Ein swyddogaeth mewn amaethyddiaeth
Rydym ni’n gweithio gyda grwpiau ffermio, Cyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru i gynghori a chefnogi datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy er mwyn:
- cadw, gwella ac adfer cynefinoedd a rhywogaethau o fywyd gwyllt, tirluniau a nodweddion diwylliannol
 - sicrhau swyddi da ac elw cynaliadwy i'r rhai sy'n ffermio ac yn rheoli tir
 - cynnal a chefnogi gwead cymdeithasol cymunedau gwledig
 - helpu i daclo'r heriau sy’n dod yn sgil newid hinsawdd
 - ei gwneud yn haws i bobl gyrraedd a mwynhau cefn gwlad a’i ddeall yn well
 
Rydyn ni’n cynghori Llywodraeth Cymru drwy ymateb i ymgynghoriadau ar bob mater ynghylch effeithiau amgylcheddol amaethyddiaeth, gan gynnwys:
- Y Polisi Amaeth Cyffredin
 - Cynllun Datblygu Gwledig Cymru
 - rheoli tir comin
 - Asesiadau Effeithiau Amgylcheddol
 - dyluniad gwasanaethau ymgynghorol amaethyddol
 
                
Diweddarwyd ddiwethaf