Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Taith gerdded fer sy’n dringo i gofadail lle y gellir gweld yn bell
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Pincyn Llys yn faes parcio bach wrth ochr y ffordd, sy’n fan cychwyn ar gyfer taith gerdded fer i bwynt uchaf Coedwig Clocaenog.
Mae’r daith gerdded yn mynd â chi i gofadail Pincyn Llys lle y ceir golygfeydd ar draws Dyffryn Clwyd.
Bu i’r Arglwydd Bagot godi’r cofadail hwn yn 1830 er mwyn coffáu plannu coedwig gonwydd.
Cafodd y coed eu cwympo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn darparu pyst pren ar gyfer y ffosydd a’r pyllau glo. Ailblannodd y Comisiwn Coedwigaeth y goedwig yn y 1930au.
Mae nodwyr ar hyd y llwybr, sy’n cychwyn o’r panel gwybodaeth ar ochr arall y ffordd, gyferbyn â’r maes parcio.
Mae’r daith gerdded yn cychwyn mewn coetir cysgodol ac yn mynd â chi i weundir agored cyn y darn byr ond serth i gofadail Pincyn Llys.
Mae’n werth darllen yr arysgrifau cyfan ar y cofadail.
Saif y cofadail ym man uchaf Coedwig Clocaenog (1358 troedfedd / 414m) ac mae gwrthglawdd hynafol a phwynt triongli lle y ceir golygfeydd ar draws Dyffryn Clwyd.
Mae’r daith gerdded yn dychwelyd i’r maes parcio ar hyd yr un llwybr.
Mae Llwybr Hiraethog yn rhedeg trwy Pincyn Llys.
Mae’r llwybr hwn yn cysylltu pentrefi Mynydd Hiraethog, sef Pentrefoelas, Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr a Llanrhaeadr ar hyd cyfres o lwybrau cyhoeddus, lonydd a ffyrdd tawel.
Cewch wybod mwy ar wefan Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Mae Pincyn Llys 4½ milltir i’r de-orllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.
Mae parcio’n ddi-dâl yn y maes parcio hwn.
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
Ewch ar ffordd y B5105 o Ruthun tuag at Lanfwrog.
Ar ôl yr eglwys, ewch ar y ffordd gyntaf ar y dde i gyfeiriad Telpyn.
Ewch yn eich blaen i Bontuchel a throwch i’r chwith ar ôl y bont fechan i fynd ar is-ffordd tuag at Glocaenog.
Mae’r maes parcio ar yr ochr dde ar ôl dwy filltir, yn fuan ar ôl i’r ffordd fynd i mewn i’r goedwig.
Mae Pincyn Llys ar fap Arolwg Ordnans (AR) 264 neu 265.
Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans yw SJ 064 556.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
0300 065 3000