Parc Coedwig Coed y Brenin - Glasdir, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae Glasdir ym Mharc Coedwig Coed y Brenin. 

Y maes parcio yw man cychwyn taith gerdded trwy hen chwarel gopr.

Ceir yno safle picnic a barbeciw ar lannau Afon Las.

Mae llwybr cerdded byrrach hygyrch i olygfan uwchben yr hen waith copr o faes parcio Pont Llam yr Ewig.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Copr Glasdir

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1.3 milltir/2 gilomedr
  • Dringo: 262 troedfedd/80 metr
  • Amser: 45 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn aml yn llai na 1m o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Ceir sawl set o risiau ar y dringfeydd a disgynfeydd serth drwy’r hen weithfeydd. Arhoswch ar y llwybrau, gall hen weithiau ac adeiladau mwyngloddio fod yn beryglus, ac mae ymylon serth i’r ceunentydd.

Dilynwch yr arwyddbyst coch drwy’r lle picnic i lawr i afon Babi.

Mae’r llwybr yn gwneud cylch o gwmpas yr hen fwynglawdd copr ar ochr y bryn mewn cyfres o derasau cerrig uchel.

Gallwch lawrlwytho llwybr sain a gwrando ar hanes mwynglawdd copr Glasdir.

""

Llwybr sain

Dysgwch am hanes chwarel gopr Glasdir ar ein llwybr sain.

Bwriadwyd i’r llwybr sain gael ei ddefnyddio ar hyd Llwybr Copr Glasdir, llwybr cerdded sydd wedi’i arwyddo o faes parcio Glasdir.

Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain i'ch ffôn clyfar cyn eich ymweliad oherwydd gall darpariaeth rhwydwaith symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig.

Sut i ddefnyddio'r llwybr sain

  • Lawrlwythwch ffeil mp3 y daith sain o’r adran lawrlwytho ar waelod y dudalen hon (nodwch y bydd y ffeil yn dechrau chwarae ar unwaith pan gliciwch chi ar y ddolen, a bydd angen ichi glicio’r tri dot i’w lawrlwytho i’ch dyfais).
  • Dilynwch arwyddion Llwybr Copr Glasdir o faes parcio Glasdir.
  • Cadwch lygad am y pyst wedi'u rhifo ar hyd y llwybr sy'n dangos pa drac sain i'w chwarae nesaf.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o sgript y llwybr sain o'r adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.

Parc Coedwig Coed y Brenin

Y prif feysydd parcio sydd â chyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yw:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Glasdir wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Cadwch at y llwybr hwn gan fod mwyngloddiau yn beryglus ac mae sawl dibyn yma.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae llwybr cerdded byrrach hygyrch i olygfan uwchben yr hen waith copr o faes parcio Pont Llam yr Ewig.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae Glasdir 6 milltir i’r gogledd o Ddolgellau.

Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau tuag at Borthmadog.

Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes.

Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr.

Mae maes parcio Glasdir ar y dde ac ar draws y ffordd mae safle picnic.

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 737 226 (Explorer Map OL 18).

Y cod post yw LL40 2NW. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif gorsafoedd rheilffordd agosaf yw'r Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf