Sut rydyn ni’n darogan llifogydd, yn rhoi rhybudd ac yn asesu’r risg

Mae gennym orsafoedd monitro ledled Cymru sy'n mesur lefelau afonydd. Caiff y data hwn ei ddadansoddi ynghyd â rhagolygon y tywydd, ymchwydd stormydd a thonnau gan y Swyddfa Dywydd i'n helpu i ddarogan pryd y gallai llifogydd ddigwydd.

Rhybuddion llifogydd a negeseuon ‘Llifogydd: byddwch yn barod’

Rydym yn defnyddio ein rhagolygon llifogydd ochr yn ochr â gwybodaeth leol, i wneud penderfyniadau ynglŷn â chyhoeddi rhybuddion i’r rhai sydd mewn perygl.

Neges ‘Llifogydd: byddwch yn barod’.

Rydym yn cyhoeddi Negeseuon ‘Llifogydd: byddwch yn barod’ pan fo’r perygl o lifogydd yn is ond yn bosibl.

Disgwylir llifogydd ar dir isel, isffyrdd, meysydd parcio, tir hamdden a ffermdir. Efallai y bydd ewyn yn tasgu neu donnau yn llifo dros amddiffynfeydd arfordirol.

Beth i’w wneud:

  • paratowch becyn llifogydd o eitemau hanfodol
  • gwiriwch rybuddion llifogydd
  • dylai ffermwyr ystyried symud da byw ac offer o’r ardaloedd sy’n debygol o ddioddef llifogydd
  • dylech fonitro lefelau afonydd lleol
  • gwiriwch y rhagolygon llifogydd 5 diwrnod

Mae negeseuon ‘Llifogydd : byddwch yn barod’ hefyd yn cynnwys dolen i  wirio lefelau diweddaraf afonydd, glawiad a data’r môr  i weld lefelau dŵr wrth iddynt newid.

Rhybudd Llifogydd. Angen gweithredu ar unwaith.

Rydym yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd pan ddisgwylir llifogydd a phan fyddwn yn credu y gallai llifogydd effeithio ar eiddo. Gallem hefyd ddisgwyl:

  • fod hyn yn effeithio ar deithio ar ffyrdd a rheilffyrdd
  • tonnau sylweddol ac ewyn yn tasgu ar yr arfordir
  • llifogydd helaeth ar orlifdir
  • llifogydd mewn parciau carafanau neu wersylloedd

Beth i’w wneud:

  • symudwch eich teulu, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i le diogel
  • diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr os yw’n ddiogel gwneud hynny
  • gosodwch offer amddiffyn rhag llifogydd

Llifogydd mewn cartrefi a busnesau,

Rhybudd Llifogydd Difrifol: Perygl i fywyd.

Rydym yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd Difrifol pan fo perygl sylweddol i fywyd neu os bydd y sefyllfa yn aflonyddu’n sylweddol ar y gymuned.

Dyma’r lefel uchaf o rybuddion a chânt eu cyhoeddi pan ddisgwylir llifddwr dwfn a chyflym neu os yw hyn yn digwydd yn barod. 

Pan fo Rhybudd Llifogydd Difrifol gallem ddisgwyl:

  • dŵr dwfn sy’n llifo’n gyflym
  • malurion yn y dŵr sy’n ychwanegu at y perygl
  • adeiladau a strwythurau eraill yn cael eu difrodi neu’n cael eu dymchwel
  • llifddwr yn ynysu cymunedau
  • difrod difrifol i seilwaith critigol
  • cymunedau yn cael eu gwacáu

Beth i’w wneud:

  • arhoswch mewn man diogel lle ceir ffordd o ddianc
  • byddwch yn barod i adael eich cartref
  • cydweithredwch â’r gwasanaethau brys
  • ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol

Yr hyn na allwn ei ddarogan

Mae ein gwasanaeth negeseuon ‘Llifogydd : byddwch yn barod’ yn cynnwys pob dalgylch yng Nghymru. Mae ein gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd yn cynnwys tua 90% o'r eiddo sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd o brif afonydd neu'r môr yng Nghymru, ac rydym yn gweithio'n barhaus i ymestyn y gwasanaeth hwn.

Rhoi'r amddiffynfeydd, y gorsafoedd pwmpio ac asedau eraill ar waith

Mae ein timoedd gweithredol allan yn yr ardal cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd i wneud yn siŵr bod ein hamddiffynfeydd, ein gorsafoedd pwmpio, a'n hasedau eraill (er enghraifft sgriniau brigau) yn gweithredu fel maen nhw i fod, er mwyn diogelu cymunedau rhag llifogydd. Mewn rhai llefydd, mae'r staff yn rhoi amddiffynfeydd dros dro ar waith.  Maen nhw'n gallu tynnu'r rheini eto ar ôl y llifogydd.

Rhybuddio a rhoi gwybodaeth i ymatebwyr brys

Drwy weithio gyda’r Swyddfa Dywydd yng Nghaerwysg, mewn Canolfan Darogan Llifogydd ar y cyd, rydyn ni'n llunio asesiad pum niwrnod o'r perygl llifogydd o bob ffynhonnell (afonydd, y môr, dŵr wyneb, a dŵr daear) ar sail sirol. 

Mae'r asesiad yn cael ei rannu bob diwrnod gydag awdurdodau lleol ac ymatebwyr brys, gan eu helpu nhw i weithredu'n gynt ac yn fwy effeithiol pan fydd risg uwch o lifogydd. 

Asesu 'perygl llifogydd'

Mae 'perygl llifogydd' yn fwy na'r perygl y bydd llifogydd yn digwydd; mae hefyd yn ystyried y difrod y gall y llifogydd ei achosi.

Pan fyddwn ni'n siarad am 'berygl llifogydd', rydyn ni'n siarad am gyfuniad o ddau beth:

  • Y tebygolrwydd y bydd llifogydd yn digwydd. Mae hyn yn cael ei fesur yn nhermau'r tebygolrwydd blynyddol. Er enghraifft, 'Yn y lleoliad hwn, mae 1 siawns mewn 100 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn'
  • Yr effaith, neu'r canlyniadau, os bydd llifogydd yn digwydd
Diweddarwyd ddiwethaf