Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Coetir yn llawn hanes gyda llwybr ar gyfer cerddwyr a beicwyr
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Efallai fod Coed Nercwys yn ymddangos yn goetir cyffredin, ond os dilynwch y llwybr sydd ag arwyddbyst arno, fe welwch nodweddion treftadaeth ynghudd ymysg y coed.
Mae'r paneli ar hyd y llwybr yn adrodd hanes cyfoethog y coetir a'r bobl a fu'n byw ac yn gweithio yma.
Mae'r coetir hefyd yn gynefin ardderchog i fywyd gwyllt – cadwch lygad yn agored am adar fel bwncathod, drywod eurben, a thitwod penddu.
Mae'r llyn bach o’r enw Llyn Ochin wedi sychu ond mae'r ardal gorsiog hon bellach yn denu gweision y neidr a madfallod dŵr, ac mae planhigion fel plu’r gweunydd yn ffynnu yma.
Mae llechen ger mynedfa'r maes parcio yn coffáu Coed Derw’r Mileniwm a blannwyd yma gan y gymuned leol.
Mae'r llwybr cerdded a'r llwybr beicio mynydd yn dilyn llwybr tebyg ond maent wedi'u harwyddo fel bod cerddwyr a beicwyr yn dilyn y llwybr i gyfeiriadau gwahanol.
Mae'r llwybr cerdded yn dechrau o'r maes parcio.
Mae'r llwybr cerdded yn mynd trwy'r clwydi haearn yn y maes parcio ar drac llydan cyn mynd ymlaen i lwybr drwy'r goedwig.
Mae'n dilyn llwybr cylchol o amgylch rhai o'r nodweddion treftadaeth sydd wedi eu cuddio yng nghanol y coed.
Cadwch lygad allan am adfeilion adeiladau mwynglawdd plwm o'r 19 ganrif, adfeilion bwthyn bugail gyda dôl furiog lawn blodau gwyllt yn yr haf a pherllan newydd ei hailblannu.
Tua diwedd y llwybr cerdded, mae yna olygfan gyda charnedd o gerrig a philer triongli lle ceir golygfeydd panoramig i Dŵr y Jiwbilî ar ben Moel Famau ac Aber Afon Dyfrdwy.
Mae'r llwybr beicio hwn yn lle gwych i deuluoedd fwynhau beicio'n ddiogel oddi wrth ffyrdd prysur, a dysgu am hanes amrywiol y coetir wrth wneud hynny.
Mae'r llwybr llydan o'r gatiau haearn ger mynedfa’r coetir yn ymdroelli drwy'r goedwig, gan osgoi dringfeydd mawr a chan gynnig golygfeydd ysblennydd dros wastadedd Swydd Gaer a’r tu hwnt.
Mae nifer o lwybrau cyhoeddus o faes parcio Coed Nercwys.
Mae’r panel gwybodaeth yn y maes parcio yn cynnwys llwybr awgrymedig i Fryn Alyn, sef y calchbalmant mwyaf ond un yng Nghymru (cymedrol, 4 milltir/6.3 cilometr).
Efallai nad oes arwyddbyst ar y llwybr hwn ac rydym yn argymell eich bod yn mynd â map gyda chi.
Mae Coed Nercwys wedi’i leoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Cadwyn o gopaon grugog porffor yw Bryniau Clwyd, â bryngaerau arnynt. Mae Dyffryn Dyfrdwy y tu hwnt i'r bryniau gwyntog hyn ac mae'n gartref i drefi hanesyddol Llangollen a Chorwen.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â'r AHNE, ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae Coed Nercwys 4 milltir i'r de-orllewin o'r Wyddgrug.
Mae yn Sir Fflint.
Mae Coed Nercwys ar fap Arolwg Ordnans (AR) 265.
Y cyfeirnod grid OS yw SJ 218 592.
Ewch i'r de o'r Wyddgrug, gan ddilyn yr arwyddion am Nercwys.
Ewch ymlaen trwy Nercwys ac ar yr ail groesffordd, trowch i'r chwith i Ffordd Cae Newydd.
Ar ôl tua ¾ milltir cymerwch y troad cyntaf i'r dde a pharhau am 250m ac mae'r maes parcio ar y chwith.
Mae’r orsaf reilffordd agosaf ym Mwcle.
I gael manylion am gludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio am ddim.
0300 065 3000