adrodd bod 397 o fesurau er budd diogelwch cyfredol yn ystod y cyfnod, wedi’u gwasgaru ar draws 110 o gronfeydd dŵr. Dangosir natur y mesurau er budd diogelwch hyn isod:

Siart yn dangos nifer a natur MIOS yn ystod y cyfnod 2023–2025

 

Ardystiwyd bod 154 o fesurau er budd diogelwch wedi’u cwblhau, gyda 49 (32%) o’r rhain wedi’u hardystio’n hwyrach na’r dyddiad targed statudol a ddarparwyd gan y peiriannydd archwilio.

Ar ddiwedd y cyfnod adrodd:

  • roedd 243 o fesurau er budd diogelwch heb eu cwblhau, ar draws 75 o gronfeydd dŵr
  • roedd 81 (33%) o’r rhain, ar draws 22 o gronfeydd dŵr, yn hwyr o ran eu dyddiad targed

Pan fydd mesurau er budd diogelwch heb eu cyflawni ar amser, rydym yn ceisio barn peiriannydd ynghylch difrifoldeb yr achos o beidio â chydymffurfio er mwyn llywio’r camau a gymerwn. Rydym wedi defnyddio ein pwerau wrth gefn i gwblhau gwaith mesurau er budd diogelwch mewn dwy gronfa ddŵr amddifad, a ddisgrifir isod, ond nid ydym wedi ystyried bod hyn yn angenrheidiol mewn unrhyw gronfa ddŵr gydag ymgymerwr hysbys.

Siart yn dangos nifer y MIOS sydd wedi dyledus ar gyfer pob math o ymgymerwr

Gwaith cynnal a chadw statudol

Cydymffurfedd o 98.9% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 98.9% yn ystod y cyfnod

Nid yw argymhellion a wneir gan beirianwyr archwilio ynghylch cynnal a chadw cronfa ddŵr yn aml wedi’u cyfyngu gan amser oherwydd eu bod wedi’u bwriadu ar gyfer gweithgareddau parhaus. Mae’r peiriannydd goruchwylio yn darparu datganiad bob blwyddyn sy’n adrodd ar statws yr argymhellion hyn.

Cofnodwyd tair cronfa ddŵr lle nad oedd gweithgareddau cynnal a chadw â chyfyngiadau amser wedi’u cwblhau ar ddiwedd y cyfnod adrodd. Rydym hefyd yn monitro 36 o gronfeydd dŵr ychwanegol lle mae cynnydd o ran gwaith cynnal a chadw yn llai na’r disgwyl.

Monitro, gwyliadwriaeth, a chadw cofnodion

Cydymffurfedd o 91.7% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 89.9% yn ystod y cyfnod

Cawsom wybod am 14 cyfarwyddyd statudol gan beirianwyr goruchwylio i ymgymerwyr gynnal archwiliad gweledol oherwydd pryderon penodol. Mae hyn yn dod â chyfanswm y cyfarwyddiadau sydd ar waith i 19. Cawsom ddau hysbysiad gan beirianwyr goruchwylio am gyfarwyddiadau nad oeddent yn cael eu dilyn mewn dwy gronfa ddŵr.

At ei gilydd, cofnodwyd achosion o dorri’r gofynion ar gyfer monitro cronfeydd dŵr a chadw cofnodion mewn 28 o gronfeydd dŵr. Roedd 23 o achosion yn parhau i fod ar y gweill ar ddiwedd y cyfnod adrodd, ac rydym yn parhau i’w monitro a cheisio datrysiad iddynt.

Dirwyn cronfeydd dŵr i ben

Cydymffurfedd o 100% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 100% yn ystod y cyfnod

Ystyr dirwyn cronfa ddŵr i ben yw addasu’r adeiledd fel nad yw bellach yn gyforgronfa ddŵr fawr. Cafodd dwy gronfa ddŵr eu hardystio fel rhai sydd wedi’u dirwyn i ben ac a dynnwyd oddi ar y gofrestr wedi hynny. Mae gan bedair cronfa ddŵr arall beiriannydd sifil cymwysedig wedi’i benodi i ddylunio a goruchwylio gwaith dirwyn i ben yn y dyfodol.

Ni chofnodwyd unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio.

Gadael i gronfeydd dŵr fynd yn segur

Cydymffurfedd o 100% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 99.8% yn ystod y cyfnod

Mae gadael i gronfa ddŵr fynd yn segur yn cadw adeiledd y gronfa ddŵr ond yn atal y gronfa ddŵr rhag llenwi i unrhyw lefel a allai beri risg. Mae un gronfa ddŵr wedi’i chofnodi fel un sydd wedi’i gadael i fynd yn segur yn ffurfiol. Mae’r adeileddau’n parhau i fodoli ar hyn o bryd rhag ofn y bydd angen y gronfa ddŵr eto yn y dyfodol.

Cofnodwyd mân achos o beidio â chydymffurfio yn ymwneud â chyflwyno tystysgrif yn hwyr yn cadarnhau bod mesurau diogelwch wedi’u cwblhau; fodd bynnag, roedd y gronfa ddŵr yn wag ar y pryd ac yn cyflwyno risg isel iawn.

Cronfeydd dŵr amddifad

Pan nad oes ymgymerwr na pherchennog, neu pan na allwn adnabod perchennog, rydym yn cyfeirio at gronfa ddŵr fel un ‘amddifad’. Ar hyn o bryd, mae dwy gronfa ddŵr yng Nghymru yr ydym yn eu hystyried yn amddifad, sef Cwm Clydach a Llyn Cae Conroy Uchaf, ac, ym mhob un, rydym wedi camu i’r adwy fel mater o ddewis olaf er mwyn diogelu’r cyhoedd. Rydym wedi cymryd y camau canlynol gan ddefnyddio ein pwerau wrth gefn:

  • penodi peiriannydd goruchwylio
  • penodi peiriannydd archwilio i ddarparu adroddiad a gwneud argymhellion
  • sefydlu prosiectau i gwblhau mesurau er budd diogelwch

Efallai y bydd archwiliadau yn y dyfodol yn datgelu bod angen gwaith ychwanegol, a byddwn yn archwilio cyfleoedd i ostwng lefel y risg trwy leihau’r cyfaint neu gynnal gwaith datgomisiynu er mwyn lleihau baich sylweddol y gwaith monitro a goruchwylio parhaus gennym ni.

Cwm Clydach

Mae ein prosiect i fynd i’r afael â’r deg mesur er budd diogelwch sy’n deillio o adroddiad archwilio 2021 wedi parhau. Roedd y gwaith yn ei gwneud yn ofynnol i ni gael cysyniad Cadw cyn dechrau. Disgwylir cwblhau nifer sylweddol o fesurau er budd diogelwch dros haf 2025, ac ar yr adeg honno cynhelir archwiliad pellach. Mae argymhellion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad archwilio na allwn eu gweithredu oherwydd cyfyngiadau o fewn ein pwerau wrth gefn.

Prif werth y gronfa ddŵr hon yw ei hargae, sy’n heneb gofrestredig ac yn adeilad rhestredig. Mae anawsterau a chost ychwanegol o ran bodloni’r safonau peirianneg ar adeiledd o’r fath, ac mae angen cyllid cyfalaf a refeniw hirdymor ar gyfer gwaith adeiladu yn y dyfodol a gwyliadwriaeth barhaus. Nid yw ein pwerau wrth gefn yn cynnwys y pŵer ar gyfer cynnal a chadw o ddydd i ddydd. Disgwylir dirywiad felly a bydd angen gwaith adeiladu pellach i sicrhau diogelwch yn y dyfodol.

Mae ein hystyriaeth gychwynnol o gyfleoedd i ddirwyn y gronfa ddŵr i ben wedi cael ei gwrthod ar hyn o bryd. Yn gyntaf, byddai angen cydsyniad Cadw ar gyfer hyn. Yn ail, byddai cost cael gwared ar symiau sylweddol o silt a rhywogaethau estron goresgynnol yn afresymol.

