Coedwig Clocaenog - Bod Petryal, ger Rhuthun
Lle picnic heddychion ar lan y llyn gyda llwybr...
Bydd y maes parcio, y llwybrau a’r coetir o’u cwmpas ar gau ddydd Sadwrn 17 Mai ar gyfer digwyddiad.
Mae gwaith cynaeafu coed yn digwydd ger Llwybr Alwen a’r coetir cyfagos.
Mae cerbydau wrthi’n cludo pren ar y ffyrdd coedwig.
Byddwch yn wyliadwrus a dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle.
Adeiladwyd Cronfa Ddŵr Alwen a'i hargae enfawr tua dechrau'r 20fed ganrif er mwyn darparu dŵr i borthladd Penbedw.
Mae'r maes parcio yn fan cychwyn ar gyfer sawl llwybr i gerddwyr a seiclwyr.
Mae'r llwybr o amgylch Llyn Alwen yn addas i deuluoedd ac mae digon i’w ddarganfod o’r goedwig i lên gwerin.
Mae dewis o ddwy daith sy'n mynd o amgylch Llyn Alwen a Llyn Brenig, neu, am lwybr byrrach rhwng y ddau lyn, gallwch ddilyn y llwybr cyswllt.
Mae yna ganolfan ymwelwyr gyda chaffi a thoiledau ger Llyn Brenig.
Gall y llwybrau hyn gael eu defnyddio gan gerddwyr a seiclwyr.
Rhaid i seiclwyr ddilyn y rhan fwyaf o'r llwybrau yn erbyn y cloc a cherddwyr gyda’r cloc - dilynwch yr arwyddion sy’n dangos y ffordd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Mae'r llwybr, sydd addas i deuluoedd, yn mynd trwy goedwig, gweundir ac ar hyd ymyl y dwr ar lwybrau pwrpasol a llwybrau coedwig – gyda golygfeydd cyfnewidiol ar hyd y gronfa a thuag at fynyddoedd Eryri.
Mae paneli darluniedig ar hyd y llwybr yn cyflwyno bywyd gwyllt, diwylliant a llên gwerin tirwedd yr ucheldir.
Dilynwch y llwybr hwn o gwmpas glannau mewnol y ddau lyn.
Mwynhewch y golygfeydd agored ac amrywiol o amgylch Llyn Brenig a Chronfa Alwen.
Defnyddiwch y llwybr cyswllt hwn i ymuno â'r llwybrau eraill neu i ddilyn llwybr byrrach rhwng y ddau lyn.
Mae Cylch Llynoedd a Llwybr y Ddau Lyn yn mynd trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Rhostir Hafod Elwy.
Mae Hafod Elwy yn glytwaith o weundir uchel, rhostiroedd a chors, sy’n swatio rhwng coedwigoedd conwydd a chronfeydd dwr.
Mae'r dirwedd hon yn hafan i rai o'n hadar mwyaf prin - Mynydd Hiraethog, y mae Hafod Elwy yn rhan ohono, yw un o'r ychydig leoliadau sydd ar ôl yng Nghymru lle rydych chi’n dal i allu gweld y grugiar goch a’r grugiar ddu.
Mae nifer o adar brodorol ac adar eraill ar ymweliad hefyd yn dod o hyd i loches ymysg grug Hafod Elwy. Yn y gwanwyn, mae’r ehedydd yn dychwelyd yma i nythu.
Yn yr haf, mae lliwiau pinc a phorffor y grug yn carpedu’r rhostir, tra bod twffiau gwyn siâp cyffon ysgyfarnog plu’r gweunydd yn britho’r meysydd.
Cewch weld hefyd y mwsoglau cors niferus sydd fel 'lawntiau' o amrywiol arlliwiau gwyrdd ymysg y twmpathau llus.
Am fwy o wybodaeth am beth i'w weld yn y warchodfa cadwch olwg am ein panel gwybodaeth.
Mae’r fynedfa i faes parcio Llyn Brenig oddi ar y B4501, 1 filltir o’r fynedfa maes parcio Alwen.
Mae ganddi gaffi, toiledau, siop bysgota, parc chwarae a chyfleusterau llogi beic.
Mae canolfan ymwelwyr Llyn Brenig wedi ei rheoli gan Ddŵr Cymru/Welsh Water.
Gweler gwefan Llyn Brenig am fwy o wybodaeth.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Cronfa Ddŵr Alwen 11 milltir i’r de-orllewin o Ddinbych.
Dilynwch y B4501 o Ddinbych tuag at Gerrigydrudion.
Wedi 11 o filltiroedd, ewch heibio i faes parcio canolfan ymwelwyr Dŵr Cymru/Welsh Water Llyn Brenig.
Wedi 1 filltir, mae’r troad am faes parcio Alwen ar y dde.
Dilynwch y llwybr caregog hwn tuag at faes parcio.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 956 529 (Explorer Map 264).
Y cod post yw LL21 9TT. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw'r Rhyl.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Gweithredir y maes parcio ger Cronfa Ddŵr Alwen gan Dŵr Cymru.
Rhaid talu £2.50 am barcio.
Mae angen ichi dalu ffi'r maes parcio â’r arian cywir.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.