Annual Regulation Report 2020-21

Crynodeb

  • Parhaodd pandemig COVID-19 i effeithio ar fusnesau, pobl, a’r ffordd yr oeddem yn gweithio yn ystod 2021. Mewn ymateb, gwnaethom addasu ein dulliau rheoleiddio er mwyn parhau i warchod a gwella'r amgylchedd yn ystod y cyfnod heriol hwnnw.
  • Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn y digwyddiadau amgylcheddol sy’n cael eu hadrodd i ni. Yn ystod 2021, cawsom 8,960 o adroddiadau am ddigwyddiadau amgylcheddol, sydd 13% yn fwy nag a gawsom yn ystod 2020, a 33% yn fwy na 2019.
  • Rydym yn dilyn dull seiliedig ar risg i flaenoriaethu a thargedu’r gweithgareddau mwyaf niweidiol neu er mwyn helpu i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod o hyd a bod cymunedau’n cael eu cadw’n ddiogel. Yn ystod 2021, gwnaethom fynychu 2,407 o ddigwyddiadau.
  • Yn ystod 2021, roedd 10,942 o drwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a 41,197 o esemptiadau gwastraff mewn grym ledled Cymru. Yn ogystal, roedd 12,188 o gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff gweithredol wedi'u cofrestru gyda ni.
  • Gwnaethom dargedu 506 o asesiadau cydymffurfedd ar gyfer 310 o safleoedd gwastraff trwyddedig, a 590 o asesiadau ar gyfer 172 o drwyddedau gosodiadau, gan helpu i sicrhau bod gweithgareddau'n parhau i gydymffurfio â'r trwyddedau yr ydym yn eu rhoi.
  • Yn 2021, gwnaethom greu 1,002 o achosion gorfodi newydd, sef cynnydd o 343 o gymharu â 2020. Roedd yr achosion hyn yn cynnwys 1,373 o gyhuddiadau yn erbyn 956 o droseddwyr, a oedd yn cynnwys 355 o gwmnïau a 601 o unigolion.

Cyflwyniad

Parhaodd pandemig y coronafeirws i effeithio ar ein gweithrediadau rheoleiddio drwy gydol 2021, yn ogystal â’r rheini yr ydym yn eu rheoleiddio, y cyhoedd a chymunedau lleol. Ychwanegodd y pandemig at yr heriau arferol i'r amgylchedd a'n hadnoddau naturiol, y mae ein dyletswyddau rheoleiddio yno i'w diogelu a'u gwella. Drwy gydol y cyfnod anodd hwn, mae ein huchelgeisiau wedi aros yr un peth, sef parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio, sy’n eang a chymhleth, wrth gydbwyso blaenoriaethau newydd ac annog dulliau newydd neu arloesol. Rydym am i’n dulliau rheoleiddio gefnogi busnesau rheoleiddiedig, wrth ymgyrraedd at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Yn unol ag egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, rydym yn mabwysiadu ystod eang o reoliadau sy'n cwmpasu llawer o fathau o ymyriadau. Mae'r rhain yn cynnwys rheoleiddio ffurfiol ac anffurfiol megis mentrau gwirfoddol, mecanweithiau economaidd a mecanweithiau sy'n seiliedig ar y farchnad, a dulliau sy'n seiliedig ar wybodaeth a chyfathrebu. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ni fabwysiadu dull o weithio lle rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi'r amgylchedd naturiol yn well, a hynny mewn ffordd gydgysylltiedig a rhagweithiol.

Rydym yn rhannu’r adroddiad hwn i ddangos sut mae ein gwaith rheoleiddio (cyngor, canllawiau, trwyddedu, cydymffurfio a gorfodi) yn cyfrannu at y nodau hyn ac i arddangos ein perfformiad rheoleiddio i fusnesau, y cyhoedd ac i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rydym yn addasu ein dull rheoleiddio yn barhaus ledled Cymru er mwyn hyrwyddo ymddygiad cyfrifol a, lle bo angen, mynd i’r afael â gweithgareddau anghyfreithlon. Mae rheoleiddio'n ymwneud â'r gyfraith, ond mae hefyd yn cynnwys ymyriadau ehangach, gan gynnwys offerynnau economaidd a gwirfoddol, neu rannu cyngor ac arweiniad.

Rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud. Er gwaethaf y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, nid yw ansawdd ein hamgylchedd fel yr ydym ni, ein partneriaid, na’r gymdeithas yn dymuno iddo fod. Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau cynyddol yn sgil y newid yn yr hinsawdd, dwysedd y boblogaeth a disgwyliadau’r cyhoedd. Mae diffyg cydymffurfio â rheoliadau, troseddau gwastraff a digwyddiadau llygredd yn niweidio ein hamgylchedd, a gallant effeithio ar gymunedau a thanseilio busnesau cyfreithlon.

Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut y perfformiodd y rheini yr ydym yn eu rheoleiddio yn 2021, gan gwmpasu cydymffurfedd, digwyddiadau llygredd, trosedd, a gorfodi. Ein nod yw dangos sut a pham yr ydym yn rheoleiddio ac yn gorfodi, gan dynnu sylw at yr heriau sy’n ein hwynebu o gofio bod rheoleiddio yn sail i’n pwrpas i warchod, cynnal a gwella ein hadnoddau naturiol fel bod pobl yn gallu byw bywydau gwell ac iachach a bod ein bywyd gwyllt yn gallu ffynnu.

Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2021. Daw'r data o'n systemau digwyddiadau, cydymffurfedd, trwyddedu a gorfodi. Nid yw’n hawdd cymharu’r data ar gyfer 2021 â blynyddoedd blaenorol oherwydd effaith y pandemig ar fusnesau a’n gweithgareddau rheoleiddio.

Ymateb i ddigwyddiadau

Yn ystod 2021, cawsom gyfanswm o 8,960 o ddigwyddiadau categori Uchel ac Isel, sef dros 1,000 yn fwy nag a gawsom yn 2020. Er bod cyfyngiadau pandemig COVID-19 yn parhau i effeithio ar ein gallu i fynychu digwyddiadau yn 2021, gwnaethom fynychu 27% o’r digwyddiadau hyn o hyd, o gymharu â’r 21% y gwnaethom eu mynychu yn 2020.

  • Roedd tua 3,744 (42%) o'r digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ymwneud â dŵr. Roedd y rhain yn cynnwys llygredd dŵr, cronfeydd dŵr, gweithgareddau tynnu dŵr a rhwystr neu newid i gwrs dŵr.
  • Roedd 3,130 (35%) o'r digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ymwneud â gwastraff. Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiadau tipio anghyfreithlon o fewn cylch gwaith CNC, llosgi gwastraff, safleoedd gwastraff anghyfreithlon a throseddau gan gludwyr gwastraff.
  • Roedd 321 (4%) o'r digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ymwneud â physgota anghyfreithlon, gweithgareddau casglu cocos anghyfreithlon a lladd pysgod.
  • Roedd 543 (6%) yn ymwneud â choedwigaeth.
  • Roedd 215 (2%) yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd.
  • Arweiniodd 771 o'r digwyddiadau y gwnaethom eu mynychu at argymell camau gorfodi.
  • Yn 2021, gwnaethom ymateb i 15 o ddigwyddiadau a ddosbarthwyd yn rhai mawr, a oedd yn ymwneud â llygredd dŵr, rhwydo anghyfreithlon, llosgi teiars gwastraff a digwyddiadau traffig ffyrdd difrifol.

Rydym wedi parhau i ddatblygu'r defnydd o dechnolegau digidol, a chafodd ein gwefan Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol 9,681 o ymweliadau yn ystod y flwyddyn.

Astudiaeth achos: digwyddiad llygredd afon

Ym mis Mehefin 2020, cafwyd digwyddiad o lygredd pan ryddhawyd 75,000 o alwyni o slyri i mewn i afon Peris, sy'n llifo trwy bentref Llanon. Digwyddodd hyn o ganlyniad i fethiant trychinebus storfa slyri 40 oed ar Fferm Glanperis yng Ngheredigion. Nid oedd unrhyw waith cynnal a chadw erioed wedi cael ei wneud ar y storfa slyri, ac nid oedd unrhyw asesiad ffurfiol ohoni erioed wedi’i chynnal, gan olygu bod y digwyddiad hwn yn rhagweladwy. Cafodd y digwyddiad effaith drychinebus ar fywyd dyfrol yn afon Peris. Dywedodd ein swyddogion bod lefel y llygredd yn aml yn ei gwneud yn amhosibl asesu nifer y pysgod marw oherwydd ei fod yn gwneud y dŵr yn rhy drwchus i weld trwyddo.

Ar 14 Rhagfyr 2021, yn Llys Ynadon Aberystwyth, plediodd Dewi a Barry Jones o Fferm Glanperis yn euog i gyhuddiadau o lygredd dŵr o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.

Yn dilyn canllawiau dedfrydu, rhoddodd Llys Ynadon Aberystwyth ddirwy o £1,332 i Barry Jones a’i orchymyn i dalu gordal dioddefwr o £133. Cafodd Dewi Jones ddirwy gyfunol o £1,136 a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £113. Gorchmynnwyd y ddau ddiffynnydd i dalu costau llawn CNC o ddwyn yr erlyniad gerbron y llys, sef £12,467.90, i'w thalu rhyngddynt yn gyfartal.

Astudiaeth achos: ymddygiad gwrthgymdeithasol

Wrth i reolau'r cyfyngiadau symud yng Nghymru gael eu llacio’n raddol, yn enwedig yn ystod gwyliau banc, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol 2021, gwelsom gynnydd yn nifer yr ymwelwyr â rhai o gyrchfannau awyr agored mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru, gan gynnwys gwarchodfeydd natur, coedwigoedd, llwybrau a Pharciau Cenedlaethol, yn enwedig yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch a meysydd parcio Coed y Brenin a Pharc Coedwig Gwydir.

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol niweidio ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt, y sector twristiaeth, a’n cymunedau lleol. Roedd y cynnydd yn nifer y faniau gwersylla a cherbydau eraill a oedd wedi’u parcio ar ymylon neu mewn cilfannau hefyd wedi achosi problemau mynediad a oedd â’r potensial i fod yn sylweddol i’r gwasanaethau brys, gan roi bywydau mewn perygl. Roedd rhai o’r enghreifftiau o wersylla anghyfreithlon, parcio anghyfreithlon a thaflu sbwriel y buom yn delio â nhw yn rhyfeddol, yn enwedig o gymharu â blwyddyn arferol.

O ganlyniad, bu'n rhaid i ni gynyddu presenoldeb wardeiniaid a phatrolau heddlu. Gwnaethom hefyd ymuno ag asiantaethau partner i fonitro safleoedd problemus hysbys. Mae CNC yn falch o warchod, rheoli a gwella mannau arbennig ledled Cymru fel y gall pawb eu mwynhau. Yn anffodus, wynebodd ein staff lefelau annerbyniol o gamdriniaeth wrth ddelio ag ymwelwyr a oedd yn ymddwyn mewn modd anghyfrifol neu wrthgymdeithasol, a bu rhaid i ni adrodd achosion i'r Heddlu o bryd i'w gilydd.

Gweithgareddau rheoleiddiedig

Trwyddedau a ddyrannwyd, a wrthodwyd, ac a dynnwyd yn ôl

Gwnaethom brosesu tua 1,292 o geisiadau am drwydded yn 2021. Mae'r rhain yn cynnwys trwyddedau, trwyddedau rheolau safonol a thrwyddedau pwrpasol. Mae'r rhain yn amrywio o ran eu cymhlethdod ac yn cynnwys pob math o weithgareddau – o gwsmer yn gwneud cofrestriad ar-lein syml, i aelodau o'n staff yn cynnal asesiad cynhwysfawr o effaith amgylcheddol bosibl yn sgil gweithrediad megis proses ddiwydiannol fawr. Roedd y mwyafrif o’r rhain (tua 73,500) yn eithriadau a gofrestrwyd ar-lein drwy ein gwasanaethau digidol.

Rydym yn gyfrifol am wirio cydymffurfedd, darparu cyngor ac arweiniad, ac ymateb yn rhagweithiol, gan gynnwys cyflwyno hysbysiadau, rhoi sancsiynau sifil neu gymryd camau gorfodi. Mae'r gweithgareddau hyn yn galluogi busnesau i gyflawni eu gweithrediadau, tra bod gwaith rheoleiddio cadarn yn sicrhau chwarae teg i fusnesau cyfreithlon drwy eu hatal rhag cael eu tandorri gan weithredwyr anghyfrifol neu anghyfreithlon. Rydym yn disgwyl ac yn annog busnesau i gymryd cyfrifoldeb dros eu gweithrediadau.

Astudiaeth achos: llygredd afon

Sefydlwyd Tower Regeneration Limited fel partneriaeth menter ar y cyd rhwng Tower Colliery Ltd a Hargreaves Services plc i oruchwylio’r gwaith o adfer ac adennill hen bwll glo dwfn ger Hirwaun.

Yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd rhwng 6 Chwefror 2019 a 15 Chwefror 2021, ymatebodd swyddogion CNC i sawl adroddiad yn nodi bod afon Cynon a’i isafonydd wedi’u hafliwio, ac roedd afliwiad i’w weld mor bell i lawr yr afon ag afon Taf yn Radur. Cynhaliodd swyddogion CNC ymchwiliad i’r pwynt gollwng trwyddedig ar safle Tower Colliery, cymerwyd samplau dŵr a chanfu fod swm y llaid yn y dŵr uwchlaw’r lefel a ganiateir ar 13 achlysur, ac ar yr uchafbwynt roedd y swm bron 100 gwaith uwchlaw’r terfyn.

Cyflwynodd CNC hysbysiadau statudol i Tower Regeneration Limited i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r seilwaith dŵr wyneb er mwyn rheoli’r dŵr ffo o’r safle. Fodd bynnag, cafodd y mesurau eu gweithredu’n araf a pharhaodd yr achosion o lygredd.

Cyhuddwyd y cwmni o droseddau'n ymwneud â thorri amodau trwydded amgylcheddol y cwmni drwy ollwng dŵr wyneb llawn llaid i un o isafonydd afon Cynon, a hynny uwchlaw'r lefelau o solidau crog a ganiateir. Ar 21 Gorffennaf 2021, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd y cwmni’n euog i 13 o gyhuddiadau a wnaed dros gyfnod o ddwy flynedd a chafodd ddirwy o £29,990, ac yn ogystal gorchymynnwyd iddo dalu costau CNC, sef £26,791.

Ym mis Mai 2021, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, cafwyd Tower Regeneration Limited yn euog hefyd o droseddau’n ymwneud â gollyngiadau nas trwyddedwyd o safle Tower Colliery i un o isafonydd afon Cynon. Cafodd y cwmni ddirwy o £8,000 a gorchymyn i dalu costau CNC, sef £12,849, a gordal dioddefwr o £170.

Trwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Ar ddiwedd 2021, roedd cyfanswm o 10,942 o drwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a roddwyd gennym ni mewn grym yng Nghymru.

Trefn trwyddedau

Math o drwydded

Cyfanswm

Trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Gweithgarwch sy’n uniongyrchol gysylltiedig

13

Trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Defnyddio

223

Trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Gosodiadau

349

Trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Dip defaid

999

Trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Gwastraff mwyngloddio

6

Trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Peiriannau symudol

63

Trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Gwastraff

669

Trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Gweithgaredd rhyddhau dŵr

6,546

Trwydded adnoddau dŵr

Trwydded tynnu dŵr lawn

1,233

Trwydded adnoddau dŵr

Cronni

727

Trwydded adnoddau dŵr

Awdurdodiad newydd ar gyfer trwydded tynnu dŵr lawn

52

Trwydded adnoddau dŵr

Awdurdodiad newydd ar gyfer trosglwyddo trwydded tynnu dŵr

14

Trwydded adnoddau dŵr

Trosglwyddo trwydded tynnu dŵr

48

 

Coedwigaeth

Deddf / Rheoliadau

Derbyniwyd

Dyrannwyd

Yn yr arfaeth

Gwrthodwyd

Tynnwyd yn ôl

Deddf Coedwigaeth 1967

 

514

408

73

15

18

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999

103

90

5

0

8

Cyfanswm

617

498

78

15

26

 

Trwyddedau rhywogaethau

Rydym yn penderfynu ar geisiadau ar gyfer ystod eang o weithgareddau a rhywogaethau o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Rheoliad Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Moch Daear 1992, Deddf Ceirw 1991, y Ddeddf Morloi 1970, a Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019

Rydym yn penderfynu ar geisiadau yn unol â pholisïau perthnasol, canllawiau technegol a chyfarwyddiadau gweithredol (mewnol). Rydym yn asesu ac yn awdurdodi ceisiadau am drwyddedau yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol, ac yn aml yn ymgynghori ag arbenigwyr gweithredol i gael cyngor ecolegol, cyn drafftio a chyflwyno trwyddedau.

Rydym yn ystyried nifer o ffactorau wrth asesu ceisiadau, gan gynnwys profiad yr ymgeisydd a'r ecolegydd, y diben, dewisiadau amgen boddhaol, p'un a yw'r cais yn glynu wrth resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig, a'r effaith ar y rhywogaeth a rhywogaethau cadwraeth ffafriol.

Deddf / Rheoliadau

Derbyniwyd

 Newydd/Adnewyddwyd

Diwygiwyd

Diystyrwyd

Gwrthodwyd

Tynnwyd yn ôl

Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017

 

847

 

482

220

81

5

59

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

1,270

1,002

140

37

22

69

Deddf Gwarchod Moch Daear 1992

23

16

5

1

0

1

Deddf Ceirw 1991

0

0

0

0

0

0

Deddf Cadwraeth Morloi 1970

0

0

0

0

0

0

Yn 2021, gwnaethom drosglwyddo 21 o ddigwyddiadau i’r heddlu ymchwilio iddynt lle na chydymffurfiwyd ag amodau’r drwydded neu lle roedd gwaith wedi dechrau heb drwydded. Gwnaethom hefyd gynorthwyo'r heddlu ar sawl ymchwiliad gan ddarparu cyngor arbenigol, gwybodaeth drwyddedu a datganiadau tystion.

Esemptiadau o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016

Lle mae gweithgareddau rheoleiddiedig yn peri lefel is o risg, rydym yn cynnig amrywiaeth o esemptiadau sy'n caniatáu i weithredwyr gyflawni'r gweithgareddau hyn heb drwydded amgylcheddol, cyn belled â bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Fel arfer, bydd esemptiadau'n rhoi cyfyngiadau ar y raddfa neu'r fath o weithgaredd sy'n gallu digwydd.

Ar ddiwedd 2021, roedd mwy na 41,197 o esemptiadau gwastraff wedi'u cofrestru yng Nghymru mewn 11,146 o leoliadau.

Cludwyr gwastraff, broceriaid a delwyr

Mae angen i unrhyw un sy'n cludo gwastraff fel rhan o'i fusnes gofrestru fel cludwr gwastraff. Os yw'n trefnu i wastraff o fusnesau neu sefydliadau eraill gael ei gludo, ei waredu neu ei adfer, mae angen iddo gofrestru fel brocer gwastraff. Os yw rhywun yn prynu a gwerthu gwastraff, neu'n defnyddio asiant i wneud hyn, mae angen iddo gofrestru fel deliwr gwastraff. Mae'r rheini sydd yn yr ‘Haen Uchaf’ yn ymdrin â gwastraff pobl eraill yn gyffredinol, tra bo’r rheini yn yr ‘Haen Is’ yn ymdrin â'u gwastraff eu hunain yn gyffredinol.

Rydym yn rheoleiddio'r drefn hon er mwyn helpu i sicrhau bod gwastraff yn cael ei drin a'i waredu'n gywir. Gall gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon a thipio anghyfreithlon achosi llygredd, effeithio ar iechyd pobl a thanseilio busnesau cyfreithlon.

Rydym yn cadw cofrestr gyhoeddus o gludwyr cofrestredig, a rhaid i unrhyw un sy'n trosglwyddo gwastraff wirio bod y cludwr neu'r deliwr y mae’n ei ddefnyddio wedi'i gofrestru. Rydym yn dirymu neu'n gwrthod cofrestriadau cludwyr pan nad ydynt yn gymwys i drin gwastraff.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner gan gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau i fonitro'r broses o gofrestru a thrin gwastraff.

Yn 2021, cawsom 10,387 o geisiadau gan gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff newydd oddi wrth gwmnïau, sefydliadau, unigolion, a chyrff cyhoeddus. Cawsom hefyd 1,801 o geisiadau i adnewyddu trwyddedau, gan olygu bod cyfanswm o 12,188 o gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff wedi cofrestru gyda ni.

Astudiaeth achos: cludwr gwastraff heb ei gofrestru ac achos o gael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon

Hysbysebodd Danial McNeill o Fae Cinmel wasanaeth cludo a gwaredu gwastraff ar Facebook a chynhaliodd CNC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ymchwiliad ar y cyd iddo. Cafodd Mr McNeill ei ddal yn casglu gwastraff cartref o gartrefi ar draws Gogledd Cymru – pan nad oed wedi’i gofrestru i wneud hynny – ac yna'n ei dipio'n anghyfreithlon ar dir yn Llysfaen. Plediodd Mr McNeill yn euog i'r cyhuddiadau yn Llys Ynadon Llandudno a chafodd ddedfryd o 20 wythnos o garchar, wedi'i atal am 12 mis, cyrffyw 14 wythnos a gorchymyn i dalu cyfraniad o £1,500 tuag at gostau'r erlyniad.

Cydymffurfedd a pherfformiad gweithredwyr

Yn ystod y pandemig, nid oedd yn bosibl inni gynnal cynifer o ymweliadau rheoleiddio ar y safle. Gwnaethom addasu ein dulliau gweithredu fel y gallem barhau i reoleiddio'n effeithiol, yn enwedig yn achos gweithgareddau â risg uchel. Gwnaethom ddatblygu ffyrdd arloesol o weithio ac, yn benodol, roeddem yn dibynnu llawer mwy ar fecanweithiau eraill er mwyn cynnal ein gwaith ar gyfer gweithgareddau â risg isel.

Mae arolygiadau ffisegol yn rhan allweddol o waith rheoleiddio, ond mae hefyd yn ymwneud â'r pethau rydym yn eu gwneud o bell i gasglu gwybodaeth, dadansoddi data ac asesu perfformiad. O'u defnyddio gyda'i gilydd, mae'r gweithgareddau hyn yn rhoi darlun cyfoethog inni y gallwn ei ddefnyddio i asesu cydymffurfedd rheoleiddiol a chefnogi cwsmeriaid.

Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd diwydiannol rydym yn eu rheoleiddio o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn cael eu rhedeg yn dda. Mae 749 o weithrediadau a gosodiadau gwastraff ym Mand A, Band B a Band C, a dim ond 36 o safleoedd sydd ym Mand D, Band E a Band F.

