Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Golygfan wych ag ardal bicnic a thaith gerdded fer mewn coetir
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae ardal bicnic Boncyn Foel Bach o amgylch y maes parcio ac mae golygfeydd i’r de a’r dwyrain dros y bryniau.
Y maes parcio yw man cychwyn llwybr cerdded byr yng Nghoedwig Clocaenog.
Yn yr hydref mae’r dail yn troi’n oren cyn creu carped lliwgar o dan eich traed – llawer o hwyl i blant wrth grensian drwyddynt!
Mae nodwyr ar y llwybr ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.
Mae Cylchdaith Boncyn Foel Bach yn daith fer hamddenol drwy’r coetir a’i rhodfa drawiadol o goed ffawydd.
Mae rhodfa’r ffawydd yn drawiadol, yn enwedig ddechrau’r gwanwyn pan fydd y dail yn wyrdd llachar.
Mae hefyd golygfan â mainc – lle gwych am fflasg o goffi neu’ch pecyn bwyd!
Mae Boncyn Foel Bach 6 milltir i’r de-orllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.
Mae parcio’n ddi-dâl.
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
O Ruthun, ewch ar ffordd y B5105 drwy bentref Clawddnewydd.
Ewch yn eich blaen am 1½ filltir ac mae’r maes parcio ar y dde.
Mae Boncyn Foel Bach ar fap Arolwg Ordnans (AR) 264.
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans y maes parcio yw SJ 055 520.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
0300 065 3000