Mae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) wedi datblygu Canllawiau ar gyfer Ailgyflwyno Rhywogaethau a Thrawsleoliadau Eraill er Cadwraeth Canllawiau’r IUCN ar gyfer Ailgyflwyno Rhywogaethau a Thrawsleoliadau Eraill er Cadwraeth, mae'r rhain yn darparu canllaw a gydnabyddir yn fyd-eang ar ailgyflwyno rhywogaethau a'u symud o un ardal i'r llall.

Mae prosiectau ailgyflwyno rhywogaethau yn aml yn gymhleth. Rydym wedi datblygu Cod ar gyfer Trawsleoliadau er Cadwraeth yng Nghymru i ddarparu fframwaith clir ar gyfer datblygu ac ystyried cynigion.

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r Cod ar gyfer Cadwraeth a Thrawsleoliadau a Chanllawiau'r IUCN wrth ddatblygu eich cynnig.

Byddwn yn eu defnyddio pan fydd gennym rôl gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'ch cynnig.

Mae ein rolau'n cynnwys bod yn gorff rheoleiddio sy'n penderfynu a all y camau gweithredu sy'n gysylltiedig â'r trawsleoliadau er cadwraeth arfaethedig ar anifail neu blanhigyn ddigwydd. Efallai y bydd gennym rôl hefyd fel rheolwr tir lle byddai cynigion yn digwydd a gallwn ddarparu cyllid neu fathau eraill o gefnogaeth.

Rydym wedi llunio'r Cod ar gyfer Cadwraeth a Thrawsleoliadau gan gydnabod y bydd rhai cynigion yn risg isel tra bydd gan eraill y potensial i gael effaith negyddol ar yr amgylchedd neu i wrthdaro â gweithgareddau dynol eraill.

Gyda'i gilydd, bydd y Cod ar gyfer Cadwraeth a Thrawsleoliadau a chanllawiau'r IUCN yn eich helpu i:

  • benderfynu a yw trawsleoliad yn briodol
  • cynyddu'r siawns o lwyddiant
  • lleihau'r tebygolrwydd o broblemau a gwrthdaro

Bydd strategaeth gadwraeth hefyd yn eich helpu i benderfynu a yw trawsleoli yn ateb priodol. Dylai'r strategaeth fod wedi'i datblygu'n ddigonol i ganiatáu ichi nodi a gwerthuso opsiynau posibl a gwneud penderfyniad gwybodus.

Dysgwch fwy am y broses ar gyfer cynnig trawsleoliad cadwraeth neu cysylltwch â ni am gyngor yn: trawsleoliadaucadwraeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Proses ar gyfer cynnig ymgymryd â thrawsleoliad er cadwraeth

Cam 1

Penderfynwch a yw eich prosiect yn Drawsleoliad er Cadwraeth

Darllenwch ganllawiau'r IUCN a'r Cod trawsleoliad er cadwraeth ar gyfer Cymru.

Cam 2

Llenwch ffurflen gwmpasu prosiect  i asesu'r risgiau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r trawsleoliad ac i brofi hyfywedd y cynnig.

Mae'r ffurflen yn cynorthwyo arweinwyr y prosiect i adolygu'r risgiau a'r manteision a geir yn sgil y trawsleoliad arfaethedig mewn perthynas â materion cadwraeth, economaidd-gymdeithasol, biolegol a deddfwriaethol.

Mae'n cydnabod y bydd rhai trawsleoliadau er cadwraeth yn risg isel ac fe'i cynlluniwyd fel ffurflen sgrinio. Lle bo'n berthnasol, bydd y prosiectau hyn yn derbyn adborth/cyngor ac arweiniad ar y cam hwn a byddant yn gallu bwrw ymlaen, ar yr amod bod pob caniatâd arall ar waith.

Lle mae cynnig eich prosiect wedi'i nodi fel prosiect risg ganolig neu uchel, bydd angen i chi lenwi ffurflen cynnig prosiect. 

Cam 3

A oes angen trwydded rhywogaethau ar gyfer y cynnig?

Oes: llenwch y ffurflen gynnig prosiect a'i chyflwyno ynghyd â'r cais

A yw'r cynnig yn gofyn am ganiatâd arall gan CNC megis caniatâd SoDdGA neu ganiatâd i ddefnyddio tir CNC? 

Os nad oes angen unrhyw ganiatâd gan CNC ar gyfer eich prosiect, gallwch gyflwyno’ch ffurflen gynnig prosiect i CNC i'w hadolygu.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf