Cynllun gwerthu a marchnata pren 2027 i 2031

Cyflwyniad – sut mae pren yn cefnogi twf a gwerth

Amgylchedd naturiol Cymru yw un o'n prif asedau. Mae'n siapio ein cymunedau, yn cefnogi ein lles, ac yn chwarae rôl bwysig yn yr economi.

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn falch o gael gofalu am y tirweddau, y dyfroedd a'r coetiroedd hyn ar ran y genedl - fel eu bod yn dal ati i ffynnu heddiw ac ymhell i'r dyfodol.

Rhan allweddol o'r rôl hon yw rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Mae'r ystâd yn cwmpasu mwy na 120,000 hectar, tua 7% o dir Cymru.

Mae'r coetiroedd hyn yn storio carbon, yn cynnal bywyd gwyllt, yn darparu mannau ar gyfer hamdden, ac yn cyflenwi pren sy'n cynnal swyddi a bywoliaethau gwledig ledled Cymru.

Mae cynhyrchu pren yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy ddarparu deunydd adnewyddadwy, carbon isel. Pan gaiff ei ddefnyddio mewn cynhyrchion hirhoedlog fel adeiladau, mae pren yn storio carbon yn lle ei ryddhau i'r atmosffer. Ar yr un pryd, mae rheoli coetiroedd yn ofalus yn cefnogi coedwigoedd iach, cynefinoedd ac adferiad natur.

Mae ein pwrpas yn un syml: byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd. Dyma galon ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 a’n hamcanion llesiant. Drwy ein gwaith, ein nod yw gweld:

  • byd natur yn gwella
  • cymunedau'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn well
  • llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf.

Mae'r cynllun gwerthu a marchnata pren hwn yn un o bedwar cynllun cyflawni ar gyfer y strategaeth ar gyfer twf a gwerth cynaliadwy 2027–2031.

Mae'r strategaeth, a’r cynllun hwn, wedi’u siapio gan y bobl sy'n defnyddio ein tir a'n gwasanaethau. 

Fe roesom ein syniadau ar brawf gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid ddechrau 2026, ac fe helpodd eu hadborth i hogi ein huchelgais a'n ffocws.

Yn ogystal, bydd ein gweithgareddau marchnata pren yn cefnogi Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Pren 2025 - Datblygu'r diwydiant pren yng Nghymru.

Ein cynllun gwerthu a marchnata pren 2027 i 2031

Mae'r cynllun gwerthu a marchnata pren hwn yn egluro sut mae gwerthu pren yn helpu i gyflawni manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. 

Mae ein gwaith yn sicrhau:

  • cyflenwad dibynadwy a chynaliadwy o bren o Gymru
  • cefnogaeth ar gyfer swyddi, sgiliau ac economïau gwledig
  • help i fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy hyrwyddo deunyddiau carbon isel
  • rheoli coetiroedd sy'n cefnogi adferiad natur a bioamrywiaeth.

Fel rhan o'n dyletswydd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (fel y nodir yn egwyddorion Deddf yr Amgylchedd {Cymru} 2016), mae'r coetiroedd rydyn ni'n eu rheoli wedi'u hardystio'n annibynnol i safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae hyn yn cynnwys ardystiadau gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd FSC, a’r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd PEFC.

Mae'r ddau gynllun yn rhoi hyder bod ein pren yn cael ei reoli'n gyfrifol ac yn cael ei gaffael yn gynaliadwy er budd pobl, natur a chenedlaethau'r dyfodol.

Mae ein gwaith â choed hefyd yn cefnogi cyflawniad ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 a'n hamcanion lles. Mae'n gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol:

Byd natur wrthi’n gwella - mae’r ffordd rydym yn rheoli ac yn gwerthu pren yn cefnogi coedwigoedd iach a gwydn. Drwy ein rhaglenni cynaeafu coed, rydym yn rheoli coetiroedd iddynt dyfu coed cryf ac iach. Rydym yn defnyddio dulliau rheoli coedwigoedd sy'n cadw gorchudd coetir ac yn cefnogi cymysgedd o gynefinoedd. Mae'r camau gweithredu hyn yn helpu coedwigoedd i adfer, yn gwella bioamrywiaeth, ac yn cynnal cyflenwad coed hirdymor. Mae ein Cynlluniau Adnoddau Coedwig yn tywys ble a phryd y caiff pren ei gynaeafu. Mae hyn yn sicrhau bod cynhyrchu pren yn cefnogi adferiad natur ochr yn ochr â nodau amgylcheddol eraill.

Mae cymunedau'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd - mae pren yn ddeunydd adnewyddadwy, carbon isel sy'n chwarae rhan rôl bwysig wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gellir defnyddio'r pren rydyn ni'n ei gyflenwi mewn cynhyrchion hirhoedlog fel adeiladau, lle mae'n storio carbon. Mae pren hefyd yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy. Drwy ddarparu cyflenwad cyson o bren o Gymru a gynhyrchir yn gynaliadwy, rydym yn helpu i leihau dibyniaeth ar ddeunyddiau mwy carbon-ddwys. Mae ein gwerthiannau pren hefyd yn cefnogi swyddi, sgiliau a buddsoddiad ar draws cadwyn gyflenwi pren Cymru, gan helpu cymunedau gwledig a'r economi ehangach i baratoi ar gyfer dyfodol carbon isel.