Llyn Cae Conroy

Roedd archwiliad yn 2022 yn cynnwys argymhelliad ar gyfer un mesur diogelwch i wella amddiffyniad rhag llifogydd eithafol. Rydym wedi cyflwyno hysbysiad ar y safle i alluogi ein pwerau wrth gefn i ddod i rym. Rydym wedi penodi ymgynghorydd i baratoi opsiynau i ni eu hystyried ynghylch a ddylid cwblhau’r mesurau er budd diogelwch neu ddatgomisiynu’r gronfa ddŵr.

Cynllunio llifogydd mewn argyfwng

Ar 31 Mawrth 2025, cofnodwyd bod gan 82% o gronfeydd dŵr risg uchel gynllun llifogydd ysgrifenedig ar waith.

Disgwyliwn i bob ymgymerwr baratoi a chynnal cynllun llifogydd sy’n gymesur â’r risg gynhenid a geir gan eu cronfa ddŵr. Nid yw hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, ac rydym yn mynd ar drywydd cynllunio at argyfyngau drwy ddulliau gwirfoddol. Ein prif ffocws yw sicrhau cynlluniau llifogydd ar gyfer pob cronfa ddŵr uchel ei risg. Mae’r ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o raglen diwygio diogelwch cronfeydd dŵr yn awgrymu y dylid gwneud cynlluniau llifogydd yn ofyniad statudol ar gyfer cronfeydd dŵr risg uchel.

Adrodd ar ôl digwyddiad

Fe wnaethon ni gofnodi deg digwyddiad mewn cyforgronfeydd dŵr mawr yn ystod y cyfnod hwn. Roedd un digwyddiad yn cynnwys methiant argae arglawdd pridd isel a cholli dŵr o gronfa ddŵr addurniadol. Digwyddiadau a oedd yn gofyn am gymryd rhai mesurau rhagofalus oedd y gweddill. Ymatebodd yr ymgymerwyr i’r digwyddiadau hyn, ac nid oedd angen i ni ymyrryd gan ddefnyddio pwerau brys mewn unrhyw un ohonynt. Mae Tabl 5 isod yn rhestru’r digwyddiadau.

Rydym yn gweithio gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil ac Asiantaeth yr Amgylchedd i gynhyrchu cronfa ddata ar-lein o ddigwyddiadau cronfeydd dŵr. Diben hyn yw darparu gwybodaeth well i berchnogion cronfeydd dŵr a pheirianwyr am y mathau o ddigwyddiadau sy’n digwydd, y diffygion a geir, a’r gwersi a ddysgwyd ohonynt. Rydym yn disgwyl y bydd hyn yn cael ei gyhoeddi ar-lein erbyn diwedd y flwyddyn.

Tabl 5: Digwyddiadau diogelwch cronfeydd dŵr a gofnodwyd yng Nghymru rhwng 2023 a 2025.

Dyddiad Math o gronfa ddŵr Sylwadau
Gorffennaf 2023 Arglawdd pridd Cynnydd yn y gyfradd llif o bwynt gollyngiad hysbys. Disgwylir adroddiad terfynol
Gorffennaf 2023 Arglawdd pridd Effaith leiafswm, gollyngiad annisgwyl yn ystod y gwaith adeiladu. Wedi’i ddatrys ac mae’r dystysgrif derfynol wedi’i chyhoeddi
Ionawr 2024 Arglawdd pridd Llifoedd uchel wedi difrodi’r ardal wrth droed yr orlifan. Gorlifan wedi’i hymestyn i atal ailddigwyddiad
Ionawr 2024 Arglawdd pridd Gorlifan wedi’i rhwystro, gan achosi gorlifo
Chwefror 2024 Arglawdd pridd Methiant argae arglawdd isel. Disgwylir adroddiad terfynol
Hydref 2024 Arglawdd pridd Leinin clai yn gollwng dŵr
Hydref 2024 Arglawdd pridd Llygredd sy’n gysylltiedig â gwaith i ddirwyn cronfa ddŵr i ben
Tachwedd 2024 Arglawdd pridd Giât wedi methu, gan ganiatáu i ddŵr llanw fynd i mewn i amddiffynfeydd rhag llifogydd
Rhagfyr 2024 Arglawdd pridd Falf glec ddiffygiol yn achosi i ddŵr lifo’n ôl i’r gronfa ddŵr
Ionawr 2025 Arglawdd pridd Difrod sgwrio i sianel yr orlifan a’r tir cyfagos yn ystod llifogydd