Mae’r mwyafrif o drwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar gyfer gweithgareddau gwastraff (75%). Cyfradd y diffyg cydymffurfio (trwyddedau ym Mand D, Band E neu Fand F) yn y sector gwastraff yw 5%.

Mae gennym 16 o safleoedd diwydiannol, lle bu trwyddedau ym Mand D, Band E neu Fand F am ddwy flynedd neu fwy yn olynol.

Asesiadau cydymffurfedd

Gweithrediadau gwastraff

Ar ddiwedd 2021, roedd 729 o drwyddedau (654 ar gyfer gwastraff, 61 ar gyfer peiriannau symudol, a 14 ar gyfer wastraff mwyngloddio) a 552 o safleoedd gweithredol yng Nghymru

Gosodiadau  

Ar ddiwedd 2021, roedd 233 o drwyddedau gosodiadau, 127 o Drwyddedau Ffermio Dwys a 47 o Drwyddedau Gwaith Hylosgi Canolig a Gwaith Hylosgi Penodedig a Thrwyddedau Cynhyrchu Penodedig gennym ni yng Nghymru.

Asesiadau a gynhaliwyd

Nifer yr Adroddiadau Asesu Cydymffurfedd a gwblhawyd fesul math o asesiad.

Math o asesiad

Gweithrediadau gwastraff

Gosodiadau

Archwiliad safle

308

112

Archwiliad

44

33

Adroddiad/adolygiad data

137

348

Gwirio gwaith monitro/samplu

1

84

Arall

16

13

Cyfanswm

506

590

Diffyg cydymffurfio

Math o ddiffyg cydymffurfio

Gweithrediadau gwastraff

Gosodiadau

C1 – Mawr

1

3

C2 – Sylweddol

39

26

C3 – Mân

222

332

C4 – Dim dylanwad amgylcheddol

80

143

Cyfanswm yr achosion o ddiffyg cydymffurfio

342

504

O Achos parhaus o ddiffyg cydymffurfio – heb ei sgorio

16

23

X Cam gweithredu yn unig

161

226

Bandiau

Nifer y safleoedd yn ôl bandiau cydymffurfio ar ddiwedd 2021.

 Bandiau

Gweithrediadau gwastraff (safleoedd gweithredol)

Gosodiadau

A – Da

419

137

B

90

58

C

24

21

D

9

8

E

11

6

F – Gwael

0

2


Cyfrifoldeb cynhyrchwyr

CNC yw rheoleiddiwr amgylcheddol y DU ar gyfer cynhyrchwyr, cynlluniau cydymffurfedd cynhyrchwyr, a chyfleusterau trin yng Nghymru.

Mae cyfrifoldeb cynhyrchwyr yn cynnwys deunyddiau pacio, offer trydanol ac electronig, batris a cherbydau ar ddiwedd eu hoes. Mae cyfrifoldeb cynhyrchwyr yn ymwneud â sicrhau bod busnesau sy'n gweithgynhyrchu, mewnforio a gwerthu'r cynhyrchion hyn yn gyfrifol am eu heffaith amgylcheddol ar ddiwedd eu hoes.

Unigolion cofrestredig uniongyrchol ar gyfer deunyddiau pacio

Roedd 28 o unigolion cofrestredig uniongyrchol wedi’u cofrestru ar gyfer 2021, ac ni ystyrir un ohonynt mwyach (mae ei weithrediadau wedi dod i ben yng Nghymru). Yn ystod 2021, gwnaeth yr unigolion cofrestredig hyn drin cyfanswm o 204,039 o dunelli o ddeunyddiau pacio. Cyflwynodd pob unigolyn cofrestredig uniongyrchol ar gyfer 2021 ei gofrestriad i ni erbyn y dyddiad cau gofynnol.

Cyfanswm y rhwymedigaeth ailgylchu ar gyfer unigolion cofrestredig uniongyrchol yn 2021 oedd 34,228 tunnell. Mae hyn yn cynnwys rhwymedigaeth ailgylchu deunydd-benodol o 24,520 tunnell a rhwymedigaeth ailgylchu gyffredinol o 9,708 tunnell.

Cynlluniau cydymffurfio ar gyfer deunyddiau pacio

Roedd cynllun cydymffurfio Ailgylchu Cymru wedi parhau ei gofrestriad gyda ni ar gyfer 2021. Mae 60 o aelodau yn rhan o’r cynllun hwn ac mae 36 ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru.

Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r cynllun wedi'u cofrestru erbyn y dyddiad gofynnol. Roedd y rhai nad oeddent wedi gwneud hynny wedi'u dosbarthu'n unigolion cofrestredig hwyr a bu raid iddynt dalu'r ffi hwyr gysylltiedig. Gadawodd pum cynhyrchydd gynllun Ailgylchu Cymru. Mae tua 230 o gynhyrchwyr sy'n gweithredu yng Nghymru wedi cofrestru gyda chynllun a reoleiddir gan Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ailbroseswyr ac allforwyr

Achredwyd cyfanswm o 30 o ailbroseswyr ac allforwyr yn 2021, yr oedd 20 o’r rheini’n ailbroseswyr a 10 yn allforwyr.

Cyflwynodd 100% o'r ailbroseswyr yr holl ffurflenni chwarterol, a 90% o’r allforwyr a wnaeth hynny. Dim ond un allforiwr a fethodd â chyflwyno unrhyw ddatganiadau chwarterol, roedd y rhain yn achosion lle nad oedd dim i'w gofnodi, nid oedd yr allforiwr wedi allforio unrhyw ddeunyddiau yn ystod 12 mis yr achrediad ac ni chofrestrodd fel allforiwr ar gyfer 2022.

Cafodd cyfanswm o 679,913 o dunelli o ddeunyddiau pacio gwastraff eu hailbrosesu a’u hallforio yn 2021, a hawliwyd Nodyn Ailgylchu Gwastraff Deunydd Pacio (PRN) / Nodyn Ailgylchu Allforio Gwastraff Deunydd Pacio (PERN) ar 632,347 o dunelli.

Astudiaeth achos: defnyddio deunydd pacio gwastraff ar gyfer deunydd gorwedd i anifeiliaid

Cafodd cais am achrediad ailbroseswr ei gyflwyno ar gyfer defnyddio deunyddiau pacio gwastraff wrth gynhyrchu deunydd gorwedd i anifeiliaid. Yn dilyn ein hasesiad o gynllun samplu ac archwilio'r gweithredwr, nid oeddem yn fodlon bod gan y gweithredwr brosesau addas ar waith i sicrhau y byddai unrhyw ddeunyddiau gwastraff a ddefnyddid wrth gynhyrchu'r deunydd gorwedd i anifeiliaid yn bodloni ein safbwynt presennol o ran defnyddio gwastraff ar gyfer cynhyrchu deunydd gorwedd i anifeiliaid - dim ond pren glân nad yw'n beryglus, sydd heb ei drin, y caniateir iddo gael ei ddefnyddio.

Gwnaethom amlinellu ein disgwyliadau y dylai fod gan yr ailbroseswr ddulliau addas o nodi deunyddiau pacio sy’n bodloni ein gofynion. Er y darparwyd rhagor o ddogfennau prosesu, nid oeddem yn hyderus o hyd y byddai'r holl ddeunyddiau pacio a oedd yn cael eu prosesu yn bodloni'r gofynion.

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng CNC, yr ailbroseswr a chynrychiolydd o’r gymdeithas ailgylchwyr pren er mwyn trafod y sefyllfa. Yn ystod y cyfarfod hwn, trafodwyd prosesau’r ailbroseswr ac ychwanegwyd camau ychwanegol i sicrhau ei fod yn gallu nodi deunyddiau pacio a oedd yn bodloni ein gofynion. Roedd y cynrychiolydd o’r gymdeithas ailgylchwyr pren yn gallu darparu rhagor o wybodaeth i gefnogi prosesau’r ailbroseswr a chadarnhaodd y gellid dosbarthu’r rhan fwyaf o ddeunyddiau pecynnu pren yn y DU yn ddeunyddiau glân, heb fod yn beryglus, a heb eu trin.

Diwygiodd yr ailbroseswr ei gynllun samplu ac arolygu fel ei fod yn cynnwys yr holl wiriadau ychwanegol angenrheidiol, ac yna gwnaethom gymeradwyo’r achrediad.

Cyfleusterau Trin Awdurdodedig Cymeradwy ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig Gwastraff

Ddiwedd mis Medi yw’r dyddiad cyflwyno blynyddol ar gyfer ceisiadau ar gyfer achrediadau Cyfleuster Trin Awdurdodedig Cymeradwy. Ein dyddiad cau ar gyfer penderfynu ar geisiadau a chyhoeddi hysbysiad cymeradwyo yw 31 Rhagfyr. Yn 2021, cawsom 13 o geisiadau cyn 30 Medi, a chawsom un cais hwyr ar 5 Hydref, ond bu’n bosibl inni gymeradwyo’r holl geisiadau ac achrediadau ar amser.

Fodd bynnag, oherwydd y rheoliadau COVID-19 a oedd yn dal i fod mewn grym yn ystod y flwyddyn, ni chynhaliwyd ymweliadau ag unrhyw un o safleoedd y Cyfleusterau Trin Awdurdodedig Cymeradwy nac archwiliadau ohonynt. Cymeradwywyd safleoedd newydd heb eu harchwilio, ac mae eu hymweliadau safle wedi’u gohirio tan 2022.

Mae esemptiad T11 yn eich caniatáu i atgyweirio, adnewyddu neu ddatgymalu gwahanol fathau o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff fel y gellir ailddefnyddio’r eitem o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff gyfan, neu unrhyw rannau, ar gyfer eu diben gwreiddiol neu er mwyn eu hadennill. Ar ddiwedd 2021, roedd 36 o esemptiadau T11 yng Nghymru wedi’u cofrestru gennym.

Batris / Gweithredwyr Trin Batri Cymeradwy ac Allforwyr Cymeradwy

Mae tri safle mawr yng Nghymru sy’n Weithredwyr Trin Batri Cymeradwy, y mae dau ohonynt yn trin batris diwydiannol, modurol a symudol, ac mae un safle yn trin batris modurol yn unig. Cyflwynodd y tri safle ddatganiad blynyddol yn 2021, ac erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd cyfanswm o 40,869 o fatris wedi cael eu trin yng Nghymru.

Mae pum cynllun cydymffurfio cynhyrchwyr batris wedi'u cofrestru yng Nghymru. Yn 2021, cafodd 18,465 o nodiadau tystiolaeth batri eu prynu gan gynhyrchwyr.

Cludo gwastraff rhyngwladol

Mae llwythi gwastraff rhyngwladol, a elwir hefyd yn llwythi trawsffiniol o wastraff, yn symudiadau gwastraff sy’n digwydd rhwng gwledydd. Mae rheolaethau ar gyfer cludo gwastraff yn dibynnu ar ddosbarthiad y gwastraff sy'n cael ei fewnforio neu ei allforio.

Y ddau brif ddosbarth o wastraff o dan reolaethau cludo gwastraff yw gwastraff rhestr werdd, y gellir ei fewnforio neu ei allforio heb gael caniatâd gan CNC ymlaen llaw, neu wastraff hysbysadwy y mae angen inni ei awdurdodi cyn y gellir ei fewnforio neu ei allforio, er enghraifft lle mae’n destun rheolaethau hysbysu.

Fel arfer, ystyrir bod y mathau o wastraff ar y rhestr werdd yn peri risg isel i'r amgylchedd ac maent wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cludo Gwastraff. Ystyrir bod gwastraff hysbysadwy yn beryglus neu'n niweidiol i'r amgylchedd ac maen nhw hefyd wedi’u rhestru hefyd yn y Rheoliadau Cludo Gwastraff.

Yn 2021, cafodd CNC 23 o geisiadau hysbysu i allforio hyd at 342,000 o dunelli o wastraff a 27 o geisiadau hysbysu i fewnforio hyd at 70,770 o dunelli o wastraff.

Mae angen llenwi ffurflenni olrhain symudiadau ar gyfer pob llwyth unigol o wastraff a wneir ar hysbysiadau, y mae'n rhaid eu hanfon gyda'r llwyth wrth iddo gael ei allforio neu fewnforio. Yn ystod 2021, cafodd CNC 11,586 o ffurflenni olrhain symudiadau.

Yn 2021, ni chawsom unrhyw geisiadau ffurfiol a wnaed gan awdurdod nad yw’n awdurdod y DU i ddychwelyd gwastraff i Gymru.

Rheoliadau Gwastraff Peryglus

Mae angen i chi gofrestru eich safle yng Nghymru os ydych yn cynhyrchu gwastraff peryglus (gwastraff sy'n beryglus i bobl, i’r amgylchedd neu i anifeiliaid). Mae rhai safleoedd wedi'u hesemptio ac nid oes angen eu cofrestru. Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am eich safle, rydym yn cofnodi eich manylion ar gofrestr a byddwch yn cael rhif cofrestru cynhyrchydd gwastraff peryglus o'r enw ‘cod safle’. Pan fydd gwastraff yn cael ei gasglu o safle a'i gludo i leoliad arall, mae angen sicrhau bod nodyn cludo yn cyd-fynd ag ef p'un a ydych yn safle cofrestredig neu’n esempt.

Nid yw’r rheoliadau’n berthnasol i wastraff domestig, ac eithrio pan fo’r gwastraff hwnnw’n asbestos a gynhyrchir gan gontractiwr. Yn yr achos hwn, efallai y bydd rhaid i'r contractiwr hysbysu’r lle y cesglir y gwastraff ohono.

Ystadau diwydiannol

  • Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022, gwnaethom ymweld â 28 o ystadau diwydiannol ledled Cymru, a chanfuom fod diffyg dealltwriaeth gyffredinol o’r gofynion i gofrestru fel cynhyrchydd gwastraff peryglus ac o’r broses i wneud hynny. Roedd rhai bylchau hefyd o ran deall sut a phryd i gwblhau nodiadau cludo. Gwnaethom ddarparu cyngor ac arweiniad yn y rhan fwyaf o achosion, ond canfuom faterion mwy difrifol ar nifer o safleoedd ac, ar ôl ymchwilio, gwnaethom gymryd camau gorfodi priodol.

Archwiliadau cerbydau ar ddiwedd eu hoes

  • Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022, ar lefel genedlaethol, gwnaethom gynnal 12 o archwiliadau ar safleoedd sy’n ymdrin â cherbydau ar ddiwedd eu hoes yn genedlaethol. Ymhlith y materion cyffredin problemus a ganfuwyd yn ystod yr arolygiadau hyn oedd achosion o gam-drin / cam-ddosbarthu ffilterau olew, ffurflenni derbynnydd anghywir neu achosion o beidio â'u cyflwyno, a nodiadau cludo anghywir neu anghyflawn. Cafodd y canfyddiadau eu hadrodd yn ôl i'r gweithredwyr drwy gyngor ac arweiniad, a chafodd nifer o lythyrau rhybuddio eu cyflwyno lle nodwyd achosion o dorri'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus. Nodwyd bod trawsnewidyddion catalytig yn llif gwastraff problemus a chodwyd amheuon bod gweithgareddau anghyfreithlon yn digwydd i'w tynnu o gerbydau cyn dod â nhw i gyfleusterau gwastraff cyfreithlon. Mae'r wybodaeth hon wedi cael ei throsglwyddo i grŵp y sector metelau eilaidd ac mae prosiect yn cael ei gynllunio i dargedu'r mater sylweddol hwn.

Safleoedd trwyddedig

  • Cynhaliwyd 22 o ymweliadau â chyfleusterau trwyddedig sy’n derbyn a/neu’n cynhyrchu gwastraff peryglus. Ymhlith y materion cyffredin problemus a nodwyd ar y safle mae cam-ddosbarthu gwastraff, nodiadau cludo anghyflawn neu anghywir ac achosion o beidio â chyflwyno ffurflenni derbynnydd. Gwnaethom ddarparu cyngor ac arweiniad i sicrhau bod y gweithredwyr yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

Rheoleiddio diwydiant

  • Gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar risg, gwnaethom nodi bod angen gwneud gwaith rheoleiddio mwy penodol yn achos y sector purfeydd. Rydym yn datblygu methodoleg i archwilio’r gwastraff sy’n mynd allan o burfeydd gyda’r bwriad o nodi gwastraff sydd wedi’i gam-ddosbarthu o bosibl, ac rydym yn bwriadu cwblhau o leiaf dau archwiliad o burfeydd ar lefel genedlaethol yn 2022.
  • Bydd prosiect pellach y byddwn yn ei ddatblygu yn canolbwyntio ar nodi pobl bosibl sydd am i eraill dalu ond sydd am elwa eu hunain, ar safleoedd trin arwynebau. Mae hwn wedi'i nodi fel maes problemus oherwydd diffyg cofrestriadau o fewn y sector. Rydym yn datblygu cynllun prosiect i nodi pobl bosibl sydd am i eraill dalu ond sydd am elwa eu hunain, ac rydym yn datblygu methodoleg arolygu. Rydym yn bwriadu cwblhau o leiaf ddau arolygiad yn genedlaethol.

Grŵp Technegol Gwastraff Peryglus y Pedair Gwlad

  • Sefydlodd CNC gyfarfodydd technegol gwastraff peryglus misol y DU, a CNC yw’r asiantaeth arweiniol ar eu cyfer. Diben y cyfarfodydd hyn yw dod ag arbenigwyr o fewn asiantaeth pob gwlad at ei gilydd mewn fforwm agored i drafod materion cyffredin a chyfnewid cyngor ac enillion prosiectau. Mae'r cyfarfodydd hyn wedi bod yn hynod fuddiol i bawb sydd wedi cymryd rhan ynddynt ac wedi’i gwneud yn bosibl rheoleiddio’r sector gwastraff peryglus ledled y DU mewn ffordd gadarn a chyson.

Gorfodi rheoliadau gwastraff peryglus

Cyflwynwyd yr hysbysiadau canlynol o dan y Rheoliadau Gwastraff Peryglus:

Rheoliad 53: Ei gwneud yn ofynnol cyflwyno datganiadau chwarterol sy'n weddill erbyn dyddiad penodol.

  • Cafodd chwe hysbysiad eu cyflwyno.
  • Cydymffurfiwyd â phump ohonynt ac ni chymerwyd unrhyw gamau pellach yn eu cylch.
  • Cydymffurfiwyd ag un y tu hwnt i derfyn amser yr hysbysiad a chafodd rhybudd ei gyflwyno o ganlyniad.

Rheoliad 35: Ei gwneud yn ofynnol cyflwyno nodiadau cludo at ddibenion archwilio erbyn dyddiad penodol.

  • Cafodd wyth hysbysiad eu cyflwyno.
  • Cydymffurfiwyd â dau hysbysiad ac ni chymerwyd unrhyw gamau pellach yn eu cylch.
  • Cydymffurfiwyd â thri hysbysiad a darparwyd cyngor ac arweiniad yn eu cylch.
  • Cydymffurfiwyd ag un hysbysiad y tu allan i derfyn amser yr hysbysiad a chafodd rhybudd ei gyflwyno o ganlyniad.
  • Cyflwynwyd dau ohonynt ac ni chydymffurfiwyd â nhw ac mae Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei gyflwyno o ganlyniad (mae'r adran gyfreithiol yn ymdrin â’r achosion hyn ar hyn o bryd).

Archwiliadau gwastraff gofal iechyd

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid oedd yn bosibl inni gynnal unrhyw archwiliadau o wastraff gofal iechyd. Fodd bynnag, gwnaethom ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y prosesau o storio, symud a thrin gwastraff clinigol ledled Cymru, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei drin yn briodol a bod unrhyw bryderon ynghylch capasiti yn cael eu nodi ac yn cael sylw mewn modd amserol.

Tynnu dŵr ac ansawdd dŵr

Rydym yn gyfrifol am reoli dŵr a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol yng Nghymru er mwyn cydbwyso anghenion pobl a'r amgylchedd naturiol. Gwneir hyn drwy ddosbarthu trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr. Mae'n debygol y bydd angen ichi wneud cais am drwydded os ydych am gronni dŵr mewn unrhyw gwrs dŵr neu gymryd mwy nag 20 metr ciwbig (4,000 galwyn) o ddŵr y dydd oddi wrth afon neu nant, cronfa ddŵr, llyn neu bwll, camlas, ffynnon, ffynhonnell dan ddaear, doc, sianel, cilfach, bae, aber, neu fraich o’r môr.

Heb drwyddedau, gallai gordynnu dŵr yn barhaus neu waith sy’n rhwystro neu’n atal llif y dŵr mewn cwrs dŵr arwain at brinder yn y cyflenwad dŵr, mwy o lygredd mewn afonydd o ganlyniad i gynyddu crynodiad llygryddion, difrod i ecoleg a chynefinoedd, neu golli afonydd er ein gweithgareddau hamdden a’n mwynhad. Drwy drwyddedu, gallwn reoli faint o ddŵr sy’n cael ei dynnu er mwyn diogelu cyflenwadau dŵr a’r amgylchedd.

Ar ddiwedd 2021, roedd 1,973 o drwyddedau adnoddau dŵr yn effeithiol:

Math o drwydded

Cyfanswm

Trwyddedau tynnu dŵr llawn

1,161

Caniatadau ymchwilio i ddŵr daear

8

Trwyddedau cronni

723

Trwyddedau trosglwyddo

31

Awdurdodiad newydd ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr llawn

39

Awdurdodiad newydd ar gyfer trwyddedau trosglwyddo

 

11

Erbyn diwedd 2021, gwnaethom gwblhau 689 o adroddiadau asesu cydymffurfedd ar gyfer ansawdd dŵr a thynnu dŵr ar 334 o safleoedd rheoleiddiedig yng Nghymru.

Categori'r tor-amod

Tynnu dŵr

Ansawdd dŵr

A – Wedi'i asesu, a dim tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio

138

163

C2 – Diffyg cydymffurfio a allai gael effaith amgylcheddol sylweddol

4

18

C3 – Diffyg cydymffurfio a allai gael effaith amgylcheddol fach

11

168

C4 – Diffyg cydymffurfio heb unrhyw effaith amgylcheddol bosib

16

117

X – Cam gweithredu yn unig

8

45

Trwyddedau â ffurflen adroddiad asesu cydymffurfedd

177

512

Astudiaeth achos: digwyddiad llygredd afon

Ym mis Mehefin 2018, achosodd Dŵr Cymru ddigwyddiad llygredd a effeithiodd ar 9 cilometr o afon Clywedog yng Ngogledd Cymru. Gollyngodd Dŵr Cymru garthion sefydlog amrwd yn anghyfreithlon o waith trin dŵr gwastraff Five Fords, gan arwain at y lladdiad pysgod mwyaf a gofnodwyd yng Ngogledd Cymru. Lladdwyd dros 3,000 o bysgod, gan effeithio ar rywogaethau yn cynnwys y brithyll, y penlletwad, y llysywen bendoll, y wrachen farfog, yr eog, gleisiaid, twb y dail, y llysywen, y grothell, y draenogyn dŵr croyw, a’r pilcodyn. Yn dilyn y digwyddiad hwn, gweithiodd CNC yn agos gyda Dŵr Cymru i adfer yr afon.