Mae llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf - mae defnyddio pren yn helpu i leihau llygredd trwy ddisodli deunyddiau a chynhyrchion sydd ag effeithiau carbon ac amgylcheddol uwch. Drwy flaenoriaethu'r defnydd gorau o bren drwy ein dull gwerthu a marchnata, rydym yn cefnogi dulliau cynhyrchu glanach ac yn cyfrannu at Gymru garbon isel, sero net.

Ar draws ein gweithgareddau coed, ein nod yw defnyddio coed yn effeithlon. Rydym yn hyrwyddo defnyddiau oes hir a gwerth uwch lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn cefnogi'r economi gylchol, yn lleihau gwastraff, ac yn ein helpu i wneud y defnydd gorau o'r adnodd adnewyddadwy hwn.

Cyd-destun cyfreithiol, polisi a strategaeth

Mae'r cynllun hwn yn un o bedwar cynllun cyflawni ar gyfer y strategaeth ar gyfer twf a gwerth cynaliadwy 2027–2031. Mae’n gosod y cyfeiriad cyffredinol ar gyfer datblygu busnes, hamdden masnachol, ynni adnewyddadwy, a gwerthu pren yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae hefyd yn cefnogi diben a rôl Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr egwyddor y dylai defnydd cynhyrchiol o'r ystâd i fod yn gynaliadwy a chyfrannu at ffyniant.

Mae’r Ddeddf Coedwigaeth yn cydnabod Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheolwr tir a rheoleiddiwr. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i ni gydbwyso cynhyrchu a chyflenwi pren â chadwraeth a gwella tirweddau, cynefinoedd a bywyd gwyllt.

Mae Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Pren 2025 - Datblygu'r diwydiant pren yng Nghymru yn dwyn sylw at bwysigrwydd economi bren gref a’r gofyniad i gynyddu’r cyflenwad o bren a dyfir yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn ymateb i'r uchelgais honno gan sicrhau bod cynaeafu'n cael ei wneud yn ddiogel, yn gynaliadwy, ac mewn ffordd sy'n cefnogi hinsawdd, natur, ac amcanion amgylcheddol ehangach.

Beth mae'r cynllun hwn yn ei gynnwys

Mae hwn yn gynllun pum-mlynedd, wedi'i arwain gan dystiolaeth ar gyfer 2027 i 2031 . Mae'n defnyddio'r rhagolygon cynhyrchu diweddaraf i roi canllaw o faint o bren y gellir ei gyflenwi'n gynaliadwy o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Dyluniwyd y cynllun i roi'r hyder i fusnesau, cwsmeriaid, contractwyr a phroseswyr gynllunio, buddsoddi a thyfu.

Mae'r cynllun yn cefnogi cyflawni ar draws ein hardaloedd sy'n canolbwyntio ar le yng ngwahanol ranbarthau Cymru. Gall cynaeafu a gwerthu pren helpu i gefnogi buddsoddiad ar lefel leol.
Mae'r buddsoddiad hwn yn cefnogi blaenoriaethau a nodir mewn Datganiadau Ardal a Chynlluniau Adnoddau Coedwig.

Mae'r gwaith hwn hefyd yn helpu rhanbarthau i gyflawni eu hamcanion lles. Mae'n cefnogi adferiad natur, yn helpu cymunedau i fod yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, ac yn lleihau llygredd.

Nid yw'r cynllun hwn yn disodli polisi rheoli coetiroedd. Yn hytrach, mae'n sicrhau bod cynhyrchu pren yn cael ei ystyried ochr yn ochr â phenderfyniadau eraill o ran rheoli tir. Mae polisïau manwl ar ddefnydd tir ac arferion coedwigaeth y tu allan i gwmpas y ddogfen hon.

Ein dull o werthu pren

Mae tair egwyddor graidd yn arwain y Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren:

  • Llywodraethu cryf – sicrhau bod gwerthiannau pren yn ddiogel, yn agored, yn deg, yn gystadleuol ac yn dryloyw
  • Cefnogi twf – darparu pren ar gyfer defnydd â gwerth ychwanegol a buddsoddiad yn niwydiant coed Cymru
  • Cyflawni lles – helpu i gyflawni ein hamcanion lles, blaenoriaethau’r Datganiad Ardal, a chyflawniad seiliedig ar le drwy reoli’r ystâd goetir yn gynaliadwy.

I gyflawni hyn, mae'r cynllun yn nodi camau gweithredu ar draws wyth thema:

  • Llywodraethiant a safonau
  • Maint y farchnad, cynhyrchu a rhagweld
  • Dull gwerthu a marchnata
  • Mecanweithiau gwerthu
  • Gwydnwch
  • Diogelwch
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Adrodd ar ein perfformiad pren.

Llywodraethiant a safonau

Mae llywodraethu cryf yn hanfodol i sicrhau bod gwerthiant pren yn darparu gwerth i Gymru, yn amddiffyn natur, ac yn cynnal hyder yn y farchnad bren.

Rydym yn rheoli ac yn gwerthu pren o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru fel ased cyhoeddus, ar ran pobl Cymru. Mae ein dull llywodraethu yn sicrhau bod gwerthiannau pren yn deg, yn dryloyw, ac yn cael eu rheoli'n gyfrifol, gan gefnogi adferiad natur, nodau hinsawdd, a chydnerthedd economaidd.

Rheoli coedwigoedd yn gyfrifol

Mae'r holl waith rheoli coetir ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn dilyn Safon Coedwigaeth y DU (UKFS). Dyma'r safon y cytunwyd arni ar gyfer rheoli coedwigoedd cynaliadwy ledled y DU.

Mae ein coedwigoedd hefyd yn cael eu gwirio'n annibynnol drwy Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS). Mae hyn yn darparu'r sail ar gyfer ardystiad rhyngwladol o dan:

  • Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC)
  • y Rhaglen ar gyfer Cymeradwyo Ardystiad Coedwigoedd (PEFC).

Ein cod tystysgrif FSC yw SA-FM/COC-007116, a’n cod tystysgrif PEFC yw SA-PEFC-FM-007116. 

Mae'r ardystiadau hyn yn rhoi hyder bod ein pren wedi'i gaffael o ffynonellau cynaliadwy, wedi'i gynaeafu'n gyfreithlon, a'i reoli'n gyfrifol. Maent hefyd yn helpu cwsmeriaid a phroseswyr i ymddiried yn y safonau amgylcheddol a chymdeithasol y tu ôl i bren Cymru.

Gwerthiannau pren clir a theg

Rydym yn gwerthu pren gan ddefnyddio fframwaith llywodraethu clir o'r enw'r Safon Llywodraethu Gwerthu Pren (TSGS).

Mae'r safon hon yn sicrhau bod gwerthu pren yn:

  • ddiogel a hygyrch
  • agored a thryloyw
  • teg a chystadleuol
  • wedi'i lywodraethu'n dda ac wedi'i reoli'n briodol.

Byddwn yn parhau i adolygu a gwella'r TSGS, fel ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben, yn amddiffyn gwerth cyhoeddus, ac yn cefnogi marchnad bren sefydlog a dibynadwy yng Nghymru.

Darparu gwerth ehangach, nid pris yn unig

Rydym yn cydnabod bod pren yn cynnig gwerth y tu hwnt i'w bris ar y farchnad.

Yn ystod cyfnod y cynllun hwn, byddwn yn archwilio dull cyson o ddeall effeithiau economaidd a chymdeithasol gwerthu pren a rheoli coedwigoedd. Bydd hyn yn ein helpu i gydnabod yn well sut mae gweithgarwch coed yn cefnogi swyddi, sgiliau, economïau lleol a lles cymunedol.

Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch gwerthu pren yn darparu'r budd cyffredinol mwyaf i Gymru, gan barhau i fod yn gyson â'n dyletswydd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Camau gweithredu 2027-2031

Byddwn yn:

  • Cam gweithredu 1: cynnal ardystiad FSC ac ardystiad PEFC trwy ddilysiad/archwiliad annibynnol.
  • Cam gweithredu 2: cymhwyso’r Safon Llywodraethu Gwerthu Pren, a’i hesblygu i sicrhau gwerthiannau pren teg a thryloyw.
  • Cam gweithredu 3: archwilio dull safonol o asesu effeithiau cymdeithasol ac economaidd gwerthu pren a rheoli coedwigoedd ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.

Ein hymrwymiad i faint y farchnad, cynhyrchu a rhagweld

Ein meintiau pren, cynhyrchu a rhagweld

Mae rhagolwg cynhyrchu 50 mlynedd Prydain Fawr yn dangos faint o bren a allai fod ar gael o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn ystod y 50 mlynedd nesaf.

Mae'r rhagolwg hwn yn dangos y swm mwyaf o bren y gellid ei gynhyrchu pe bai'r holl gwympo a theneuo coed a gynlluniwyd yn ein Cynlluniau Adnoddau Coedwig yn cael ei wneud ar amser ac yn cynhyrchu’r swm amcangyfrifedig o bren. Oherwydd bod Cynlluniau Adnoddau Coedwig yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, gall y rhagolwg newid dros amser.

Gan gwmpasu coetiroedd cyhoeddus a phreifat, mae'r rhagolwg yn helpu i roi hyder i fuddsoddwyr drwy ddangos faint o bren a allai fod ar gael o goetiroedd yng Nghymru.

Mae'r rhagolwg diweddaraf (Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol GB Forecast Research 2026) yn dangos y disgwylir i'r swm cyfartalog o bren sydd ar gael bob blwyddyn o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru leihau ym mhob cyfnod pum mlynedd yn y dyfodol. Mae angen ystyried yn ofalus faint o bren a gynaeafir heddiw er mwyn sicrhau pren ar gyfer yfory.

