Adroddiad Blynyddol Chwythu'r Chwiban a Pherson Rhagnodedig 2023-24
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion yr holl ddatgeliadau Chwythu'r Chwiban a dderbyniwyd gan CNC yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24 ac unrhyw gamau gweithredu neu argymhellion cysylltiedig.
Mae CNC wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o onestrwydd, uniondeb ac atebolrwydd. Mae disgwyl y bydd pawb sy’n gweithio i CNC sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd o waith CNC yn gallu dod ymlaen i leisio’r pryderon hynny. Mae CNC wedi ymrwymo i gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael ag unrhyw ddrwgweithredu a ddaw i’r amlwg.
Adroddiadau Chwythu'r Chwiban
Yn ystod y flwyddyn rhoddwyd gwybod am 27 o achosion posibl o chwythu'r chwiban drwy’r systemau chwythu'r chwiban. Cafodd pob achos ei ystyried yn unol â pholisïau a gweithdrefnau chwythu'r chwiban CNC. O’r 27 adroddiad hyn, cafodd 2 eu hadolygu a’u trin yn ffurfiol fel achosion chwythu’r chwiban, a chafodd 2 arall eu trin drwy ddefnyddio gweithdrefnau ymchwilio twyll CNC, ystyriwyd bod 8 yn achosion a oedd yn gysylltiedig â materion y tu allan i CNC ac ni ystyriwyd fod 15 yn achosion chwythu’r chwiban yn ôl diffiniad Polisi Chwythu’r Chwiban CNC, felly cawsant eu cyfeirio’n ôl at y busnes i’w trin yn fewnol.
Rhoddwyd gwybod am y 2 achos chwythu'r chwiban canlynol drwy weithdrefnau chwythu'r chwiban CNC rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024:
| 
 Cyfeirnod yr Adroddiad  | 
 Natur yr Adroddiad / Maes Busnes  | 
 Cadarnhau neu ymchwilio i achos o chwythu'r chwiban  | 
 Camau a gymerwyd:  | 
|---|---|---|---|
| 
 WB042  | 
 Perfformiad anfoesegol a methiant timau gorfodi pysgodfeydd  | 
 Achos ddim yn cael ei gadarnhau  | 
 Argymhellion wedi'u gwneud ar gyfer gwelliannau  | 
| 
 WB046  | 
 Twyll contract gan beiriannydd cynnal a chadw yn gwastraffu arian cyhoeddus  | 
 -  | 
 Hyd nes cwblhau adolygiad cam 1  | 
CNC fel Person Rhagnodedig ar gyfer Chwythu'r Chwiban
Daeth CNC yn ‘Berson Rhagnodedig’ yn 2020 ar ôl i Lywodraeth Cymru gysylltu ag ef. Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o 60 o sefydliadau y gall unrhyw aelod o’r cyhoedd fynd atynt i roi gwybod am achosion tybiedig o ddrwgweithredu neu rai y gwyddys amdanynt (chwythu’r chwiban). Mae’r sefydliadau a’r unigolion ar y rhestr fel arfer wedi’u dynodi’n bersonau rhagnodedig gan fod ganddynt berthynas awdurdodol neu oruchwyliol â’u sector, yn aml fel corff rheoleiddio. Mae’r Gorchymyn yn cael ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, i sicrhau bod y rhestr yn parhau’n gyfredol.
Derbyniwyd y 4 achos canlynol o Adroddiad Chwythu’r Chwiban Person Rhagnodedig rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, er y cydnabyddir y gallai pryderon eraill fod wedi cael eu mynegi y tu allan i’r broses chwythu’r chwiban ffurfiol:
| 
 Cyfeirnod yr Adroddiad  | 
 Sefydliad / Mater/ Corff a adroddwyd  | 
|---|---|
| 
 WB039  | 
 Honiadau bod sefydliad o bosibl wedi ffugio cofnodion amgylcheddol.  | 
| 
 WB056  | 
 Honiadau bod sefydliad o bosibl wedi achosi colli cynefin  | 
| 
 WB029  | 
 Honiadau bod sefydliad wedi trin a gwaredu gwastraff peryglus yn anghyfreithlon  | 
| 
 WB043  | 
 Honiadau nad oes gan sefydliad drwydded i gynhyrchu gwastraff peryglus  | 
O ran adroddiad WB039, ni ddaethpwyd i benderfyniad ar yr achos chwythu’r chwiban ac ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu.
O ran adroddiad WB056, rydym yn aros am gwblhau’r adolygiad o gyhuddiadau, Cam 1, cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd.
Cyfeiriwyd adroddiadau WB029 a WB043 at y timau trin digwyddiadau o fewn CNC a chawsant eu trin o dan brosesau cwynion arferol.
Nid oedd yr un o'r achosion ddigon mawr na digon difrifol i fod angen ymchwiliad chwythu'r chwiban ffurfiol.
Mae CNC hefyd yn derbyn adroddiadau y gellid eu hystyried yn Adrodd ar Unigolion Rhagnodedig drwy System Adrodd Digwyddiadau Cymru sy'n cael eu trin gan y timau rheoleiddio a gorfodi.