Ym mis Mehefin 2021 yn Llys Ynadon Llandudno, plediodd Dŵr Cymru yn euog i achosi’r digwyddiad o lygredd a chafodd ddirwy o £180,000 yn ogystal â gorchymyn i dalu £25,871 mewn costau cysylltiedig, sef cyfanswm o £205,871.

Amaethyddiaeth

Y diwydiant llaeth gyfrannodd fwyaf at yr achosion o lygredd dŵr wyneb yr adroddwyd amdanynt dros y tair blynedd diwethaf.

Math o ddigwyddiad

2020

2021

2022

Llaeth

75

70

26

Ffynhonnell anhysbys

4

4

2

Cig eidion

14

30

5

Ffynhonnell amaethyddol arall

30

24

9

Defaid

11

8

6

Coedwigaeth

0

0

0

Tir âr

10

13

0

Ffynhonnell anamaethyddol

5

0

0

Ceffylau

5

6

3

Dofednod

1

8

1

Ffermio pysgod

0

0

0

Moch

0

1

1

Garddwriaeth

0

0

0

Cyfanswm

155

164

53

Digwyddiadau amaethyddiaeth sy'n effeithio ar dir, dŵr ac aer.

Math o eiddo

2020

2021

2022

Anhysbys

1

0

1

Treulydd anaerobig

0

0

0

Tir âr

30

18

0

Cig eidion

24

36

8

Llaeth

86

78

30

Coedwigaeth

0

0

0

Safle gwastraff cartref

0

0

0

Marchnadoedd da byw

0

0

0

Garddwriaeth

0

0

0

Arall

2

0

1

Ffynhonnell amaethyddol arall

73

61

18

Domestig arall

0

0

0

Ffynhonnell naturiol arall

0

0

4

Rheoli gwastraff arall

0

0

0

Moch

3

2

1

Dofednod

2

11

1

Adeilad heb ei nodi

4

4

1

Anheddau preifat

1

0

0

Hamdden a chwaraeon

1

0

0

Ffyrdd

1

0

0

Defaid

26

16

10

Stablau/ceffylau

10

15

5

Storio a dosbarthu

0

0

0

Gwaith trin dŵr

0

0

0

Cyfanswm

264

241

80

 

Rheoliadau morol

Mae ardal drwyddedadwy forol Cymru yn cynnwys rhanbarth glannau Cymru a rhanbarth alltraeth Cymru. Mae rhanbarth glannau Cymru yn ymestyn 12 milltir forol tua'r môr o benllanw cymedrig y gorllanw i'r terfyn tiriogaethol. Mae rhanbarth alltraeth Cymru yn ymestyn y tu hwnt i'r terfyn tiriogaethol ac yn cynnwys pob rhan o'r môr o fewn Parth Cymru.

Mae’n ofynnol cael trwydded forol pan ymgymerir ag unrhyw weithgaredd trwyddedadwy fel y’i diffinnir yn adran 66 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 o fewn yr ardal forol drwyddedadwy. Rhoddir Trwyddedau Morol mewn bandiau gwahanol (bandiau 1, 2 a 3). Mae ein tîm Trwyddedu Morol hefyd yn cyflawni nifer o swyddogaethau statudol fel rhan o'r cyfnod ôl-ganiatâd megis amrywiadau, cyflawni amodau a chymeradwyo adroddiad monitro. Mae’r tîm hefyd yn darparu barn sgrinio a chwmpasu o dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007, fel y'u diwygiwyd, ac yn rhoi cyngor cyn ymgeisio ar gynlluniau samplu gwaddod ar gyfer ceisiadau penodol.

Yn fras, mae angen trwydded forol os yw un neu fwy o’r gweithgareddau a restrir isod i gael eu cyflawni yn yr ardal forol drwyddedadwy:

  • Gwaith adeiladu, addasu neu wella (gan gynnwys gwaith sy'n hongian dros yr ardal forol drwyddedadwy a gwaith o dan wely'r môr e.e., twneli, pontydd a phierau)
  • Suddo llestri neu gynwysyddion arnofiol
  • Carthu
  • Llosgi gwrthrychau
  • Dyddodi a defnyddio ffrwydron
  • Cynaeafu neu dyfu dyframaeth (gwymon neu bysgod cregyn)

Mae nifer o weithgareddau risg isel a gweithgareddau esempt. Fodd bynnag, nid yw unrhyw waith sy’n golygu dyddodi neu symud deunydd neu sylwedd, defnyddio cerbyd neu long neu ddyddodion neu symud â llaw yn weithgareddau trwyddedadwy morol

Ar ddiwedd 2021, rhoddwyd y canlynol gennym:

Math o drwydded / caniatâd / awdurdodiad

Cyfanswm a gyhoeddwyd

Trwyddedau morol Band 2 (4 mis)

19

Trwyddedau morol Band 1 (6 wythnos)

15

Trwyddedau morol Band 3 (dim amserlen)

7

Sgrinio / cwmpasu (6 wythnos/90 diwrnod)

6

Amrywiad 0 (dan arweiniad CNC) (dim amserlen)

3

Amrywiad 1 (gweinyddol) (21 diwrnod)

0

Amrywiad 2 (cymhleth) (4 mis B1 a B2, dim amserlen B3)

1

Amrywiad 3 (arferol) (8 wythnos)

6

Rhyddhau amodau – Band 2 (6 wythnos)

7

Cyflawni amodau – Band 3 (dim amserlenni)

12

Cynllun sampl – (4 wythnos)

7

Cymeradwyo gwaith monitro (8 wythnos)

1

Cyfanswm

84


Rheoleiddio sylweddau ymbelydrol

CNC yw’r rheoleiddiwr amgylcheddol ar gyfer y sectorau niwclear ac anniwclear yng Nghymru. Mae rheoleiddwyr eraill hefyd sy'n gwneud gwaith cydymffurfedd yn y sectorau hyn, gan gynnwys y Swyddfa Reoleiddio Niwclear a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Niwclear

Mae dau safle niwclear trwyddedig yng Nghymru: Wylfa a Thrawsfynydd. Er nad ydynt bellach yn creu pŵer, mae gwaith parhaus yn mynd rhagddo i ddatgomisiynu'r safleoedd hyn. Ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd, rydym yn gwneud gwaith cydymffurfedd i sicrhau bod gweithredwyr yn bodloni eu rhwymedigaethau amgylcheddol. Yn 2021, gwnaethom gwblhau gwaith cydymffurfedd ar y ddau safle gan ddefnyddio dulliau archwilio o bell oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Gwnaethom gadw mewn cysylltiad â gweithredwyr y safleoedd yn rheolaidd a pharhau i ymgymryd â gwaith cydymffurfedd arferol drwy ohebiaeth.

Yn 2021, cwblhaodd tîm trwyddedu CNC ddau amrywiad i drwyddedau. Yn ddiweddar, cyflwynodd Rolls-Royce SMR Ltd gais i Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU i ymuno â'r broses Asesiad Cynllun Generig wirfoddol gyda'i gynllun am adweithydd modiwlaidd bach. Arweinir Asesiad Dylunio Generig gan y Swyddfa Reoleiddio Niwclear (o safbwynt diogelwch a diogeled) ac Asiantaeth yr Amgylchedd (o safbwynt yr amgylchedd). Bydd CNC yn ymuno â’r asesiadau amgylcheddol i bennu pa mor dderbyniol yw cynllun generig o safbwynt Cymru.

Mae Asesiad Cynllun Generig yn cyfrannu at broses gymeradwyo gynhwysfawr sy'n cynnwys amrywiaeth o reoleiddwyr. Oherwydd bod Asesiad Cynllun Generig yn canolbwyntio ar y cynllun generig, nid yw'n cynnwys nodi lleoliadau posibl ar gyfer y cynlluniau. Mae angen cael rhagor o ganiatadau a chynnal asesiadau pellach sy’n benodol i’r safle.

Rydym hefyd wedi bod yn ymgysylltu â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Swyddfa Reoleiddio Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd ynglŷn â thechnolegau niwclear uwch y gellid eu defnyddio yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol ynghyd â’r goblygiadau rheoleiddiol posibl sydd ynghlwm wrth y systemau uwch hyn.

Anniwclear

Ar hyn o bryd, mae tua 110 o drwyddedau mewn grym ar draws 88 o safleoedd ledled Cymru sy'n defnyddio ffynonellau sydd naill ai’n agored neu wedi'u selio. Rhestrir y gweithgareddau hyn o dan Atodlen 23 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae defnyddiau'n amrywio o driniaeth ac ymchwil feddygol i fesur a phrofi mewn lleoliadau diwydiannol. Gelwir y gweithgareddau sylweddau ymbelydrol hyn a reoleiddir yn “anniwclear” oherwydd nad ydynt ar safleoedd niwclear trwyddedig.

Mae cyfanswm nifer y trwyddedau wedi gostwng ers y llynedd o ganlyniad i gyfuno trwyddedau lluosog ar yr un safle, yn hytrach na gostyngiad gwirioneddol mewn safleoedd. Yn 2021, penderfynodd CNC ar gyfanswm o 12 o geisiadau am drwydded, a dau amrywiad ychwanegol ar drwydded dan arweiniad CNC. Roedd wyth o’r ceisiadau’n ymwneud ag amrywiadau, dwy’n ymwneud â thrwyddedau newydd, un yn ymwneud ag ildio trwydded ac un yn ymwneud â throsglwyddo trwydded. Gwnaed cynnydd sylweddol hefyd wrth ddiweddaru trwyddedau hŷn i dempled Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae swyddogion CNC yn cynnal archwiliadau cydymffurfedd ac arolygiadau mewn cyfleusterau sy’n defnyddio, yn cadw neu’n gwaredu sylweddau ymbelydrol sy'n dod o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae pa mor aml y cynhelir arolygiadau ar safleoedd yn dibynnu ar y risg a pha fath o weithrediad sydd yno.

Gwnaeth cyfyngiadau COVID-19 effeithio ar ein gwaith arolygu cynlluniedig yn sylweddol ond, ar gyfartaledd, gwnaethom gyflawni 31% o'r archwiliadau a gynlluniwyd ledled Cymru yn 2021. Yn gyffredinol, roedd cydymffurfedd yn y sector yn dda ac ni nodwyd unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio sylweddol.

Er mwyn cefnogi gwaith y sector meddygol yn ystod y pandemig, gwnaethom benderfyniadau rheoleiddiol er mwyn caniatáu peth hyblygrwydd o ran cydymffurfio â chyfyngiadau trwyddedau, ar yr amod bod y risgiau i'r amgylchedd ac iechyd yn isel. Gwnaethom hefyd fonitro'r effaith a oedd yn gysylltiedig â diwedd cyfnod pontio ymadael â’r UE ar ddiwydiant yng Nghymru.

Gwnaethom barhau i weithio gyda grwpiau defnyddwyr – gan gynnwys y sectorau meddygol a diwydiannol, ac ar y cyd â rheoleiddwyr eraill y DU – ar brosiectau ledled y DU.

Gwnaethom gysylltu â'r holl weithredwyr yn ystod cyfnod pontio ymadael â’r UE a phandemig COVID-19 i sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau amgylcheddol. Wrth i gyfyngiadau godi, rydym yn cynyddu nifer yr arolygiadau safle yr ydym yn eu cynnal yn ôl eu blaenoriaeth.

Diogelwch cronfeydd dŵr

Fel yr awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yng Nghymru, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod perchnogion a gweithredwyr cronfeydd dŵr yn cydymffurfio â’r safonau gofynnol a osodir gan y gyfraith.

Ym mis Mawrth 2022, roedd 396 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi'u cofrestru yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 25 o gronfeydd dŵr ers y llynedd sydd wedi'u nodi fel cronfeydd dŵr y dylid eu cofrestru.

Ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022:

  • Gwnaethom gofnodi manylion ar gyfer penodi 42 o beirianwyr i baneli peirianneg y Llywodraeth.
  • Gwnaethom brosesu 70 o benodiadau peirianwyr goruchwylio mewn cronfeydd dŵr risg uchel.
  • Gwnaethom dderbyn a phrosesu 193 o ddatganiadau gan beirianwyr.
  • Cawsom 34 o adroddiadau arolygu ar gyfer cronfeydd dŵr risg uchel. Gwnaethom ddefnyddio ein pwerau gorfodi i gynnal arolygiad o gronfa ddŵr amddifad, ac i gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol cynnal arolygiad o gronfa ddŵr arall.
  • Cofnodwyd 75 o fesurau diogelwch newydd gennym mewn 25 o gronfeydd dŵr, gan ddod â’r cyfanswm presennol i 208 o fesurau, sef 8% yn llai na'r cyfartaledd o'r ddwy flynedd flaenorol.
  • Roedd 45 o fesurau diogelwch yn hwyr, gan gynnwys y rheini mewn cronfeydd dŵr amddifad yr ydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi i’w rhoi ar waith. Cyflwynwyd hysbysiadau gorfodi mewn pedair cronfa ddŵr yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau'r gwaith hwn.
  • Rydym wedi parhau i adolygu perygl llifogydd a darparu dynodiadau risg. Ar ddiwedd y cyfnod, roeddem wedi cadarnhau bod 62% o gronfeydd dŵr yn gronfeydd risg uchel, bod 18% nad ydynt yn risg uchel a bod 20% yn weddill i'w dynodi.

Mae ein hadroddiad diwethaf i Weinidog Cymru ar gyfer 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2021, a gyflwynir bob dwy flynedd, ar gael ar ein gwefan.

Taclo Tipio Cymru

Astudiaeth achos

Yn 2020, canfuwyd bagiau o wastraff cartref a oedd wedi’u tipio’n anghyfreithlon yn ardal Casnewydd, ac ymysg y gwastraff roedd tystiolaeth yn ymwneud â pherchennog y gwastraff. Cysylltodd ein swyddogion â'r perchennog, sef Mrs Rasa Knabikiene, a'i gwahodd i fynychu cyfweliad ffurfiol ynghylch tipio’i gwastraff yn anghyfreithlon ond methodd â mynychu. Yna, cyflwynwyd hysbysiad iddi yn ei gwneud yn ofynnol iddi fynychu cyfweliad, ac eto, ni wnaeth hynny. Ym mis Rhagfyr 2021, cafodd Mrs Knabikiene ei herlyn ond methodd â mynychu’r llys ac fe’i cafwyd yn euog yn ei habsenoldeb. Cafodd ddirwy o £440, talodd gostau o £558.06 inni, ac roedd yn ofynnol iddi dalu gordal dioddefwr o £44.

Ym mis Medi 2021, llwyddodd Cyngor Casnewydd i erlyn pâr o dipwyr anghyfreithlon yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng CNC a Heddlu Gwent. Cafodd y ddau unigolyn ddirwy o £400 a rhaid iddynt dalu costau o £1,100 yn ôl i'r cyngor. Roedd hyn o ganlyniad i fideo cuddwylio a gawsom yn dangos gwastraff yn cael ei dipio’n anghyfreithlon ar dir yng Nghasnewydd a Chaerdydd a, drwy rannu cudd-wybodaeth, aeth ymchwiliad ar y cyd yn ei flaen. Oherwydd bod y bobl a ddrwgdybir yn defnyddio cerbyd â phlatiau cofrestru ffug, nid oedd yn bosibl eu holrhain felly cyhoeddodd CNC ddatganiad i'r wasg yn apelio ar y cyhoedd i nodi un o’r bobl a ddrwgdybir a oedd wedi cael ei ddal ar gamera. Ymatebodd y cyhoedd a chafwyd enw, ac yn fuan wedi hynny cafodd yr ail unigolyn a ddrwgdybir ei nodi hefyd. Yna, cynhaliwyd cyfweliad ar y cyd ac er i'r rhai a ddrwgdybir wadu eu bod wedi cymryd rhan yn y digwyddiad, gwnaethant bledio'n euog yn y llys yn ddiweddarach. Rhoddwyd llawer o sylw i’r datganiad i'r wasg i nodi’r sawl a ddrwgdybir, a'r datganiad i'r wasg dilynol yn tynnu sylw at yr erlyniad, gan gynnwys stori yn y Daily Mail Online.

Mynd i'r afael â throseddau gwastraff

Drwy gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ffurfio menter sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â throseddau gwastraff. Mae hyn yn cynnwys tîm rhithwir bach o swyddogion sydd wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol ledled Cymru sy'n gweithio i ddatblygu a phrofi dulliau arloesol a all helpu i atal a tharfu ar droseddau gwastraff.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, yr heddlu ac eraill, rydym wedi lansio cynllun peilot yn ardal Dinas Casnewydd yn ddiweddar lle mae garejys yn marcio teiars gwastraff. Nod y cynllun peilot yw codi ymwybyddiaeth ymhlith cynhyrchwyr gwastraff o’u dyletswydd gofal a lleihau'r tebygolrwydd y bydd teiars gwastraff yn cael eu tipio yn yr ardal.

Ar hyn o bryd rydym yn treialu'r defnydd o SMART Water ar domen fawr anghyfreithlon o deiars. Nod y treial yw asesu a all technegau marcio fforensig helpu i atal rhagor o wastraff rhag cael ei ddodi’n anghyfreithlon. Rydym hefyd wedi bod yn adolygu esemptiadau a gofrestrwyd ar gyfer trin teiars ar ddiwedd eu hoes (T8) yn fecanyddol yng Nghymru. Mae hyn wedi arwain at ddadgofrestru dros 40 o esemptiadau.

Mae ffocws arall yn ein gwaith wedi bod ar y defnydd o dechnoleg. Y llynedd, gwnaethom adrodd ar ganlyniadau treialon yn archwilio'r defnydd o ddelweddau lloeren. Diben y gwaith hwn oedd deall sut y gellid defnyddio data lloeren i gefnogi ein hymateb i droseddau gwastraff nawr ac yn y dyfodol. Dangosodd y canlyniadau y gellir defnyddio data lloeren yn effeithiol i helpu i asesu safleoedd gwastraff anghyfreithlon a amheuir mewn rhai amgylchiadau. Mae’r gwaith hefyd wedi arwain at greu offeryn System Gwybodaeth Ddaearyddol newydd a all helpu swyddogion yn CNC i asesu ceisiadau am drwyddedau ar gyfer gwasgaru gwastraff i dir.

Rydym yn cydnabod y gall pobl a busnesau yng Nghymru ddod yn agored i gael eu hecsbloetio gan droseddwyr gwastraff. Mewn ymateb, rydym wedi mabwysiadu dull ragweithiol o gyfathrebu a rhybuddio am y risgiau y mae rhai gweithgareddau yn eu hachosi, yn ogystal â chynnig camau ymarferol y gall unigolion a sefydliadau eu cymryd i helpu i amddiffyn eu hunain. Ym mis Tachwedd 2021, gwnaethom lansio tudalen newydd ar wefan CNC gyda’r nod o hysbysu tirfeddianwyr a landlordiaid masnachol am y camau y gallant eu cymryd i leihau’r risg y bydd gwastraff yn cael ei adael ar eu tir. Cyhoeddwyd datganiad i'r wasg i gyd-fynd â hyn, ynghyd â fideo yn rhybuddio am y mater hwn ar sail astudiaeth achos go iawn.

Rydym hefyd wedi bod yn weithredol wrth geisio ehangu'r offerynnau sydd ar gael i ymyrryd yn erbyn troseddwyr gwastraff. Er enghraifft, mae gennym weithdrefn newydd a fydd yn caniatáu i swyddogion atafaelu cerbydau yr amheuir eu bod wedi'u defnyddio i gyflawni troseddau gwastraff. Mae partner masnachol wedi'i gontractio i gefnogi'r gweithgaredd, gan sicrhau y gellir adfer cerbydau a'u storio'n ddiogel, cyn eu dychwelyd, eu gwerthu neu eu dinistrio.

Astudiaeth achos: Cyngor i fusnesau ynglŷn â throseddau gwastraff

Yn 2021, rhoddodd ein tîm Mynd i’r Afael â Throseddau Gwastraff gyngor i’r cyhoedd a chwmnïau masnachol i helpu i’w hamddiffyn rhag gweithgareddau troseddwyr gwastraff. Gwnaethom ddarparu canllawiau newydd i helpu landlordiaid masnachol i amddiffyn eu hunain rhag troseddwyr gwastraff. Mae tirfeddianwyr a landlordiaid yn cael eu targedu’n aml gan droseddwyr sy’n rhentu unedau diwydiannol am resymau ffug ffug ac yna’n diflannu gan adael yr adeiladau’n llawn gwastraff ac, mewn llawer o achosion, wedi’u difrodi’n strwythurol. O ganlyniad, nid yn unig y mae landlordiaid yn wynebu biliau glanhau a thrwsio costus ond gallant hefyd fod yn gyfreithiol gyfrifol am y gwastraff a'i symud. Er mwyn helpu landlordiaid i osgoi dioddef ar law troseddwyr gwastraff, mae CNC wedi cynhyrchu ffilm a thudalen bwrpasol ar ei wefan yn pwysleisio’r broblem ac yn cynnig cyngor ac arweiniad.

Enghraifft arall yw ein bod wedi rhoi cyngor i ganolfannau marchogaeth, stablau, a pherchnogion ceffylau sydd wedi cael cynnig deunydd plastig “wedi’i ailgylchu” i’w ddefnyddio ar eu harwynebau marchogol. Mae ein hymchwiliadau wedi dangos bod peth o’r deunydd sydd wedi’i gynnig fel opsiwn rhad amgen yn wastraff mewn gwirionedd, ac mae'n cynnwys cymysgedd o blastigion o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys gorchudd ceblau a gwastraff trydanol wedi’i gymysgu ynddo a allai halogi’r tir a pheri risg i geffylau a marchogion.

Gorfodi

Yn 2021, gwnaethom adolygu ein Polisi Gorfodi ac Erlyn â'n dogfennau’r Canllawiau Gorfodi a Sancsiynau ac, o ganlyniad, gwnaethom lunio Polisi Gorfodi a Sancsiynau wedi’i ddiweddaru sy’n gwneud y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol o bob math yn haws ei deall ac yn fwy hygyrch i’r cyhoedd. Nid yw'r Polisi Gorfodi a Sancsiynau diwygiedig yn newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â gorfodi. Yn bennaf, byddwn yn ymgysylltu â gweithredwyr, unigolion a busnesau i addysgu a galluogi cydymffurfedd neu i atal difrod, a hynny er mwyn rhoi'r amgylchedd yn gyntaf, ac i integreiddio arferion amgylcheddol da o fewn dulliau gwaith arferol.