Faint o bren rydyn ni'n bwriadu ei werthu bob blwyddyn

Mae faint o bren rydyn ni'n ei werthu bob blwyddyn yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys:

  • ein gallu ni, a gallu ein cwsmeriaid, i weithio'n ddiogel
  • ein gallu i fodloni safonau amgylcheddol uchel
  • yr angen i reoli ein coedwigoedd yn unol â Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR).

Ar gyfer y blynyddoedd 2027 i 2031, rydym yn bwriadu cynnig rhwng 835,000 a 875,000 metr ciwbig o bren y flwyddyn. Mae'r lefel hon yn rhoi'r cydbwysedd gorau rhwng rheoli coedwigoedd yn ddiogel ac yn gynaliadwy, gan ddiogelu cyflenwadau pren yn y dyfodol a chefnogi'r diwydiant prosesu pren.

Mae'r ystod hon yn gulach o'i chymharu â'r cynllun blaenorol er mwyn darparu ymrwymiad i’r farchnad sy’n gryfach a mwy eglur.

Drwy ddilyn y dull hwn, gallwn barhau i gyflenwi pren yn y tymor hir a darparu buddion eraill o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, megis bioamrywiaeth a buddion hinsawdd.

Diogelu'r farchnad

Gall y swm gwirioneddol o bren a werthir bob blwyddyn newid, yn dibynnu ar y galw, a sut mae contractau'n perfformio.

Os bydd faint o bren a werthir ymlaen llaw yn mynd dros 150% o'r targed maint gwerthu blynyddol, efallai y byddwn yn newid cynlluniau cynaeafu ac yn lleihau'r cynnig. Mae hyn yn helpu i:

  • gadw ein cynlluniau'n realistig
  • amddiffyn y farchnad bren ehangach
  • osgoi ystumio'r farchnad gyda phren Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.

Rheolaeth a buddsoddiad hirdymor

Bydd cynhyrchu pren yn parhau i fod yn rhan bwysig o sut rydym yn rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd hyn bob amser yn cael ei gydbwyso â nodau amgylcheddol a chymdeithasol eraill.

Byddwn yn edrych am gyfleoedd buddsoddi i’n helpu i gael mynediad at fwy o bren o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys creu cynllun gweithredu a nodi anghenion cyllido.

Bydd y tîm Gwerthu Pren yn darparu rhagolygon tymor byr a chanolig o'n hincwm pren. Bydd y rhagolygon hyn yn seiliedig ar brisiau a meintiau pren disgwyliedig, gan gydnabod y gall marchnadoedd pren newid yn gyflym. Mae cyflenwad a galw byd-eang yn effeithio ar farchnadoedd pren, ac allan o’n rheolaeth ni i raddau helaeth.

Camau gweithredu 2027-2031

Byddwn yn:

  • Cam gweithredu 4 - marchnata 835,000 i 875,000 metr ciwbig y flwyddyn o bren sydd ar gael i'w gynaeafu o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru (wedi'i fesur fel cyfartaledd blynyddol cymedrig).
  • Cam gweithredu 5 - sicrhau bod cynhyrchu pren yn parhau i fod yn nod pwysig ym mhob Cynllun Adnoddau Coedwig.
  • Cam gweithredu 6 - parhau i gynhyrchu rhagolygon pren cywir i gefnogi cynllunio a buddsoddi yn y dyfodol yn y diwydiant pren. 
  • Cam gweithredu 7 - creu cynllun gweithredu a nodi cyllid i helpu i gael mynediad at fwy o bren o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.

Ein dull gwerthu a marchnata

Mae contractau pren yn gytundeb rhyngom ni a'n cwsmeriaid. Mae'r ddau yn ymrwymo i gynaeafu pren yn ddidwyll ac o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.

Bydd pren o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn parhau i gael ei werthu gan ddefnyddio dau brif fath o gontract sy'n gyffredin ar draws y sector coedwigaeth – gwerthu coed sy’n sefyll a gwerthu coed ar ymyl y ffordd.

  • Wrth werthu coed sy’n sefyll , mae'r coed yn cael eu gwerthu pan fyddant yn dal i dyfu yn y goedwig. Gwerthir y pren yn seiliedig ar bwysau amcangyfrifedig. Y cwsmer sy'n gyfrifol am gwympo'r coed, tynnu'r pren allan, a chludo'r pren allan o'r goedwig. Mae'r dull hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i gwsmeriaid benderfynu sut mae'r pren yn cael ei brosesu a'i werthu, yn dibynnu ar anghenion y farchnad.
  • Wrth werthu ar ymyl y ffordd, rydym yn trefnu i'r pren gael ei gwympo a'i dynnu allan gan ddefnyddio contractwr cynaeafu ac mae'r pren yn cael ei bentyrru ar ymyl y ffordd i'w werthu. Gwerthir y pren fel pwysau amcangyfrifedig. Y cwsmer sy'n gyfrifol am gasglu'r pren yn ddiogel.

Sut y byddwn yn gwerthu pren

Bydd y rhan fwyaf o bren yn parhau i gael ei werthu gan ddefnyddio gwerthu yn ôl pwysau a anfonwyd. Mae'r dull hwn yn cynnig cydbwysedd da rhwng cynaeafu effeithlon a diogelu gwerth yr ased coetir cyhoeddus.

Rydym yn bwriadu gwerthu o leiaf 90% o gyfanswm maint y pren blynyddol trwy werthiannau coed sy’n sefyll. Mae hyn yn caniatáu i gwsmeriaid ymateb yn haws i anghenion marchnad sy’n newid, ychwanegu mwy o werth a chefnogi twf yn y sector contractio.

Mewn rhai sefyllfaoedd, byddwn yn parhau i gynaeafu'n uniongyrchol lle mae angen rheolaeth agosach i reoli risg neu amddiffyn rhaglenni cyflenwi. Mae hyn hefyd yn ein helpu i gynnal sgiliau a deall gwerth marchnadol pren. Bydd yr holl bren a gynhyrchir trwy gynaeafu uniongyrchol yn cael ei werthu trwy werthu ar ymyl y ffordd.

Cefnogi gwerth a chadwyni chyflenwi

Rydym yn cydnabod y gall cwsmeriaid sy'n prynu pren ar ymyl y ffordd yn bennaf ychwanegu gwerth sylweddol. Byddwn yn adolygu sut mae gwerthu ar ymyl y ffordd yn perfformio ac yn ystyried y manteision ehangach y gallent eu cynnig. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi sgyrsiau rhwng prynwyr a phroseswyr i helpu i adeiladu cadwyni cyflenwi cryf a chynaliadwy.

Maint y contract a chynllunio

Bydd y cynllun hwn yn parhau i ddefnyddio contractau sy’n seiliedig ar lennyrch. Mae hyn yn golygu bod maint pob parsel pren sydd ar werth yn seiliedig ar ardaloedd cynaeafu penodol (a elwir yn llennyrch) a nodir mewn Cynlluniau Adnoddau Coedwig cymeradwy.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn cyfuno mwy nag un llannerch i mewn i un contract os yw hyn yn well ar gyfer rheoli'r goedwig, neu'n darparu gwell gwerth am arian.

Gwerthuso a chymysgedd cynnyrch

Bydd pob gwerthiant pren yn mynd trwy brisiad cyn-werthu llawn i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r gwerth gorau.

Bydd gwerthusiadau'n seiliedig ar hierarchaeth bren er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o'r pren. Mae hyn yn golygu bod cynhyrchion gwerth uwch yn cael blaenoriaeth dros gynhyrchion gwerth is. Oherwydd y dull hwn, nid yw cynnig pren i'w werthu yn gwarantu y bydd yr holl bren yn cael ei werthu.

Camau gweithredu 2027–2031

Byddwn yn:

  • Cam gweithredu 8 - parhau i ddefnyddio gwerthiannau coed sy’n sefyll fel y prif fath o gontract, gyda rhywfaint o gynaeafu uniongyrchol lle mae angen rheolaeth fwy llym.
  • Cam gweithredu 9 - sicrhau bod hierarchaeth cynnyrch pren yn cael ei defnyddio wrth werthuso, pecynnu a marchnata pren i'w werthu.

Mecanweithiau gwerthu

Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi cynnal pedwar prif ddigwyddiad eWerthu bob blwyddyn yn bennaf. Weithiau rydym hefyd wedi cynnal digwyddiadau eWerthu llai, dros dro i ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol neu newidiadau annisgwyl i gynlluniau cynaeafu.

Ar gyfer y cyfnod 2027 i 2031, rydym yn bwriadu cynyddu hyn i bum digwyddiad eWerthu wedi'u cynllunio bob blwyddyn. Bydd hyn yn:

  • rhoi mwy o sicrwydd i gwsmeriaid
  • gwella cyfleoedd ar gyfer gwneud cynnig cystadleuol
  • caniatáu mwy o hyblygrwydd mewn rhaglenni cynaeafu.

Bydd yr amserlen eWerthu a gyhoeddwyd yn nodi'r prif gynnig pren blynyddol. Gellir cefnogi hyn gan ddigwyddiadau eWerthu llai, dros dro os oes angen.

Amserlen eWerthu a phroses gwneud cynnig

Cyhoeddir yr amserlen eWerthu bob mis Hydref, gan roi o leiaf chwe mis o rybudd ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Bydd yr amserlen yn dangos y dyddiadau cau ar gyfer pob digwyddiad gwerthu.
Bydd pob digwyddiad eWerthu’n cynnwys cyfnod gwylio o saith wythnos. Mae hyn yn rhoi amser i ddarpar brynwyr ymweld â’r safleoedd coedwig a gwirio bod y pren o fewn y llennyrch (ardaloedd cynaeafu diffiniedig) yn diwallu eu hanghenion.

Yn ystod oes y cynllun hwn, byddwn yn treialu fformat ocsiwn ar-lein byw fel digwyddiad gwerthu dros dro. Bydd hyn yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i brynu pren y tu allan i'r pum prif ddigwyddiad eWerthu.

Dyfarnu gwerthiant pren

Fel arfer, bydd pren a werthir drwy dendr marchnad agored yn cael ei ddyfarnu i'r cynigydd uchaf, cyn belled â bod y cynnig yn bodloni'r pris wrth gefn, a'r cwsmer yn bodloni gofynion o ran perfformiad, cymhwysedd ac arian.

