Beicio
Darganfod ble gallwch chi feicio yng Nghymru a...
Beth am fwynhau awyr agored Cymru drwy bysgota? Ond ble i bysgota a pha offer i’w defnyddio yw’r cwestiwn mawr. Fe gewch chi’r holl wybodaeth angenrheidiol yma
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Cofiwch – mae’n rhaid i bawb dros 13 oed gael trwydded i bysgota’n gyfreithlon yng Nghymru.
Mae is-ddeddfau cenedlaethol a lleol ar waith i ddiogelu dyfodol ein pysgodfeydd. Maen nhw’n berthnasol i’n holl ddyfroedd, p’un ai ydyn nhw’n eiddo i glybiau pysgota â gwialen, awdurdodau lleol neu unigolion preifat.
Is-ddeddfau genweirio (rheolau pysgota)
Mae Pysgota yng Nghymru yn cynnwys popeth y mae angen ichi ei wybod am enweirio yng Nghymru.
Mae’r wefan, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Enweirio, ac a ariennir gan Croeso Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn darparu adnodd cynhwysfawr ar enweirio yng Nghymru ar gyfer ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd.
Gan gydweithio â chlybiau genweirio, ysgrifenwyr, dylanwadwyr a genweirwyr o Gymru, mae’n cynnwys gwybodaeth allweddol ynglŷn â ble, sut a phryd i bysgota yng Nghymru, ar gyfer pob disgyblaeth enweirio.
Cofiwch: os ydych yn ymweld â Chymru, dilynwch siarter ymwelwyr COVID-19 Llywodraeth Cymru.
Mae Dal a Rhyddhau yn helpu i gynnal y stoc bysgod.
Mae’r stoc eogiaid a siwin, yn gyffredinol, wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, mae pysgotwyr wedi bod yn mynd ati o’u gwirfodd i ryddhau mwy a mwy o’r pysgod maen nhw’n eu dal. Erbyn hyn, mae afonydd Taf, Elái a Gwy yn ardaloedd Dal a Rhyddhau 100% ar gyfer eogiaid a siwin drwy’r tymor. Hefyd, rhaid i unrhyw eog sy’n cael ei ddal yng Nghymru cyn 16 Mehefin gael ei roi yn ôl yn yr afon.
Mae astudiaethau’n dangos y bydd y rhan fwyaf o bysgod yn goroesi ar ôl cael eu rhyddhau, a gall y cyfraddau goroesi fod cyn uched â 100% os yw’r camau a ganlyn yn cael eu dilyn:
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn gallu cael effaith niweidiol ar blanhigion, anifeiliaid ac ecosystemau gwledydd Prydain. Maen nhw’n gwneud hyn drwy ledaenu afiechydon, cystadlu am gynefinoedd a bwyd, yn ogystal â dinistrio’r rhywogaethau cynhenid yn uniongyrchol. Gall pysgotwyr ledaenu rhywogaethau goresgynnol o le i le, heb yn wybod, mewn offer gwlyb fel rhwydi ac esgidiau pysgota.
Da chi, helpwch i atal hyn drwy gofio’r tri cham syml: Edrych, Golchi a Sychu.
Fel pysgotwr, rydych mewn sefyllfa unigryw i helpu i ddiweddaru cofnodion yn ymwneud â bywyd gwyllt; nid yn unig y pysgod yr ydych yn eu dal, ond yr holl rywogaethau a welwch pan fyddwch allan yn pysgota.
Mae’r ap iRecord yn ffordd syml o gofnodi bywyd gwyllt a helpu i gyfrannu at gadwraeth natur, cynllunio, ymchwil ac addysg.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am gofnodi biolegol ar:
Atlas RhBC Cymru neu Ganolfan Cofnodion Biolegol y DU
Os oes gennych chi gyfrif Twitter, gallwch ei ddefnyddio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bysgota, i ofyn cwestiynau i arbenigwyr ac i rannu gwybodaeth. Dyma rai o’r goreuon sy’n trydar am bysgota yng Nghymru ar hyn o bryd:
@NatResWales – Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
@FishAround – Cymuned bysgota ar-lein sy’n helpu pysgotwyr brwd i ddod o hyd i’r llefydd pysgota gorau, i rannu gwybodaeth ac i gadw mewn cysylltiad.