Bu’r Polisi Gorfodi a Sancsiynau yn destun ymarfer ymgynghori cyhoeddus lle cawsom 26 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan ystod eang o bobl a chwmnïau, gan gynnwys cynrychiolwyr o glybiau genweirio, ymddiriedolaethau afon, ymddiriedolaethau coetir, cynghorydd cymuned a grwpiau cymunedol, elusennau, Undeb Amaethwyr Cymru, RSPB Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a sawl cwmni cyfyngedig.

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn cefnogi’r Polisi Gorfodi a Sancsiynau newydd ac am weld CNC yn cymryd camau gorfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol, yn enwedig llygredd afonydd, pysgota anghyfreithlon, achosi difrod i natur a thipio anghyfreithlon. Roedd llawer o’r ymatebion yn ymwneud â’n presenoldeb yn y digwyddiad, ac roedd rhai ymatebwyr, er eu bod yn feirniadol o CNC, yn cydnabod bod CNC yn wynebu prinder adnoddau a “diffyg esgidiau ar lawr gwlad”.

Mae'r wybodaeth isod yn dangos ein canlyniadau gorfodi rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Rhagfyr 2021. Roedd rhai achosion wedi dechrau cyn 2021 ond cawsant eu cwblhau o fewn y flwyddyn. Roedd achosion a ddechreuodd yn ystod 2021 hefyd sydd naill ai’n destun ymchwiliad o hyd neu yn system y llysoedd, a chaiff y rhain eu cofnodi yn ein hadroddiad ar gyfer 2022.

Gwaith gorfodi yn ymwneud â physgodfeydd dŵr croyw a physgodfeydd â physgod mudol

Mae’r dirywiad parhaus yn statws stociau eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru yn parhau i fod yn bryder difrifol. Mae canlyniadau’r asesiad diweddaraf wedi dangos, o blith y 23 o brif afonydd eogiaid yng Nghymru, bod 21 (91%) bellach wedi’u categoreiddio’n rhai sydd ‘Mewn perygl’, a bod y ddau (9%) sy'n weddill yn ‘Debygol o fod mewn perygl’. Ni chafodd unrhyw afonydd eu categoreiddio’n rhai sydd ‘Ddim mewn perygl’ neu ‘Ddim mewn perygl yn ôl pob tebyg’. Yn ogystal, mae’r dirywiad yn y stociau o frithyll y môr yn parhau i beri pryder. Mae gan Gymru 33 o brif afonydd brithyllod y môr, a dim ond pedair o’r rhain (12%) y bernir eu bod ‘Ddim mewn perygl yn ôl pob tebyg’, tra bod y gweddill naill ai’n ‘Debygol o fod mewn perygl’ (24%) neu ‘Mewn perygl’ (64%). Ni fernir bod unrhyw afonydd “Ddim mewn Perygl”

Yn 2021, cawsom adroddiadau am 331 o ddigwyddiadau mewn pysgodfeydd, sef 245 o achosion o bysgota anghyfreithlon a 55 o achosion o ladd pysgod. Gwnaethom erlyn 112 o gyhuddiadau o bysgota anghyfreithlon a 40 o gyhuddiadau Gwialen a Lein. Gwnaethom hefyd erlyn dau gyhuddiad o dan Ddeddf Dwyn 1968 am droseddau Gwialen a Lein, ac mae pedwar cyhuddiad arall o dan y Ddeddf Dwyn yn parhau i fod ar waith ar ddiwedd y flwyddyn. Yn ogystal, gwnaethom roi cyngor ac arweiniad mewn 41 o achosion a chyflwyno 18 o lythyrau rhybuddio, ac ar ddiwedd y flwyddyn, roedd cyfanswm o 80 o achosion gorfodi ar waith.

Gweithdrefn Ynad Unigol (pysgodfeydd)

Nifer yr achosion

11

Cyfanswm y dirwyon

£2,180

Cyfartaledd y dirwyon

£198

Cyfanswm y costau a ddyfarnwyd

£1,257

Costau a ddyrannwyd ar gyfartaledd

£114

Astudiaeth achos: patrolau pysgodfeydd

Dros benwythnos Gŵyl Banc y Pasg 2021, gan weithredu ar adroddiadau cudd-wybodaeth, roeddem yn rhagweld y byddai cynnydd mewn pysgota anghyfreithlon ar ein hafonydd. Er mwyn ceisio atal hyn, roedd ein swyddogion gorfodi yn patrolio afonydd yn targedu gweithgareddau pysgota anghyfreithlon.

Ymchwiliodd ein swyddogion i droseddau ac, o ganlyniad, wynebodd pedwar pysgotwr ar afon Tywi gamau gorfodi am ddefnyddio llyngyr fel abwyd, a hynny’n groes i is-ddeddfau. Roedd gweithgareddau eraill yr adroddwyd amdanynt yn cynnwys rhwydo a chamfachu, a chasglwyd rhwyd anghyfreithlon o afon Nanhyfer ac afon Llwchwr.

Astudiaeth achos: troseddau pysgodfeydd

Ym mis Ionawr 2021, gwelodd pysgotwr lleol y brodyr Carlos a Dimitri Davies o Aberhonddu yn pysgota y tu allan i’r tymor ar afon Wysg yn Aberhonddu. Roedd yn hysbys nad oedd y dynion yn aelodau o Gymdeithas Bysgota Aberhonddu, sydd â’r hawliau pysgota ar gyfer y rhan hon o'r afon. Cysylltodd y pysgotwr â swyddog gorfodi yn CNC ac fe drosglwyddodd yr wybodaeth i Heddlu Dyfed Powys yn Aberhonddu gyda chefnogaeth heddwas a secondiwyd i CNC,. Anfonwyd swyddogion i'r lleoliad ac, o ganlyniad i ymholiadau dilynol, cafodd un o'r dynion ei ddal o fewn 30 munud i'r alwad gyntaf a adnabu’r pysgotwr arall. Ar 2 Gorffennaf 2021, yn Llys Ynadon Caerdydd, cafwyd y ddau ddyn yn euog o’r cyhuddiadau a ddygwyd yn eu herbyn a chawsant ddirwy o gyfanswm o £264 yr un a oedd yn cynnwys iawndal, costau, a gorchymyn gordal dioddefwr.

Ym mis Ebrill 2021, cawsom adroddiadau ar ein llinell gymorth digwyddiadau bod pysgotwyr yn defnyddio dull ‘creulon’ ac anghyfreithlon o ddal pysgod, a elwir yn camfachu, yn aber afon Llwchwr. Mae hyn yn golygu bod y pysgod yn cael eu dal gyda bachyn i'w corff yn hytrach na’u ceg. Cynhaliodd ein swyddogion gorfodi pysgodfeydd batrolau yn yr ardal, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed Powys ac, o ganlyniad, cymerwyd camau gorfodi yn erbyn 18 o bysgotwyr unigol.

Gwaith gorfodi pysgodfeydd cocos

Cawsom adroddiadau am 31 o ddigwyddiadau o ddal cocos yn anghyfreithlon. Gwnaethom erlyn pedwar cyhuddiad yn ymwneud â dal cocos yn anghyfreithlon.

Aber Afon Dyfrdwy

Ar hyn o bryd, mae gennym 54 o ddeiliaid trwydded cocos lawn ar gyfer Aber Afon Dyfrdwy. Mae'r tymor cocos yn para rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr. Fodd bynnag, yn 2021, cychwynnodd y tymor ar 1 Mehefin er mwyn galluogi pysgotwyr i dynnu stociau dwys o gocos o un gwely er mwyn hybu twf y boblogaeth. Yn ystod 2021, rhoddwyd caniatâd i bob pysgotwr ddal hyd at 500kg o gocos y dydd.

Mae gan Aber Afon Dyfrdwy draethlin yng Nghymru ac ar y Wirral yn Lloegr, felly mae’n bysgodfa drawsffiniol, sy’n cael ei rheoleiddio gan CNC. Yn 2021, gwnaethom roi mwy o bwyslais ar gydweithio aml-asiantaeth. Rydym bellach yn cynnal patrolau ar y cyd â Physgodfeydd Llywodraeth Cymru a’r IFCA ar gyfer ochr Lloegr i'r aber. Gwnaethom sefydlu menter newydd a olygodd bod swyddogion gorfodi CNC yn patrolio gyda thîm Chwiliad Tanddwr a Thîm Morol Heddlu Gogledd Orllewin Lloegr ar y cyd ar eu cwch. Cafodd y patrolau hyn lefel dda o lwyddiant o ran atal gweithgareddau anghyfreithlon ac, yn 2022, bydd y patrolau’n cael eu hehangu i wirio a yw cychod yn cymryd eogiaid a physgod mudol eraill yn anghyfreithlon.

Yn 2021, gwnaethom dreulio 269 awr yn rheoleiddio’r bysgodfa gocos a 188 awr yn gwneud gwaith gorfodi y tu allan i oriau ac ar benwythnosau.

Cilfach Tywyn

Mae pysgodfa cregyn Cilfach Tywyn ar agor 12 mis y flwyddyn. Mae’r trwyddedau’n para rhwng 1 Ebrill a 30 Mawrth bob blwyddyn ac, ar hyn o bryd, mae 36 o ddeiliaid trwydded amser llawn a dwy drwydded tymor byr dros dro mewn grym (mae’r trwyddedau dros dro yn newid bob blwyddyn gan ddibynnu ar lefelau stoc, er enghraifft). Yn 2021, gwnaethom dreulio 1,355 o oriau yn rheoleiddio ac yn gorfodi pysgodfa gocos Cilfach Tywyn.

Sancsiynau sifil

Math o sancsiwn sifil yw ymgymeriad gorfodi sydd ar gael i CNC mewn perthynas â sawl trosedd amgylcheddol, fel y nodir yn Neddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Cytundeb rhwymol yw ymgymeriad gorfodi, yr ymrwymir iddo'n wirfoddol gan y troseddwr, a chaiff ei gynnig i'r rheoleiddiwr pan fo sail resymol i amau bod trosedd wedi cael ei chyflawni. Er mwyn i ymgymeriad gorfodi fod yn opsiwn i ni fel dewis amgen i erlyniad, rhaid inni fod wedi ymchwilio i'r drosedd a bod â chyfle realistig o sicrhau erlyniad llwyddiannus i'r safon prawf troseddol, sydd y tu hwnt i amheuaeth resymol.

Ni chawsom unrhyw gynigion i ddwyn ymgymeriad gorfodi yn 2021.

Astudiaeth achos: ymgymeriadau gorfodi

Cysylltodd eCube Solutions â ni ar ddiwedd 2020 gydag ymgymeriad gorfodi gwirfoddol. Diben ymgymeriad gorfodi yw caniatáu i droseddwr adfer unrhyw ddifrod amgylcheddol y mae wedi ei achosi a gwneud iawn amdano. Mae ymgymeriad gorfodi yn gynnig gwirfoddol a wneir i’r rheoleiddiwr sy’n golygu llenwi’r ffurflen ar gyfer ymrwymiad gorfodi a chyflwyno manylion swm o arian sy’n cynrychioli costau sydd wedi’u hosgoi drwy beidio â chydymffurfio. Os yw’r rheoleiddiwr yn ei dderbyn, mae’r arian hwn yn cael ei ddyfarnu i brosiect amgylcheddol o ddewis y cwmni.

Roedd eCube wedi methu â chofrestru fel cynhyrchydd deunyddiau pacio ar gyfer y cyfnod 2018/19 ac wedi cynnig talu’r hyn sy’n cyfateb i’r ffi gofrestru, cost rhwymedigaeth Nodyn Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio ar gyfer y rhodd elusen – gyda chynnydd o 30% ar hyn – gan arwain at rodd o £1,830. Roedd y cwmni hefyd yn cynnig gwneud taliad o £500 i dalu ein costau.