Gall y panel gwerthu argymell dyfarnu gwerthiant i gynigydd is os yw'r cynigydd uchaf yn cyflwyno risgiau sy'n gysylltiedig â chapasiti, cymhwysedd, neu sefydlogrwydd ariannol.

Mewn achosion prin, efallai y byddwn yn defnyddio gwerthiant uniongyrchol wedi'i negodi. Fel arfer, mae hyn yn digwydd pan fydd angen cwympo coed ar frys, neu pan fydd llain o bren wedi methu â gwerthu drwy'r farchnad agored.

Modelau contract ac arloesedd

Ar hyn o bryd mae contractau pren yn defnyddio model gwerthu yn ôl pwysau, sy'n darparu cydbwysedd da o symlrwydd, cyfleustra a diogelwch.

Rydym yn cydnabod y gallai contractau gwerthu yn ôl maint ddod â manteision i'r gweithlu, megis casglu pren yn gyflymach neu anfonebu a thalu'n gyflymach. Byddwn yn archwilio gwelliannau i systemau anfonebu a thalu gan ddefnyddio data o beiriannau cynaeafu a chludo.

Byddwn hefyd yn profi’r defnydd o fodelau contract cynaeafu integredig. Mae’r rhain yn caniatáu i gwsmeriaid ddarparu eu cyfleusterau cynaeafu eu hunain, a allai gwella diogelwch, ac o bosibl caniatáu inni fuddsoddi ein hadnoddau peirianyddol mewn mannau eraill.

Cefnogi'r defnydd o bren o Gymru

Rydym eisiau i gymaint o bren Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru â phosibl gael ei ddefnyddio yng Nghymru a'i droi'n gynhyrchion sy'n dod â'r budd mwyaf i Gymru.

Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo defnyddio pren o Gymru wrth godi adeiladau cyhoeddus a chartrefi mewn modd cynaliadwy. Byddwn yn cefnogi defnyddio ein pren ar gyfer y defnydd hwn drwy:

  • hyrwyddo defnyddio pren domestig wrth godi adeiladau cyhoeddus a chartrefi yng Nghymru
  • rhannu gwybodaeth am raglenni cyflenwi.
  • dod â phrynwyr, proseswyr a datblygwyr ynghyd
  • cefnogi astudiaethau dichonoldeb lle bo angen.

Lle bo'n briodol, byddwn yn parhau i archwilio modelau gwerthu a chontractau amgen i gefnogi arloesedd a newid.

Camau gweithredu 2027–2031

Byddwn yn:

  • Cam gweithredu 10 - cynnal pum digwyddiad eWerthu tendr agored bob blwyddyn, a threialu fformat arwerthiant ar-lein byw.
  • Cam gweithredu 11 - hyrwyddo'r defnydd o bren Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru wrth adeiladu a pharhau i archwilio dulliau newydd o werthu pren.

Ein gwydnwch

Mae newid hinsawdd yn cynyddu nifer y risgiau i'n coedwigoedd a’u difrifoldeb. Mae'r rhain yn cynnwys stormydd cryfach a mwy aml, cyfnodau hirach o sychder, risg uwch o danau gwyllt a lledaeniad plâu a chlefydau.

Gall y digwyddiadau hyn amharu ar gynlluniau cynaeafu blynyddol ac effeithio ar sefydlogrwydd marchnadoedd pren.

Sut y byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau mawr

Pan fydd digwyddiadau fel hyn yn digwydd, byddwn yn sicrhau bod ein hymateb yn ofalus ac yn gymesur. Ein nod fydd:

  • cadw cynhyrchiant pren yn agos at y lefelau a gynlluniwyd
  • cynnal cyflenwad cyson o bren i'r farchnad
  • osgoi rhyddhau gormod o bren ar unwaith.

Bydd unrhyw gwympo rhagofalus neu adweithiol yn cael ei werthu’n bennaf trwy dendro ar y farchnad agored o fewn y digwyddiadau eWerthu arfaethedig.

Mewn sefyllfaoedd brys, neu lle mae'n rhaid cwympo coed ar frys i amddiffyn Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, efallai y byddwn yn:

  • amrywio contractau presennol, neu’n
  • defnyddio gwerthu uniongyrchol lle mae hyn yn helpu i leihau risg i'r ystâd.

Dim ond lle bo angen, a lle bo'n briodol, y bydd y dulliau hyn yn cael eu defnyddio.

Rheoli meintiau pren mwy nag a gynlluniwyd

Os bydd digwyddiad yn golygu bod maint y pren sydd angen ei dynnu’n fwy na'r maint gwerthiant blynyddol a gynlluniwyd, byddwn yn dod â grŵp o gynrychiolwyr y diwydiant ynghyd.

Bydd y grŵp hwn yn:

  • cydweithio a chytuno ar ddull cydlynol o gynaeafu a gwerthu
  • ceisio adfer y cynhyrchion pren gwerth uchaf, a lleihau dirywiad pren gymaint â phosibl
  • helpu i osgoi unrhyw effeithiau negyddol ar farchnadoedd pren.

Camau gweithredu 2027-2031

Byddwn yn:

  • Cam gweithredu 12 - datblygu cynlluniau risg hyblyg ar gyfer digwyddiadau mawr, gan weithio gyda phrynwyr, contractwyr a phroseswyr pren.
  • Cam gweithredu 13 - cyhoeddi Datganiad Ailstocio er Gwydnwch ar gyfer y farchnad, gan gydweithio â Forest Research ar dreialon o rywogaethau conwydd cynhyrchiol ehangach.

Diogelwch 

Gweithio'n agos gyda'r sector coedwigaeth sy’n rhoi'r cyfle gorau inni sylwi ar batrymau a thueddiadau mewn digwyddiadau, gwella safonau diogelwch wrth gynaeafu a chludo pren a rhannu dysgu ar draws y diwydiant. 

Byddwn yn cefnogi'r diwydiant coedwigaeth ehangach drwy ystod o fentrau, gan gynnwys:

  • rhaglen hyfforddi a datblygu “uwchsgilio i godi datblygiad”
  • grwpiau cludo pren lleol
  • diwrnodau diogelwch, iechyd a datblygu.

Mae'r gweithgareddau hyn yn helpu i wella sgiliau, ymwybyddiaeth a ffyrdd diogel o weithio.

Cefnogi safonau diogelwch y diwydiant

Byddwn yn parhau i gefnogi Cytgord Diogelwch y Diwydiant Coedwigaeth (FISA) drwy gydweithio â phartneriaid ac mewn gweithgorau, cyfrannu at ganllawiau, a hyrwyddo ymgyrchoedd diogelwch. 
Mae'r dull partneriaeth hwn yn helpu i godi safonau diogelwch ar draws y sector cyfan.

Llesiant ac arferion gwaith teg

Rydym yn cydnabod y gall gwaith coedwigaeth gael effaith sylweddol ar lesiant corfforol a meddyliol pobl.

Drwy ein gweithredoedd ein hunain, byddwn yn hyrwyddo lles ac ymddygiadau cadarnhaol ac yn gosod amserlenni a disgwyliadau realistig.

Sicrhau gweithredwyr diogel a chyfrifol

Byddwn yn parhau i ddefnyddio proses gymhwyso iechyd a diogelwch ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, neu’n masnachu arno, a byddwn yn adolygu'r rhain yn rheolaidd. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gymwys ac wedi'i hyfforddi'n briodol ar gyfer amgylchedd gwaith diogel a'u bod yn bodloni safonau amgylcheddol. Bydd hefyd yn sicrhau bod cwsmeriaid a chontractwyr yn cydymffurfio â thelerau eu contractau.

Mae hyn yn helpu i amddiffyn gweithwyr, ein gwesteion, ac ystâd y coetir cyhoeddus.

Camau gweithredu 2027-2031

Byddwn yn:

  • Cam gweithredu 14 - gweithio mewn partneriaeth â’r sector coedwigaeth i gynnal a gwella safonau diogelwch, iechyd a llesiant.

Gweithio mewn partneriaeth 

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector prosesu coedwigaeth a phren i wneud yn siŵr bod ein cynlluniau'n cael eu deall yn glir. 

Byddwn yn gwneud hyn drwy waith agored ac ystyrlon gyda:

  • Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill
  • cwsmeriaid
  • grwpiau diwydiant
  • cymunedau lleol.

Mae hyn yn helpu pawb i gynllunio a gweithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol.

Ymgysylltu â chwsmeriaid a rhannu gwybodaeth

Mae ein rhaglen o adolygu Cynlluniau Adnoddau Coedwig yn rhoi cyfle i brynwyr pren, a rhanddeiliaid eraill, rannu barn a gwybodaeth, helpu i lunio sut mae Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn cael ei rheoli, a chefnogi rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd.

Bob blwyddyn, bydd Diwrnod i Gwsmeriaid ym mis Chwefror yn lansio ein rhaglen ymgysylltu â chwsmeriaid. Yn y digwyddiad hwn, byddwn yn:

  • rhannu datganiad blynyddol yn dangos faint o bren fydd ar gael gan Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru
  • cyhoeddi amserlen o werthiannau pren arfaethedig ar gyfer y 12 mis nesaf
  • darparu amser ar gyfer trafodaeth am gynlluniau ar gyfer y dyfodol a datblygiadau.

Cefnogi'r defnydd o bren o Gymru

Rydym yn barod i gyflenwi pren ardystiedig o Gymru i’r diwydiant prosesu ac ymateb i’r galw am bren o Gymru sy’n tyfu.

Byddwn yn gweithio gyda landlordiaid Tai ar y Cyd i sicrhau bod pren o Gymru ar gael ar gyfer adeiladu cartrefi cynaliadwy. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phroseswyr pren, cwmnïau adeiladu a datblygwyr.

Cefnogi partneriaid yn y diwydiant 

Byddwn yn cefnogi'r diwydiant cludo pren drwy fentrau trafnidiaeth cenedlaethol a lleol. Bydd hyn yn sicrhau cludiant diogel a chynaliadwy ac yn lleihau effeithiau ar gymunedau lleol. 

Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o anghenion pren melinau a phroseswyr coed bach, micro ac arbenigol yng Nghymru. Ein nod yw cefnogi’r busnesau hyn yn well drwy ddarparu pren, naill ai’n uniongyrchol, neu drwy gadwyni cyflenwi presennol.

Byddwn yn cynnig y bwndeli hyn fel gwerthiannau ar ochr y ffordd o fewn y rhaglen flynyddol. Byddwn yn cefnogi proseswyr o fewn y gymuned melinau llifio bach/micro/arbenigol i ddod yn gwsmeriaid a gwneud cynnig am bren.

Camau gweithredu 2027-2031

Byddwn yn:

  • Cam gweithredu 15 - parhau i weithio ac ymgysylltu’n weithredol â chwsmeriaid a rhanddeiliaid drwy ein rhaglen ymgysylltu â chwsmeriaid.

Adrodd ar ein perfformiad pren

Byddwn yn parhau i fonitro'n agos faint o bren sydd wedi'i werthu ymlaen llaw ond heb ei gynaeafu eto (a elwir yn y sefyllfa gwerthu rhag blaen).

Os bydd faint o bren a werthwyd rhag blaen yn uwch na chyfanswm y cyflenwad blynyddol a ddisgwylir gan Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, efallai y byddwn yn lleihau faint o bren a gynigir mewn gwerthiannau yn y dyfodol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y cyflenwad yn aros yn gytbwys ac yn realistig.

Bydd gwybodaeth am feintiau pren a werthwyd rhag blaen yn cael ei monitro a'i chyhoeddi bob tri mis.

Yn ogystal ag adrodd ar gyfanswm meintiau pren ar lefel genedlaethol, byddwn hefyd yn mesur perfformiad yn lleol.

Bydd faint o bren a gynigir i'r farchnad yn cael ei olrhain fel dangosydd perfformiad allweddol cenedlaethol blynyddol, yn ogystal ag ar gyfer pob un o'r chwe rhanbarth ar y tir. Bydd hyn yn seiliedig ar faint o bren a ddaeth i gael ei werthu yn llwyddiannus.

Yr hyn y byddwn yn ei adrodd arno

Byddwn yn parhau i gyhoeddi adroddiadau clir a rheolaidd ar werthu a chynaeafu pren ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Gwneir hyn yn flynyddol, bob pum mlynedd, ac ar adegau interim.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • ystadegau pren blynyddol Forest Research ar gyfer Prydain Fawr
  • ffigurau diwedd blwyddyn yn dangos faint o bren a gynigiwyd i'r farchnad
    (gwerthiannau coed sy’n sefyll ac ymyl ffordd, yn genedlaethol ac yn ôl rhanbarth)
  • perfformiad yn erbyn safonau diogelwch ac amgylcheddol yn ystod cynaeafu
  • cyflawniad targedau ailblannu
  • cyflawniad digwyddiadau gwerthu pren cyhoeddedig
  • lefelau ymrwymiadau pren a werthwyd rhag blaen
  • ffigurau diwedd blwyddyn ar gyfer incwm pren a meintiau a anfonwyd
  • targedau maint gwerthu pren blynyddol yn y dyfodol mewn amser i helpu cynllunio'r sector
  • crynodeb o ystadegau risg cwsmeriaid (wedi’u cofnodi’n ddienw)
  • cyfrifon ariannol coedwigaeth a reolir ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru drwy ein hadroddiad a chyfrifon blynyddol.

Camau gweithredu 2027-2031

Byddwn yn:

  • Cam gweithredu 16 - ymrwymo i adrodd yn glir, cywir ac amserol er mwyn cynnal hyder yn y farchnad bren a'r cyflenwad yn y dyfodol.

Casgliad

Mae'r cynllun gwerthu a marchnata pren hwn yn egluro sut y byddwn yn rheoli a gwerthu pren o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru rhwng 2027 a 2031.

Mae'n cefnogi ein Cynllun Corfforaethol hyd 2030 a’n diben o natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd. Drwy’r cynllun, rydym wedi manylu ar sut y gall cynhyrchu, gwerthu a marchnata pren helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant fel ein bod yn gweld natur yn adfer, cymunedau’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn well, a llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf. Drwy fabwysiadu dull hirdymor, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ein nod yw rhoi hyder i gwsmeriaid, contractwyr a chymunedau, wrth amddiffyn yr ystâd goetir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi darpariaeth sy'n canolbwyntio ar le ledled Cymru. Mae'n gweithio ochr yn ochr â Chynlluniau Adnoddau Coedwig a Datganiadau Ardal i sicrhau bod cynaeafu pren yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn fuddiol i gymunedau lleol. 

Fel rheolwyr ystâd goetir gyhoeddus, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag eraill a defnyddio gwerthiannau pren i gefnogi manteision ehangach yng Nghymru.

Drwy ofalu am ein coetiroedd a gweithio gydag eraill, mae'r cynllun hwn yn helpu Ystâd Coetiroedd Llywodraeth Cymru i sicrhau manteision i bobl a natur, nawr ac yn y dyfodol. 

Diweddarwyd ddiwethaf