Rhan 2 - Cronfeydd dŵr a reolir gan CNC

Mae gan CNC rôl ddeuol, sef bod yn awdurdod gorfodi ac ymgymerwr cronfa ddŵr. Mae’r gwrthdaro buddiannau posibl yn cael ei leihau trwy wahanu ein dyletswyddau gweithredol a gorfodi ar lefel cyfarwyddiaeth. Mae’r ail ran hon o’n hadroddiad yn disgrifio’r camau y mae Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau CNC wedi’u cymryd i ddilyn a chydymffurfio â gofynion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yn rhinwedd ein swyddogaeth fel ymgymerwr. Rydym yn cynnwys o fewn hyn ein gwaith i reoli cronfeydd dŵr o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Crynhoir nifer, pwrpas a dynodiad y cronfeydd dŵr hyn yn Tabl 6 isod.

Tabl 6: Diben a dynodiad risg cronfeydd dŵr a reolir gan CNC.

Diben Risg uchel Nad ydynt yn risg uchel Heb eu pennu Cyfanswm
Rheoli perygl llifogydd 11 2 0 13
Cadwraeth (Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol) 3 5 0 8
Ystad Goetir Llywodraeth Cymru 12 4 1 17
Cyfanswm 26 11 1 38

 

Mae’r cronfeydd dŵr hyn yn cael eu harchwilio a’u goruchwylio gan beirianwyr sifil cymwysedig, ac rydym yn cynnal rhaglen waith i fynd i’r afael â’r argymhellion y gallant eu gwneud.

Mae Tabl 7 isod yn dangos canran y cydymffurfedd ar gyfer ein cronfeydd dŵr, gan gynnwys y rhai yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Tabl 7: Crynodeb o gydymffurfedd â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 a gofnodwyd ar 31 Mawrth 2025.

Gweithgaredd cronfa ddŵr 2021 2023 2025
Adeiladu 100% 100% 100%
Goruchwyliaeth 100% 100% 100%
Archwilio 100% 100% 100%
Mesurau diogelwch 71.4% 91.9% 100%
Gwaith cynnal a chadw (statudol) 94.3% 97.3% 100%
Monitro a chadw cofnodion 88.6% 94.6% 100%

 

Ar adegau, mae cydymffurfedd CNC wedi gostwng islaw’r dyhead ond yn gyffredinol mae’n wella, a gorffennom y cyfnod gan gofnodi cyfradd cydymffurfedd o 100%. Yn ystod y cyfnod adrodd, gostyngodd perfformiad yn y categori mesurau er budd diogelwch, a disgrifir y cronfeydd dŵr lle digwyddodd hyn yn fanylach isod.

Mae sicrhau ein bod yn gwahanu dyletswyddau fel rheoleiddiwr ac fel ymgymerwr yn bwysig. Rydym ni, fel rheoleiddiwr, yn monitro, yn trin ac yn adrodd ar berfformiad Gweithrediadau CNC yn yr un modd ag ymgymerwyr eraill.

Mesurau er budd diogelwch

Cydymffurfedd o 100% ar 31 Mawrth 2025
Cydymffurfedd isaf o 84.6% yn ystod y cyfnod

Rydym wedi datblygu rhaglen o waith ar gronfeydd dŵr i fynd i’r afael â 36 o fesurau er budd diogelwch ar draws 12 cronfa ddŵr risg uchel.

  • Mae 17 o fesurau er budd diogelwch yn parhau i fod ar waith ar draws saith cronfa ddŵr risg uchel. Mae pob un o fewn y terfyn amser targed a roddwyd gan y peiriannydd archwilio.
  • Ardystiwyd bod 13 o fesurau er budd diogelwch wedi’u cwblhau o fewn terfyn amser y peiriannydd archwilio.
  • Ardystiwyd bod chwe mesur er budd diogelwch arall wedi’u cwblhau, ond cymeron ni fwy o amser na’r terfyn amser a argymhellwyd. Disgrifir yr achosion o beidio â chydymffurfio hyn isod.

Mae archwiliadau pellach wedi’u trefnu a disgwyliwn y byddant yn arwain at waith ychwanegol.

Fe wnaethon ni gofnodi achosion o beidio â chydymffurfio â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 mewn perthynas â phedair cronfa ddŵr. Roedd y cyfan yn ymwneud â methu â bodloni’r gofyniad i roi unrhyw argymhelliad ar waith ynghylch mesurau i’w cymryd er budd diogelwch o fewn yr amserlen a roddir gan y peiriannydd archwilio ac i gael tystysgrif. Cafodd pob un eu datrys erbyn y dyddiad gorffen a gwmpesir gan yr adroddiad hwn (31 Mawrth 2025).

Er nad ydym yn datgelu union natur y gwaith diogelwch, rhoddir crynodeb o bob achos isod.

Llyn-y-parc

Dyddiad y digwyddodd yr achos o beidio â chydymffurfio: 9 Gorffennaf 2023
Dyddiad datrys yr achos o beidio â chydymffurfio: 2 Awst 2024

Cronfa ddŵr yw hon sy’n cael ei rheoli o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Ni chwblhawyd dau fesur er budd diogelwch, y ddau â dyddiad targed statudol o Orffennaf 2023, mewn pryd. Er bod gwaith dylunio’r prosiect wedi symud ymlaen, cafodd y gwaith adeiladu ei ohirio oherwydd bod blaenoriaeth a chyllid wedi’u rhoi i waith ar safleoedd cronfeydd dŵr eraill. Roedd y contractwyr fframwaith, sydd â phrofiad o waith diogelwch cronfeydd dŵr, hefyd yn ymwneud â phrosiectau eraill. Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Mawrth 2024, a chwblhawyd y prosiect ym mis Mehefin 2024, gydag ardystiad ffurfiol yn cadarnhau ei fod wedi’i gwblhau ym mis Awst 2024.

Pendam

Dyddiad y digwyddodd yr achos o beidio â chydymffurfio: 23 Hydref 2024
Dyddiad datrys yr achos o beidio â chydymffurfio: 11 Tachwedd 2024

Cronfa ddŵr yw hon sy’n cael ei rheoli o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Roedd y mesurau er budd diogelwch yn gofyn am gynhyrchu cynllun llifogydd. Cafodd hwn ei ddrafftio cyn y dyddiad cau ac yna cafwyd rhywfaint o anghytundeb ynghylch y cynnwys yn erbyn y gweithrediad gweithredol, sydd bellach wedi’i ddatrys. Tair wythnos yn hwyr, mae’r ffaith bod sawl perchennog ar y gronfa ddŵr hefyd yn cymhlethu’r sefyllfa o ran y cynllun.

Ardal Storio Llifogydd y Bont-faen a Llanfleiddan

Dyddiad y digwyddodd yr achos o beidio â chydymffurfio: 9 Gorffennaf 2023
Dyddiad datrys yr achos o beidio â chydymffurfio: 12 Rhagfyr 2024

Canfu Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau CNC fod sicrhau’r ffyrddfraint cyfreithiol angenrheidiol ar draws tir cyfagos yn anodd ac ataliodd hyn waith i osod cyfathrebu ac awtomeiddio gwell ar y safle. Roedd angen trafodaethau ychwanegol â BT Openreach a’r Grid Cenedlaethol ar gyfer atebion amgen. Fe wnaethon ni barhau i reoli’r safle â llaw. Nid oedd cyfanrwydd yr adeiledd mewn perygl oherwydd y methiant hwn, a chawsom gyngor gan y peiriannydd archwilio bod y gronfa ddŵr yn “foddhaol ac yn ddiogel”.

Ardal Storio Llifogydd Dolen Crafnant

Dyddiad y digwyddodd yr achos o beidio â chydymffurfio: 15 Hydref 2024
Dyddiad datrys yr achos o beidio â chydymffurfio: 17 Ionawr 2025

Argymhellwyd y mesurau er budd diogelwch yn adroddiad archwilio 2021 a rhoddwyd cyfnod o dair blynedd i’w cwblhau gan y peiriannydd archwilio. Er bod y cynnydd cynllunio a dylunio cychwynnol wedi’i gwblhau, estynnwyd y rhaglen i ailasesu gwerth yr ased hwn at ddibenion rheoli perygl llifogydd. Ni chwblhawyd y gwaith mewn pryd, gyda rhywfaint o oedi wedi’i achosi am fod y peiriannydd sifil cymwysedig wedi’i dynnu oddi ar y panel. Penodwyd peiriannydd sifil cymwysedig newydd ym mis Gorffennaf 2024. Yn dilyn ymchwiliadau ac archwiliad eilaidd, penderfynodd y peiriannydd newydd y dylid lleihau categori llifogydd yr argae ac nad oedd angen y mesurau er budd diogelwch mwyach. Rydym yn cofnodi’r achos o beidio â chydymffurfio fel mater o ffaith oherwydd cafwyd yr ystyriaeth a phenderfyniad ychwanegol ar ôl i ddyddiad cau’r mesurau er budd diogelwch fynd heibio. Mae Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau CNC hefyd yn archwilio opsiynau i reoli dŵr wyneb a dŵr llifogydd ar y safle gyda’r awdurdod lleol.

Gwaith gwella arall

Llyn Tegid

Mae Llyn Tegid yn chwarae rhan hanfodol wrth reoleiddio afon Dyfrdwy, storio dŵr yr afon, a chaniatáu rhyddhau dŵr dan reolaeth i reoli perygl llifogydd a galluogi tynnu dŵr ar gyfer cyflenwad dŵr. Roedd y ffaith ein bod wedi cwblhau’r prif waith ar yr arglawdd wedi cael croeso cynnes, ac mae CNC yn falch o fod wedi cael Gwobr Alun Griffiths am Ymgysylltu â’r Gymuned 2023 gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil. Mae hyn yn adlewyrchu budd ymgysylltu cynnar a thrylwyr â rhanddeiliaid a’n nodau o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae archwiliad pellach wedi’i gynnal gyda ffocws ar y llifddorau.

Llyn Llywelyn

Mae Llyn Llywelyn, ger Beddgelert, yn gronfa fwyngloddio segur o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi’i lleoli o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, yn agos at yr Wyddfa. Fe wnaethon ni werthuso gwerth y safle, sy’n atyniad i ymwelwyr yn y rhan boblogaidd hon o Eryri. Yn hytrach na datgomisiynu, fe wnaethom gwblhau sawl gwaith mesurau er budd diogelwch i wella’r safle. Roedd y gwaith yn cynnwys gwelliannau i’r arglawdd a’r orlifan i gynnal gweithrediad diogel ac a gyflawnodd fynediad gwell i gefn gwlad, gan gefnogi ein dyheadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Staffio a hyfforddiant

Rydym yn cyflogi dau beiriannydd goruchwylio yn fewnol i gyflawni eu rôl statudol a darparu cyngor ynghylch peirianneg cronfeydd dŵr.

Rydym yn cyflogi dau arolygydd asedau cronfeydd dŵr sy’n cwmpasu Gogledd a Chanolbarth Cymru yn bennaf, lle lleolir y rhan fwyaf o’n cronfeydd dŵr. Mae gennym hefyd arbenigwr hydrometreg a thelemetreg pwrpasol, sydd wedi gwella ein cofnodi o lefelau a llifoedd dŵr.

Rydym wedi parhau i ddarparu hyfforddiant ar gyfer ein ‘ceidwaid cronfeydd dŵr’ i gyflawni ein dyletswyddau cynnal a chadw, monitro, a chadw cofnodion. Mae ein gallu i ymweld â phob cronfa ddŵr a’i gwirio yn cael ei brofi’n rheolaidd yn ystod cyfnodau o lifogydd, pan fo angen adnoddau’n eang ac am nifer fawr o oriau.

Rydym yn adolygu gwersi a ddysgwyd gyda staff gweithredol, rheolwyr prosiectau, ymgynghorwyr a chontractwyr yn flynyddol i sicrhau ein bod yn ymgymryd â gwaith i’r safon orau y gallwn.

Cynlluniau ac ymarferion llifogydd

Mae ein cynlluniau llifogydd yn cael eu hadolygu’n flynyddol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol. Rydym yn cynllunio un ymarfer bob blwyddyn sy’n cynnwys ein contractwyr i brofi sut rydym yn ymateb i ddigwyddiadau. Mae’r ymarferion hyn yn meithrin hyder a chymhwysedd, a chaiff y gwersi a ddysgwn eu rhannu ag ymatebwyr brys a phartneriaid proffesiynol eraill yn ôl yr angen.

Digwyddiadau mewn cronfeydd dŵr a reolir gan CNC

Fe wnaethon ni gofnodi tri digwyddiad yn ystod y cyfnod adrodd.

  • Ym mis Tachwedd 2024, methodd llifddor llanw, gan ganiatáu i ddŵr ddod i mewn yn ystod llanw uchel a lleihau cynhwysedd yr ardal storio llifogydd.
  • Ym mis Rhagfyr 2024, gwelwyd ôl-lif trwy ollyngfa dŵr wyneb yn ystod digwyddiad llifogydd ehangach, gan achosi mwy o lifogydd ar y ffordd y tu ôl i’r adeiledd. Roedd dau bwmp eisoes ar y safle yn unol â’r weithdrefn ymateb i lifogydd arferol, ond cafodd dau bwmp ychwanegol eu hanfon i’r safle i gynorthwyo. Cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw ychwanegol ar y falf glec.
  • Ym mis Ionawr 2025, dioddefodd sianel gorlifan ddifrod gan sgwrio. Cynhaliwyd atgyweiriadau i atal difrod pellach i’r sianel.

Mae manylion y digwyddiadau hyn wedi’u cofnodi ac yn barod i’w rhannu drwy’r gronfa ddata digwyddiadau newydd a ddisgwylir ei chyhoeddi ar y rhyngrwyd yn hydref 2025. Mae’r rhain hefyd wedi’u cynnwys yn Tabl 5 uchod, o dan ddigwyddiadau ym mhob cronfa ddŵr.

Crynodeb

Yn ystod y cyfnod dwy flynedd a gwmpesir gan yr adroddiad hwn, mae cydymffurfedd â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 wedi parhau i fod yn uchel, gyda’r rhan fwyaf o ddangosyddion allweddol yn dangos gwelliant o ran cydymffurfedd. Mae hyn yn arbennig o galonogol oherwydd bod cronfeydd dŵr a ddynodwyd yn gronfeydd dŵr risg uchel wedi bod trwy eu harchwiliadau cyntaf ac mae ymgymerwyr wedi dangos ymdrechion sylweddol i weithredu gofynion y gyfraith.

Mae ein gwaith i gynnal cronfeydd dŵr amddifad, ac i gamu i mewn i gynnal a chadw dwy gronfa ddŵr yn dilyn diddymu cwmni cyfyngedig, wedi ein harwain i ddefnyddio ein pwerau wrth gefn. Fodd bynnag, nid ydym wedi gorfod defnyddio unrhyw bwerau brys i osgoi digwyddiad mewn perthynas ag unrhyw gronfa ddŵr. Rydym yn cymryd cyngor gan beirianwyr pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau o’r fath.

Rydym yn cymryd rhan weithredol yn rhaglen diwygio diogelwch cronfeydd dŵr a byddwn yn parhau i wneud hynny i helpu’r llywodraeth i lunio polisi yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i ymdrechu i gydymffurfio’n llawn â’r gyfraith. Mae ein dull ni’n gysylltiedig â’r risgiau a achosir a bydd y rhaglen i ddiwygio diogelwch cronfeydd dŵr yn dod â buddion ychwanegol i ganolbwyntio ymdrech lle mae ei hangen.

Diweddarwyd ddiwethaf