Gwneud cais am drwydded i symud a chadw rhywogaeth oresgynnol estron

Trwydded i symud a chadw rhywogaeth oresgynnol estron

Er mwyn symud a chadw anifail sydd wedi’i restru fel rhywogaeth sy’n destun pryder arbennig dan Reoliadau’r UE rhaid ichi wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded, oni bai fod yr anifail yn anifail anwes (sef anifail dan berchnogaeth cyn iddo gael ei restru fel rhywogaeth sy’n destun pryder arbennig.)

Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch anifeiliaid sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch planhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Os cawsoch yr anifail ar ôl iddo gael ei restru rhaid ichi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael arweiniad.

Lawrlwythwch y ffurflen gais i gael trwydded i symud a chadw rhywogaeth sy’n destun pryder arbennig

Lawrlwythwch dempled ar gyfer archwiliad milfeddygol o safle 

Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull

Anifeiliaid mewn cyfleusterau, gan gynnwys canolfannau lles

Bydd angen i gyfleusterau sy'n cadw ac yn symud anifeiliaid o bryder arbennig wneud cais am drwydded.

Bydd angen i filfeddyg archwilio safleoedd ymgeiswyr a bydd rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno'r adroddiad arolygu ynghyd â’i gais am drwydded.

Yn achos yr anifeiliaid:

  • rhaid gofalu amdanynt a bodloni eu hanghenion lles
  • rhaid peidio â chaniatáu iddynt fridio a
  • rhaid eu cadw’n ddiogel.
  • rhaid eu microsglodynnu neu eu marcio gan ddefnyddio dulliau nad ydynt yn achosi poen, gofid neu ddioddefaint diangen.

Rhaid i ddatganiad dull manwl fod ynghlwm â’r cais.

Ceir canllawiau ar ddeddfwriaeth anifeiliaid sy’n destun pryder arbennig ar wefan Gov.uk.

Lawrlwythwch y ffurflen gais i gael trwydded i symud a chadw rhywogaeth sy’n destun pryder arbennig

Lawrlwythwch dempled ar gyfer archwiliad milfeddygol o safle 

Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer rhywogaethau rhestredig, cysylltwch â ni ar trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000.

Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost neu i:

Trwyddedu Rhywogaethau

Cyfoeth Naturiol Cymru

Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Diweddarwyd ddiwethaf