Cyn gallu derbyn y cynnig hwn, roedd angen i ni bennu a oedd y cwmni wedi'i ymrwymo cyn 2018/19. Darparodd eCube y wybodaeth berthnasol i ddangos nad oedd rhwymedigaeth arno yn flaenorol a darparodd dystiolaeth i ddangos ei fod wedi cofrestru fel cynhyrchydd trwy gynllun cydymffurfio ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn trafodaethau gyda'r adran gyfreithiol, roeddem yn hapus i dderbyn y cynnig ariannol ond nid oedd yr elusen arfaethedig yn dderbyniol gan na ellid gwarantu y byddai'r arian yn cael ei wario ar brosiect amgylcheddol yng Nghymru.

Gwnaethom nodi hyn i’r cwmni a gofyn iddo ddiwygio'r ymrwymiad gorfodi i sicrhau mai prosiect yng Nghymru – ac yn ddelfrydol yn ardal leol y cwmni – fyddai'r buddiolwr. Diwygiodd eCube yr ymgymeriad gorfodi gan olygu bod y rhodd elusennol yn mynd i Gyfeillion y Ddaear Cymru i gefnogi ymgyrchoedd codi sbwriel a gweithgareddau glanhau traethau. Gwnaethom dderbyn yr ymgymeriad gorfodi ym mis Mawrth 2021, a gwnaed yr holl daliadau erbyn diwedd y flwyddyn.
 

System Hysbysu Gwybodaeth Gyfreithiol am Droseddau a Thramgwyddau

Yn 2021, gwnaeth CNC greu 1,002 o achosion newydd, yn cynnwys 936 o droseddwyr, gyda 1,373 o gyhuddiadau gorfodi ar wahân. Gwnaethom gymryd camau gorfodi yn erbyn 355 o gwmnïau a 601 o unigolion. Ar ddiwedd 2021, roedd gennym 306 o achosion wedi'u rhestru o hyd fel “cyfreithiol ar waith”.

Cynyddodd cyfanswm yr achosion gorfodi y gwnaethom ddelio â nhw 40% o 2020.

Blwyddyn

Achosion

Troseddwyr

Cyhuddiadau

Cwmnïau

Unigolion

2021

1,002

956

1,373

355

601

2020

604

620

936

241

379

2019

638

623

941

258

365

 

Roedd pedwar achos lle na wnaethom gymryd unrhyw gamau pellach yn eu cylch, a thri achos lle na chynigiwyd unrhyw dystiolaeth.

Gwnaethom ddarparu cyngor ac arweiniad ffurfiol mewn 348 o achosion. Gwnaethom gyflwyno 479 o rybuddion, 38 o hysbysiadau gorfodi y cydymffurfiwyd â nhw, ac un hysbysiad cosb benodedig.

Gwnaethom gyflwyno 41 o rybuddiadau ffurfiol ac erlyn 54 o gyhuddiadau ar wahân, y cafodd deg ohonynt eu profi yn absenoldeb y diffynyddion.

Yn 2021, cynyddodd y dirwyon llys o’n herlyniadau llwyddiannus ddeg gwaith – o £25,437 yn 2020 i £262,414. Gellir cyfrif am hyn gan un ddirwy llys fawr o £180,000 a nifer o ddirwyon o gwmpas £20,000. Dyfarnwyd £131,027 mewn costau inni gan y llysoedd, ond roedd yr amser a oedd ar gael yn y llys yn dal i fod yn llai oherwydd yr oedi a achoswyd gan COVID-19.

Erlyniadau yn 2021

Dyma’r achosion a arweiniodd at erlyniad yn 2021. Dechreuodd llawer o'r achosion hyn yn ystod blynyddoedd blaenorol ac, mewn rhai achosion, rydym wedi erlyn mwy nag un cyhuddiad.

Dyddiad

Enw'r troseddwr

Cwmni

Trosedd

Taliadau

Dirwyon

Costau

26 Ionawr 2021

Lee Wyn Roberts

Na

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

 £   500

 £   2,000

17 Mawrth 2021

Andrew Paul Thomas

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Dim, Dedfryd ohiriedig

  -

8 Ebrill 2021

Daniel McNeil

Na

Gwastraff

Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989

Dim, Dedfryd ohiriedig

 £   1,500

20 Ebrill 21

Philip Stephen Downsby Garratt

Na

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

 £  1,000

 £   1,650

19 Mai 2021

Tower Regeneration Ltd

Ie

Ansawdd Dŵr

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

 £  3,000

 £  12,849

17 Mehefin 2021

Johnny Doran

Na

Tipio anghyfreithlon

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

 £  1,400

 £    300

18 Mehefin 2021

Andrew Janes

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

 £  1,110

 £    950

23 Mehefin 21

Dŵr Cymru

Ie

Ansawdd Dŵr

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

£180,000

 £  25,701

2 Gorffennaf 2021

Carlos Davies

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £   100

 £    100

25 Mehefin 21

DBC Site Services Ltd

Ie

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Deddf Enillion Troseddau 2017-2018

 -

25 Mehefin 2021

Eurid Huw Leyshon

Ie

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Deddf Enillion Troseddau 2017-2018

 -

21 Gorffennaf 2021

David Kevin Owen

Na

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

£150 

 £   2,500

21 Gorffennaf 2021

Tower Regeneration Ltd

Ie

Ansawdd Dŵr

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010

 £ 13,330

 £  26,791

26 Awst 2021

TE and M Francis and Son Ltd

Ie

Ansawdd Dŵr

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

 £  2,500

 £    350

17 Medi 21

Christian Craig Astill

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

 £   200

 £   3,000

22 Medi 2021

VJ Thomas & Sons Partnership (Edward Thomas)

Ie

Ansawdd Dŵr

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010

 £  2,100

 £   3,847

19 Hydref 2021

Damian Burchall

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £   220

 £     98

19 Hydref 2021

Keiran Price

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £   220

 £     98

19 Hydref 2021

Nicky Dan Lee Edwards

Na

Gwialen a llinyn

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £   220

 £     9

17 Tachwedd 2021

Par Contractors Ltd

Ie

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

 £  8,000

 £   9,987

19 Tachwedd 2021

Dennis Connor

Ie

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Deddf Enillion Troseddau 2017-2018

 -

23 Tachwedd 2021

Philip Johns

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

 £  2,160

 £   6,872

24 Tachwedd 2021

Aaron Hern

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £    40

 £    127

24 Tachwedd 2021

Mathew Stephen Guilliford

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £    80

 £    127

7 Rhagfyr 2021

Rasa Knabikiene

Na

Tipio anghyfreithlon

Deddf yr Amgylchedd 1995

 £   440

 £    558

10 Rhagfyr 21

Daniel Richard Tamplin

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Dedfryd ohiriedig

 £   2,677

14 Rhagfyr 21

David Williams

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

 £   250

 £   2,500

14 Rhagfyr 21

Dewi Jones

Na

Ansawdd Dŵr

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

 £   666

 £  12,467

16 Rhagfyr 2021

Jack Mason Raymon

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £   440

 £    127

16 Rhagfyr 2021

Jeremy McKenny

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £    80

 £    127

16 Rhagfyr 2021

Maurice Loaring

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £   240

 £    127

16 Rhagfyr 2021

Wayne Jenkins

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

 £   440

 £    127


Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron

Mae’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud cais am orchmynion digolledu ac ategol, fel gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorchmynion atafaelu, ym mhob achos priodol. Isod, ceir rhestr o'r gorchmynion ategol y gall llys eu rhoi o ganlyniad i euogfarn:

Anghymhwyso cyfarwyddwyr

Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchymyn

Atafaelu asedau – Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cynllun Cymell Adennill Asedau)

CNC yw’r hyn a elwir yn gorff sy’n cael ei alluogi gan y Ddeddf Enillion Troseddau, mae hyn yn golygu ein bod yn gorff cyhoeddus sy’n ymwneud yn uniongyrchol fel ymchwilydd, erlynydd ac awdurdod gorfodi, ac felly caniateir i ni wneud cais yn Llys y Goron am orchymyn atafaelu. Mae'r ymadrodd ‘gorchymyn atafaelu’ yn gamenw gan nad yw'r gorchymyn ei hun yn atafaelu unrhyw eiddo ond, yn hytrach, yn ei gwneud yn ofynnol i'r diffynnydd dalu swm o arian. Gelwir y swm hwn yn ‘swm adenilladwy’. Bydd hyn naill ai yn (a) swm llawn yr hyn y mae'r llys wedi canfod ei fod o fudd iddo o'i ymddygiad troseddol neu (b) gwerth asedau'r diffynnydd sy'n weddill a elwir yn ‘swm sydd ar gael’. Mae atafaeliad ar gael dim ond pan fydd y diffynnydd yn euog yn dilyn ple neu dreial.

Mae ein holl dderbyniadau atafaelu adennill asedau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol o'r llysoedd i'r Swyddfa Gartref sy'n talu hyd at 37.5% o'r swm a adenillwyd i ni. Mae'r Llywodraeth yn cadw 50% ar unwaith. Gwneir y taliad yn y chwarter ariannol ar ôl dyddiad derbyn yr arian a adenillwyd. E.e., nid yw arian a dalwyd i mewn i gronfeydd y llys yn ystod mis Ionawr, Chwefror, Mawrth 2015 (sef chwarter pedwar y flwyddyn ariannol) yn cael ei dderbyn mewn gwirionedd gan y corff dynodedig, CNC, tan ddiwedd chwarter un y flwyddyn ariannol ganlynol, h.y. mis Mehefin 2015. Derbynnir y gyfran o 12.5% sy'n weddill gan y gwasanaeth llysoedd at ddibenion gorfodi.

Rydym yn cael ein hannog i ail-fuddsoddi arian cymhelliant mewn gweithgarwch adennill asedau neu gynyddu gallu ymchwilio ariannol. Mae'r Swyddfa Gartref yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau roi cyfrif am eu gwariant yn y maes hwn. Mae angen dychwelyd unrhyw arian sydd heb ei wario i'r Swyddfa Gartref

Blwyddyn dreth 2020–21

 

Enw'r troseddwr

Ffigur budd troseddol

Y swm sydd ar gael

Talwyd

Math

1

Gaughan

£ 6,094,340

£ 114,686

Naddo

Iawndal

2

Rees

£1,405,933

£66,841

Do

Atafaelu

3

Leyshon

£ 1,296,197

£ 108,313

Naddo

Atafaelu

4

Connor

£1,121,554

£177,908

Naddo

Atafaelu

5

DBC Site Services 2005

£1,121,554

£65,411

Naddo

Atafaelu

Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchmynion.

Fforffedu cyfarpar a ddefnyddiwyd i gyflawni'r drosedd

  • Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchymyn

Gwaharddiadau rhag gyrru

  • 0

Iawndal arall ar wahân i achosion o dan y Ddeddf Enillion Troseddau

  • 0

Atafaelu cerbydau

  • Dim

Adfer – o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

  • 0

Gwaith di-dâl

  • Tri achos yn dod i gyfanswm o 400 awr

Gorchmynion cymunedol a chyrffyw

  • Dau achos gyda gorchymyn cymunedol 12 mis
  • Un achos gyda gorchymyn cymunedol 14 wythnos
  • Un achos gyda gorchymyn cyrffyw 14 wythnos

Gorchymyn adfer o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1980

  • 0

Rhyddhad amodol

  • 0

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf